Trafnidiaeth Cymru Cofnodion Cyfarfod y Bwrdd - 15 Mehefin 2023
Cofnodion Bwrdd TrC
15 Mehefin 2023
09:30 - 16:00
Lleoliad - Llys Cadwyn
Yn bresennol
Scott Waddington (Cadeirydd), Heather Clash, Nicola Kemmery, Vernon Everitt, Alison Noon-Jones, Sarah Howells a James Price.
Hefyd yn bresennol: Jeremy Morgan, Gareth Evans (Llywodraeth Cymru) a Leyton Powell (eitem 2).
Rhan A - Cyfarfod o’r Bwrdd Llawn
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
1a. Ymddiheuriadau am Absenoldeb
Anfonodd Alun Bowen ei ymddiheuriadau.
1b. Hysbysiad ynghylch Cworwm
Gan fod cworwm yn bresennol, croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod a datganodd fod y cyfarfod yn agored.
1c. Datgan Buddiannau
Dim.
1d. Cofnodion a Chamau Gweithredu o’r Cyfarfod Blaenorol
Derbyniwyd bod cofnodion cyfarfod Bwrdd TrC ar 18 Mai 2023 yn gofnod gwir a chywir.
1e. Sylw i Ddiogelwch
Myfyriodd y Bwrdd ar yr ymateb i’r gwrthdrawiad trenau diweddar yn India gan roi sylw penodol i atebolrwydd ac ymateb i ddigwyddiadau difrifol.
1f. Sylw i Gwsmeriaid
Cafodd y Bwrdd ei friffio ar brofiad gwasanaeth cwsmeriaid da yn ddiweddar i ac o Faes Awyr Luton. Pwysleisiodd y Bwrdd yr angen i adennill hyder cwsmeriaid ar ôl y streiciau a’r tarfu diweddar.
2. Perfformiad diogelwch
Mae’r damweiniau diweddar yn Hurth, yr Almaen ac Odisha, India yn cael eu hadolygu ar gyfer gwersi perthnasol i TrC.
Nododd y Bwrdd fod adroddiad diwedd blwyddyn ORR yn rhoi crynodeb o’r perfformiad yn erbyn y Model Aeddfedrwydd Rheilffyrdd a oedd yn cael ei ystyried yn ‘safonedig’ gydag elfennau ‘rhagweladwy’. Roedd yr adroddiad yn nodi cryfderau a gwendidau, yn ystyried digwyddiadau niweidiol a amlygwyd gan ORR ac yn nodi hysbysiad gwella a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Mae arolygiadau ORR ar gyfer 2023/24 yn canolbwyntio ar Reoli SPAD, legionella a rheoli adeiladau.
Ymunodd Gareth Evans (Llywodraeth Cymru) â’r cyfarfod.
Roedd sgôr gyfun y Mynegai Marwolaethau wedi’i Bwysoli ar gyfer Cyfnod Rheilffyrdd 2 yn gyson â’r ffigur a ragwelwyd, gyda’r cyfartaledd blynyddol symudol ychydig yn well na’r hyn a ragwelwyd. Yn ystod y cyfnod roedd un anaf penodol i’r gweithlu, dim digwyddiad o golli saith diwrnod a mwy, ac 11 o ddigwyddiadau sioc. Adroddwyd ar bymtheg ymosodiad corfforol ar staff gyda phedwar yn arwain at niwed corfforol. Roedd dwy ddamwain hefyd, gyda chwsmeriaid angen cludiant uniongyrchol i’r ysbyty.
Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am berfformiad diogelwch ar draws Pullman Rail, trawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd, a seilwaith.
Gadawodd Leyton Powell y cyfarfod.
3. Diweddariad strategol
3a. Adolygiad o wasanaethau rheilffyrdd
Mynegodd y Bwrdd bwysigrwydd deall y gwendidau yn y fflyd newydd a allai effeithio ar berfformiad yn y dyfodol. Cytunwyd y dylai Jan Chaudhry Van der Velde ddarparu asesiad [Cam gweithredu].
Ymunodd Jan Chaudhry Van der Velde â’r cyfarfod.
Cafodd y Bwrdd wybod bod problemau penodol o ran argaeledd gyrwyr a goruchwylwyr yn deillio o covid a bod llawer iawn o waith wedi cael ei wneud i unioni’r sefyllfa. Mae’r prif broblemau o ran perfformiad ar hyn o bryd yn ymwneud â cherbydau, a’r problemau gyda’r trenau Dosbarth 175 yn creu anawsterau penodol. Mae problemau cynnal a chadw wedi cael eu datrys ond mae problemau parhaus o ran capasiti depos yng Nghaer yn ystod y cyfnod pontio rhwng trenau Dosbarth 175 a threnau Dosbarth 197. Fodd bynnag, dylai cyflwyno mwy o drenau Dosbarth 197 i’r gwasanaeth wella’r sefyllfa gyffredinol o ran perfformiad. Cafodd y Bwrdd hefyd yr wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa bresennol o ran y MKIVs a’r ymdrechion i wella perfformiad. Hysbyswyd y Bwrdd bod y trywydd gwella perfformiad yn dibynnu ar gyflymder cyflwyno cerbydau Dosbarth 197 i’r gwasanaeth. Mynegodd y Bwrdd ei ddymuniad i gael mwy o eglurder ynghylch y cynllun cyffredinol ar gyfer gwella ac i ddeall pryd y byddai’r cwsmer yn profi gwahaniaeth amlwg mewn gwasanaeth [Cam Gweithredu Jan Chaudhry Van der Velde]. Mynegodd y Bwrdd ei bryder ynghylch problemau depo Caer a gofynnodd am gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau. Croesawodd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am wasanaethau rheilffyrdd.
Gadawodd Jan Chaudhry Van der Velde y cyfarfod.
3b. Adroddiad y Prif Swyddog Gweithredol
TYNNWYD
Mae sgyrsiau diweddar â’r Dirprwy Weinidog wedi bod yn ddefnyddiol ynghylch cylch gwaith a rôl strategol TrC yn y dyfodol a fydd yn canolbwyntio ar newid dulliau teithio. Roedd y Bwrdd yn arbennig o awyddus i egluro cylch gwaith bysiau TrC. Hysbyswyd y Bwrdd bod Llywodraeth Cymru bellach wedi derbyn llythyr o gysur.
TYNNWYD
Cafodd y Bwrdd hefyd yr wybodaeth ddiweddaraf am wasanaethau yn lle trenau, trefniadau ynghylch y posibilrwydd o roi’r gorau i gyllid BES, a’r prosiectau ar y cyd mewn perthynas â Chaerdydd Canolog. Cytunodd y Bwrdd y dylai’r pwyslais ar adrodd ar ffigurau refeniw teithwyr symud o’r cyfnod cyn covid i’r perfformiad yn erbyn y rhagolygon [Cam Gweithredu Alexia Course].
3c. Cyllid a llywodraethu
Rhoddodd y Bwrdd awdurdod dirprwyedig i’r Weithrediaeth gymeradwyo fersiwn derfynol Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Ariannol 2022/23. Gofynnwyd i’r Bwrdd ddarparu sylwadau terfynol erbyn dechrau’r wythnos nesaf.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo Cynllun Busnes 2023/24 sydd wedi cael ei rannu’n fewnol a bydd yn cael ei gyhoeddi yr wythnos nesaf. Bydd adroddiadau chwarterol yn dechrau cyn bo hir ac yn cael eu hadrodd i Lywodraeth Cymru yn y Bwrdd Perfformiad.
Mae’r adolygiad o Erthyglau Cymdeithasu TrC gyda Llywodraeth Cymru yn parhau yng nghyd-destun bod TrC yn gwmni Teckal.
Nododd y Bwrdd y cyfrifon rheoli ar gyfer Mai 2023 TYNNWYD.
4. Is-bwyllgorau
Roedd cyfarfod diweddar y Pwyllgor Prosiectau Mawr yn canolbwyntio ar drawsnewid bysiau, Llinellau Craidd y Cymoedd, a chlwstwr o brosiectau Caerdydd canolog.
Cafodd y Pwyllgor Profiad Cwsmeriaid a Chyfathrebu ddiweddariad ar Brosiect Sero a gwaith yn ei le i glirio’r ôlgroniad o gwynion gan gwsmeriaid. Roedd y cyfarfod hefyd yn canolbwyntio ar bwysigrwydd sicrhau data o ansawdd da i gwsmeriaid, a gwaith i gyflawni hynny. Cafodd y pwyllgor hefyd yr wybodaeth ddiweddaraf am deithio llesol.
5. Byrddau is-gwmnïau
Roedd cyfarfod bwrdd diweddar Rheilffyrdd TrC Cyf yn canolbwyntio ar weithrediadau a pherfformiad, risg, manylder data, a fforddiadwyedd rheilffyrdd.
Nododd y Bwrdd femorandwm gan Gadeirydd Pullman Rail Ltd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am gyfarfod diweddar y bwrdd.
6. Y Bwrdd Llywio
Roedd cyfarfod Bwrdd Llywio TrC ym mis Mai yn cynnwys adolygiad manwl o adroddiad risg TrC. Roedd y cyfarfod hefyd yn canolbwyntio ar drosglwyddo tir Bow Street, mynediad at wasanaethau; llythyr cysur TrC; cylch gwaith newydd TrC; opsiynau ar gyfer cynrychiolaeth llywodraeth leol ar fwrdd cwmni TrC; cyllid; adroddiad Prif Swyddog Gweithredol TrC; a Dangosyddion Perfformiad Allweddol rheilffyrdd.
7. Sesiwn gyfrinachol
TYNNWYD
Rhan B – Sesiwn diweddariad gweithredol
8. Diweddariad ar drawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd
Ymunodd Dan Tipper â’r cyfarfod.
Mae digwyddiadau comisiynu TAM A ac EE1A wedi’u cwblhau, gyda’r holl systemau wedi’u profi’n llwyddiannus ac yn weithredol. Mae’r Tîm Prosiect yn dal i ganolbwyntio ar gwblhau awdurdodiad i Ddolenni Trac Merthyr ac Aberdâr ymuno â’r gwasanaeth. Yn ogystal â chwblhau Awdurdodiad Merthyr ac Aberdâr, bydd y Tîm Prosiect yn bwrw ymlaen ar frys â’r gwaith o gwblhau cymeradwyaeth EIS ar gyfer Depo Treganna a Gorsaf Mynwent y Crynwyr. Cam nesaf y rhaglen Trawsnewid yw cwblhau gwaith TAM B ym Mlocâd Treherbert, yn ogystal â darparu ynni ar gyfer y rhannau sy’n weddill ar gyfer rhan TAM y rhwydwaith. Mae gweithdy gwersi a ddysgwyd wedi’i gynllunio i adolygu’r materion a brofwyd ar draws mynediad i wasanaeth ac adeiladu a sicrhau eu bod yn cael eu lliniaru yn y dyfodol.
Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am newidiadau i strwythur timau TrC ac Amey er mwyn cryfhau atebolrwydd a rheolaethau rhaglenni ymhellach, yn enwedig o ran cael mynediad at wasanaeth.
Diolchodd y Bwrdd i’r tîm am ei waith caled parhaus.
Gadawodd Dan Tipper y cyfarfod.
9. Cofrestr risg
Ymunodd Leyton Powell â’r cyfarfod.
Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am gynnwys risgiau bysiau yn y gofrestr, gan fapio atebolrwydd risg a rhannu proses TrC ar draws y diwydiant rheilffyrdd fel arfer da.
Gadawodd Leyton Powell y cyfarfod.
TYNNWYD
Daeth y Cadeirydd â’r cyfarfod i ben a diolchodd i bawb am eu cyfraniadau.