Jess Lippett, Uwch Reolwr Cludo Nwyddau Rhanbarthol Network Rail ar gyfer Cymru a’r Gorllewin.
Andrew Hemmings, Ysgrifennydd Chartered Institute of Logistics and Transport (CILT).
Taflu goleuni ar cludo nwyddau yng Nghymru
Wrth i Brydain ddathlu 200 mlynedd o'r rheilffordd, rydym yn falch o daflu goleuni ar y rôl annatod y mae cludo nwyddau yn ei chwarae yn y rhwydwaith sydd gennym heddiw.
O waith haearn Penydarren ym Merthyr i lofa Cynheidre yn Sir Gaerfyrddin, ymddangosodd rheilffyrdd ledled Cymru i symud nwyddau i lawr i borthladdoedd neu ymlaen tuag at ddinasoedd.
Wrth i'r chwyldro diwydiannol ildio i'r 21ain ganrif a datblygiad ffyrdd, addasodd llawer o linellau rheilffordd i ateb y galw cynyddol am wasanaethau teithwyr tra byddai eraill yn cau'n gyfan gwbl yn ddiweddarach o ganlyniad i doriadau Beeching yn y 1960au a thu hwnt.
Ond mae'r etifeddiaeth honno'n para'n fyw ledled Cymru a heddiw mae traffig teithwyr a nwyddau yn dal i weithio law yn llaw.
Ym mhentref Basaleg saif Traphont Basaleg. y bont reilffordd neu draphont hynaf yng Nghymru yw hon, sef pont pedwar bwa sy'n croesi afon Ebwy, a'r ail hynaf yn y byd sy'n dal i gael ei defnyddio.
Wedi'i adeiladu ar gyfer Rheilffordd Rhymni, (neu ‘Rumney’, sef y sillafiad gwreiddiol) i helpu i gludo glo i lawr tuag at ddociau Casnewydd, daeth yn rhan o Reilffordd Aberhonddu a Merthyr yn ddiweddarach er mwyn cludo teithwyr. Fel rhan o hynny, adeiladwyd gorsaf ym Masaleg hyd yn oed, ac fe gaeodd yn y pen draw ar ddiwedd 1962.
Fodd bynnag, mae'r draphont yn parhau, a heddiw mae'n rhan o lwybr sy'n cysylltu Chwarel Machen â phrif linell de Cymru a thu hwnt, gyda threnau'n dal i gludo deunyddiau adeiladu drosti bob wythnos.
“Mae lleoedd fel hyn yn cynrychioli genedigaeth y rheilffordd,” meddai Andrew Hemmings, Ysgrifennydd Chartered Institute of Logistics and Transport (CILT) y DU ac awdur “Secret Newport”.
“Dechreuodd y draphont hon gyda glo, ond mae dur, pobl a nawr deunyddiau adeiladu o’r chwarel wedi teithio drosti ers bron i 200 mlynedd.
“Mae wir yn cynrychioli wyneb newidiol trafnidiaeth yng Nghymru, ond mae cyn lleied o bobl yn gwybod ei fod yma.”
Y dyddiau hyn, bydd gweithredwyr cludo nwyddau a theithwyr yn cyflwyno cais i Network Rail am y “llwybrau” yr hoffent eu gweithredu er mwyn sicrhau y gall y ddau weithredu’n ddiogel.
Fel arfer, bydd yr amserlen i deithwyr yn aros yr un fath, yn fras, am chwe mis ar y tro, er y gwneir newidiadau tymor byr ar gyfer gwaith peirianneg neu ddigwyddiadau arbennig. Mae angen mwy o hyblygrwydd ar lwybrau cludo nwyddau oherwydd y marchnadoedd y maent yn gweithio ynddynt, felly mae'r amserlen wedi'i chynllunio o amgylch anghenion teithwyr a nwyddau.
Mae’r darlun cludo nwyddau modern yng Nghymru yn parhau'n ddisglair. Heddiw rydym yn dal i symud dur, tanwydd, deunyddiau adeiladu, nwyddau manwerthu a phren.
Yn yr iard cludo nwyddau ym Margam ger Port Talbot, bydd rhwng 100 a 150 o drenau'n rhedeg bob wythnos, gan gludo dur ar draws y wlad o'r gweithfeydd dur. Gall pob un gario digon o ddur i wneud 1,000 o geir.
Gall trên nwyddau gario'r un faint o nwyddau ag y byddai angen 129 o gerbydau nwyddau trwm i’w cludo pe bai'n teithio ar y ffordd.
Mae trenau cludo nwyddau yn allyrru hyd at 76% yn llai o CO2 y dunnell na chludo nwyddau ar y ffordd.
Dywedodd Jess Lippett, Uwch Reolwr Cludo Nwyddau Rhanbarthol Network Rail ar gyfer Cymru a’r Gorllewin:
“Mae cymaint o'r rhwydwaith sydd gennym heddiw yno oherwydd datblygiad cludo nwyddau, yn enwedig yng Nghymru.
Rydym yn awyddus iawn i barhau i dyfu gweithrediadau cludo nwyddau mewn marchnadoedd newydd ledled Cymru, gan weithio law yn llaw â Thrafnidiaeth Cymru a gweithredwyr teithwyr eraill i sicrhau ein bod yn manteisio i’r eithaf ar y rhwydwaith.
“Mewn lleoedd fel Gwaith Sment Padeswood ger Wrecsam, un o’n cwsmeriaid allweddol, rydym yn edrych ar sut y gallwn ddatblygu ei gwaith i wneud y mwyaf o’r trenau cludo nwyddau hirach a thrymach sy’n dod i’r safle a sicrhau bod TrC yn gallu gwella gwasanaethau yn yr ardal. Ar linell y Cambrian, fe wnaethom hefyd gydweithio i gael trenau pren i redeg o Aberystwyth, gan dynnu nifer sylweddol o lorïau oddi ar y rhwydwaith ffyrdd prysur unwaith eto.
“Mae’r cyfan yn ymwneud â gweithio gyda’n gilydd i greu rheilffordd sy’n gweithio i bawb.”
Ychwanegodd Steve Whitley, Pennaeth Strategaeth Gweithrediadau Trafnidiaeth Cymru:
“Mae'r trên pren o Aberystwyth yn enghraifft dda o sut rydym yn gweithio gyda phartneriaid yn y diwydiant i wneud y defnydd gorau o gapasiti prin y rheilffordd.
“Rydym yn cydweithio ar ein hymrwymiad a fu gennym ers tro i gyflwyno gwasanaeth newydd am 16:30 o Amwythig i Aberystwyth a fyddai’n gwrthdaro â’r drefn bresennol ond rydym wedi gallu cydweithio â Network Rail i ddod o hyd i ffordd o alluogi’r ddau wasanaeth i redeg drwy symud y trên cludo nwyddau yn hwyrach yn y dydd.”
Yn ôl ym Masaleg, mae cynlluniau cynnar i goffáu’r draphont mewn pryd ar gyfer ei phen-blwydd yn 200 oed y flwyddyn nesaf wrth i ni ddathlu’r gorffennol ac edrych ymlaen at adeiladu ar yr etifeddiaeth ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.