Cyfnewidfa Fysiau Caerdydd
Wedi'i gweithredu gan Trafnidiaeth Cymru, mae Cyfnewidfa Fysiau Caerdydd yn cynnwys 14 bae bws ac mae'n ganolfan allweddol, gan gynnig cysylltiadau di-dor ar draws llwybrau bws, trên, beicio a cherdded. Mae'n chwarae rhan hanfodol yn y prosiect 'Metro Canolog', sy'n integreiddio dull trafnidiaeth yng Nghaerdydd ar gyfer teithio hawdd ac effeithlon.
Lleoliad Cyfnewidfa Fysiau Caerdydd ac oriau agor:
Bwrwch olwg gan ddefnyddio Google Maps
Bydd y gyfnewidfa yn agor cyn i wasanaeth bws cyntaf y dydd adael ac yn cau ar ôl ymadawiad bws olaf y dydd.
Canolfan Wybodaeth ynglŷn â Thrafnidiaeth:
Mae Cyfnewidfa Fysiau Caerdydd yn ganolbwynt ar gyfer gwybodaeth am drafnidiaeth. Bydd ein cydweithwyr wrth law i ateb eich cwestiynau, gan ei gwneud yn gyfarwydd ac yn hawdd i bawb ei defnyddio. Maen nhw’n gallu cynghori ar sut i ddod o hyd i’ch gwasanaeth yn y gyfnewidfa yn ogystal â gwasanaethau bws ar y stryd gerllaw. Maen nwh’n gallu eich helpu i gynllunio eich taith a chynghori ar y llwybrau gorau i'w dilyn.
Mae Cyfnewidfa Fysiau Caerdydd a gorsaf reilffordd Caerdydd Canolog ond taith gerdded 50 metr wahân ar droed a bydd y ddau dîm yn gweithio fel un.
Mae yna gwybodaeth glir i gwsmeriaid, gan gynnwys arwyddion i’ch helpu i ddod o hyd i’ch ffordd o gwmpas y gyfnewidfa, amseroedd byw o’r bysiau’n gadael a chyrraedd yn ogystal ag amseroedd trenau yng Nghaerdydd Canolog - gan eich helpu i deithio'n ddi-dor ar y bws ac ar y trên.
Cyfleusterau'r gyfnewidfa:
- Toiledau hygyrch
- Toiledau
- Ystafell changing place
- Siopau (yn agor yn fuan)
- Mynediad digam
Gwasanaethau o Gyfnewidfa Fysiau Caerdydd:
Mae Bws Caerdydd, Stagecoach a Bws Casnewydd yn rhedeg gwasanaethau o'r gyfnewidfa fysiau.
Gallwch gael mwy o wybodaeth am wasanaethau Bws Caerdydd yma. Cysylltwch â Bws Caerdydd i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am eu gwasanaethau.
Gallwch gael mwy o wybodaeth am wasanaethau Stagecoach yma. Cysylltwch â Stagecoach i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am eu gwasanaethau.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am wasanaethau Bws Casnewydd yma. Cysylltwch â Bws Casnewydd i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am eu gwasanaethau.
- Gwybodaeth am fae bysiau
-
Mae'r wybodaeth hon ar gyfer gwasanaethau o 1 Medi. Gall mannau ymadael ar gyfer baeau gwasanaethau newid..Gwiriwch y sgriniau gwybodaeth cyn i chi deithio i gael gwybodaeth ymadael fyw.
-
Bae Bws
1 124 Maerdy (Stagecoach)
2 122 Tonypandy (Stagecoach)
3 25 Llandaf a’r Eglwys Newydd (Bws Caerdydd)
62 Rhydlafar (Bws Caerdydd)
63 Radur a Treforgan (Bws Caerdydd)
4
21 Rhiwbeina, Yr Eglwys Newydd a Pantmawr (Bws Caerdydd)
23 Rhiwbeina, Yr Eglwys Newydd a Pantmawr (Bws Caerdydd)
24 Yr Eglwys Newydd, Ystum Taf a Llandaf (Bws Caerdydd)
5 35 Gabalfa (Bws Caerdydd)
6 96 Y Barri (Bws Caerdydd)
7
92 Penarth (Bws Caerdydd)
93 Penarth a’r Barri (Bws Caerdydd)
94 Penarth a’r Barri (Bws Caerdydd)
8 95 Y Barri (Bws Caerdydd)
9 13 Drope (Bws Caerdydd)
136 Pentyrch a Creigiau(Bws Caerdydd)
10
61 Pentrebane (Bws Caerdydd) 11 28 Parc y Rhath, Llanishen a’r Ddraenen (Bws Caerdydd)
29 Parc y Rhath a Llanishen (Bws Caerdydd)
12 27 Llanishen a’r Ddraenen (Bws Caerdydd)
13
4 Lecwydd (Bws Caerdydd)
32 Sain Ffagan (Bws Caerdydd)
86 Y Ddraenen (Bws Caerdydd)
101 Ysbyty Athrofaol Cymru, Llanrhymni a Llaneirwg (Bws Caerdydd)
102 Llaneirwg a Llanrhymni (Bws Caerdydd)
305 Dinas Powys trwy Ysbyty Llandochau (Bws Caerdydd)
14 30 Casnewydd (Bws Casnewydd/Bws Caerdydd)
-
Gallwch hefyd gynllunio’ch taith ar wefan Traveline Cymru.
-