Trafnidiaeth Cymru Cofnodion Cyfarfod y Bwrdd - 16 Chwefror 2023

Submitted by Content Publisher on

Cofnodion Bwrdd TrC

16 Chwefror 2023

09:30 - 17:00

Lleoliad - Llys Cadwyn

 

 

Yn bresennol

Scott Waddington (Cadeirydd), Alun Bowen, Heather Clash, Nicola Kemmery, Vernon Everitt, Alison Noon-Jones, Sarah Howells a James Price.

Hefyd yn bresennol: Jeremy Morgan; a Leyton Powell (eitem 2).

 

Rhan A - Cyfarfod o’r Bwrdd Llawn

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

 

1a. Ymddiheuriadau am Absenoldeb

Natalie Feely (eitemau 1 i 3).

 

1b. Hysbysiad ynghylch Cworwm

Gan fod cworwm yn bresennol, croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod a datganodd fod y cyfarfod yn agored.

 

1c. Datgan Buddiannau

Dim. 

 

1d. Cofnodion a Chamau Gweithredu o’r Cyfarfod Blaenorol

Derbyniwyd bod cofnodion cyfarfod Bwrdd TrC ar 19 Ionawr 2023 yn gofnod gwir a chywir.

 

1e. Sylw i Ddiogelwch

Hysbyswyd y Bwrdd bod Siemens plc wedi pledio’n euog i achos o drosedd torri diogelwch, wedi cael dirwy o £1.4m ac wedi cael ei orchymyn i dalu costau o fwy na £99,000 ar ôl i weithiwr gael ei wasgu’n farw gan fodur trên. Cafodd technegydd hunangyflogedig ei ladd ym mis Mehefin 2017 pan syrthiodd y modur tyniant 650kg yr oedd yn paratoi ei dynnu o locomotif trydan arno yng Nghyfleuster Gofal Trenau’r cwmni yng ngorllewin Llundain. Dangosodd ymchwiliad gan Swyddfa’r Rheilffyrdd a’r Ffyrdd ddiffygion wrth gynllunio tasgau, a oedd yn cynnwys methiant i gynnal asesiad risg priodol sy’n benodol i dasgau a diffyg dyraniad clir o gyfrifoldeb am oruchwylio’r dasg.

 

1f. Sylw i Gwsmeriaid

Atgoffwyd y Bwrdd o’r angen i sicrhau bod prosesau a systemau cwsmeriaid yn gweithio’n iawn. Os na fyddant yn gwneud hynny, gall cwsmeriaid newid i ddarparwyr eraill. 

 

2. Perfformiad diogelwch

Ymunodd Leyton Powell â’r cyfarfod.

Yn gyffredinol, roedd perfformiad yn well na’r disgwyl dros y cyfnod rheilffyrdd a’r mis calendr diwethaf. Gostyngodd ymosodiadau corfforol ar staff i bedwar yn ystod y cyfnod rheilffordd diwethaf, gydag un yn arwain at niwed corfforol. Dyma’r perfformiad gorau ers cam 13 y rheilffordd yn 2021/22.

Mae gwaith wedi cael ei ddechrau gydag RSSB i gwblhau adolygiad annibynnol o ddamweiniau cwsmeriaid sy’n perthyn i seilwaith a gweithrediadau TrC, ac i ystyried cyfleoedd ar gyfer dadansoddi tueddiadau, achosiad a lliniaru er mwyn rhoi sicrwydd bod TrC yn cyflawni ei ddyletswyddau o ran diogelwch cwsmeriaid, a rhoi sicrwydd neu gynyddu’r cyfleoedd i wella.

Mae system rheoli diogelwch integredig newydd wedi cael ei chymeradwyo a bydd yn cefnogi nifer o amcanion, gan gynnwys un ffynhonnell wybodaeth ar gyfer iechyd a diogelwch ar draws y sefydliad; cefnogi’r gwaith o ddatblygu a chyflawni’r cais Awdurdodi Diogelwch Rheilffyrdd; a symleiddio’r broses o adrodd, ymchwilio, archwilio ac arolygu digwyddiadau fu bron â digwydd.

Gostyngodd mynegai marwolaethau wedi’i bwysoli y gweithlu yn ystod y cyfnod, gyda’r cyfartaledd blynyddol newidiol yn dal yn is na’r hyn a ragwelwyd. Adroddwyd pedwar ymosodiad corfforol, a oedd yn is na’r rhagfynegiad o saith. Gostyngodd y mynegai marwolaethau wedi’i bwysoli nad yw’n ymwneud â gweithlu TrC yn y cyfnod i 0.06, o dan y ffigur disgwyliedig o 0.10 am y tro cyntaf ers canol y llynedd. Adroddwyd 10 anaf nad oeddent yn ymwneud â’r gweithlu, gyda dau ddigwyddiad yn arwain at gludo pobl i’r ysbyty. Roedd y ddau ddigwyddiad yn gysylltiedig â chwympo. Roedd wyth digwyddiad heb arwain at fynd i’r ysbyty, gyda chwech o ganlyniad i gwsmeriaid yn llithro, yn baglu neu’n cwympo yn amgylchedd yr orsaf, neu wrth fynd ar drenau neu ddod oddi arnynt. Nid oedd unrhyw SPaD yn ystod y cyfnod. Mae’r ffigur SPaDs dros y flwyddyn hyd yma yn is na’r targed o 20.

Cynhaliwyd 11 o archwiliadau diogelwch ar draws y rhwydwaith ar gyfer y 10 system waith ddiogel wahanol. Cafodd 39 eitem eu ‘fflagio’ i’w hadolygu ymhellach.

Cynhaliwyd ymarfer pen bwrdd brys yn ddiweddar yn seiliedig ar senario toriad pŵer cenedlaethol. Roedd yr ymarfer wedi helpu i fireinio’r gwaith o gynllunio a chynhyrchu llyfr strategaethau a cherdyn gweithredu brys i ategu’r ddogfen fframwaith. Roedd y cynlluniau’n benodol i’r rheilffyrdd i ddechrau ond byddant nawr yn cael eu hehangu i gynnwys holl weithrediadau TrC.

Aeth y tîm Cadernid i fforwm cyfnewid gwybodaeth ar ôl i Gyfrol II o adroddiad ymchwiliad Manceinion gael ei rhyddhau. Mae adolygiad mewnol yn mynd rhagddo, gyda’r bwriad o gynnwys canfyddiadau a risgiau yn y gwaith o reoli digwyddiadau gweithredol.

Cafodd y Bwrdd wybod bod dwyn ar Linellau Craidd y Cymoedd yn dal yn broblem. Yn y digwyddiad diweddaraf, cafodd 700 metr o gebl OLE eu llacio mewn ymgais i ddwyn.

Gadawodd Leyton Powell y cyfarfod.

 

3. Diweddariad strategol

3a. Adroddiad y Prif Swyddog Gweithredol

TYNNWYD

Trafododd y Bwrdd strategaethau posibl ar gyfer gwella perthynas TrC a llywodraeth leol yn dilyn cyfarfod adeiladol diweddar gydag arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

Cafodd y Bwrdd wybod hefyd bod TrC yn nes at dderbyn rol hollbwysig wrth galon y gwaith o ddylunio rhwydwaith bysiau a rheoli gwasanaethau. Nododd y Bwrdd yr heriau sydd o'n blaenau a fydd yn gofyn am ddarlun mwy integredig o'r gwahanol agweddau sy'n rhan o weithgarwch bysiau ar draws TrC.

TYNNWYD

Trafododd y Bwrdd y prosiect Talu wrth Fynd a'r angen i'w flaenoriaethu, ei ddefnyddio ar draws dulliau teithio, gael nodau ac amcanion clir, a phroffil uwch. Gofynnodd y Bwrdd am ddiweddariad yn ystod y misoedd nesaf [Cam Gweithredu Heather Clash]

Hefyd cafodd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am y canlynol:

  • TYNNWYD
  • Diogelu refeniw - gofynnwyd i'r Bwrdd roi gwybod pan fyddant yn gweld Giardiau ddim yn gwirio tocynnau.
  • Crossrail Caerdydd - mae angen cwblhau'r cylch gwaith o hyd.
  • Prosiect Sero, sy'n anelu at leihau'r ol-groniad o gwynion.
  • Mae'r trafodaethau ynghylch cefnffyrdd gyda Llywodraeth Cymru yn parhau.

 

3b. Cyllid a llywodraethu

TYNNWYD

Hysbyswyd y Bwrdd bod cynllun busnes 2023/24 gyda Llywodraeth Cymru i gael sylwadau. Mae cerrig milltir wedi cael eu mapio gyda llai ohonynt o’i gymharu â llynedd. Bydd y rhain yn gysylltiedig ag amcanion personol.

Hefyd cafodd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am y canlynol:  

  • Datblygu cyllideb Pullman Rail Ltd.
  • Trafod cyllideb 2023-24 gyda Llywodraeth Cymru.
  • Gwrthododd swyddogion gweithredol Undebau Llafur y cynnig gan y Grŵp Cyflawni Rheilffyrdd ynghylch prisiad pensiynau 2019, gan nodi bod yr enillion a’r cwmpas wedi gwella ers cynnal yr ymarfer. Mae’n annhebygol y caiff hyn ei ddatrys mewn pryd i roi newidiadau ar waith ar gyfer mis Gorffennaf 2023, a gellid gohirio tan fis Gorffennaf 2024 o bosibl.

Nododd y Bwrdd Gyfrifon Rheoli mis Rhagfyr 2023.

 

4. Is-bwyllgorau

Cafodd cyfarfod diweddar y Pwyllgor Prosiectau Mawr drafodaeth ddefnyddiol ar gynnydd Llinellau Craidd y Cymoedd, Gwelliannau Caerdydd Canolog, Glynebwy a pharthau 20mya.

 

5. Byrddau is-gwmnïau

Roedd bwrdd Rheilffyrdd TrC Cyf wedi cyfarfod yn ddiweddar ac wedi trafod cynllunio ar gyfer y dyfodol, perfformiad presennol, targedau perfformiad ar gyfer 2023-24, gwella amserlenni, diogelwch, prisiau ysgolion, a chynigion prisiau tocynnau Wrecsam-Bidston.

 

6. Cyfarfod y Cadeirydd a'r Dirprwy Weinidog

Cafodd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf gan y Cadeirydd am gyfarfod diweddar â’r Dirprwy Weinidog. Roedd y pynciau a drafodwyd yn cynnwys Metro Gogledd Cymru, caffael, ymgysylltu ag awdurdodau lleol, cyfathrebu, perfformiad rheilffyrdd, Cynllun Busnes 2023-24, Llinellau Craidd y Cymoedd, ffyrdd, bysiau, ac apiau TrC.

 

7. Bwrdd Goruchwylio

Cafodd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am gyfarfod diweddar Bwrdd Llywio TrC. Treuliwyd llawer iawn o amser yn craffu ar gofrestr risg TrC. Roedd y Bwrdd Llywio hefyd wedi trafod cyllideb TrC ar gyfer 2023/24, materion cyllid eraill, bysiau, adroddiad Prif Swyddog Gweithredol TrC, erthyglau cymdeithasu, tir Bow Street, a dangosyddion perfformiad allweddol.

 

8. Panel Cynghori

Trafododd y Panel Cynghori wasanaethau bysiau yn lle trenau, perfformiad rheilffyrdd, adnewyddu cynllun gwaith y panel, Cynllun Busnes TrC, a thrafnidiaeth wledig.

 

Rhan B - Sesiwn diweddariad gweithredol

Ymunodd Lewis Brencher, Lowri Joyce a Dan Tipper â’r cyfarfod.

 

9. Cynllun Iaith Gymraeg 90 diwrnod

Cafodd y Bwrdd gyflwyniad ar Gynllun Iaith Gymraeg 90 diwrnod TrC, sy’n cael ei ddiweddaru ar hyn o bryd i bontio i strategaeth ehangach. Atgoffwyd y Bwrdd o gyfrifoldebau TrC o dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg. Yn ogystal â sicrhau cydymffurfedd â’r Ddeddf, mae’r cynllun/strategaeth yn canolbwyntio ar alluogi pobl i fod yn hyderus pan ddefnyddir y Gymraeg. Bydd y strategaeth yn cynnwys gweithio gyda rhanddeiliaid, meithrin cysylltiadau â chymunedau, sicrhau nad ôl-ystyriaeth yw dewisiadau iaith, a datblygu a chyflawni cynlluniau unigryw i estyn allan ac ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol.

Mae cynllun gweithredu hefyd yn cael ei ddatblygu a fydd yn cynnwys astudiaethau achos i nodi llwyddiannau, gwersi a ddysgwyd, adroddiadau cyfnodol i randdeiliaid allweddol, a chyfleoedd ymchwil a newid ymddygiad.

Hysbyswyd y Bwrdd mai’r prif feysydd sy’n peri pryder oedd cyhoeddiadau a materion wedi’u hetifeddu.

Croesawodd y Bwrdd y diweddariad. 

 

10. Diweddariad ar Linellau Craidd y Cymoedd

Mae’r mis blaenorol wedi bod yn heriol mewn sawl maes, yn bennaf drwy nodi materion a ddaeth i’r amlwg yn ystod archwiliad dwfn. Fodd bynnag, cafodd y sesiwn archwiliad dwfn groeso cynnes gan yr holl bartïon dan sylw ac roedd yn ddefnyddiol iawn o ran dod â rhai materion a heriau sylfaenol yn ymwneud â’r rhaglen gyffredinol i’r amlwg, yn enwedig o ran dylunio ac adnabod peryglon. Mae TrC wedi rhoi rhaglen adfer ar waith gyda chynnydd sylweddol wedi’i wneud hyd yma.

Hefyd cafodd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd Depo Ffynnon Taf; y gwaith o adeiladu a chomisiynu’r Ganolfan Rheoli Gwybodaeth; a’r rhaglen cyfarpar llinellau uwchben.

Croesawodd y Bwrdd y cynnydd sydd wedi’i wneud a diolchodd i’r tîm am lefel y rheolaeth a’r arweinyddiaeth.

 

11. Cofrestr risg

Nododd y Bwrdd y gofrestr risg. Cafodd dadansoddiad o fylchau rheoli risg yn Pullman Rail ei gwblhau gyda chanfyddiadau ac argymhellion yn cael eu rhannu i’w hadolygu, ac i gytuno ar gamau gweithredu, amserlenni a pherchnogion. Fel rhan o’r gwaith o hyrwyddo diwylliant ‘ymwybodol o risg’ ar draws y sefydliad, mae adnoddau hyfforddi a chynllun hyfforddi wrthi’n cael eu datblygu. Bydd yr hyfforddiant yn cynnwys hyfforddiant rhagarweiniol a hyfforddiant uwch ar gyfer perchnogion risg.

Darparwyd adborth o gyfarfod diweddaraf y Bwrdd Llywio. Gofynnodd y Bwrdd Llywio am gyfeirio gwell ynghylch pa risgiau sydd wedi gwella a pha rai sydd wedi gwaethygu.

 

12. Teithio llesol

Cafodd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am y Gronfa Teithio Llesol. Mae’r gwariant hyd yma yn sylweddol is na’r hyn a ragwelwyd gyda risg o danwariant posibl. Roedd y gwariant rhagamcanol ar ddiwedd chwarter tri yn £20.9m, o’i gymharu â’r gwariant gwirioneddol ar ddiwedd chwarter tri, sef £14.6m. Hysbyswyd y Bwrdd bod lefel debyg o danwariant canrannol gan awdurdodau lleol yn 2021-22, a fyddai’n arwain at danwariant o tua £7m. Mae opsiynau wedi cael eu datblygu ar gyfer defnydd amgen o gyllid gwerth £8.5m pe bai’r tanwariant terfynol yn fwy na’r £7m posibl a nodwyd. Cyflwynwyd papur gyda chynigion gwariant amgen i Lywodraeth Cymru i’w ystyried ar 3 Chwefror, a disgwylir penderfyniad.

Hysbyswyd y Bwrdd bod Archwilio Cymru yn cwmpasu darn o waith ar Deithio Llesol.

 

13. Cyllideb

TYNNWYD

Gofynnodd y Bwrdd am ddrafftio datganiad i Lywodraeth Cymru ynghylch yr amrediad ariannu sy’n seiliedig ar y realiti y bydd refeniw rheilffyrdd yn cael ei adlewyrchu fel amrediad, a’r risgiau sy’n gysylltiedig â hynny [Cam Gweithredu Heather Clash].

 

14. Sesiwn gyfrinachol

TYNNWYD

 

Daeth y Cadeirydd â’r cyfarfod i ben a diolchodd i bawb am eu cyfraniadau.