Ardaloedd cam 1, crynodeb a data: Terfyn cymflymder 20mya safonol ar frydd cyfyngedig

Submitted by Content Publisher on

Terfyn cyflymder 20mya diofyn ar ffyrdd cyfyngedig

1. Cyflwyniad

Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi’r data monitro a gafwyd o ardaloedd cam 1 20mya hyd at ddiwedd mis Mai 2023. Mae'r data a gyflwynir yma yn cael ei gymryd o'r adroddiad monitro terfynol sy'n ymwneud yn benodol â cham 1.

Bydd adroddiadau monitro yn y dyfodol yn ymdrin â’r terfyn cyflymder diofyn cenedlaethol o 20mya ar ‘ffyrdd cyfyngedig’ a gyflwynwyd ar 17 Medi 2023.¹

 

2. Amcanion a dangosyddion perfformiad allweddol

Fe wnaethom gyhoeddi’r fframwaith monitro 20mya cenedlaethol ym mis Medi 2023.² This sets out five specific measurable objectives for 20mph speed limit implementation:

  • Gostwng nifer y cerddwyr a beicwyr sy’n cael eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol ar y rhwydwaith ffyrdd.
  • Annog newid moddau o geir preifat i gerdded a beicio ar gyfer teithiau byrrach mewn ardaloedd adeiledig.
  • Lleihau goruchafiaeth cerbydau modur mewn rhyngweithiadau rhwng cerbydau a cherddwyr.
  • Lleihau allyriadau carbon o drafnidiaeth o ganlyniad i newid moddau o geir preifat i gerdded, beicio a theithio ar olwynion ar gyfer teithiau byrrach mewn ardaloedd adeiledig.
  • Cynnal neu wella ansawdd yr aer lleol o ganlyniad i gyflymder traffig mwy llyfn a llai o gyflymu ac arafu.

Dangosyddion Perfformiad Allweddol (DPA) yw'r brif set o fetrigau sy'n cael eu defnyddio i fonitro cynnydd yn erbyn yr amcanion. Asesir y saith DPA a ganlyn ar gyfer ardaloedd cam 1:

  • Canran y traffig sy’n cydymffurfio â’r terfyn cyflymder o 20mya (DPA 1.1)
  • Newid mewn cyflymder 85 canradd (DPA 1.2)³
  • Newid mewn cyflymder cymedrig (DPA 1.3)
  • Amseroedd teithio cerbydau ac amrywiad o ran amseroedd teithio ar y prif lwybrau (DPA 1.4). Mae hyn yn defnyddio’r gwahaniaeth rhwng y 5ed canradd ac amseroedd teithio'r 95fed canradd fel procsi.
  • Newid mewn agwedd tuag at ddefnyddio teithio llesol mewn ardaloedd adeiledig (DPA 3.1)⁴
  • Newid o ran ymddygiad ildio cerbydau a cherddwyr (DPA 3.2)
  • Newid mewn ansawdd aer lleol yn seiliedig ar nitrogen deuocsid (NO₂) (DPA 4.1).

Nid ydym yn gallu adrodd yn erbyn y pump DPA arall ar y cam cynnar hwn yn y rhaglen 20mya. Mae hyn oherwydd cwmpas daearyddol cyfyngedig ardaloedd cam 1 a’r amserlenni byr ers eu rhoi ar waith.

Dyma’r DPA sydd heb gael eu hasesu ar gyfer cam 1:

  • Cyfraddau damweiniau ar gyfer cerddwyr a beicwyr (DPA 2.1, 2.2, 2.3)
  • Newid mewn allyriadau carbon deuocsid (CO₂) (DPA 4.2)
  • Newid yn agweddau’r cyhoedd at derfynau cyflymder 20mya (DPA 5.1)

¹ Diffinnir ffyrdd cyfyngedig gan Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 fel ffyrdd sydd â goleuadau stryd bob 200 llath o leiaf. Oni bai ei fod wedi’i lofnodi fel arall, y terfyn cyflymder ar ffyrdd cyfyngedig oedd 30mya cyn 17 Medi 2023 ac 20mya ar ôl.
² Terfyn cyflymder 20mya diofyn ar ffyrdd cyfyngedig: dogfen fframwaith monitro, TrC, Medi 2023.
³ Y cyflymder y mae 85% o yrwyr yn gyrru arno neu'n is mewn amodau llifo’n rhwydd.
⁴ Mae teithio llesol yn cyfeirio at deithiau sy’n cael eu gwneud drwy gerdded, beicio a theithio ar olwynion.


 

3. Crynodeb data monitro

Mae crynodeb asesu dangosyddion perfformiad allweddol ar sail data a gasglwyd yn ardaloedd cam 1 hyd at fis Mai 2023 ar gael yn nhabl 1.

Table 1: Crynodeb o’r asesiad DPA terfynol ar gyfer ardaloedd cam 1

DPA Disgrifiad o’r DPA Asesiad terfynol Newid*

1.1

Canran y traffig sy’n cydymffurfio â’r
terfyn cyflymder o 20mya

65% yn teithio ar 24mya neu lai 
(50% cyn gweithredu)

++

1.2

Newid yng nghyflymder 85 canradd

Cyflymder 85 canradd wedi gostwng
(-3.0mya)
++

1.3

Newid yn y cyflymder cymedrig

Cyflymder cymedrig wedi gostwng (-1.6mya)

+

1.4

Amseroedd teithio cerbydau ac
amrywiadau mewn amseroedd
teithio, yn seiliedig ar y gwahaniaeth
rhwng amseroedd teithio’r 5ed a’r
95fed canradd fel procsi ar gyfer
dibynadwyedd amseroedd teithio, ar
brif lwybrau trwodd

Yr holl draffig wedi’i gyfuno - mân newidiadau
o ran amseroedd teithio, rhai yn gadarnhaol a
rhai yn negyddol. Yn gyffredinol, cafwyd
cynnydd bach mewn amseroedd teithio.

Gwasanaethau bysiau wedi’u trefnu -
gostyngiad cyffredinol ym mhrydlondeb y
gwasanaeth yn ystod y cyfnod brig gyda
gwasanaethau ar-amser yn gostwng tua 6 i
13 pwynt canran. Nid yw rhai gwasanaethau
wedi gweld dirywiad mewn prydlondeb.

-

3.1

Newid mewn agweddau tuag at
ddefnyddio teithio llesol mewn
ardaloedd adeiledig

Yn seiliedig ar ddata a gasglwyd yn ystod
blwyddyn academaidd 2021/22: Cynnydd o
51% mewn teithio llesol ar deithiau i’r ysgol
mewn ardaloedd cam 1, o’i gymharu â
chynnydd o 37% mewn lleoliadau rheoli.
Maint y sampl: 3,036 o blant

++

3.2

Newid o ran ymddygiad ildio
cerbydau a cherddwyr

Casgliad petrus: llai o gerbydau’n cyflymu
wrth agosáu at gerddwyr mewn ardaloedd
cam 1

+

4.1

Newid yn ansawdd yr aer lleol - NO₂

Dim effaith sylweddol wedi’i nodi hyd yma

0

* Newid o’i gymharu â’r sefyllfa cyn gweithredu: ++ (mawr cadarnhaol), + (bach cadarnhaol), 0 (dim newid amlwg), - (bach negyddol), -- (mawr negyddol).

 

 

Llwytho i lawr