Tarfu rhwng Amwythig a Birmingham dydd Sul 02 a dydd Llun 03 Awst
Bydd y rhan fwyaf o wasanaethau Trafnidiaeth Cymru rhwng Amwythig a Birmingham yn cael eu canslo ddydd Sul 2 a dydd Llun 3 Awst.
Nid ydym yn gallu rhedeg ein trenau hŷn yn ystod cyfnodau o dymereddau uchel oherwydd problemau parhaus gyda systemau aerdymheru ar ein trenau etifeddol. Rydym yn gweithio gyda'n partneriaid yn y gadwyn gyflenwi i ddatrys hyn cyn gynted â phosibl, cyn i'n trenau hŷn gael eu newid fel rhan o'n buddsoddiad gwerth £800 miliwn mewn trenau newydd sbon.
Nodwch: Bydd y tri gwasanaeth olaf rhwng Amwythig a Birmingham ar ddydd Sul yn rhedeg fel arfer.
Bydd gwasanaethau bws yn lle trên ar waith rhwng Amwythig a Wolverhampton, yn galw yn Telford a Wellington. Bydd tocynnau hefyd yn cael eu derbyn ar wasanaethau CrossCountry rhwng Wolverhampton a Birmingham.
Bydd Avanti West Coast yn caniatáu i gwsmeriaid sy'n teithio gyda thocynnau "TfW only" rhwng Cymru a Gorllewin Canolbarth Lloegr ddefnyddio eu tocynnau ar wasanaethau Avanti rhwng Crewe a Stafford ddydd Sul 02 a dydd Llun 03 Awst.
Bydd West Midlands Trains yn caniatâi i gwsmeriaid sydd wedi prynu tocynnau 'Advance' i ddefnyddio ei thocynnau ar wasanaethau WMT rhwng Amwythig a Birmingham ar ddydd Sul 02 Awst a dydd Llyn 03 Awst.
Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir gan y tarfu hwn.
Am y wybodaeth ddiweddaraf, ewch i trc.cymru/cynllunio-taith neu livemap.tfw.wales.
Byddwch yn amyneddgar a dilynwch ganllawiau'r staff wrth deithio.