Trafnidiaeth Cymru Cofnodion Cyfarfod y Bwrdd - 16 Tachwedd 2023

Submitted by Content Publisher on

Cofnodion Bwrdd TrC

16 Tachwedd 2023

09:30 - 16:00

Lleoliad - Llys Cadwyn

 

Yn bresennol

Scott Waddington (Cadeirydd), Heather Clash, Nicola Kemmery, Vernon Everitt, Alison Noon-Jones, Sarah Howells, Alun Bowen a James Price.

Hefyd yn bresennol: Alan McCarthy (Unite) (eitemau 1-4), Andrew Morgan a Jeremy Morgan.

 

Rhan A - Cyfarfod y Bwrdd Llawn

Croesawyd pawb i’r cyfarfod gan y Cadeirydd.

 

1a. Ymddiheuriadau am Absenoldeb

Peter McDonald (Llywodraeth Cymru).

 

1b. Hysbysiad ynghylch Cworwm

Gan fod cworwm yn bresennol, croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod a datganodd fod y cyfarfod yn agored.

 

1c. Datgan Buddiant

Dim.

 

1d. Cofnodion a Chamau Gweithredu o’r Cyfarfod Blaenorol

Derbyniwyd bod cofnodion cyfarfod Bwrdd TrC ar 19 Hydref 2023 yn gofnod gwir a chywir. Nodwyd y Log Camau Gweithredu.

 

1e. Sylw i Ddiogelwch

Atgoffwyd y Bwrdd ei bod yn Ddiwrnod Rhyngwladol y Dynion ar 19 Tachwedd a bod dau weithiwr adeiladu, ar gyfartaledd, yn marw bob dydd drwy ladd eu hunain. Cafodd y Bwrdd wybod hefyd am ddigwyddiad dysgu a chinio a gynhaliwyd ddoe yn TrC, a oedd yn cyd-fynd â Tashwedd ac yn canolbwyntio ar iechyd meddwl.

 

1f. Sylw i Gwsmeriaid

Clywodd y Bwrdd am ddigwyddiad diweddar pan arweiniodd canslo trên at orfod canslo gweithdy yn Llundain. 

 

2. Perfformiad diogelwch

Ymunodd Leyton Powell â’r cyfarfod. 

Rhoddwyd trosolwg cyffredinol i’r Bwrdd o weithgareddau a pherfformiad iechyd, diogelwch a llesiant ers y cyfarfod blaenorol:

  • Cwblhawyd papur ymchwil mewnol ar risgiau tân mewn cerbydau sy’n cael eu gweithredu gan fatris. Dangosodd y canfyddiadau bod tanau cerbydau trydan yn llai tebygol na cherbydau injan tanio ond gallai’r effaith fod yn fwy a byddai angen rheolaeth arbenigol. Bydd y prif ganfyddiadau’n cael eu rhannu â rhanddeiliaid mewnol perthnasol ar draws y busnes.
  • Mae Rheolwr Datblygu Iechyd a Diogelwch wedi’i wreiddio bellach fel pwynt cyswllt yn yr Uwch Dîm Arwain Masnachfreinio Bysiau i sicrhau dull gweithredu cyson ar draws TrC.
  • Rhyddhaodd RAIB ei adroddiad i wrthdrawiad rhwng trenau i deithwyr yng Nghyffordd Twnnel Salisbury ar 31 Hydref 2021. Adolygwyd yr adroddiad gyda golwg ar roi rhai o’r gwersi perthnasol a ddysgwyd ar waith.
  • Roedd ffigurau Mynegai Marwolaethau wedi’u Pwysoli ar gyfer holl weithlu TrC yng nghyfnod y rheilffyrdd 07 yn parhau i fod yn 0.02, o dan y cyfartaledd symudol blynyddol o 0.07 sy’n cyd-fynd â’r ffigur a ragwelwyd (0.07). Mae tuedd barhaus o weld cyfanswm mwy na’r disgwyl o ddigwyddiadau’n ymwneud â’r gweithlu ond mae tuedd iddynt fod yn llai niweidiol.
  • Gostyngodd y Mynegai Marwolaethau wedi’u Pwysoli nad yw’n ymwneud â’r gweithlu yn ystod cyfnod y rheilffyrdd 07 i 0.10 ac mae’n cyd-fynd â’r ffigur a ragwelwyd sef 0.10. Gostyngodd y cyfartaledd symudol blynyddol (0.12) ond mae’n parhau i fod yn uwch nag y rhagwelwyd. Rhoddwyd gwybod am 30 o ddigwyddiadau niwed nad oeddent yn ymwneud â’r gweithlu, gyda thri’n ddigwyddiadau lle bu’n rhaid mynd yn syth i’r ysbyty.
  • Darparwyd diweddariadau hefyd ar gydnerthedd busnes, Pullman Rail Ltd ac AIW. 

Nododd y Bwrdd yr adroddiad.

 

3. Cofrestr risg

Nododd y Bwrdd y Gofrestr Risgiau Strategol.

Cwblhawyd adolygiad o risgiau yn erbyn datganiadau parodrwydd i dderbyn risg TrC ac mae’n dangos aliniad cadarnhaol.

Mae’r gwaith o integreiddio risgiau trawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd i system rheoli risg TrC yn mynd rhagddo.

Holodd y Bwrdd am gynnydd o ran rheoli gwytnwch y gaeaf a chafodd wybod bod prosesau da ar waith gan gynnwys systemau rhybuddio cynnar. Fodd bynnag, ni ellir lliniaru pob risg yn llawn. Cytunwyd i drafod y mater yng nghyfarfod nesaf is-bwyllgor HSWB.

Gadawodd Leyton Powell y cyfarfod. 

 

4. Diweddariad strategol

4a. Adroddiad y Prif Swyddog Gweithredol 

Derbyniodd a nododd y Bwrdd drosolwg o adroddiad y Prif Weithredwr a oedd wedi’i gynnwys yn y pecyn. 

Mae perfformiad y rheilffyrdd wedi parhau i sefydlogi ar sail cael y nifer cywir o griwiau a’r nifer cywir o gerbydau rheilffyrdd. Dyma’r prif heriau ar hyn o bryd: (1) mae gormod o wasanaethau MKIV yn cael eu canslo ac mae angen strategaeth i reoli nifer y prif wasanaeth sy’n cael eu canslo. (2) materion parhaus yn ymwneud â seilwaith; (3) gallu rhedeg mwy na phedwar cerbyd ar lwybr y Gororau. Bydd y llwybr yn caniatáu defnyddio trenau 197 ar unrhyw ffurf, ond mae wedi’i gyfyngu i 2+2 yn unig ar hyn o bryd sy’n cyfyngu ar y gallu i gynyddu capasiti.

Adolygodd y Bwrdd ddata ar berfformiad gwasanaethau’r Gororau. Bu gostyngiad ym mherfformiad trenau MKIV rai wythnosau yn ôl ond mae eu perfformiad wedi gwella ers hynny. Croesawodd y Bwrdd berfformiad cyffredinol da yr unedau Class 197 a’r unedau Stadler. Nododd y Bwrdd fod cynydd yn nifer y teithwyr ar Linellau Craidd y Cymoedd. Gofynnodd y Bwrdd sut mae dwysedd y ffocws ar berfformiad gweithredol yn cael ei gynnal a chafodd wybod bod newidiadau i’r amserlen yn allweddol a bod angen bod yn barod i ddelio â materion pan fyddant yn dod i’r amlwg. Croesawodd y Bwrdd y penderfyniad ar fater teitl injan Class 197 CAF. 

Un o’r amryw o newidiadau a wnaed i’r amserlen ym mis Rhagfyr oedd newidiadau i’r llwybr rhwng Wrecsam a Bidston a ddylai wella dibynadwyedd a pherfformiad. Ailadroddwyd pwysigrwydd y llwybr ac anogwyd y Bwrdd i barhau â’i her i’r Prif Weithredwr i wella perfformiad ar y llwybr hwn.

Mae cynnydd yn parhau i adeiladu’r fframwaith cynllunio strategol ar gyfer masnachfreinio bysiau. Fodd bynnag, mae heriau allweddol yn dal i fodoli o ran sefydlu’r cydbwysedd cywir rhwng y newid i fasnachfreinio a masnachfreinio go iawn; cael naratif strategol clir am y daith; a chyllid. Bydd gwersi a phrofiadau TfGM o fasnachfreinio bysiau yn cael eu rhannu â TrC.

Hefyd cafodd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am y canlynol:

  • Cynllunio Trafnidiaeth Rhanbarthol a’r cysylltiadau â datblygiad parhaus TrC 2.0.
  • Mynediad Llinellau Craidd y Cymoedd i’r gwasanaeth.
  • Teithio Llesol - cyflwynir adolygiad llawn o berfformiad yng nghyfarfod mis Rhagfyr.
  • Rheoli refeniw gan gynnwys gwella rheoli cynnyrch, darpariaeth a pherfformiad ar y giatiau.
  • Mae angen bod yn fwy clyfar wrth ddefnyddio data ar draws y busnes a bod yn fusnes sy’n cael ei arwain gan ddata ac yn rhoi pwyslais ar ddata. 

Gadawodd Alan McCarthy y cyfarfod.

 

4b. Cyllid a llywodraethu

Nododd y Bwrdd yr Adroddiad Cyllid a chyfrifon rheoli mis Hydref 2023. Nodwyd y canlynol gan y bwrdd:

  • TYNNWYD
  • TYNNWYD
  • Mae nifer o risgiau a chyfleoedd allweddol o ran gwariant cyfalaf. Mae’r risgiau’n cynnwys tanwariant ar brosiectau teithio llesol, gydag oddeutu £40m i’w wario dros ddau chwarter olaf y flwyddyn; tanwariant ar brosiectau bysiau, cerbydau trydan a gwasanaethau rheilffyrdd.
  • TYNNWYD
  • Pwysleisiodd y Bwrdd bod angen atal unrhyw weithgaredd nad yw’n hanfodol ar gyfer rhedeg gwasanaethau neu weithgaredd nad yw’n ofyniad cyfreithiol.
  • Bydd Dangosyddion Perfformiad Allweddol corfforaethol ar gael i’r cyhoedd o ddechrau 2024/25 ymlaen. Mae Bwrdd Perfformiad ar y cyd TrC / Llywodraeth Cymru’n gweithredu’n gadarnhaol ac yn ymgysylltu’n dda ar draws y ddau sefydliad. 
  • Lansiwyd y strategaeth Atal Twyll yn ddiweddar a’r agwedd gyffredinol yw na fyddwn yn goddef unrhyw dwyll. 
  • Mae Cynllun Busnes 2024/25 wrthi’n cael ei ddatblygu. Bwriedir cynnal digwyddiad cymheiriaid hanner diwrnod ar 27 Tachwedd gyda Llywodraeth Cymru’n trafod y blaenoriaethau o ran cydddealltwriaeth. 
  • Gofynnodd y Bwrdd am y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch diogelu refeniw ar gyfer cyfarfod sydd ar y gweill [Cam Gweithredu Marie Daly ac Alexia Course].

 

Rhan B - Sesiwn diweddariad gweithredol

Ymunodd Anthony McKenna a Dan Tipper â’r cyfarfod.

 

5. Gwelliannau Caerdydd Canolog

Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a’r datblygiadau diweddaraf gyda Rhaglen

TYNNWYD

Gadawodd Anthony McKenna y cyfarfod.

 

7. Diweddariad ar Linellau Craidd y Cymoedd

Cafodd y Bwrdd wybod mai’r prif ffocws yn ystod y mis oedd cwblhau opsiynau cyflawni Rhaglen Trawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd i sicrhau cadarnhad o’r opsiwn a ffafrir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cwblhau’r gwaith Seilwaith.

TYNNWYD

 

13 Is-fyrddau

Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am gyfarfod diweddar bwrdd Rheilffyrdd TrC a oedd yn canolbwyntio ar berfformiad gweithredol; argaeledd a maint y fflyd; risgiau; cyllid a materion masnachol; TrC 2.0; trawsnewid swyddfeydd tocynnau; a chyflogau.

 

14. Y Bwrdd Llywio

Cymeradwyodd Llywodraeth Cymru y cyflwyniad OM&R. Cafwyd trafodaethau hefyd ar gyllideb 2024-25; opsiynau Llinellau Craidd y Cymoedd; TrC 2.0; a’r dangosfwrdd cyllid.

Gadawodd Peter McDonald y cyfarfod.

 

15. TrC 2.0

Trafododd y Bwrdd ddatblygiad parhaus ‘TrC 2.0’. Fe wnaeth y Bwrdd y canlynol:

  1. cydnabod yn llawn yr angen am newid diwylliannol ar draws TrC i gyflawni’r canlyniadau sy’n ofynnol gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys meddylfryd newid ymddygiad i lywio ein holl ymyriadau a gwasanaethau ac i fanteisio i’r eithaf ar newid dulliau teithio i ddarparu trafnidiaeth mewn ffordd integredig, aml-ddull; 
  2. cydnabod maint y newid sydd ei angen a phwysigrwydd sicrhau y caiff hyn ei wreiddio’n gadarn yng ngwaith Tîm Arwain Gweithredol TrC, y Bwrdd ei hun a holl is-bwyllgorau’r Bwrdd ac, wrth gwrs, drwy holl dimau ehangach TrC - o’r rheini sy’n ymwneud â chynllunio hyd at y rhai sy’n darparu ar y rheng flaen. 
  3. byddant yn herio tîm gweithredol TrC i ddangos ffocws parhaus ar TrC 2.0, a’i gyflawni drwy gydol y busnes, gan gynnwys yn ei ddadansoddiad, ei benderfyniadau, ei ddulliau gweithio ac ymgysylltu allanol; a
  4. cytunwyd i neilltuo llawer o amser ym mhob un o gyfarfodydd y Bwrdd i adolygu’r cynnydd o ran cyflawni TrC 2.0. yn ogystal â sefydlu grŵp herio dan arweiniad y Bwrdd i yrru’r meddwl yn ei flaen yn y maes hwn, i ychwanegu gwerth at syniadau’r Bwrdd Gweithredol ac i ddal y tîm Gweithredol i gyfrif.

 

Daeth y Cadeirydd â’r cyfarfod i ben a diolchodd i bawb am eu cyfraniadau.