Gorsaf Drenau Llanelli a Mynydd Mawr

Mewn hen bwll glo yng nghalon Sir Gaerfyrddin, mae rhywbeth arbennig yn digwydd.

Gan ddod â gwirfoddolwyr o bob cefndir ynghyd, mae Gorsaf Drenau Llanelli a Mynydd Mawr yn mynd â chynlluniau o hen Bwll Glo Cynheidre i’r lefel nesaf gan agor siop goffi newydd, ‘Café Super Sprinter’.

Mae gwaith troi corff hen drên Dosbarth 153, a oedd yn rhodd gan Trafnidiaeth Cymru, yn siop goffi gymunedol bron wedi gorffen a bydd y diwrnod agored dros benwythnos y Pasg.

Gan werthu bwyd a diodydd poeth, mae’r siop goffi yn enghraifft o adnewyddu gan gadw treftadaeth o’r radd flaenaf.

Yn ogystal â bod yn siop goffi gymunedol ac ystafell gyfarfod, bydd yr hen drên Dosbarth 153 yn rhoi cyfleusterau gwell i wirfoddolwyr ac ymwelwyr sydd wir angen cysgod.

“Mae wedi cymryd misoedd i’w adnewyddu ac mae’n gam enfawr inni,” dywedodd James Davies Jones, Pennaeth Cynnal a Chadw Safle.

“Rydyn ni eisiau i’r man hwn ddod â chymunedau lleol, gwirfoddolwyr ac ymwelwyr ynghyd. Rydyn ni wedi cynnal diwrnodau adeiladu tîm a sgyrsiau diogelwch ar y rheilffordd ar gyfer plant yma hefyd. Mae yna lwybrau cerdded drwy goetiroedd hefyd, yn ogystal â chynlluniau ar gyfer ysgolion coedwig felly mae e wir yn datblygu.”

Cwblhawyd y gwaith ar y siop goffi diolch i grant o £60,000, sy’n cynnwys £40,000 o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU a £20,000 o gronfa a dargedir Cyngor Sir Gaerfyrddin. Gwnaeth y grantiau hyn yn ogystal â chronfeydd elusennol Gorsaf Drenau Llanelli a Mynydd Mawr alluogi’r prosiect i gael ei gwblhau mewn amser ar gyfer tymor gweithredu 2025.

Gyda 15 gwirfoddolwr craidd o bob cefndir a chefnogwyr awyddus eraill, mae’r orsaf drenau wedi gwneud cynnydd mawr mewn cadw treftadaeth ddiwydiannol yr ardal ers iddo gael ei sefydlu ym 1999.

Fel sawl grŵp tebyg, mae gwirfoddolwyr yng ngorsaf drenau Llanelli a Mynydd Mawr wedi ymgymryd ag ystod o rolau, gan feithrin sgiliau ar gyfer aelodau iau neu rannu cyfoeth gwybodaeth ag aelodau hŷn.

Gellir olrhain hanes y rheilffordd wreiddiol yn ôl i Ddeddf gan Senedd y Deyrnas Unedig ym 1802 a wnaeth alluogi tramffordd i gael ei hadeiladu a fyddai’n cysylltu sawl safle diwydiannol rhwng Tymbl, drwy bwll glo Cynheidre, a Llanelli. Tynnwyd gan geffylau ar hyd y dramffordd yn wreiddiol, ac roedd y newydd bethau yn gam gyntaf tuag at yr hyn a fyddai’n cael ei gyflawni gyda Gwaith Haearn Penydarren a Rheilffordd Ystumllwynarth yn hwyrach yn y degawd.

Dywedodd Dr Louise Moon, Arweinydd Technegol Trafnidiaeth Cymru - Treftadaeth, Etifeddiaeth ac Effaith Gynaliadwy: “Roedd yna gymaint o newydd bethau ar waith yn y cyfnod hwn, a dylid canmol a dathlu’r cyflawniadau hyn cystal, wrth inni ystyried hanes y rheilffordd. 

“Mae’r hyn y mae’r grŵp wedi’i wneud mewn cadw’r safle ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol yn wych ac rydyn ni mor falch o fod wedi rhoi rhai o’n trenau iddynt.

“Roedd y trenau hyn wir yn geffylau gwaith am flynyddoedd maith ac mewn sawl ffordd, gwnaethon nhw achub diwydiant Rheilffordd Prydain gan iddynt fod yn rhad ac yn hawdd eu hadeiladu gan bara amser hir hefyd.

“Efallai nad yw pobl yn eu caru cymaint â threnau stêm o’r 1940au a 50au ond maent yn rhan o’n hanes a diwylliant diweddar yn ne Cymru. Mae’r safle hon felly’n adlewyrchu sawl agwedd o hanes rheilffordd Cymru ac mae’n le perffaith i ymweld ag ef os ydy Rheilffordd 200 wedi’ch ysbrydoli.”

Gwnaeth y trên Dosbarth 153374 dreulio’r rhan fwyaf o’i gyfnod gwaith gyda threnau Dwyrain Canolbarth Lloegr cyn symud i TrC lle fe’i defnyddiwyd i roi rhannau i weddill ein fflyd.

Fe’i rhoddwyd fel rhan o ymrwymiad i weithio â grwpiau cymunedol.

Ochr yn ochr â hyn, ceir tri hen drên o fflyd “Pacer” Dosbarth 142 ac 143 TrC. Wedi’u hadeiladu yng nghanol y 1980au, gwnaeth y trenau weithredu ar linellau cymoedd de Cymru yn bennaf am fwy na 30 mlynedd. Yn ystod y cyfnod hwnnw, byddent wedi cludo cannoedd ar filiynau o bobl i’r gwaith ac yn ôl, yn ogystal ag i gemau rygbi rhyngwladol ac adref ar ôl nosweithiau mawr allan.

Yn ogystal â’r trenau a roddwyd, mae’r rheilffordd hefyd wedi elwa o grant gwerth £7,000 o’r Gronfa Gymunedol Ymddiriedolaeth Adfywio Glofaol (Coalfields Regeneration Trust Community Fund) a ddefnyddir ar gyfer cyflog aelodau staff ac £85,000 o gynllun y Grant Buddsoddi mewn Coetir. Caiff ei ddarparu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn caniatáu i’r rheilffordd adfywio’r coetiroedd sy’n amgylchynu ei safle yng Nghynheidre.

Mae Gorsaf Drenau Llanelli a mynydd Mawr yn gobeithio estyn y llinell i gronfa ddŵr Swiss Valley yn y blynyddoedd i ddod.

Am ragor o wybodaeth ewch i: llanellirailway

  • Dim ffioedd archebu
  • Dim tâl am ddefnyddio cerdyn
Dewiswch Ddyddiad GadaelAllanGadael ar ôl 28 Mai 2025, 07:30
Ychwanegu dychwelyd