Mesurau a dangosyddion monitro

Cyhoeddwyd Gyntaf: 20 Mai 2022

Ym mis Mawrth 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynllun Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru 2021 sy’n nodi uchelgeisiau Cymru o ran trafnidiaeth ar gyfer yr 20 mlynedd nesaf a’r blaenoriaethau ar gyfer y 5 mlynedd nesaf. Mae’r fframwaith monitro wedi’i gynllunio i olrhain cynnydd yn erbyn cyflawni’r blaenoriaethau a’r uchelgeisiau.

Mae’r fframwaith yn cynnwys chwe Mesur Allweddol a 27 o Fesurau Atodol. Y Mesurau Allweddol yw’r rheini yr ystyrir sydd bwysicaf o ran cefnogi nodau cyffredinol Llywodraeth Cymru o ran newid dull teithio a lleihau carbon. Rydym wedi tynnu sylw at ba fesurau fydd yn dangos cynnydd tuag at bob blaenoriaeth ac uchelgais. Mae’r data ar gyfer pob mesur yn rhoi darlun o’r sefyllfa bresennol. Bydd hwn yn cael ei ddiweddaru bob blwyddyn o 2023 ymlaen.

Mae adroddiad technegol Fframwaith Monitro Strategaeth Drafnidiaeth Cymru 2022 yn cynnwys disgrifiad llawn o’r dull cyfrifo a ddefnyddiwyd ar gyfer pob un o’r mesurau allweddol ac atodol, gan gynnwys diffiniad technegol ohonynt a gwybodaeth am eu ffynonellau data a’u hamlder.