Trafnidiaeth Cymru Cofnodion Cyfarfod Bwrdd - 26 Chwefror 2019

Submitted by Content Publisher on

Trafnidiaeth Cymru – Cofnodion Cyfarfod y Bwrdd

09:30 — 16:00; 26 Chwefror 2019

Tŷ South Gate, Caerdydd

Yn bresennol:

Scott Waddington (Cyfarwyddwr Anweithredol a Chadeirydd) (SW)                                               James Price (Prif Swyddog Gweithredol) (JP)
Sarah Howells (Cyfarwyddwr Anweithredol) (SH)                                                                                  Nikki Kemmery (Cyfarwyddwr Anweithredol) (NK)
Heather Clash (TrC) (HC)                                                                                                                                Alison Noon-Jones (Cyfarwyddwr Anweithredol) (ANJ)Jeremy Morgan (Ysgrifenyddiaeth) (JM)

Roedd yr unigolion canlynol o Trafnidiaeth Cymru yn bresennol ar gyfer Rhan C: Geoff Ogden (GO); Alexia Course (AC); Karl Gilmore (KG); Gareth Morgan (GM); David O’Leary (DOL); a Lewis Brencher (LB) Paul Chase (PC) yn bresennol ar gyfer eitem 5e.

Rhan A: Cyfarfod y Bwrdd Llawn

1) Cyflwyniad

Croesawodd Y Cadeirydd Aelodau’r Bwrdd I’r Cyfarfod.

 

a.   Ymddiheuriadau am Absenoldeb

Nid oedd unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

b.  Hysbysiad ynghylch Cworwm

Gan fod cworwm yn bresennol, cyhoeddodd y Cadeirydd fod y cyfarfod yn agored.

 

c.  Gwrthdaro rhwng buddiannau

Ni ddatganwyd unrhyw achos o wrthdaro rhwng buddiannau.

 

d.   Cofnodion a chamau gweithredu cyfarfodydd blaenorol

Cafodd Cofnodion cyfarfod blaenorol Bwrdd TrC ar 16 Ionawr 2019 eu cymeradwyo’n gofnod gwir a chywir.

 

2)  Diogelwch

a.   Sylw i ddiogelwch

Tynnodd GM sylw’r Bwrdd at y gwaith adeiladu a dymchwel ger South Gate House a’r angen i fod yn ofalus oherwydd palmentydd rhydd. Bydd TrC yn darparu ‘llwybr diogel’ i staff ac ymwelwyr fynd i South Gate House.

 

b.  Perfformiad Diogelwch

Rhoddodd GM yr wybodaeth ddiweddaraf i’r Bwrdd am y perfformiad diogelwch diweddaraf. Cyfarfu’r Pwyllgor Iechyd, Diogelwch a Llesiant dair wythnos yn ôl a chafwyd cyfarfod cynhyrchiol. Roedd y cyfarfod wedi canolbwyntio ar groesfannau rheilffordd a oedd yn seiliedig ar gyflwyniad gan Network Rail. Bydd TrC yn etifeddu nifer o groesfannau rheilffordd fel rhan o’r gwaith o drosglwyddo asedau Llinellau Craidd y Cymoedd ac mae eisoes yn gweithio gyda Network Rail i reoli’r trosglwyddo.

Rhoddodd GM yr wybodaeth ddiweddaraf am lansio’r ymgyrch Amser i Siarad yn ddiweddar sy’n canolbwyntio ar iechyd meddwl. Mae gwaith yn parhau i ganfod a hyfforddi swyddogion cymorth cyntaf iechyd meddwl,

Mae TrC bellach yn aelod o CIRAS (Confidential Incident Reporting Analysis Scheme). Bwriedir cynnal sesiynau briffio staff a rhaglen gyflwyno ddechrau mis Mawrth.

Rhoddwyd gwybod am ddau ddigwyddiad RIDDOR yn ystod y cyfnod diwethaf ond nid oeddent yn ddigon sylweddol i arwain at newid un o bolisïau neu weithdrefnau TrC. Rhoddwyd gwybod am un SPAD lefel isel hefyd.

CAM GWEITHREDU: GM i wirio gweithdrefn riportio Gwasanaethau Rheilffyrdd TrC i sicrhau nad oes unrhyw or-riportio.

Dywedodd GM hefyd fod TrC wedi cwrdd ag ORR yn ddiweddar i drafod y cynnydd gyda’r cais am awdurdodiad diogelwch i drosglwyddo asedau Llinellau Craidd y Cymoedd. Mae cynnydd da wedi’i wneud ond mae ORR wedi gofyn am wybodaeth fanylach mewn rhai meysydd.

 

3)  Diweddariad Strategol / Datblygu

a.   Adroddiad y Prif Swyddog Gweithredol

Cyflwynodd JP ei adroddiad Prif Swyddog Gweithredol a dywedodd wrth y Bwrdd fod cynnydd da’n cael ei wneud ar y cyfan, yn enwedig yn y tymor canolig i’r tymor hir. Mae archebion ar gyfer cerbydau wedi cael eu cyflawni ac mae’r gwaith o ddylunio’r seilwaith yn mynd rhagddo yn unol â’r bwriad.

Y mater allweddol yn y tymor byr yw sicrhau bod cerbydau ar gael er mwyn gallu rhedeg amserlen newydd mis Mai yn effeithlon. Mae TrC wedi comisiynu ymgynghorydd, a oedd yn arfer bod yn uwch swyddog gweithredol gyda nifer o gwmnïau rheilffyrdd, i herio a chynghori TrC a Gwasanaethau Rheilffyrdd TrC ynghylch y paratoadau. Mae TrC hefyd wrthi’n nodi opsiynau posibl ar gyfer cerbydau ychwanegol os bydd problem o ran capasiti.

Mae JP yn bwriadu ysgrifennu at Andrew Haines, Prif Swyddog Gweithredol Network Rail, i edrych ar opsiynau ar gyfer cydweithio mwy effeithiol yn dilyn eu cyfarfod ym mis Ionawr.

CAM GWEITHREDU: JP i ysgrifennu at Andrew Haines, Prif Swyddog Gweithredol Network Rail, i edrych ar opsiynau ar gyfer cydweithio mwy effeithiol.

Dywedodd JP fod prosiectau cyfalaf yn mynd rhagddynt yn dda. Fodd bynnag, mae TrC yn delio ag ychydig o faterion cynllunio ac mae’n edrych ar brosesau i sicrhau bod prosiectau sydd wedi’u hetifeddu yn cael eu derbyn heb broblemau tebyg.

CAM GWEITHREDU: KG i ddarparu papur ar gyfer cyfarfod y Bwrdd ym mis Mawrth yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am brosiectau cyfalaf

Rhoddodd JP yr wybodaeth ddiweddaraf i’r Bwrdd am ddatblygu’r fethodoleg PTL sy’n mynd rhagddi’n dda. Bydd y Bwrdd yn derbyn diweddariad yng nghyfarfod mis Mawrth.

CAM GWEITHREDU: AC i roi diweddariad yng nghyfarfod y Bwrdd ym mis Mawrth ar fethodoleg PTL

Rhoddodd JP yr wybodaeth ddiweddaraf i’r Bwrdd am y cynnydd o ran cyflawni’r ymrwymiad i sicrhau bod gan TrC aelod Bwrdd Undeb Llafur. Mae JP yn bwriadu ysgrifennu at y TUC i gael eu barn am sut i ddod o hyd i ymgeisydd addas. Mae nifer o undebau wedi cyflwyno tystiolaeth i ymchwiliad Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar ddatblygiad TrC yn y dyfodol ym mis Mawrth.

CAM GWEITHREDU: JM i anfon dolen at aelodau Bwrdd o dystiolaeth ysgrifenedig y Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau a gyflwynwyd i ymchwiliad Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar ddatblygiad TrC yn y dyfodol

Dywedodd JP wrth y Bwrdd ei fod wedi bwriadu cyflwyno papur ar arlwyo yn y cyfarfod hwn. Fodd bynnag, fe wnaeth trafodaethau diweddar ag Uwch Dîm Arwain TrC arwain at yr angen am ragor o waith i fireinio’r costau. Bydd y Bwrdd yn cael papur y tu allan i’r pwyllgor cyn cyfarfod nesaf y Bwrdd.

CAM GWEITHREDU: JP i roi papur y tu allan i’r pwyllgor ar arlwyo i’r Bwrdd. Ar ôl cael cymeradwyaeth y Bwrdd, JP i geisio cymeradwyaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y ffordd ymlaen a argymhellir a rhoi rhybudd ynghylch terfynu’r trefniadau presennol erbyn 31 Mawrth 2019.

 

I.   Un tîm TrC

Cyflwynodd JP bapur ar y dull gweithredu y mae TrC yn ei fabwysiadu o ran gweithio mewn partneriaeth â Gwasanaethau Rheilffyrdd. Trafododd y Bwrdd fanteision posibl a dwy egwyddor dull gweithredu un tîm: gan sicrhau y dylai unrhyw arbedion cydweithio gael eu cofnodi a’u buddsoddi mewn gwelliannau i wasanaethau; ac na fydd atebolrwydd yn cael ei danseilio.

 

b.  Y diweddaraf o ran cynnydd yr is-bwyllgorau

Rhoddodd pob Cyfarwyddwr Anweithredol yr wybodaeth ddiweddaraf i’r Bwrdd am gyfarfodydd diweddar yr is-bwyllgorau:

  • Dywedodd SH fod yr ail gyfarfod cwsmeriaid a chyfathrebu wedi’i gynnal yr wythnos diwethaf a bod cynnydd da cyffredinol yn cael ei wneud yn y meysydd hyn, gan nodi y bydd rhaglen waith y Cyfarwyddwr Masnachol a Phrofiad y Cwsmer yn cyflymu pan fydd tîm llawn ar waith. Mae’r is-bwyllgor yn edrych ar sut i ddefnyddio adborth grŵp defnyddwyr y rheilffyrdd.
  • Rhoddodd NK yr wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am gyfarfod diwethaf y Pwyllgor Iechyd, Diogelwch a Llesiant. Ymdriniwyd â’r rhan fwyaf o’r cyfarfod yn y diweddariad ar Berfformiad Diogelwch [eitem 2b]. Ychwanegodd NK y bydd yr is-bwyllgor yn ei gyfarfod nesaf yn ystyried y 10 risg iechyd, diogelwch a llesiant uchaf gan Wasanaethau Rheilffyrdd TrC TrC a’r partner seilwaith.
  • Rhoddodd ANJ yr wybodaeth ddiweddaraf i'r Bwrdd am ail gyfarfod y Pwyllgor Pobl. Mae’r pwyllgor yn ystyried arolwg posibl i ymgysylltu â staff ac a all TrC ddefnyddio’r Ardoll Brentisiaethau.

CAM GWEITHREDU: AM i archwilio sefyllfa TiW o ran yr Ardoll Brentisiaethau

  • Rhoddodd SW ddiweddariad ar benodi Cyfarwyddwr Anweithredol Cyllid a fydd yn Cadeirio’r Pwyllgor Archwilio a Risg. Yn dilyn proses ddidoli yr wythnos diwethaf, bydd pum ymgeisydd yn cael eu cyfweld ddechrau mis Mawrth. Mae gan TrC hefyd gyfle i benodi Cyfarwyddwr Anweithredol arall, gyda chefndir ym maes trafnidiaeth o bosibl.

 

c.  Cyllid

Cyflwynodd HC Gyfrifon Rheoli mis Ionawr 2019. Roedd y cyfrifon yn tynnu sylw at y ffocws parhaus ar wariant a sicrhau rhagolygon gwell i warchod rhag tanwariant ar Opex a Capex. Cyflwynodd HC feysydd gwariant posibl yn 2018-19 i gau diwedd y flwyddyn.

Gofynnodd SH am yr wybodaeth ddiweddaraf am broblem torri llystyfiant ac a ellid defnyddio unrhyw danwariant i ariannu hyn. Atebodd HC fod hyn wedi cael sylw, ond bydd diweddariad yn cael ei ddarparu yng nghyfarfod nesaf y Bwrdd.

CAM GWEITHREDU: KG i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Bwrdd yn y cyfarfod ym mis Mawrth am faterion tynnu llystyfiant

Eglurodd HC y gall tanwariant ddeillio o fethu llenwi swyddi lle mae'r gyllideb yn cael ei dyrannu. Mae hyn yn cael ei ystyried mewn perthynas â fersiwn nesaf y Cynllun Busnes.

Rhoddodd HC ddiweddariad i’r Bwrdd ar bolisïau trin cyfrifyddu, ac mae pob un ohonynt bellach wedi cael eu cymeradwyo’n fewnol. Bydd archwilwyr allanol TrC yn adolygu polisïau trin cyfrifyddu fel rhan o’r archwiliad allanol ac mae TrC yn gofyn am adborth cynnar cyn cau diwedd y flwyddyn a chwblhau’r cyfrifon rheoli. Nododd y Bwrdd gynnwys y papur Polisïau Cyfrifyddu a chymeradwyodd yr addasiadau arfaethedig i gyfrifon rheoli mis Chwefror 2019.

Rhoddodd HC ddiweddariad ar yr archwiliad. Dechreuodd KPMG, archwilwyr allanol TrC yr wythnos hon a chafwyd ymgysylltu cynnar da. Dechreuodd yr archwiliad mewnol ym mis Ionawr ac mae’n elwa ar secondiad o Lywodraeth Cymru.

Rhoddodd HC ddiweddariad i’r Bwrdd ar weithredu’r system gyllid newydd sydd bellach ar y cam derbyn defnyddwyr. Mae’r system ar y trywydd iawn ar gyfer cyfrifyddu craidd ym mis Ebrill a chyfrifyddu prosiectau ym mis Mai. Bydd y system newydd yn galluogi holl staff TrC i lenwi amserlenni.

Dywedodd HC fod cyllideb 2019-20 ar ffurf drafft ac y caiff ei chyflwyno yng nghyfarfod mis Mawrth. Fodd bynnag, nid yw TrC wedi cael llythyr cylch gwaith drafft gan Lywodraeth Cymru eto. Bydd JP yn trafod hyn â Llywodraeth Cymru yng nghyfarfod nesaf y Bwrdd Gweithredol.

Cymeradwyodd y Bwrdd y Cyfrifon Rheoli ar gyfer mis Ionawr 2019.

Gan nad oes Pwyllgor Archwilio a Risg, cymeradwyodd y Bwrdd y polisi Atal Twyll, Llwgrwobrwyo a Llygredigaeth. Dywedodd NK y byddai’n ddefnyddiol rhannu’r polisi Atal Twyll, Llwgrwobrwyo a Llygredigaeth â Gwasanaethau Rheilffyrdd TrC.

CAM GWEITHREDU: HC i rannu’r polisi Atal Twyll, Llwgrwobrwyo a Llygredigaeth â Gwasanaethau Rheilffyrdd TrC.

 

d.  Llywodraethu

Rhoddodd SW wybod i’r Bwrdd am gyfarfod cyntaf Bwrdd Goruchwylio TrC yn ddiweddar. Pwrpas y cyfarfod cyntaf oedd cytuno ar gylch gorchwyl y Bwrdd. Pwysleisiodd SW fod y Bwrdd Goruchwylio yn bodoli i ddal y Cadeirydd a Phrif Swyddog Gweithredol TrC i gyfrif ac na fydd yn ymwneud â gweithrediadau TrC o ddydd i ddydd. Yn hytrach, mae yno i sicrhau llywodraethu da ac i gyfathrebu â rhanddeiliaid allanol. Bydd yr agenda a’r aelodaeth yn hyblyg, gydag Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru a Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yn bresennol o bryd i’w gilydd.

Awgrymodd JP y byddai Aelodau’r Bwrdd yn elwa o ddarllen maniffesto’r Prif Weinidog a’i araith yn y Fforwm Arweinwyr Cyhoeddus.

CAM GWEITHREDU: TC i roi araith y Prif Weinidog yn y Fforwm Arweinwyr Cyhoeddus i’r Bwrdd. 

 

e.  Materion strategol ar gyfer cyfarfodydd y bwrdd yn y dyfodol

Cytunodd y Bwrdd ar gyfer cyfarfodydd yn y dyfodol bod angen iddo ganolbwyntio ar newidiadau i amserlenni mis Mai a mis Rhagfyr 2019, prosiectau seilwaith a’r cyfnod cyn trosglwyddo Llinellau Craidd y Cymoedd.

Nododd y Bwrdd ei fod yn awyddus i Lywodraeth Cymru ddarparu manylion am waith y Comisiwn Seilwaith.

 

4)  Unrhyw Fater Arall

Cytunodd y Bwrdd i dderbyn gwahoddiad y Gwasanaethau Rheilffyrdd i gynnal cyfarfod Gogledd Cymru mis Mehefin yn nepo Caergybi TrC.

Rhan B – Sesiwn Gyfrinachol (drwy eithriad) – Materion Adnoddau Dynol cyfrinachol

Trafododd y Bwrdd ddau fater Adnoddau Dynol cyfrinachol. Cymeradwywyd y cam gweithredu a’i gofnodi ar wahân.

Rhan C – Sesiwn ddiweddaru strategol

5)  Papurau noddedig y Cyfarwyddwr Gweithredol

a.  Adolygiad risg strategol

Rhoddodd DOL gyflwyniad a throsolwg i’r broses o ddatblygu’r Gofrestr Risg Strategol. Ar hyn o bryd, y tair risg fwyaf yw’r Rhaglen Newid Trafnidiaeth, twf y sefydliad a diogelwch TG.

Trafododd y Bwrdd bob risg ar y Gofrestr Risg Strategol a’r camau lliniaru i leihau effaith y risgiau. Cytunodd y Bwrdd y bydd angen i’r ARC wneud datganiad parodrwydd i dderbyn risg. Cytunodd y Bwrdd ar amrywiol newidiadau a chamau gweithredu i’r risgiau:

  • SR-103 - Damwain yn arwain at golli bywyd.

CAM GWEITHREDU: DOL a GM i fireinio’r teitl a’r tebygolrwydd o risg SR-103

  • SR-108 — Diogelwch TG a’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data ar hyn o bryd nid yw TrC yn dal data cwsmeriaid ond yn y dyfodol bydd yn cadw data am docynnau teithio consesiynol.

CAM GWEITHREDU: DOL i fireinio sgôr tebygolrwydd risg SR-108 a darparu papur i’r Bwrdd ar gyfer cyfarfod mis Mawrth ar sut mae camau lliniaru TrC yn mynd i’r afael â’r risg hon.

  • SR-113 — cyfradd twf annigonol yn y sefydliad

CAM GWEITHREDU: GO a LY i adolygu risg SR-113 a sgôr ar ôl mudo

 

b.  Paratoi amserlen mis Mai a diweddariad am gerbydau

Cyflwynodd AC bapur ar newidiadau i amserlen mis Mai. Mae amserlen mis Mai yn cynnwys dau newid sylweddol, sydd wedi cael eu dilysu gan Network Rail. Bydd AC yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Bwrdd ym mis Medi 2019 am newidiadau i amserlenni mis Rhagfyr 2019.

Cyflwynodd AC bapur ar gerbydau hefyd. Ar hyn o bryd mae TrC yn gweithio gyda Gwasanaethau Rheilffyrdd TrC i gau’r bwlch rhwng y fflyd sydd ar gael ar hyn o bryd a’r gofynion sydd eu hangen i weithredu amserlen mis Mai. Mae’r ddarpariaeth ddisgwyliedig o class 769 wedi cael ei rhoi’n ôl, ond disgwylir un uned ddechrau mis Mawrth. Mae’r gwaith o ddarparu trenau 153 yn unol â’r amserlen ar hyn o bryd. Mae opsiynau cerbydau eraill yn cael eu hystyried os oes angen.

Mae TrC hefyd yn llunio cynllun i sicrhau ei fod yn cydymffurfio â gofynion PRM sydd wedi cynnwys trafodaethau gyda’r Adran Drafnidiaeth. Ar ôl cytuno ar y cynllun, bydd TrC yn trafod â Llywodraeth Cymru.

CAM GWEITHREDU: Bydd JP yn trafod hyn â Llywodraeth Cymru yng nghyfarfod nesaf y Bwrdd Gweithredol.

 

c.  Trosglwyddo Llinellau Craidd y Cymoedd

Nododd y Bwrdd bapur ar drosglwyddo Llinellau Craidd y Cymoedd. Esboniodd AC y bydd gofyn i’r Bwrdd, yng nghyfarfod mis Mawrth, ystyried achos busnes trosglwyddo Llinellau Craidd y Cymoedd er mwyn sicrhau bod y broses wedi’i chwblhau erbyn mis Medi 2019.

 

d.  IMLR (Rheolwr Seilwaith Dewis Olaf)

Cyflwynodd AC bapur yn nodi’r dull gweithredu arfaethedig ar gyfer sicrhau cyfleuster ar gyfer Rheolwr Seilwaith Dewis Olaf (IMLR) sy’n gallu darparu gwasanaethau rheoli seilwaith ar gyfer Llinellau Craidd y Cymoedd pe bai’r ODP yn methu o gwbl.

Cymeradwyodd y Bwrdd argymhellion y papur, ar sail creu cwmni cragen ar wahân sy’n eiddo i Weinidogion Cymru ond yn cael ei redeg gan TrC. Bydd TrC yn mynd â’r argymhellion i Lywodraeth Cymru i’w cymeradwyo.

 

e.  Cynllun Busnes yr Uned Dadansoddi

Ymunodd PC â’r cyfarfod i gyflwyno Cynllun Busnes yr Uned Dadansoddi. Eglurodd GO fod y cynllun busnes yn seiliedig ar achos busnes Llywodraeth Cymru a’i fod yn nodi’r gweithgareddau y mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i TrC eu cyflawni, gyda gwybodaeth ariannol gysylltiedig.

Cymeradwyodd y Bwrdd y cynllun busnes yn amodol ar gymeradwyo cynllun busnes corfforaethol TrC ar gyfer 2019-20.

 

f.  Cynlluniau Busnes

Cyflwynodd GO Gynllun Busnes diwygiedig TrC ar gyfer 2018-19 a oedd yn seiliedig ar lythyr cylch gwaith Llywodraeth Cymru a dderbyniwyd ar 4 Rhagfyr 2018, ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Hydref 2018 a 31 Mawrth 2019. Cymeradwyodd y Bwrdd Gynllun Busnes TrC ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Hydref 2018 a 31 Mawrth 2019.

Cyflwynodd GO y busnes dwy flynedd ar gyfer 2019-21 hefyd ac eglurodd eu bod yn dal i weithio ar y cynllun ac y bydd ganddo Gynllun Corfforaethol mewnol y tu ôl iddo. Eglurodd GO hefyd ei fod yn bwriadu sefydlu dau ddiwrnod gweithdy cynllunio strategaeth ar gyfer Uwch Dîm Arwain TrC a’r Bwrdd.

Awgrymodd JP gysylltu prif weithgareddau’r cynllun busnes ag amcanion unigol. Byddai hyn yn sicrhau bod y cynllun busnes yn cael ei gyflawni, a bod staff TrC yn gwybod yn union sut maen nhw’n cyfrannu ato. Bydd y Pwyllgor Pobl yn ystyried gosod amcanion.

Cytunodd y Bwrdd ar y ffordd arfaethedig ymlaen ar gyfer cynllunio busnes ac y dylid rhannu’r Cynllun Busnes drafft ar gyfer 2019-21 â Llywodraeth Cymru.

 

g.  Llety

Cyflwynodd GO bapur yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Fwrdd TrC am Swyddfa TrC sy’n cael ei hadeiladu ym Mhontypridd ar hyn o bryd. Roedd y papur yn gofyn am awdurdod dirprwyedig gan y Bwrdd i Gyfarwyddwyr Gweithredol TrC lofnodi’r Cytundeb Les ar ei ran, os oes angen, cyn cyfarfod y Bwrdd ym mis Mawrth.

Cytunodd y Bwrdd i ddirprwyo awdurdod ar yr amod nad yw’r wybodaeth ariannol a nodir yn y papur yn newid yn sylweddol.

 

h.  Cyfathrebu

Cyflwynodd LB y prif benawdau o’r Grid Cyfathrebu. Eglurodd LB fod TrC nawr yn mesur canfyddiad o frand, sydd wedi gwella’n gyson dros y misoedd diwethaf. Mae meincnodi yn dangos bod TrC ar y blaen i weithredwyr rhanbarthol eraill ar hyn o bryd a bod modd ei gymharu â GWR. Mae gwaith yn mynd rhagddo i bennu brandiau eraill i feincnodi yn eu herbyn. Yn gyffredinol, mae sylw’r mis hwn yn y cyfryngau wedi bod yn gadarnhaol a bu cyfnod arbennig o isel o gwynion.

CAM GWEITHREDU: LB i ddarparu gwybodaeth am gwynion

Gadawodd SW y cyfarfod, a chymerodd JP yr awenau fel Cadeirydd.

 

i.  Cerrig Milltir

Dywedodd GO fod cynnydd da’n cael ei wneud ar gerrig milltir. Bydd LY yn adolygu’r cerrig milltir fel y maent yn berthnasol i faterion Adnoddau Dynol.

 

j.  Dangosyddion Perfformiad Allweddol

Rhoddodd GO ddiweddariad llafar ar ddatblygiad y broses DPA. Bydd Dangosyddion Perfformiad Allweddol yn cael eu rhannu â Llywodraeth Cymru drwy’r Bwrdd Gweithredol. Gofynnodd JP am linell tuedd i ddangos perfformiad presennol TrC a lle byddai’n hoffi bod yn y dyfodol.

 

k.  Unrhyw Fater Arall

Dywedodd JP y bydd papur ar gymorth cyfreithiol TrC yn cael ei gyflwyno mewn cyfarfod o’r Bwrdd yn y dyfodol.

CAM GWEITHREDU: JM i ddarparu papur Bwrdd ar gefnogaeth gyfreithiol ar gyfer cyfarfod o’r Bwrdd yn y dyfodol.

 

Diolchwyd i aelodau'r Bwrdd am eu presenoldeb. Mae cyfarfod nesaf Bwrdd TrC wedi’i drefnu ar gyfer dydd 21 Mawrth 2019 yn South Gate House, Caerdydd.