Trafnidiaeth Cymru Cofnodion Cyfarfod y Bwrdd - 16 Mawrth 2023
Cofnodion Bwrdd TrC
16 Mawrth 2023
09:30 - 17:00
Lleoliad - Llys Cadwyn
Yn bresennol
Scott Waddington (Cadeirydd), Alun Bowen, Heather Clash, Nicola Kemmery, Vernon Everitt, Alison Noon-Jones, Sarah Howells a James Price.
Hefyd yn bresennol: Jeremy Morgan; Natalie Feely (eitemau 1 i 3); a Leyton Powell (eitem 2).
Rhan A - Cyfarfod o’r Bwrdd Llawn
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod gan gynnwys Natalie Feely, a oedd wedi cael ei henwebu fel arsylwr Undeb Llafur gan TUC.
1a. Ymddiheuriadau am Absenoldeb
Dim.
1b. Hysbysiad ynghylch Cworwm
Gan fod cworwm yn bresennol, croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod a datganodd fod y cyfarfod yn agored.
1c. Datgan Buddiannau
Dim.
1d. Cofnodion a Chamau Gweithredu o’r Cyfarfod Blaenorol
Derbyniwyd bod cofnodion cyfarfod Bwrdd TrC ar 16 Chwefror 2023 yn gofnod gwir a chywir.
1e. Sylw i Ddiogelwch
Wrth nesáu at y gwanwyn, mae rhagor o bobl allan ac mae TrC yn wynebu risg uwch o dresmasu.
1f. Sylw i Gwsmeriaid
Mae peidio â chael cyfleusterau ar gyfer storio beiciau, fel ar gyfer cyfarfodydd, yn dod yn rhwystr i deithio llesol. Mae angen edrych ar ffyrdd o annog busnesau a siopau i roi cyfleusterau ar waith i storio beiciau os ydym yn annog pobl i ddefnyddio dulliau teithio llesol.
2. Perfformiad diogelwch
Ymunodd Leyton Powell â’r cyfarfod.
Roedd rhywun wedi ceisio dwyn ceblau ar y rhwydwaith, a oedd wedi effeithio ar weithrediadau a niweidio tanc tanwydd gwasanaeth i deithwyr. Mae adolygiad diogelwch yn mynd rhagddo.
TYNNWYD
Mae gwaith yn parhau i ddatblygu Cynlluniau Argyfwng gan gynnwys ar y posibilrwydd o golli ynni ac adolygiad gan y Tîm Gofalu am Ddigwyddiadau.
Cafodd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau thermol y dosbarth 175 yn ddiweddar, a chael gwybod na chafodd unrhyw un niwed. Mae’r achos sylfaenol wedi cael ei nodi fel malurion, fel dail sych, yn cronni mewn rhan o fae’r injan yn agos i’r system wacáu. O ganlyniad i’r digwyddiadau cychwynnol, cyflwynwyd trefn lanhau fwy rheolaidd a manwl. Mae’n ymddangos mai gwaith cynnal a chadw’r cyflenwr oedd ar fai yn hyn o beth. Mae cyfarfod wedi’i drefnu â Swyddfa’r Rheilffyrdd a’r Ffyrdd gyda’r posibilrwydd o gyflwyno hysbysiad diogelwch. Pwysleisiodd y Bwrdd ei bryder ynghylch y materion cynnal a chadw tebygol a arweiniodd at y digwyddiadau thermol. Cytunwyd bod angen dysgu gwersi a’u lledaenu i’r rhanddeiliaid perthnasol [Cam Gweithredu Leyton Powell].
Roedd tri SPaD yng Nghyfnod Rheilffyrdd 11, un yn uwch na’r ffigur a ragwelwyd. Cymerwyd camau priodol.
Gadawodd Leyton Powell y cyfarfod.
3. Diweddariad strategol
3a. Adroddiad y Prif Swyddog Gweithredol
TYNNWYD
Mae’r cynnydd o ran hybu’r agenda bysiau yn parhau gyda ffocws penodol ar sicrhau bod TrC yn barod i gefnogi Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol sy’n symud tuag at fasnachfreinio. Mae hyn wedi cynnwys cytuno ar strwythur llywodraethu bysiau lefel uchel newydd ar y cyd â Llywodraeth Cymru, yn ogystal â sgyrsiau parhaus a chydweithio gyda llywodraeth leol. Mae trefniadau mewnol hefyd yn cael eu gwneud i gryfhau sefyllfa TrC ymhellach.
Trafododd y Bwrdd yr her a’r cyfle o adeiladu rhwydwaith aml-ddull. Hysbyswyd y Bwrdd y bydd hyn yn gofyn am ddatblygu’r model gweithredu ymhellach ond heb yr angen am unrhyw newidiadau strwythurol sylweddol pellach, gan ganolbwyntio ar brosesau a chydweithio.
Mae perfformiad Rheilffyrdd wedi parhau i fod yn destun sylw parhaus gan y tîm rheoli, gan gynnwys ar y lefel uchaf ym Mwrdd Rheilffyrdd TrC Cyf. Roedd y dangosfwrdd perfformiad yn dangos perfformiad cymysg ar gyfer Cyfnod Rheilffyrdd 11, yn bennaf oherwydd anawsterau o ran cael gafael ar nifer y trenau sydd eu hangen oherwydd newidiadau i’r fflyd. Mae’r wythnosau diwethaf wedi bod yn arbennig o heriol oherwydd digwyddiadau thermol y dosbarth 175.
Adolygodd y Bwrdd wariant y Gronfa Teithio Llesol. Yn ystod y mis diwethaf, mae llawer iawn o waith wedi’i wneud o ran gwella’r busnes fel arfer i geisio sicrhau bod cymaint o ddyraniad y grantiau teithio llesol eleni i awdurdodau lleol yn cael ei wario, ond hefyd o ran cynlluniau i wella ansawdd a chyrhaeddiad cynlluniau yn y dyfodol. Cytunodd y Bwrdd y dylid comisiynu adroddiad ar y cyd rhwng TrC a Llywodraeth Cymru ar sut i reoli’r gronfa yn y dyfodol [Cam Gweithredu Geoff Ogden].
Trafododd y Bwrdd y cyfyngiad sydd ar waith yn Nhreherbert oherwydd y gwaith Trawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd sy’n mynd rhagddo. Gofynnodd y Bwrdd a fyddai modd defnyddio gair ar wahân i ‘blockade’ yn Saesneg, gan fod hynny’n gallu dod ar draws yn negyddol iawn.
Aeth y prosiect Un Denantiaeth yn fyw ar benwythnos 4/5 Mawrth. Hysbyswyd y Bwrdd, er y bu cynllunio a gweithredu gofalus a bod y tîm wedi gweithio’n ddiwyd i’w gyflawni, y bu nifer o broblemau i’w datrys. Fodd bynnag, mae’r rhan fwyaf o’r problemau wedi’u datrys erbyn hyn, sy’n golygu y gall pobl ddechrau rhannu gwybodaeth yn haws ar draws y busnes a chyfathrebu’n fwy synhwyrol.
Adolygodd y Bwrdd ffigurau teithio heb docyn a gofynnodd a fyddai’n bosibl dod â phapur ar fynd i’r afael ag osgoi talu am docyn i gyfarfod yn y dyfodol. [Cam Gweithredu AC].
3b. Cyllid a llywodraethu
Mae ffocws sylweddol wedi bod ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, gan gynnwys sicrhau’r atodiad i lythyr cyllido gwreiddiol 2022/23 Llywodraeth Cymru, gan sicrhau gwariant cyfalaf a rheoli unrhyw danwariant posibl yn y Gronfa Teithio Llesol.
Hefyd cafodd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am ymddiogelu tanwydd, gwaith y Pwyllgor Buddsoddi, datblygu’r Amgylchedd Rheoli Uwch a Chynllun Busnes TrC y mae Llywodraeth Cymru yn ei adolygu.
TYNNWYD
4. Is-bwyllgorau
Roedd cyfarfod diweddar y Pwyllgor Profiad Cwsmeriaid a Chyfathrebu yn canolbwyntio ar nifer o ddiweddariadau o bob rhan o’r portffolio, gan gynnwys delio â chwynion, materion yn ymwneud â gwasanaethau yn lle trenau, a defnyddio adnoddau i systemu rhywfaint o’r gwaith sy’n mynd rhagddo. Roedd y Pwyllgor wedi nodi newid sylweddol o ran cyflawni.
Hysbyswyd y Bwrdd y bydd y Pwyllgor Prosiectau Mawr yn adolygu ei gylch gorchwyl. Ystyriodd y cyfarfod diweddar grynodeb o’r holl gynlluniau Metro rhanbarthol, cynllun yr A465, trawsnewid bysiau, Llinellau Craidd y Cymoedd, gwelliannau Caerdydd Canolog, Crossrail Caerdydd, Cyfnewidfa Fysiau Caerdydd, a Chomisiwn Burns gan gynnwys Prif Linell De Cymru.
5. Byrddau is-gwmnïau
Roedd cyfarfod diweddar Bwrdd Rheilffyrdd TrC Cyf wedi ystyried perfformiad, dibynadwyedd, lleihau nifer y bobl sy’n canslo, cynllunio ar gyfer y dyfodol, masnach, cyllid, cyflogau a TYNNWYD, a gwybodaeth am gwsmeriaid.
Roedd cyfarfod Bwrdd Pullman y mis diwethaf wedi canolbwyntio ar ddiogelwch, cyllid, a gweledigaeth/strategaeth y cwmni.
6. Y Bwrdd Llywio
Roedd cyfarfod diweddar Bwrdd Llywio TrC wedi canolbwyntio’n bennaf ar gyllideb TrC.
7. Effeithiolrwydd y Bwrdd
Nododd y Bwrdd gynlluniau ar gyfer adolygiad o Effeithiolrwydd y Bwrdd a Chynllun Datblygu’r Bwrdd.
8. Cyfrinachol
Cafodd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau diweddaraf o ran cynrychiolaeth Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol ar y Bwrdd.
Rhan B - Sesiwn diweddariad gweithredol
Ymunodd Dan Tipper â’r cyfarfod.
7. Cynllun Busnes
Ymunodd Zoe Smith-Doe â’r cyfarfod. Mae’r adborth cychwynnol gan Lywodraeth Cymru ar y Cynllun Busnes drafft ar gyfer 2023/24 wedi bod yn gadarnhaol.
Gadawodd Zoe Smith-Doe y cyfarfod.
8. Cyllideb 2023/24
Cafodd y Bwrdd gyflwyniad ar fersiwn wedi’i ddiweddaru o gyllideb 2023/24. Roedd y drafodaeth yn canolbwyntio’n bennaf ar fwlch cyllido gwasanaethau rheilffyrdd a thrafodaethau â Llywodraeth Cymru i ddod o hyd i ddatrysiad, gan gynnwys ymdrechion i gynyddu a sicrhau atebolrwydd ar gyfer cynyddu refeniw.
9. Trawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd
Cafodd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd o ran Trawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd, gan gynnwys cynllun wedi’i ail-lunio ar gyfer comisiynu TAM A; y cyfyngiad yn Nhreherbert; cynlluniau ar gyfer comisiynu’r Ganolfan Reoli Integredig yn Ffynnon Taf; daearu a bondio; signalau; trydaneiddio llinellau uwchben; dylunio a dechrau defnyddio.
Gadawodd Dan Tipper y cyfarfod.
10. Diweddariad Teithio Llesol
Ymunodd Matthew Gilbert â’r cyfarfod. Mae’r rhagamcanion alldro diweddaraf yn awgrymu tanwariant o rhwng £762,000 a £4.3m yn y Gronfa Teithio Llesol. Mae Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo opsiynau gwariant eraill gwerth £8.5m fel mesurau lliniaru tanwariant, gan gynnwys £1.7m sydd eisoes wedi’i neilltuo ar gyfer y prosiect dosbarth 153.
Gadawodd Matthew Gilbert y cyfarfod.
11. Cofrestr Risg
Ymunodd Leyton Powell â’r cyfarfod.
Cafodd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am fân newidiadau i’r Gofrestr Risg Strategol. Nododd y Bwrdd, fel rhan o’r gwaith o hybu diwylliant sy’n ymwybodol o risg ar draws y sefydliad, y bydd y tîm Rheoli Risg yn darparu hyfforddiant staff dros y misoedd nesaf sy’n cynnwys hyfforddiant Rheoli Risg rhagarweiniol 90 munud a hyfforddiant rheoli risg uwch ar gyfer perchnogion risg.
Nododd y Bwrdd yr adroddiad risgiau.
Daeth y Cadeirydd â’r cyfarfod i ben a diolchodd i bawb am eu cyfraniadau.