Victoria ydw i, Trefnydd Tîm Gyrwyr y Gogledd a’r Canolbarth, sydd wedi'i leoli yng Nghaer. Rydw i wedi bod yn gweithio i TrC ers 4 blynedd ers imi ymuno yn 2021. Fodd bynnag, dim ond dechrau fy nghyfraniad at y 400 mlynedd a mwy o wasanaeth fy nheulu i'r rheilffyrdd yn ystod y cyfnod yma o 200 mlynedd o reilffordd fodern yw hyn. Roedd eu bywydau gwaith, a dreuliwyd yn bennaf yn ardaloedd Pant, Llanymynech a Chroesoswallt, yn cynnwys Rheilffyrdd y Cambrian a Network Rail.
Dechreuodd y cyfan pan ymunodd fy hen daid William â'r rheilffordd yn 1879 fel goruchwyliwr gang yn Llynclys, Swydd Amwythig. Treuliodd 50 o flynyddoedd parhaus ar y lein, rhai ohonynt o dan gyfundrefn y Cambrian, cyn bod yn ben-llafurwr fforddoli yn adran Croesoswallt o'r GWR.
Dilynodd pob un o’i chwe mab ef i’r rheilffordd, gan gyfrannu nifer tebyg o flynyddoedd o wasanaeth.
Dechreuodd ei fab hynaf, John, yn 1908 fel clerc yng Ngorsaf Llynclys, gan drosglwyddo i swyddfa archwilio'r Cambrian yng Nghroesoswallt yn 1909. Ar ôl i'r Cambrian uno â GWR ym 1922, trosglwyddodd i'r swyddfa teithwyr lle bu yn gweithio nes iddo gael ei benodi'n Gorsaf-feistr yn Llanymynech yn 1930. Ymddeolodd ym 1954 ar ôl 46 mlynedd o wasanaeth. Roedd ei fab, a oedd hefyd o'r enw John, yn glerc yn swyddfa'r uwch-arolygydd traffig i ardal Croesoswallt.
Cwblhaodd Bill tua 45 mlynedd o gyfanswm o wasanaeth, gan gynnwys dros 23 mlynedd fel gorsaf-feistr Pant, Swydd Amwythig. Roedd ei wraig Madeleine yn ‘geidwad y groesfan’ ac roedd eu tri phlentyn yn gweithio yno. Cymrodd eu merch yr awenau fel ceidwad y groesfan oddi wrth ei mam. Dechreuodd ei fab Edward weithio gyda'r GWR yng Nghroesoswallt, yna aeth i Aberystwyth ac yna'r Barri cyn dychwelyd i Groesoswallt fel taniwr. Yn ddiweddarach, roedd un mab-yng-nghyfraith yn signalwr yn Weston Rhyn, Swydd Amwythig ac un arall yn ddirprwy swyddog tân rhanbarthol British Rail yng Nghryw.
Roedd dau fab arall, Alfred a Walter, ill dau yn warchodwyr nwyddau yng Nghroesoswallt, gyda 90 mlynedd arall o wasanaeth rhyngddynt. Roedd mab arall, Charlie, yn Signalwr yn Llanymynech am flynyddoedd lawer, ond ar ôl ymddeoliad ei frawd John fel Gorsaf-feistr yn Llanymynech, cafodd ei ddyrchafu'n Orsaf-feistr ar gyfer y trên olaf trwy Lanymynech ar Ionawr 17eg, 1965!
Dechreuodd fy Nhad-cu Samuel fel Porthor ym 1920 yn 15 oed yng ngorsaf Y Trallwng a pharhaodd yno tan y 1930au. Mae llun grŵp staff gan gynnwys fy Nhad-cu yn hongian ar y wal yn hen orsaf Y Trallwng hyd heddiw. Roedd yn aelod o Gymdeithas Ambiwlans Sant Ioan GWR, Adran Y Trallwng. O'r Trallwng symudodd i Orsaf Llanfechain fel Gorsaf-feistr nes iddo fod yn warchodwr nwyddau pan cafodd ei leoli yn Henffordd fel gwarchodwr ar y trenau ffrwydron yn ystod y rhyfel. Tra yno, lletyodd gyda gyrrwr trên a oedd yn ddiweddarach yn dad bedydd i fy Mam! Symudodd yn ôl i Swydd Amwythig i fod yn warchodwr nwyddau yng Nghroesoswallt yn 1948. Cyn iddo ymddeol o'r rheilffordd ar ôl 46 mlynedd, bu'n orsaf-feistr Park Hall Halt tan iddi gau ym 1966.
Dechreuodd mab fy Nhad-cu Samuel, sef fy ewythr John, fel bachgen signal yn ‘North Box’ Croesoswallt yn 15 oed. Roedd yno tan iddo gael gwaith yn dargyfeirio nwyddau ym 1958 yng Nghroesoswallt am ddwy flynedd, cyn gwarchod nwyddau yn Coton Hill, Amwythig am 8 mlynedd o 1960, gan newid i ofalu am deithwyr yr Amwythig am y 30 mlynedd nesaf ar y Rheilffordd Cambrian i Aberystwyth, ac i Paddington. Yn ystod y cyfnod hwn, bu'n oruchwyliwr dros dro a hyfforddwr y trên Sprinter am dair blynedd yn ogystal â rheolwr trenau tan ei ymddeoliad ym 1998, wedi 43 mlynedd.
Cafodd ei dderbyn i'r ysbyty ar ôl bod yn namwain Birkenhead/Paddington yn Knowle & Dorridge ym mis Hydref 1966 o ganlyniad i echel wedi torri pan ddatgysylltodd 38 o 60 wagen (gan gynnwys y fan nwyddau).
Sefydlodd John a'i dad Samuel Gymdeithas Rheilffyrdd y Cambrian yng Nghroesoswallt ym 1972, a bu John yn wirfoddolwr yno am 40 mlynedd tan 2011, a bu mab-yng-nghyfraith Samuel yn gweithio fel drafftsmon signalau rheilffordd yn Berkshire.