Trafnidiaeth Cymru Cofnodion Cyfarfod y Bwrdd - 18 Mai 2023

Submitted by Content Publisher on

Cofnodion Bwrdd TrC

18 Mai 2023

09:30 - 16:00

Lleoliad - Llys Cadwyn

 

Yn bresennol

Scott Waddington (Cadeirydd), Heather Clash, Nicola Kemmery, Vernon Everitt, Alison Noon-Jones, Alun Bowen, Sarah Howells a James Price. 

Hefyd yn bresennol: Jeremy Morgan, Gareth Evans (Llywodraeth Cymru) a Leyton Powell (eitem 2).

 

Rhan A - Cyfarfod o’r Bwrdd Llawn

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

 

1a. Ymddiheuriadau am Absenoldeb

Dim. Nid oedd unrhyw arsylwr o’r Undebau Llafur yn bresennol.

 

1b. Hysbysiad ynghylch Cworwm

Gan fod cworwm yn bresennol, croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod a datganodd fod y cyfarfod yn agored.

 

1c. Datgan Buddiannau

Dim.

 

1d. Cofnodion a Chamau Gweithredu o’r Cyfarfod Blaenorol

Derbyniwyd bod cofnodion cyfarfod Bwrdd TrC ar 20 Ebrill 2023 yn gofnod gwir a chywir.

 

1e. Sylw i Ddiogelwch

Atgoffwyd y Bwrdd bod 22 mlynedd wedi mynd heibio ers digwyddiad Potters Bar, ond nad yw atgofion corfforaethol y gorau bob amser ac mae’r gwersi’n dal yn berthnasol.

 

1f. Sylw i Gwsmeriaid

Cafodd y Bwrdd wybod am brofiad gwael diweddar ar wasanaeth TrC o Fanceinion i Gaerdydd. Trafododd y Bwrdd y problemau presennol ar linell y Mers a chytunodd i’w trafod yn fanylach yn nes ymlaen yn y cyfarfod.

 

2. Perfformiad diogelwch

Mae gwaith wedi dechrau i ddeall y risgiau posibl a’r gofynion diogelwch gweithredol sydd eu hangen i gefnogi’r rhaglen Masnachfreinio Bysiau. Mae tebygrwydd â’r meysydd sy’n cael sylw yn y system rheoli diogelwch rheilffyrdd wedi cael ei nodi, gan gynnwys blinder gyrwyr, rheoli cymhwysedd, gwybodaeth am lwybrau a sicrwydd.

Cafodd y Bwrdd wybod am adroddiad drafft gan RSSB yn manylu ar ganfyddiadau archwiliad dwfn o ddamweiniau cwsmeriaid. Nododd yr adroddiad fod gan TrC ddiwylliant adrodd cadarnhaol o’i gymharu â chwmnïau trên eraill, mae mathau o ddigwyddiadau ac amleddau’n adlewyrchu’r diwydiant yn ôl math, mae gan TrC niferoedd uwch o ddigwyddiadau sy’n cael eu hadrodd o’i gymharu â chwmnïau trên eraill, ac mae’n adrodd rhagor o ddigwyddiadau mwy difrifol (wedi’u hanfon i’r ysbyty) na chwmnïau trên tebyg. Mae canfyddiadau ac argymhellion yr adroddiad yn cael eu hadolygu.

Cofnodwyd un SPaD yn ystod y cyfnod a chymerwyd camau priodol mewn ymateb.

Cynhaliwyd 225 o archwiliadau diogelwch ar draws y rhwydwaith yn ystod y cyfnod, gydag 16 o eitemau wedi’u fflagio. Cyfartaledd y cydymffurfio oedd 99.5%.

Cafodd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am ymweliadau ac arolygiadau Swyddfa’r Rheilffyrdd a’r Ffyrdd, digwyddiadau o ddwyn a difrod ar Linellau Craidd y Cymoedd, trawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd, rheoli seilwaith, a pherfformiad diogelwch Pullman Rail Ltd.

Gadawodd Leyton Powell y cyfarfod.

 

3. Diweddariad strategol

3a. Adroddiad y Prif Swyddog Gweithredol

Mae trawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd, cyflwyno cerbydau newydd a rhedeg gwasanaeth rheilffordd dyddiol, gan gynnwys cau TAM yn llwyr, wedi arwain at rai heriau sylweddol ar draws y sefydliad. Fodd bynnag, mae gwersi’n cael eu dysgu ac mae’r ffocws yn parhau ar ddarparu gwasanaeth diogel a rhoi cymorth i gwsmeriaid.

TYNNWYD

Ymunodd Jan Chaudhry Van der Velde â’r cyfarfod. Trafododd y Bwrdd faterion perfformiad parhaus ar linell y Mers yn fanwl. Hysbyswyd y Bwrdd bod llawer o’r problemau’n deillio o broblemau perfformiad y dosbarth 175 a all arwain at ganslo trenau, ynghyd â phroblemau cynnal a chadw a storio yng Nghaer, a phrinder gyrwyr ar gyfer gwasanaethau dydd Sul. Holodd y Bwrdd ynghylch y gofynion i gyrraedd sefyllfa o ddibynadwyedd derbyniol, ac erbyn pryd. Hysbyswyd y Bwrdd bod dibynadwyedd derbyniol yn dibynnu ar argaeledd a dibynadwyedd cerbydau, niferoedd digonol o griwiau trenau a rhwydwaith mwy dibynadwy, yn enwedig ar y llinell wrth ymyl Crewe lle mae rhywfaint o’r dechnoleg ategol yn hen. 

Nododd a chroesawodd y Bwrdd y gwelliant cyffredinol mewn perfformiad rheilffyrdd ar draws y rhwydwaith a nododd fod nifer y gwasanaethau sy’n cael eu canslo ymlaen llaw yn dychwelyd i’r arfer.

Gadawodd Jan Chaudhry Van der Velde y cyfarfod.

Trafododd y Bwrdd heriau diweddar ynghylch y nifer sylweddol o wasanaethau yn lle trenau ar ochr TAM Llinellau Craidd y Cymoedd wrth i waith comisiynu TAM A gael ei wneud, a rhai o’r anawsterau o ran cael gwybodaeth fanwl am berfformiad. Cafodd y Bwrdd wybod am deimladau negyddol ymysg cwsmeriaid yn ystod yr ychydig o wythnosau gweithredu, ond bod mesurau lliniaru wrthi’n cael eu datblygu a bod y perfformiad wedi gwella’n ddiweddar. Mae gwersi’n cael eu dysgu a allai hefyd fod yn berthnasol i fasnachfreinio bysiau.

Mae trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru yn parhau ar fysiau, gan ganolbwyntio’n ddiweddar ar risg refeniw a chyfnewid polisïau.

Mae gwaith yn parhau i egluro a chyfundrefnu rôl TrC.

Hefyd cafodd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd gyda rhaglen trawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd, prosiectau Caerdydd Canolog, a gweithio gyda llywodraeth leol. Cytunodd y Bwrdd y dylai’r Pwyllgor Prosiectau Mawr graffu’n fanwl ar brosiectau Caerdydd Canolog, gan gynnwys y ddwy eitem nad yw TrC yn eu rheoli. 

TYNNWYD

 

3b. Cyllid a llywodraethu

Cafodd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am faterion cyllid a llywodraethu allweddol gan gynnwys diwedd y flwyddyn ariannol (2022/23), dangosyddion perfformiad allweddol, y gyllideb a chynllun busnes ar gyfer 2023/24, a chynnydd o ran gweithredu’r amgylchedd rheolaeth fewnol.

TYNNWYD

Cafodd y Bwrdd wybod bod Llywodraeth Cymru angen cyllideb ddrafft ar gyfer 2024/25 gan TrC erbyn diwedd mis Gorffennaf.

Mae’r gwaith cynllunio wedi dechrau ac er y bydd nifer o elfennau ansicr a hithau mor gynnar yn y broses, bydd yn helpu Llywodraeth Cymru gyda’i hadolygiadau cyllidebau mewnol sy’n dechrau fis Awst. 

Nododd y Bwrdd nad oedd y fframwaith Capasiti i Hyfforddwyr wedi datblygu a chytunwyd y byddai James Price yn codi hyn gyda Llywodraeth Cymru [Cam Gweithredu James Price].

Nododd y Bwrdd yr adolygiad cyllid a nododd gyfrifon rheoli TrC ar gyfer mis Ebrill 2023, cyfrifon Rheilffyrdd TrC Cyf ar gyfer cyfnod rheilffyrdd 1 2023/24, a chyllideb derfynol TrC ar gyfer 2023/24.

 

4. Byrddau is-gwmnïau

Roedd cyfarfod diweddar Bwrdd Rheilffyrdd TrC Cyf wedi ystyried gwasanaethau o ddydd i ddydd, yr ymgyrch diogelwch OLE, adolygiad cyllid a masnachol, y gwersi a ddysgwyd ar ôl cyflwyno MKIV, y Fenter Ailstrwythuro Gyrwyr, a dangosyddion perfformiad allweddol.

 

5. Y Bwrdd Llywio

Roedd cyfarfod diwethaf Bwrdd Llywio TrC wedi rhoi sylw i sefyllfa ariannol TrC, pwysau cost, cysylltiadau diwydiannol, cyllid, a chynrychiolaeth Llywodraeth Cymru ar Fwrdd TrC.

 

6. Panel Cynghori

Cafodd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am gyfarfod diweddar Panel Cynghori TrC. Roedd y panel wedi canolbwyntio ar heriau diweddar y fflyd 175 a newidiadau i amserlenni mis Mai, yr ymgyrch diogelwch OLE ‘Dim Ail Gyfle’, trefniadau adnewyddu trenau TAM, a gwaith newid ymddygiad parhaus TrC.

 

Rhan B – Sesiwn diweddariad gweithredol

Ymunodd Geoff Ogden â’r cyfarfod.

 

7. Dangosyddion Perfformiad Allweddol corfforaethol

Ymunodd Zoe Smith-Doe â’r cyfarfod.

Cafodd y Bwrdd ei friffio ar set awgrymedig o ddangosyddion perfformiad allweddol corfforaethol yn seiliedig yn bennaf ar drafodaethau gyda’r Weithrediaeth a’u timau, ac yn seiliedig ar flaenoriaethau corfforaethol TrC y cytunwyd arnynt. Cytunodd y Bwrdd mai’r brif gynulleidfa yw Bwrdd a Gweithrediaeth TrC i sbarduno perfformiad, gan rannu dangosyddion â Llywodraeth Cymru a Gweinidogion hefyd. Pwysleisiodd y Bwrdd bwysigrwydd sicrhau bod y dangosyddion perfformiad allweddol yn canolbwyntio ar feysydd y gall TrC eu rheoli. Nododd y Bwrdd y diweddariad a bydd yn cael ei gyflwyno gyda chynnig wedi’i fireinio mewn cyfarfod diweddarach. 

Gadawodd Zoe Smith-Doe y cyfarfod.

 

8. Teithio Llesol

Ymunodd Matthew Gilbert â’r cyfarfod. Cafodd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am y prif weithgareddau teithio llesol. Gofynnodd y Bwrdd sut beth fyddai llwyddiant a chafodd wybod bod y mesurau llwyddiant allweddol yn cynnwys cyflawni cerrig milltir, newid dulliau teithio a newid ymddygiad.

 

9. Bwrdd JV

Cymeradwyodd y Bwrdd benodiad Richard Marwood fel Cyfarwyddwr Gwasanaethau Arloesi TrC Cyf i gymryd lle David O’Leary.

Gadawodd Geoff Ogden y cyfarfod.

 

11. Trawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd

Cafodd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y rhaglen i drawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd. Cafodd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am drywydd y prosiect, costau, comisiynu TAM A, trosglwyddo gweithrediadau amrywiol i ganolfan reoli integredig Ffynnon Taf, symud EMVs gan gynnwys hyfforddiant gyrwyr, a digwyddiadau trydaneiddio.

TYNNWYD

 

12. Cofrestr risg

Ymunodd Leyton Powell â’r cyfarfod.

Mae datganiadau parodrwydd i dderbyn risg diwygiedig y cytunwyd arnynt ar ddechrau’r flwyddyn wedi cael eu hychwanegu at y system Rheolwr Risg Gweithredol a’u cyfleu i berchnogion risg er mwyn cofnodi’r parodrwydd i dderbyn risg ar gyfer pob risg erbyn diwedd mis Mehefin.

Hysbyswyd y Bwrdd bod Network Rail wedi gofyn am ddatblygu risgiau posibl priodol ar y cyd. Mae cyfres o weithdai adnabod risg wedi’u cynllunio ac rydym yn ymgysylltu â pherchnogion risg TrC er mwyn deall y manteision a’r cyfleoedd.

 

Daeth y Cadeirydd â’r cyfarfod i ben a diolchodd i bawb am eu cyfraniadau.