Rheilffordd Cymru a'r Gororau Adroddiad Parodrwydd Hydref 2019

Submitted by Content Publisher on

Cynnwys

  1. Cyflwyniad
  2. Hydref 2018: Argymhellion ac adroddiadau ymchwiliadau annibynnol
  3. Newidiadau i Ddarpariaeth Gwasanaethau ar gyfer 2019
  4. Paratoadau a gweithgarwch ar gyfer tymor yr hydref 2019

1. Cyflwyniad

1.1 Mae'r adroddiad hwn yn crynhoi'r cynlluniau parodrwydd ar gyfer tymor yr hydref 2019 a'r cynnydd yn erbyn argymhellion a wnaed yn adroddiadau'r ymchwiliadau annibynnol yn dilyn yr amharu a achoswyd i deithwyr yr hydref diwethaf. Mae paratoadau ar y cyd ar gyfer hydref 2019 (1 Hydref tan 13 Rhagfyr) yn dilyn prosesau sefydlog y diwydiant, argymhellion cenedlaethol ac yn ymgorffori allbynnau dysgu lleol - gyda ffocws cyffredinol ar ddarparu cynllun sy'n rhoi'r lle blaenaf i deithwyr.

1.2 Yn hanesyddol, mae'r hydref yn gyfnod heriol i'r diwydiant rheilffyrdd yn sgil amodau heriol y tywydd a gwneir pob ymdrech i gyfyngu i'r eithaf ar unrhyw effaith ar gwsmeriaid oherwydd amharu a threfniannau byr. Mae ein timau ar draws diwydiant rheilffyrdd Cymru yn barod i weithio bob awr o bob dydd dan amodau anodd i ddarparu'r gwasanaeth gorau posib, ac mae'r penderfyniadau rydym ni wedi'u gwneud yn rhoi'r cwsmer wrth wraidd y cyfan i gyd.

1.3 Mae'r canlynol yn ymateb manwl i argymhelliad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau (EIS) Cymru a wnaed yn adroddiad Amharu ar y Rheilffyrdd yn ystod yr Hydref a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2019:

Argymhelliad 1. Dylai Trafnidiaeth Cymru gyhoeddi canfyddiadau ei adroddiad ymchwiliad llawn terfynol i achosion yr amharu ar y rheilffyrdd cyn gynted ag y bo modd, ynghyd â chynllun gweithredu sy'n nodi sut mae'n ymateb i'r canfyddiadau a manylion llawn ei gynlluniau parodrwydd ar gyfer hydref 2019.

2. Hydref 2018: Argymhellion ac adroddiadau ymchwiliadau annibynnol

2.1 Yn sgil amharu difrifol ar y rhwydwaith, cafodd hyn effaith sylweddol ar deithwyr ddiwedd yr hydref 2018 (1 Hydref - 13 Rhagfyr). Achosodd lefelau adlyniad gwael ddifrod i olwynion llawer o'r trenau, ac roedd hyn wedi gorlwytho'r gwasanaethau adnewyddu neu ailbroffilio olwynion ac wedi cyfrannu at y ffaith i lawer o wasanaethau gael eu canslo. Cynhaliwyd dau adroddiad annibynnol i ymchwilio i'r amharu yn ystod hydref 2018, gyda'r diben o ddarparu argymhellion clir a sicrwydd ar gyfer y dulliau a'r gwaith paratoi cyn yr hydref eleni. Cynhaliwyd yr adroddiadau hyn gan SNC Lavalin a Metropolitan Railway Consultants Ltd, sy'n arbenigwyr uchel eu parch yn y gwaith o liniaru effaith adlyniad yn ystod yr hydref. Mae'r argymhellion hyn wedi'u dilyn trwy'r Cyd-dasglu Ymchwilio Adlyniad, gyda'r naill adroddwr a'r llall yn bresennol. Hefyd mae Network Rail (NR) a Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn gweithredu argymhellion cenedlaethol yn eu cydgynllun, gan roi tair lefel o sicrwydd annibynnol er mwyn sicrhau bod y paratoadau mor gadarn â phosibl. Dyma grynodeb o'r ddau adroddiad annibynnol a benodwyd gan NR a TrC yn eu trefn.

2.1.1 Adolygu'r gwaith o Reoli Adlyniad (SNC Lavalin): penodwyd SNC-Lavalin Rail & Transit Ltd (SNC-Lavalin) i arwain rhaglen o waith i ddadansoddi perfformiad blaenorol, adolygu cynlluniau 2019 a gwneud argymhellion ar gyfer cynlluniau ychwanegol a chyflawni ymarfer gorau wrth fwrw ymlaen.

2.1.2 Ymchwiliad Annibynnol yr Hydref: Penododd TrC Metropolitan Railway Consultants Ltd (MRCL), sy'n arbenigwyr yn rhyngwynebau olwynion a rheilffyrdd, i weithio gyda thîm o beirianwyr Gwasanaethau Rheilffyrdd TrC a thîm Darpariaeth Dymhorol NR. Nod yr ymchwiliad oedd nodi'r achos craidd ac argymell mesurau byr a hirdymor i leihau'r perygl o ddatblygu olwynion gwastad.

2.2 Nid oedd y naill adroddwr na'r llall wedi nodi unrhyw fylchau arwyddocaol yn y cynllun ar gyfer hydref 2019 ond cafwyd argymhellion allweddol a oedd yn ychwanegol i'r ymrwymiadau sydd eisoes yn bodoli megis y rhaglen i osod system sy'n Diogelu Olwynion rhag Llithro (WSP). Mae tri argymhelliad allweddol a'r cynnydd wedi'u nodi isod o'r ddau adroddiad. Sylwer bod yr adroddiad cynnydd diweddaraf yn erbyn yr 20 argymhelliad i gyd o Ymchwiliad Annibynnol yr Hydref wedi'i atodi ar wahân.

Argymhelliad Statws (09/09/2019) Effaith ar Deithwyr
Adolygu'r math o driniaeth Trên Trin Wyneb y Cledrau (RHTT) mewn lleoliadau perygl uche Gwyrdd - Gweler 4.2 rhaglen Trên Trin Wyneb y Cledrau (RHTT). Uchel - Nod y rhaglen hon yw lleihau lefelau llygru ar wyneb y cledrau a thrwy hynny leihau'r achosion o olwynion yn llithro ac achosion gweithredol a all oedi ac amharu ar wasanaethau.
Sicrhau bod y capasiti sydd ar gael ar gyfer turnio olwynion yn 2019 o leiaf gystal â'r hyn a oedd ar gael yn 2017 a 2018. Gwyrdd - Gweler 4.3 Turn Olwyn. Uchel - Os oes olwynion gwastad ar unedau'r fflyd, mae'n hanfodol fod digon o gapasiti yn y depo i gywiro hyn a dychwelyd y cerbyd i'r fflyd cyn gynted ag y bod modd. Os na wneir hyn, gall achosi i drenau gael eu canslo.
Dylai Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru (GRhTrC) bennu ). systemau ar y trenau yn cynnwys WSP, er mwyn darparu gwell gwybodaeth am amserau a lleoliadau achosion o adlyniad gwael. Ambr - Yn anffodus nid yw'r rhaglen casglu data byw yn ddefnyddiol yr hydref hwn ond bydd yn ffocws y systemau ar gyfer casglu a flwyddyn nesaf. I wneud iawn am hyn, dadansoddi data o mae GRhTrC yn bwriadu caffael adnodd a fydd yn galluogi i'r Cofnod Monitro ar y Trên gael ei lawrlwytho â llaw yn y depo bob tro y bydd uned yn cael ei derbyn ar gyfer turnio er mwyn gweld ble ar y rhwydwaith yr achoswyd yr olwynion gwastad. Hefyd, bydd cyfle i ddadansoddi proffil yr olwyn trwy gownteri echel cyfredol ar y seilwaith trwy gydweithio â NR. Canolig - Bydd hyn yn darparu mwy o wybodaeth am leoliadau ac amserau olwynion gwastad ar draws y rhwydwaith a gall olygu y gallwn ymyrryd er mwyn achosi'r amhariadau lleiaf posibl. Ni fydd hyn yn atal olwynion gwastad ond bydd yn darparu gwybodaeth gefnogol cyn hydref 2020 ac unrhyw ymyriadau penodol y gellir eu gwneud yn ystod gwasanaethau byw.

 

3. Newidiadau i Ddarpariaeth Gwasanaethau ar gyfer 2019

3.1 Mae newidiadau sylweddol i wasanaethau TrC ers hydref 2018 yn cynnwys cyflwyno gwasanaeth newydd sef 1 trên yr awr rhwng Caer <> Lerpwl ers Mai 2019 a chynyddu capasiti ar gyfer lein Rhymni. Mae hyn wedi achosi cynnydd yn nifer yr unedau sydd eu hangen i gynnal yr amserlen gyfredol o 105 i 111 uned. I gefnogi'r cynnydd hwn mae TrC wedi cyflwyno dau drên dosbarth 37 sy'n cael eu tynnu gan loco â phedwar cerbyd ar bob un, a phum uned dosbarth 153. Hefyd ar hyn o bryd mae 9 uned ar gyfartaledd yn segur bob dydd oherwydd rhaglenni amrywiol yr ymrwymwyd iddynt megis addasiadau Pobl â Symudedd Cyfyngedig a Diogelu Olwynion rhag Llithro (WSP).

4. Paratoadau a gweithgarwch ar gyfer tymor yr hydref 2019

Mae'r cyd-baratoi gan NR a TrC yr hydref hwn yn rhoi hyder bod gwersi wedi'u dysgu yn sgil hydref trafferthus y llynedd i deithwyr ar hyd Cymru a'r Gororau. Mae'r adnoddau a'r buddsoddiad gan y diwydiant i wella'r gwasanaeth i deithwyr o gymharu â'r flwyddyn gynt yn amlwg o'r ddarpariaeth o ymrwymiadau allweddol ac argymhellion. Isod gweler crynodeb o'r paratoadau gwell ac allweddol o gymharu â'r llynedd fesul elfen:

4.1. Rhaglen Diogelu Olwynion rhag Llithro (WSP)

4.1.1 Nid yw unedau cerbydau gydag WSP effeithiol yn cael nifer sylweddol o olwynion gwastad. Trwy osod WSP ar fflyd 150 o gerbydau dosbarth 36, dylai hyn leihau cyfanswm yr olwynion gwastad ar gyfer yr unedau hyn yn 2019. Yn y 3 wythnos waethaf yn 2018, trenau Dosbarth 150 oedd 45% o'r unedau a gafodd eu tynnu allan oherwydd olwynion gwastad. Mae Dosbarth 158 ac 175 o unedau eisoes yn defnyddio WSP, felly rhagwelir y bydd 87 o 136 uned yn defnyddio WSP a bydd y cerbydau ychwanegol a gyflwynir yr hydref canlynol eisoes yn defnyddio'r rhaglen hon (e.e. dosbarth 170). Bydd hyn yn cyfateb i 24% o unedau ychwanegol yn defnyddio WSP o gymharu â'r llynedd.

4.1.2 Mae'r rhaglen gosod WSP bythefnos yn hwyrach nag y bwriadwyd ar gyfer Dosbarth 150 oherwydd problemau gyda dyluniad y pwyntiau jacio, ond mae hyn wedi'i ddatrys gan y tîm o beirianwyr. O ganlyniad mae'r oedi hwn bellach yn peri y bydd holl gerbydau Dosbarth 150 yn barod erbyn dechrau Tachwedd yn hytrach na diwedd Hydref. Serch hynny mae TrC yn parhau i ystyried opsiynau ar gyfer prysuro'r rhaglen er mwyn cwblhau'r cerbydau i gyd erbyn y dyddiad gwreiddiol. Yn ogystal â gosod WSP, bydd system lyfnu newydd yn cael ei gosod, fel bod llyfnu yn rhan o'r system frecio wrth i'r system WSP synhwyro llithriad, yn ogystal â botwm llyfnu i'r gyrrwr ei ddefnyddio wrth yrru.

4.2 Rhaglen Trên Trin Wyneb y Cledrau (RHTT)

4.2.1 Camau lliniaru uniongyrchol NR ar gyfer adlyniad gwael yw defnyddio Trenau Trin Wyneb y Cledrau (RHTT). Maen nhw'n defnyddio offer dŵr gwasgedd uchel i lanhau wyneb y cledrau ac maen nhw hefyd yn gallu taenu cyfansoddion gwella adlyniad megis addaswyr adluniad i'r traciau. Mae mwy na dwywaith cymaint o'r traciau wedi'u trin yn 2018 o gymharu â 2016, a'r bwriad yw cynyddu hyn yn 2019 er mwyn bod yn fwy effeithiol, gyda phedair cylchred wedi'u cwblhau (2 yn y De a 2 yn y Gogledd a'r Gororau).

4.2.2 Bydd yr holl leoliadau yn cael eu glanhau gan jet o ddŵr gan osod addaswr adlyniad mewn lleoliadau allweddol lle mae'r perygl fwyaf. Bydd yr addaswr adlyniad yn cael ei ddefnyddio ar nifer o lwybrau, yn unol â'r wybodaeth a gesglir trwy fynegai adlyniad MetDesk a rhagolygon cwymp y dail i hyrwyddo effeithiolrwydd. Trwy Gydreoli yn yr hydref bydd gennym y gallu i newid y defnydd o addaswr adlyniad yn ôl yr angen o ddydd i ddydd. Mae'r dull a gytunwyd sef trin wyneb y cledrau â jet o ddŵr wedi bod ar waith ers dwy flynedd yn unig. Mae hyn wedi ein galluogi i nodi'r lleoliadau fyddai o bosibl yn elwa ar driniaeth ychwanegol ac felly'r gobaith yw y bydd y cam i wneud defnydd strategol o addaswr adlyniad yn welliant er mwyn lleihau adlyniad gwael yr hydref hwn. Bydd y trenau hyn yn gweithio o 1 Hydref tan 6 Rhagfyr, gydag oriau shifft yn yr wythnos gyntaf a'r ddiwethaf.

4.3 Turnau Olwynion

4.3.1 Mae'r prif durn olwynion yn y depo yn Nhreganna wedi cael ei archwilio'n drwyadl a'i wasanaethu ar gost o £120,000 (am y tro cyntaf ers 35 mlynedd). Bydd hyn yn gwella dibynadwyedd ac argaeledd y turn, ac yn lleihau'r troeon y bydd yn rhaid stopio unedau wrth ei ddefnyddio. Bydd cynllun dyddiol yn cael ei adolygu a'i reoli fel y gellir blaenoriaethu unedau yn ôl y galw gan leihau'r effaith ar y cwsmer yn sgil trefniannau byr a chanslo gwasanaethau.

4.3.2 Mae wedi rhaglennu hyfforddiant fel y gall 3 aelod staff ychwanegol o'r depo ddefnyddio'r turn olwynion yn Nhreganna (fel bod y cyfanswm busnes yn 9) ac i ddarparu cydnerthedd pellach pe bai staff yn absennol ar fyr rybudd.

4.3.3 Hefyd mae TrC wedi dod o hyd i drydydd parti a all ddarparu turnau olwynion yn Crewe ETD a Longsight ym Manceinion. Opsiynau pellach sy'n cael eu harchwilio yw Central Rivers a Tyseley.

4.4 Rheoli Llystyfiant

4.4.1 Mae rheoli llystyfiant yn weithgarwch allweddol arall cyn yr hydref er mwyn cefnogi gwasanaeth trenau diogel a phrydlon ar y rhwydwaith.

4.4.2 Yn y 5 mlynedd diwethaf, mae NR wedi mwy na dyblu'r adnoddau ar gyfer rheoli llystyfiant, felly mae cyfanswm y llystyfiant wedi cynyddu yn yr un modd. Mae'n bwysig clirio llystyfiant ond mae hefyd yn bwysig clirio'r mannau mwyaf priodol.

4.4.3 O ran cyfanswm y llwyth, mae NR wedi clirio mwy na 3.5m metr sgwâr o lystyfiant y llynedd sef 30% yn fwy na'r flwyddyn flaenorol a 100% yn fwy na'r 2 flynedd flaenorol. Eleni mae NR yn bwriadu clirio mwy eto, a bydd yn gweithio ar dros 3.7m metr sgwar mewn ardaloedd allweddol ac mewn mannau y mae gyrwyr TrC wedi'u clustnodi'n rhai pwysig. Ar Gledrau Craidd y Cymoedd mae NR yn gweithio yn unol â'r drwydded ecolegol a sicrhawyd gan TrC sy'n ein galluogi ni i gydweithio gyda chefnogaeth ecolegydd a tharfu llai wrth i ni dorri'n ôl. Mae hyn yn helpu i warchod y bywyd gwyllt lleol sy'n cynnwys pathewod ac ystlumod. Mae'r dull hwn o weithio yn parhau i'n galluogi ni i reoli'r llystyfiant ond bydd yn ymyriadau amlach o ganlyniad.

4.4.4 Yn 2017, sefydlwyd dau Weithgor Rheoli Llystyfiant ar gyfer y ddwy uned gyflawni fel ei gilydd (y Gogledd a'r Gororau, a'r De). Mae'r cyfarfodydd misol hyn yn rhoi cyfle i'r Teithwyr a'r Cwmnïau Gweithredu Cerbydau dynnu sylw at y meysydd sydd o bosibl yn broblem iddyn nhw o ran gyrru yn ystod y tymhorau, ac yna caiff hyn ei gynnwys yn y cynllun rheoli llystyfiant. Trafodir adroddiadau Arolygwyr a gyrwyr hefyd, gyda chynlluniau gweithredu'n cael eu llunio o'r wybodaeth a ddaw i'r fei.

4.4.5 Mae'r Llwybr wedi ailddosbarthu cyllid i roi mwy o ffocws ar reoli llystyfiant ar ochr y cledrau mewn perthynas â'r risg diogelwch ehangach i drenau a theithwyr ac mae wedi sicrhau llawer mwy o arian i fynd i'r afael â'r her barhaus hon. Defnyddir dull sy'n seiliedig ar risg i nodi a blaenoriaethu gwaith llystyfiant ac mae arolygon ychwanegol yn cael eu comisiynu i wella ansawdd y wybodaeth a ddefnyddir i nodi a rheoli'r risg ymhellach.

4.5 Taenwyr Gel Tyniant (TGA)

4.5.1 Mae taenwyr gel tyniant yn lliniaru effeithiau lleol adlyniad isel yn ystod yr hydref ac maent ar gael wrth gyrraedd/gadael gorsafoedd er mwyn helpu trenau i frecio a stopio ac wrth gynyddu'r pŵer er mwyn ailgychwyn. Hefyd mae detholiad bach o unedau wedi'u lleoli ar incleiniau i helpu trenau sy'n cludo nwyddau. Mae'r peirannau hyn yn cael eu pweru gan yr haul ac yn cael eu gosod wrth ochr y lein.

4.5.2 Mae gan NR 65 TGA ar hyd Cymru a'r Gororau, 23 wedi'u rheoli gan Uned Darparu'r De a 42 yn cael eu rheoli gan Uned Darparu'r Gogledd a'r Gororau. Yn ystod hydref 2018, ymhlith y 65 uned roedd 47 uned Mk2 ac 18 uned Mk1. Mae'r unedau Mk1 wedi'u disodli gan yr unedau Mk3 newydd uwchraddedig, a fydd yn fwy dibynadwy ac effeithiol fel dull lliniaru.

4.6 Cynllun Rheoli Setiau Olwynion

4.6.1 3 Bydd rhaglen benodedig a gychwynnwyd yn gynharach yn y flwyddyn yn sicrhau bod traul o 6 mis o leiaf ar ôl ar bob olwyn yn holl unedau TrC ar ddechrau cyfnod yr hydref. Hefyd, bydd olwynion pob uned wedi'u turnio o leiaf unwaith cyn i'r hydref gychwyn ar 1 Hydref.

4.6.2 Hefyd mae TrC yn rheoli cyflenwad o gydrannau sbâr er mwyn caniatáu am y posibilrwydd y bydd galw mawr gan sicrhau y bydd digon o gydrannau sbâr gyda LHGS, Luccinni Rail & Pullman Rail.

4.6.3 Mae elfen o risg o ran setiau olwynion sbâr ar gyfer Pacers gan ein bod yn cystadlu yn erbyn Northern Rail am yr un cyflenwad, fodd bynnag mae hyn yn cael ei ddatrys ac mae nifer o setiau olwynion wedi'u dyrannu i TrC.

4.7 Rhagolygon yr hydref

4,7.1 Defnyddir y rhagolygon tywydd cenedlaethol ac adlyniad yn ystod tymor yr hydref 2019 i lywio penderfyniadau strategol a thactegol. 

4.7.2 Dosberthir rhagolygon cyntaf y dydd bob bore gan Reolwr y Llwybrau trwy e-bost dyddiol, gan ddilyn amodau'r tywydd drwy'r dydd a'u rhannu'n ysbeidiol ledled y llwybr trwy e-bost 'State of the Nation'. Yn ystod cyfnodau o dywydd garw megis gwyntoedd mawr a llifogydd, gellir cynnwys mapiau arsylwi o wefan Gwasanaeth Tywydd Network Rail (www.NRWS.co.uk) yn y negeseuon er mwyn rhoi mwy o eglurder ynghylch amodau'r tywydd ar y pryd ar draws y rhwydwaith.

4.7.3 Enghraifft o fapiau arsylwi yn ystod storm 'Brian' (Hydref 2017)

4.8 Ymarferwyr Llinell Flaen

4.8.1 Yn ystod hydref 2018, roedd y llwybr yn dibynnu ar Reolwyr Gweithrediadau Symudol yn nodi yn rhagweithiol ac yn lliniaru unrhyw beryglon adlyniad a ddeuai i'r golwg ar draws rhwydwaith Cymru a'r Gororau. Yn 2019, nod Network Rail yw cyflwyno gallu ymatebol ychwanegol drwy ddarparu timau ymateb sy'n benodedig i'r hydref a phroses gyfoes o grynhoi data sy'n cynnwys cynnal profion gyda swabiau ar wyneb y cledrau. Bydd trefniadau rhagweithiol y llwybr yn cynnwys archwiliadau ar bob safle risg uchel, a'r driniaeth yn unol â'r lefelau llygru sy'n bresennol ar wyneb y cledrau.

4.9 Cynlluniau Wrth Gefn

4.9.1 Yn ogystal â'r gwelliant yn y paratoadau a'r cyd-gynllunio, mae nifer o ffrydiau gwaith a swyddogaethau yn canolbwyntio ar ddarparu gwasanaeth dibynadwy yn ystod yr hydref. Mae'r rhain yn cynnwys cynlluniau wrth gefn gwasanaeth ar y cyd wedi'u mireinio pan fo amharu mawr neu fach ar y gwasanaeth, megis prinder unedau neu effeithiau gwael y tywydd.

4.9.2 Mae'r gwelliannau o gymharu â'r llynedd i sicrhau ein bod mewn sefyllfa lawer cryfach i ddarparu cludiant i deithwyr yn cynnwys nifer o gynlluniau parod trên/bws wrth gefn ar gyfer yr hydref yn seiliedig ar lai o argaeledd unedau rhagweladwy a all godi o ddydd i ddydd yn ystod cwymp y dail.

4.9.3 Mae'r effaith sylweddol ar y rhwydwaith yn sgil tywydd gwael yn digwydd trwy gydol y flwyddyn, yn enwedig rhwng Medi a Mawrth. Er mwyn lliniaru'r perygl i ddiogelwch a achosir gan dywydd difrifol megis gwyntoedd cryf, mae Cyfyngiadau Cyflymder Cyffredinol mewn Argyfwng (BESR) o 50 milltir yr awr yn cael ei osod ar draws y rhwydwaith er mwyn sicrhau y gellir cludo teithwyr yn ddiogel. Mae hyn ar y cyd â'r cynllun wrth gefn a ddatblygir gan lwybr y daith os yw'r rhagolwg yn darogan lefelau arbennig o uchel o adlyniad.

4.10 Darparu Cludiant ar y Ffordd

4.10.1 Mae TrC wedi gwneud llawer o welliannau i'n darpariaeth cludiant ar y ffordd yn dilyn hydref 2018. Mae'r rhain yn ceisio gwella ein darpariaeth cludiant ar y ffordd gan sicrhau ein bod yn darparu gwasanaeth heb ei ail. Her allweddol y bu i ni ei hwynebu yn 2018 oedd bod nifer o newidiadau sylweddol i gontractau a oedd yn effeithio ar ddarparu cludiant ar y ffordd yn rhwydwaith Cymru a'r Gororau.

4.10.2 Mae gwaith ar y cyd â'n partneriaid darparu cludiant ar y ffordd wedi nodi'r diffygion yn eu gwasanaeth ac yn rhannu ein harbenigedd a'n gwybodaeth am y diwydiant er mwyn sicrhau bod camau cywiro yn cael eu cymryd.

4.11 Parodrwydd i Weithredu

4.11.1 Yn ogystal â'r gwelliannau yn y cynllunio a'r paratoi ar y cyd, mae nifer o ffrydiau gwaith a swyddogaethau eraill yn canolbwyntio ar ddarparu gwasanaeth dibynadwy yn ystod yr hydref. Maent yn cynnwys cynlluniau wrth gefn cydwasanaethau wedi'u mireinio pan fo amharu mawr neu fach ar y gwasanaeth, megis tresmasu neu dywydd difrifol yn eu trefn.

4.11.2 Gan barhau ag ymarfer blynyddol, mae briffiau a hyfforddiant i yrwyr hefyd sy'n cynnwys cyfarwyddiadau penodol ar gyfer misoedd yr hydref a'r gaeaf. Mae'r cyfarwyddiadau polisi gyrru ar gyfer cynnal profion ar y breciau wedi'u diweddaru er mwyn mynd i'r afael ag amwysedd yn y cyfarwyddiadau blaenorol a sicrhau bod pob achos o lithro neu sbinio yn cael eu hadrodd.

4.11.3 Roedd trefniadau ar y cyd ar gyfer yr hydref wedi llwyddo i gyflawni cynllun yr hydref yn 2018, a byddwn yn adeiladu ar y llwyddiant hwn yn ystod hydref 2019.

4.11.4 Er mwyn darparu rhywfaint o rybudd i yrwyr am y mannau y gallan nhw ddisgwyl dod ar draws adlyniad isel, mae NR ar y cyd â gweithredwyr trenau nwyddau a threnau teithwyr yn cynhyrchu rhestr a gaiff ei hadolygu'n flynyddol o 'safleoedd risg uchel ar gyfer cledrau ag adlyniad isel'. Caiff y safleoedd hyn eu blaenoriaethu i sicrhau bod camau lliniaru priodol yn cael eu cymryd i leihau'r tebygolrwydd o gael achosion diogelwch gweithredol yn digwydd ac o darfu ar wasanaethau trenau yn sgil olwynion yn llithro.