Trafnidiaeth Cymru Cofnodion Cyfarfod y Bwrdd - 17 Rhagfyr 2020

Submitted by positiveUser on

Cofnodion Bwrdd TrC – 17 Rhagfyr 2020

10:00 – 16:30

Cynhaliwyd y cyfarfod ar-lein

 

Yn bresennol

Scott Waddington (SW) (Cadeirydd); James Price (JP); Heather Clash (HC); Sarah Howells (SH); Nicola Kemmery (NK); Alison Noon-Jones (ANJ); Vernon Everitt (VE); Alun Bowen (AB); Gareth Morgan (eitemau 2b-2c); a Jeremy Morgan (Ysgrifenyddiaeth).

Sesiwn diweddariad gweithredol (Rhan B): Geoff Ogden (GO); David O’Leary (DOL); Lewis Brencher (LB); Lisa Yates (LY); Lee Robinson (LR); Alexia Course (AC); Karl Gilmore (KG); Gareth Morgan (GM) a Dave Williams (DW). Yr Arglwydd Terry Burns (TB), Peter McDonald (PMcD), Simon Jones (SJ) a Matthew Jones (MJ) yn bresennol ar gyfer eitem 5a. Emma Eccles (EE) yn bresennol ar gyfer eitem 5j.

 

Rhan A – Cyfarfod o’r Bwrdd Llawn

1a. Ymddiheuriadau am Absenoldeb

Natalie Feeley (eitemau 1-3)

1b. Hysbysiad ynghylch Cworwm

Gan fod cworwm yn bresennol, rhoddodd y Cadeirydd groeso i bawb i’r cyfarfod a datgan bod y cyfarfod ar agor.

1c. Gwrthdaro rhwng Buddiannau

Dim wedi’i ddatgan.

1d. Cofnodion a Chamau Gweithredu o’r Cyfarfod Blaenorol

Derbyniwyd cofnodion cyfarfod y Bwrdd ar 19 Tachwedd 2020 yn gofnod gwir a chywir.

Drwy’r Cadeirydd, mynegodd y Bwrdd ddiolch i’r holl staff am y gwaith a wnaed yn ystod y mis diwethaf.

2a. Sylw i Ddiogelwch

Mae’r Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Rheilffyrdd wedi cyhoeddi adroddiad arall ar ddigwyddiad Margam ym mis Gorffennaf 2019. Mae’r adroddiad yn pwysleisio’r angen i sicrhau bod diwylliant diogelwch TrC yn adlewyrchu’r ffaith bod pobl o wahanol sefydliadau yn cael eu cynnwys fel contractwyr, ond mae angen sicrhau cysondeb o ran dull a safon sy’n cael ei hatgyfnerthu ar draws yr holl staff, ni waeth pwy yw eu prif gyflogwr.

2b. Sylw i Gwsmeriaid

Aeth anrheg ar goll wrth ei hanfon ac roedd angen gwneud ad-daliad, a gwnaed hynny ar unwaith. Yn y gorffennol, gallai hyn fod wedi cymryd hyd at bum diwrnod a allai fod yn broblem i bobl sydd angen yr arian, yn enwedig ar yr adeg hon o’r flwyddyn. Rhaid i ddyluniad prosesu roi’r cwsmer yn gyntaf.

2c. Perfformiad diogelwch

Mae cynllunio diogelwch yn parhau mewn perthynas â phresenoldeb yn swyddfa Pontypridd. Bwriedir cynnal Asesiad Risgiau Tân terfynol yn ddiweddarach yn y mis ynghyd â Chynllun Diogelwch Tân wedi’i gwblhau. Mae mesurau rheoli COVID-19 yn cael eu rhoi ar waith a byddant yn cael eu cynnwys mewn fideo cynefino i staff ac ymwelwyr.

Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am y camau a gymerwyd i sicrhau mwy o ddiogelwch ger croesfannau rheilffyrdd. Mae Grŵp Llywio Croesfannau Rheilffyrdd gweithredol wedi’i sefydlu i reoli a monitro pob risg sy’n gysylltiedig â chroesfannau rheilffyrdd, digwyddiadau a newidiadau ar Linellau Craidd y Cymoedd. Mae’r holl asesiadau ar groesfannau rheilffyrdd yn gyfredol gyda phroses sy’n ystyried a yw trenau’n stopio neu’n parhau ar gyflymder y rheilffordd gyda’r holl bellteroedd gweld yn cael eu cyfrifo yn unol â chyflymder rheilffordd lawn, ni waeth a yw’r trenau’n stopio neu beidio. Mae AKI MOM wedi ymweld â chroesfannau rheilffyrdd fel rhan o’u dyletswyddau i weld a yw llystyfiant neu rwystrau eraill yn rhwystro gyrwyr y trên rhag gweld yn glir, ac mae trafodaethau pellach wedi’u cynnal i ystyried a fyddai arwyddion ychwanegol dros dro yn helpu i liniaru’r risgiau ymhellach. Mae AKIL yn parhau i fonitro adroddiadau tresmasu ac adroddiadau gan yrwyr am ddamweiniau y bu ond y dim iddynt ddigwydd. Bydd y Grŵp Llywio yn parhau i fonitro gydag eitem sefydlog ar yr agenda. Cynhaliwyd trafodaethau hefyd ynghylch croesfannau rheilffyrdd a newidiadau dros dro i amserlenni. Mae Network Rail wedi cynnal asesiadau risg a chytunwyd ar gamau priodol lle bo angen.

Mae’r gwaith wedi dechrau i gefnogi’r gwaith o drosglwyddo staff Axis Cleaning i TrC, gan ganolbwyntio ar ddeall y risgiau sy’n gysylltiedig â’r gwaith glanhau. Mae rhaglen archwilio diogelwch a lles ar y gweill, a bydd yr ymweliadau safle’n dechrau maes o law.

Cynhaliwyd mesurau diogelwch yn ddiweddar mewn ymateb i gyhoeddi adroddiad terfynol RAIB ynghylch marwolaethau Margam ym mis Gorffennaf 2019. Croesawodd y Bwrdd y cam gweithredu hwn a phwysleisiodd fod cyflwyno trefniadau gweithredwyr rheilffyrdd y sector cyhoeddus yn gyfle i danlinellu’r pwyslais ar ddiogelwch fel y brif flaenoriaeth.

Mae treialon symud cerbydau wedi’u cynnal mewn perthynas â gofynion gweithredol Cyfnewidfa Drafnidiaeth Caerdydd. Cyflwynir canlyniadau a chanfyddiadau’r treialon yn ddiweddarach yn y mis.

Ni chofnodwyd unrhyw ddamweiniau, achosion o Basio Signal yn Beryglus (SPAD) na damweiniau i’w hadrodd i RIDDOR yn ystod cyfnod wyth y rheilffordd. Mae’r sefyllfa o ran ymosodiadau ar y gweithlu yn gwella’n bennaf oherwydd bod llai o deithwyr ar y trenau. Mae nifer y digwyddiadau ar groesfannau rheilffyrdd a digwyddiadau maleisus wedi gostwng. Mae lefelau hunanladdiad yn uwch nag yr oedd yn arfer bod ar yr adeg yma o’r flwyddyn. Gofynnodd y Bwrdd a oes cysylltiad â COVID-19. Cadarnhawyd ei fod yn anodd gwneud cysylltiad.

Mae cydymffurfiaeth â gwisgo masgiau wyneb yn dda ond bu cynnydd yn nifer y teithwyr sy’n hawlio eithriad. Trafododd y Bwrdd lifogydd ar ôl cael gwybod bod gohebiaeth wedi dod i law ynghylch y ffaith nad oedd dyddodion silt o ddigwyddiadau’r llynedd wedi cael eu clirio. Cytunwyd i ddatblygu rhaglen o ymyriadau gwerth isel ac effaith uchel gan sicrhau eglurder ynghylch cyfrifoldebau a phennu’r cyllid sydd ar gael [Gweithredu GM].

3a. Adroddiad y Prif Swyddog Gweithredol

Mae cynnydd wedi’i wneud ar raglen Dyfodol y Rheilffyrdd, ac mae Gweinidogion Cymru wedi cymeradwyo telerau cytundebau rheilffyrdd y dyfodol a fydd yn dechrau ar 7 Chwefror 2021. Mae’r sefydliad wedi wynebu materion anodd a chymhleth iawn, ond mae wedi dod at ei gilydd ac mae angen sicrhau bod y diwylliant hwn yn parhau.

Cytunwyd y dylid bob amser ystyried materion yn ymwneud â’r fantolen mewn papurau, gan gynnwys yr effaith ar Lywodraeth Cymru. Bydd rhagolwg ariannol interim yn cael ei rannu ym mis Chwefror, gyda ffocws ar gostau net rhedeg y rheilffordd.

Hysbyswyd y Bwrdd bod cynnydd da yn cael ei wneud â threfniadau ar gyfer gweithrediadau TrC. Mae gwaith i ddod o hyd i Reolwr Gyfarwyddwr yn mynd rhagddo, ac mae trefniadau ar waith i reoli risgiau dros dro. Cytunodd y Bwrdd ei bod yn bwysig lleihau costau gwasanaethau heb danseilio diogelwch a sylw i gwsmeriaid. Cytunwyd i edrych ar arferion gorau o ddiwydiannau eraill [Gweithredu: SH i drafod hyn gyda DOL].

Hysbyswyd y Bwrdd bod gwaith wedi’i wneud gyda Llywodraeth Cymru i sefydlu seilwaith cyffredinol i gyflawni gwaith comisiwn Burns. Cytunodd y Bwrdd ar bwysigrwydd bod yn glir ynghylch cylch gwaith TrC, a dim ond ar “risg i’r cyhoedd” o ran cyflawni’r hyn mae TrC wedi cytuno i’w wneud o fewn ei gylch gwaith.

Mae gwaith gyda Llywodraeth Cymru hefyd yn mynd rhagddo ynglŷn â dyfodol cefnogi bysiau. Er bod y darlun yn dod yn fwy eglur, cafodd y Bwrdd wybod bod llawer o rannau’n symud o hyd. Bydd JP a SW yn cwrdd â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn y flwyddyn newydd

Trafododd y Bwrdd aelodaeth Bwrdd Gwasanaethau Rheilffyrdd TrC Cyf a chytunwyd y byddai cysylltiad clir rhwng Bwrdd TrC a Bwrdd Gwasanaethau Rheilffyrdd TrC Cyf ar waith drwy JP a HC.

3b. Cyllid

Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y prif weithgareddau cyllid sydd wedi canolbwyntio ar weithrediadau Gwasanaethau Rheilffyrdd TrC Cyf. Fel rhan o’r gwaith hwn, mae llawer o ffocws ar adnewyddu / ymddiogelu prisiau tanwydd yn y dyfodol; goblygiadau treth i Reilffyrdd TrC Cyf a threfniadau contract; setliad asedau net; prisiau trosglwyddo; diwydrwydd dyladwy asedau sefydlog a gweithgareddau symud allweddol eraill fel bancio a threfniadau pensiwn; yn ogystal â rhagolwg pum mlynedd ochr yn ochr â mesurau lliniaru a risgiau sy’n dod i’r amlwg. Hysbyswyd y Bwrdd bod Llywodraeth Cymru yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith sy’n ymwneud ag ymddiogelu prisiau tanwydd.

Mae gwaith sicrwydd ar gyfnodau EMA yn mynd rhagddo. Bydd y Bwrdd yn cael adroddiadau ar wahân ar bob cyfnod EMA yn ystod y misoedd nesaf. Gofynnodd y Bwrdd a fydd TrC yn ysgwyddo unrhyw ddyled sylweddol oherwydd y trefniadau newydd ar gyfer gweithredwyr rheilffyrdd y sector cyhoeddus. Cadarnhawyd na fydd TrC yn ysgwyddo unrhyw ddyled sylweddol.

Cafodd y Bwrdd hefyd yr wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith parhaus yn gysylltiedig â phensiynau; trosglwyddo staff glanhau; gwaith buddiolwyr arweiniol WEFO.

Nodwyd y cyfrifon rheoli ar gyfer mis Tachwedd 2020. Y gwariant ar adnoddau yn y mis oedd £33.7 miliwn (ac eithrio’r hyn nad yw’n arian parod). Roedd £32 miliwn o hwn yn ymwneud â'r rheilffyrdd ac mae'r rhan fwyaf o'r swm hwnnw'n mynd drwodd i'r ODP; a’r gwariant cyfalaf yn y mis oedd £15.6 miliwn, ac roedd £16.4 miliwn yn ymwneud â’r Rheilffyrdd, gyda ffigur negyddol o £1m o fewn y gwasanaethau canolog yn sgil addasiadau o brydlesi a swyddfa Llys Cadwyn.

Cymeradwyodd y Bwrdd y newidiadau i'r Matrics Dirprwyaethau.

3c. Diweddariad am yr is-bwyllgorau

Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf o gyfarfodydd diweddaraf y Pwyllgorau Cwsmeriaid a Chyfathrebu, Archwilio a Risg, ac Iechyd, Diogelwch a Lles.

3d. Y Bwrdd Llywio

Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf gan y Cadeirydd am gyfarfod mis Tachwedd Bwrdd Llywio TrC.

 

Rhan B – Sesiwn diweddariad gweithredol

Ymunodd LB, LR, AC, KG, DOL a GO â’r cyfarfod.

5a. Adroddiad Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru (Burns) – cyflwyniad

Ymunodd yr Arglwydd Terry Burns, Peter McDonald, Simon Jones a Matthew Jones â'r cyfarfod. Cyflwynodd yr Arglwydd Burns y fethodoleg ar gyfer gwaith Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru.

Rhoddodd PMcD grynodeb o ganfyddiadau ac argymhellion yr adroddiad, cyn cael trafodaeth ynghylch rôl bosibl TrC o ran gweithredu. Nododd y Bwrdd y gellid defnyddio rhai o’r atebion arfaethedig mewn rhannau eraill o Gymru ar gyfer systemau Metro eraill. Holodd y Bwrdd sut y byddai’r atebion arfaethedig yn cael eu hariannu, ac fe’i hysbyswyd bod y llywodraeth bresennol wedi ymrwymo i fwrw ymlaen â chanfyddiadau ac argymhellion yr adroddiad.

5b. Diweddariad Dyfodol y Rheilffyrdd

Er bod y trafodaethau wedi bod yn mynd rhagddynt, cafodd y Bwrdd gadarnhad bod y cytundebau sy’n ymwneud â Rhaglen Dyfodol y Rheilffyrdd yn canolbwyntio ar roi gweithredwr rheilffyrdd y sector cyhoeddus ar waith yn cydfynd i raddau helaeth â’r hyn yr oedd y Bwrdd a Gweinidogion Cymru wedi’i gymeradwyo ym mis Hydref 2020. Bydd cytundebau ar y Weithred Derfynu, y fenter ar y cyd rhwng Keolis Amey a TrC, y contract trawsnewid camu i mewn yn cael ei lofnodi a’i selio yr wythnos hon.

Hysbyswyd y Bwrdd bod cwmni cyd-fentro ‘Gwasanaethau Arloesi Trafnidiaeth Cymru’ wedi’i ffurfio a fydd yn masnachu o 7 Chwefror 2021 ymlaen. TrC sy’n berchen ar 51% o’r cwmni, gyda chwmni cyd-fentro Keolis Amey yn berchen ar y 49% sy’n weddill. Mae cynllun busnes yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd. Mynegodd JP ei ddiolch am waith y timau dros y misoedd diwethaf a diolchodd i’r Bwrdd am eu cymorth a’u cefnogaeth ac am ddarparu her lle bo angen. Cafodd hyn ei hategu gan y Cadeirydd.

Cafodd y Bwrdd hefyd wybod fod yr adolygiad hefyd wedi caniatáu adolygiad o’r strategaeth depos a allai ryddhau gwytnwch cerbydau a chreu swyddi mewn ardaloedd lleol a rhanbarthol.

5c. Cyfathrebu

Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am wella ffigurau Mynegai’r Brand, straeon yn y cyfryngau, ymholiadau gan y wasg, cysylltiadau â’r llywodraeth (gan gynnwys sesiynau galw heibio’r Senedd) a gweithgarwch ar y cyfryngau cymdeithasol. Yn ogystal â hynny, trafododd y Bwrdd y dull gweithredu yn ystod y cyfyngiadau symud diweddar.

5d. Cofrestr Risgiau

Nododd y Bwrdd y gofrestr risgiau strategol. Mae gweithgor wedi’i sefydlu i edrych ar risgiau Brexit gan ganolbwyntio’n benodol ar y gadwyn gyflenwi.

5e. Cyfranddaliadau a derbyniadau

Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am ddau weithgaredd caffael neu gyfranddaliadau posibl sy'n cael eu rheoli gan TrC.

5f. PTI Cymru

Adolygodd y Bwrdd bapur yn crynhoi’r gwaith diweddar i adolygu’r cyfle i gaffael PTI Cymru. Roedd y papur yn argymell bod y Bwrdd yn cytuno ar ddiwydrwydd dyladwy uwch, yn unol â’r hyn a gefnogir gan Lywodraeth Cymru. Cafodd y Bwrdd wybod fod PTI Cymru yn sefydliad dielw sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru ac sy’n darparu cyswllt i gwsmeriaid (cyngor ynghylch teithio ac archebu, a gwybodaeth drwy alwadau, gwefannau a systemau eraill) a gwasanaeth gohebu â chwsmeriaid (ymateb i gwynion, pryderon a sylwadau cwsmeriaid). Hysbyswyd y Bwrdd bod PTI Cymru yn sefydliad sefydlog sy’n ariannol hyfyw a’i fod yn cefnogi'r caffael am swm tybiannol o 1 Ebrill 2021 ymlaen.

Gofynnodd y Bwrdd a oedd unrhyw oblygiadau TUPE, ac fe’i hysbyswyd nad oes unrhyw oblygiadau’n hysbys ar hyn o bryd. Cytunodd y Bwrdd y byddai’n ddefnyddiol cael data ynghylch nifer y galwadau er mwyn cyfrannu at y weledigaeth hirdymor o ymgysylltu â chwsmeriaid. Cytunodd y Bwrdd i ddechrau diwydrwydd dyladwy cyfreithiol ac ariannol; ac yn amodol ar gwblhau diwydrwydd dyladwy ac adroddiadau boddhaol, i baratoi cynnig i gwblhau caffael PTI Cymru am y gwerth cyfran tybiannol. Cymeradwyodd y Bwrdd hefyd gynllun llywodraethu amlinellol a chalendr ar gyfer trosglwyddo ac integreiddio.

5g. Y diweddaraf am fysiau

Rhoddwyd yr wybodaeth ddiweddaraf i’r Bwrdd ynghylch y cynnydd o ran cytuno a chymeradwyo’r Cynllun Brys Bysiau diweddaraf. Mae gwaith yn parhau hefyd gyda phedwar rhanbarth o ran dylunio a datblygu’r rhwydwaith. Mae llawer o waith ymgysylltu â rhanddeiliaid yn cael ei wneud gydag awdurdodau lleol, gan gynnwys aelodau etholedig.

Cafodd y Bwrdd hefyd yr wybodaeth ddiweddaraf am fodelau gweithredu, y cynllun cardiau teithio rhatach, ehangiad Fflecsi a Traws Cymru. Trafododd y Bwrdd rôl debygol TrC yn yr agenda bysiau a phwysigrwydd cael eglurder.

5h. Edrych ymlaen at chwe mis nesaf y rhaglen Seilwaith

Croesawodd y Bwrdd gyflwyniad dangosfwrdd adrodd ar gyfer rhaglen Llinellau Craidd y Cymoedd.

5i. Tracwyr

Rhoddwyd trosolwg i’r Bwrdd o’r rhaglen a’r tracwyr corfforaethol, yn ogystal â’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y prif bethau i’w cyflawni ar draws y busnes. Gofynnwyd i’r Bwrdd ystyried y cynnwys ac a oes modd mynd ar drywydd unrhyw beth ym mhwyllgorau’r Bwrdd.

5j. Rhaglen anweithredol cam 2

Ymunodd EE â’r cyfarfod. Cytunodd y Bwrdd i gymryd rhan yn rhaglen anweithredol Cam 2 Chwarae Teg.

5k. Cerdyn sgorio’r bwrdd

Nododd y Bwrdd y cerdyn sgorio a chytuno iddo gael ei atodi i adroddiad y Prif Swyddog Gweithredol.

Diolchodd y Cadeirydd i bawb a oedd yn bresennol am eu cyfraniad, a dymunodd Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i bawb.