Sut i ymuno ag un o’r Troeon Trên
Fel arfer, i ymuno ag un o'r Troeon Trên, y cyfan sydd angen ei wneud yw cyrraedd ar ddechrau’r daith gerdded. Bydd teithiau cerdded yn dechrau o’r orsaf reilffordd briodol fel arfer (e.e. gorsaf Craven Arms ar gyfer cylchdaith Craven Arms, gorsaf Wrenbury ar gyfer taith gerdded linol o Wrenbury i Whitchurch), pan fydd y trên o gyfeiriad Amwythig yn cyrraedd. Ond ewch ar y wefan rhag ofn y bydd yn rhaid i ni ofyn i chi archebu lle, neu i gael unrhyw gyfarwyddiadau penodol ar gyfer ymuno.
Os gallwch chi ymuno â’r trên o Amwythig, byddwch chi’n debygol o weld cerddwyr eraill y Troeon Trên sydd ar eu ffordd i’r daith. Os byddwch chi’n dod o gyfeiriad arall, bydd angen i chi gynllunio eich taith fel eich bod yn cyrraedd y man cychwyn mewn da bryd - mae croeso i chi ofyn os oes angen help neu gyngor arnoch chi.
Cŵn
Er mwyn cydymffurfio â dymuniadau’r rhan fwyaf o’n cerddwyr, ni chaniateir cŵn ar unrhyw un o’r Troeon Trên yn anffodus. Caniateir cŵn cymorth, ond holwch ni yn gyntaf, oherwydd efallai nad yw’r llwybrau’n addas nac yn ddiogel i’ch ci.
Disgrifiadau o deithiau cerdded
- ‘Hawdd’ ydy tir gwastad yn bennaf a chyflymder ysgafn.
- ‘Hamddenol’ ydy dringo ysgafn a rhywfaint o dir gwastad ar gyfer pobl sy’n weddol ffit.
- ‘Cymedrol’ ydy rhai llwybrau serth a chyflymder cyson i bobl sydd â phrofiad o gerdded yn y wlad a lefel dda o ffitrwydd (‘cymedrol+’ ydy cymedrol ond gyda lefel uwch o anhawster yn gyffredinol).
Paratoi a diogelwch
Caiff teithiau cerdded eu harwain gan arweinwyr gwirfoddolwyr profiadol, pob un ohonynt yn aelodau o’r Gymdeithas Troeon Trên ac mae llawer ohonynt yn aelodau o Gymdeithas y Cerddwyr hefyd. Er bod pob gofal yn cael ei gymryd i gadw at y rhaglen a hysbysebir, mae arweinwyr teithiau cerdded yn cadw’r hawl i wneud newidiadau yn ôl amodau’r tywydd, anghenion y criw neu amgylchiadau annisgwyl eraill.
Mae’r rhan fwyaf o’r Troeon Trên mewn ardaloedd gwledig diarffordd. Gwnewch yn siŵr fod gennych chi esgidiau a dillad addas ar gyfer y daith rydych chi’n bwriadu ymuno â hi, a dewch â bwyd a diod gyda chi. Gall arweinwyr wrthod derbyn pobl os ydynt, yn eu barn nhw, heb ddigon o offer neu sydd ddim yn ffit. Os nad ydych chi’n siŵr, cysylltwch â’r trefnwyr neu arweinydd y daith ymlaen llaw.
Er eich diogelwch eich hun a diogelwch pobl eraill, dilynwch unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan arweinydd y daith. Er mai cerdded yw un o’r gweithgareddau awyr agored mwyaf diogel, does dim un gweithgaredd yn gwbl ddi-risg a’ch cyfrifoldeb chi yw ymddwyn yn gall a lleihau’r posibilrwydd y bydd damweiniau’n digwydd.
Amseroedd trenau
Mae rhaglen pob taith gerdded yn dangos amseroedd allan o Amwythig (gydag amser cyrraedd yr orsaf lle mae’r daith gerdded yn dechrau) ac amseroedd dychwelyd o’r gorsafoedd lle mae’r daith gerdded yn gorffen (gydag amser cyrraedd Amwythig).
Gallai manylion yr amseroedd newid. Cynghorir cerddwyr yn gryf i wirio amseroedd trenau cyn teithio, ac i edrych ar ein gwefan, www.railrambles.org, rhag ofn y bydd newidiadau i’r rhaglen ar y funud olaf.
Prisiau a thocynnau
Gellir defnyddio’r amrywiaeth arferol o docynnau i deithio i fan cychwyn y daith. Pan fydd taith gerdded yn dychwelyd o leoliad gwahanol, dylid prynu tocyn i’r pwynt pellaf. Rydym yn ceisio dweud wrthych beth yw’r pwynt pellaf o Amwythig, pan nad yw hyn yn amlwg, ond byddwch yn ofalus os ydych yn dod o’r cyfeiriad arall.
Mae tocynnau rhatach ar gael i ddeiliaid cardiau rheilffordd, ac mae bob amser yn werth holi am y gostyngiadau sydd ar gael i grwpiau neu ymchwilio i weld a fyddai hollti eich tocyn yn arbed arian i chi (mae llawer o’n cerddwyr yn gweld bod hyn yn wir).
Ar deithiau cerdded lle dangosir taith ar fws, cofiwch y gallwch ddod â’ch tocyn bws Cymreig neu Seisnig os ydych chi’n ddigon ffodus i gael un.