Priffyrdd a thrafnidiaeth integredig

Rydyn ni’n ei gwneud hi’n haws i bobl symud o’r rhwydwaith ffyrdd i ddulliau trafnidiaeth mwy cynaliadwy.

 

Dewisiadau trafnidiaeth gyhoeddus yn lle traffordd yr M4

Rydyn ni’n mynd i’r afael â thagfeydd ar yr M4 drwy greu dewisiadau trafnidiaeth cynaliadwy eraill.

Bydd gorsafoedd rheilffordd newydd, coridorau bysiau cyflym a choridorau cymudo ar gyfer beiciau ar draws Caerdydd a Chasnewydd yn helpu i gysylltu rhwydwaith rheilffyrdd gwell â mathau eraill o drafnidiaeth gyhoeddus.

Ynghyd â’r Metro yn Ne Cymru a chynigion Cyngor Caerdydd ar gyfer trenau tram a choridorau bysiau, byddai hyn yn golygu y byddai 90% o bobl yng Nghaerdydd a Chasnewydd yn byw o fewn milltir i orsaf reilffordd neu goridor bysiau cyflym erbyn 2030.

 

Darllen mwy

 

Prosiect A465 S5/6

Aerial photo of the A465

Rydyn ni’n cyflawni’r prosiect hwn ar ran Llywodraeth Cymru. Dyma’r prosiect seilwaith ffyrdd mwyaf yng Nghymru a bydd yn uwchraddio 17km o’r A465 rhwng Dowlais Top a Hirwaun i fod yn ffordd ddeuol.

Bydd y gwelliannau hyn yn gwneud y ffordd yn fwy diogel, yn enwedig o amgylch cyffyrdd ac ardaloedd lle mae gwelededd yn wael. Byddant yn gwella llif y traffig i ymwelwyr â blaenau’r cymoedd a Bannau Brycheiniog.

Bydd y prosiect hefyd yn sicrhau manteision pwysig i gymunedau cyfagos, gan wella mynediad at wasanaethau a swyddi allweddol, a chefnogi mewnfuddsoddi.

Bydd hefyd yn creu mwy o gyfleoedd ar gyfer cerdded, beicio a cherdded gyda 14km arall o lwybrau beicio a llwybrau troed cyfun.

 

Darllen mwy

 

Astudiaeth Drafnidiaeth yr A483 Llandeilo a Ffairfach

Rydyn ni’n helpu i gyflwyno ymateb Llywodraeth Cymru i Astudiaeth Trafnidiaeth yr A483 Llandeilo a Ffairfach.

Mae camau’n cael eu cymryd i wella ansawdd aer a lleihau tagfeydd traffig drwy wella mynediad at lwybrau trafnidiaeth gyhoeddus, cerdded, beicio a theithio ar olwynion.

Yn ogystal â helpu i ddiogelu ein hamgylchedd, bydd llai o dagfeydd yn gwella amseroedd teithio ar yr A483 a bydd yn gwneud siwrneiau’n fwy diogel i gerddwyr a beicwyr. Bydd hefyd yn cefnogi cyfleoedd twristiaeth ac economaidd yn Llandeilo a Ffairfach.

 

Darllen mwy