Trafnidiaeth Cymru Cofnodion Cyfarfod y Bwrdd - 19 Hydref 2023
Cofnodion Bwrdd TrC
19 Hydref 2023
09:30 - 16:00
Lleoliad - Llys Cadwyn
Yn bresennol
Scott Waddington (Cadeirydd), Heather Clash, Nicola Kemmery, Vernon Everitt, Alison Noon-Jones, Sarah Howells, Alun Bowen a James Price.
Hefyd yn bresennol: Peter McDonald (Llywodraeth Cymru), Alan McCarthy (Unite) (eitemau 1-4) a Jeremy Morgan.
Rhan A - Cyfarfod y Bwrdd Llawn
Croesawyd pawb i’r cyfarfod gan y Cadeirydd. Cafodd Julian Edwards ei groesawu gan y Cadeirydd (Cyfarwyddwr Anweithredol Cysylltiol ar Fwrdd Rheilffyrdd TrC) fel sylwedydd i’r cyfarfod.
1a. Ymddiheuriadau am Absenoldeb
Andrew Morgan (Sylwedydd llywodraeth leol).
1b. Hysbysiad ynghylch Cworwm
Gan fod cworwm yn bresennol, croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod a datganodd fod y cyfarfod yn agored.
1c. Datgan Buddiant
Dim.
1d. Cofnodion a Chamau Gweithredu o’r Cyfarfod Blaenorol
Derbyniwyd bod cofnodion cyfarfod Bwrdd TrC ar 21 Medi 2023 yn gofnod gwir a chywir. Nodwyd y log camau gweithredu.
1e. Sylw i Ddiogelwch
Tynnwyd sylw’r Bwrdd at weithredwr trenau treftadaeth a gafodd ei erlyn ar ôl i wirfoddolwr syrthio o ben cerbyd. Cafodd Cwmni Rheilffordd Gwili Cyf ddirwy o £18,000 am dorri rheoliad 6(3) o’r Rheoliadau Gweithio mewn Mannau Uchel, ac roedd felly’n euog o drosedd yn groes i adran 33(1)(c) o’r Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith. Trafododd y Bwrdd yr angen i sicrhau bod tasgau penodol yn cael eu cynllunio, eu rheoli a’u goruchwylio’n briodol.
Cafodd y Bwrdd wybod hefyd am ddigwyddiad difrifol iawn yng nghanol Manceinion pan gafodd person ei ladd ar ôl i fws daro drwy blaen siop. Nododd y Bwrdd pa mor fregus oedd diogelwch bysiau a chafodd wybod bod TrC yn datblygu strategaeth diogelwch ar gyfer bysiau.
lf. Sylw i Gwsmeriaid
Cafodd y Bwrdd wybod am brofiad cwsmer diweddar pan wnaeth ymwelydd a oedd yn defnyddio gwasanaethau TrC glicio'r dyddiad anghywir ar ei e-docyn. Treuliodd y goruchwyliwr lawer iawn o amser gyda'r unigolyn, gan ddarparu gwasanaeth rhagorol.
Bu'r Bwrdd hefyd yn trafod y defnydd o systemau Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid. Dylid ystyried systemau o'r fath fel modd o gyflawni diben ac fel galluogwr yn unig. Yr hyn sy'n bwysig iawn yw pensaern'iaeth sylfaenol system a sut mae'n cael ei defnyddio i wella profiad y cwsmer.
2. Perfformiad diogelwch
Ymunodd Leyton Powell a'r cyfarfod.
Rhoddwyd y wybodaeth ddiweddaraf i'r Bwrdd am y datblygiadau iechyd, diogelwch a llesiant canlynol:
- Mae'r risg o bycsennau (bed bugs) yn cael ei chynnwys mewn trefniadau glanhau trenau.
- Bu cyfarfod diweddar gyda Swyddfa Rheoleiddio'r Rheilffyrdd lie cafodd TrC rai negeseuon cadarnhaol ynghylch yr ymateb i'r hysbysiad gwella. Roedd y Bwrdd yn croesawu'r ffaith bod y Swyddfa Rheoleiddio'r Rheilffyrdd bellach yn gweld TrC fel cwmni sy'n arwain y diwydiant mewn sawl maes, gyda gwybodaeth yn cael ei rhannu a chwmn'iau tren eraill.
- Mae Swyddfa Rheoleiddio'r Rheilffyrdd wedi awdurdodi system rheoli diogelwch Rheilffyrdd TrC dros y pum mlynedd nesaf.
- Y sgor mynegai wedi'i bwysoli ar gyfer marwolaethau a adroddwyd ar y cyd ar gyfer Cyfnod y Rheilffyrdd 06 oedd 0.13, yn is na'r ffigur 0.17 a ragwelwyd. Mae'r cyfartaledd blynyddol sy'n symud o 0.20 yn dal yn uwch na'r hyn a ragwelwyd.
- Mae'r Ti'm Risg a Chydnerthu yng nghamau olaf y trafodaethau gyda'r Coleg Cynllunio at Argyfyngau ynghylch ate bi on 'Rheoli Cymhwysedd'. Y bwriad yw sicrhau bod proffil costio II awn ac achos busnes wedi'i gwblhau ar waith erbyn diwedd mis Hydref 2023. Cafodd y Bwrdd hefyd y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiad cynllunio at argyfyngau mawr a gynhaliwyd ddoe i gynllunio ar gyfer toriad pwer cenedlaethol.
- Mae diogelwch ar draws grwp TrC yn cael ei ganoli gan arwain at arbedion effeithlonrwydd. Roedd y Bwrdd yn awyddus i ddeall gwariant ar ddiogelwch. Mae'r costau rhwng £16m a £17m y flwyddyn a gofynnodd y Bwrdd a oes modd gwneud rhagor o arbedion effeithlonrwydd ac a oes modd cyfuno hyn a diogelu refeniw. [Cam Gweithredu Leyton Powell].
3. Cofrestr risg
TYNNWYD
Mae adolygiad o risgiau yn erbyn datganiadau parodrwydd i dderbyn risg TrC wedi'i gwblhau ac mae'n dangos aliniad cadarnhaol.
Cadarnhawyd y byddai cyllid 2024/25 ar Gofrestr Risg Strategol y mis nesaf.
Gadawodd Leyton Powell y cyfarfod.
4. Diweddariad strategol
4a. Adroddiad y Prif Swyddog Gweithredol
Roedd perfformiad y rheilffyrdd wedi gwella ers y cyfarfod diwethaf ond mae'r gostyngiad mewn boddhad cwsmeriaid wedi bod yn siomedig. Gofynnwyd i Marie Daly ymchwilio i'r mater [Cam Gweithredu Marie Daly].
Roedd ymgysylltu cadarnhaol wedi bod yn ddiweddar â Llywodraeth Cymru, gyda thrafodaethau’n canolbwyntio ar yr angen i uwch dîm TrC ganolbwyntio mwy ar gyflawni a chynorthwyo gyda’r gwaith o lunio polisïau strategol Llywodraeth Cymru. Trafododd y Bwrdd y bwlch sy’n bodoli o ran profiad o ddatblygu polisi yn uwch dîm TrC a phwysleisiodd yr angen i sicrhau eglurder parhaus ynghylch cyfrifoldebau TrC a Llywodraeth Cymru.
Roedd perfformiad y rheilffyrdd wedi parhau i wella dros y cyfnod rheilffordd diwethaf, ond roedd darparu cerbydau yn heriol. Yn benodol, mae problemau llinell y Gororau yn cymryd mwy o amser na’r disgwyl i’w datrys.
Cafodd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am straen o ran capasiti sy’n Depo Caer. Mae cynllun ar waith i dynnu trenau Class 175 allan o wasanaeth a fydd yn caniatáu i CAF ganolbwyntio’n llwyr ar drenau Class 197. Mae gwaith yn mynd rhagddo hefyd i gyflawni defnyddio cerbydau MKIV pump a chwe char. Bydd trafodaethau’n cael eu cynnal gyda DB Cargo i wella’r contract ar gyfer locomotifau MKIV ar gyfer y ddau barti. Mae’r nifer o drenau Class 197 sy’n cael eu dosbarthu wedi gostwng rhywfaint ond mae’n parhau i fod o fewn y cynllun. Mae 32 o’r 77 uned wedi cael eu danfon. Mae’r mater ynghylch teitlau injans ar gyfer trenau Class 197 yn agos at gael ei gwblhau, ond maent yn parhau i fod yn risg nes bydd y mater wedi ei gwblhau.
Hefyd cafodd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am y canlynol:
- Defnyddio’r gwersi a ddysgwyd o fasnachfreinio rheilffyrdd wrth ymdrin â materion bysiau, a sicrhau bod uwch reolwyr yn ymrwymo i dreulio mwy o amser ar fasnachfreinio bysiau.
- Datblygiad parhaus TrC 2.0.
- Adborth cadarnhaol gan Lywodraeth Cymru ar y Prosiect Bullseye i ddiwygio’r amserlen i gyd-fynd â phatrymau a niferoedd teithwyr ar ôl Covid.
- Strategaeth prisiau ac opsiynau ar gyfer y dyfodol.
- Rhaglen Gwelliannau Caerdydd Canolog. Gofynnodd y Bwrdd am ddiweddariad ar gyfer y cyfarfod nesaf [Cam Gweithredu Alexia Course] ac ymarfer gwersi a ddysgwyd wedi’i oruchwylio gan y Pwyllgor Prosiectau Mawr.
Gadawodd Alan McCarthy y cyfarfod.
4b. Cyllid a llywodraethu
Nododd y Bwrdd y cyfrifon rheoli ar gyfer mis Medi 2023 a chawsant y wybodaeth ddiweddaraf am y canlynol:
- Roedd gwariant refeniw yn ystod y mis yn ôl y trefniant yn gyffredinol, ac roedd unrhyw newidiadau’n ganlyniad i gyflwyno gwariant fesul cam. Roedd tanwariant o ran gwariant cyfalaf o ganlyniad i gyflwyno gwariant fesul cam.
- Roedd y gwaith o gytuno ar gyllideb 2024/25 gyda Llywodraeth Cymru wedi dechrau, gan ganolbwyntio ar sicrhau arbedion o 5% o 2023/24 ar gyfer staffio heb adnoddau mewn gwasanaethau canolog.
- Bydd gofyn i’r Bwrdd adolygu’r Erthyglau Cymdeithasu diwygiedig a’r Ddogfen Fframwaith newydd y cytunwyd arnynt gyda Llywodraeth Cymru.
- Cymeradwyodd y Bwrdd y Strategaeth Gwrth-dwyll, y cynllun gweithredu a’r cynllun dysgu a datblygu sy’n cwmpasu grŵp cyfan TrC, polisi gwrth-dwyll newydd sy’n ymdrin â thwyll, chwythu’r chwiban, gwrthdaro rhwng buddiannau, rhoddion, lletygarwch a fframwaith ymchwilio.
- Mae Llywodraeth y DU wedi rhoi’r gorau i’r diwygiadau arfaethedig i Lywodraethu Corfforaethol y DU.
- Bydd system gyllid Rheilffyrdd TrC yn cyrraedd diwedd ei hoes yn 2027/2028 gyda chynlluniau’n cael eu gwneud ar gyfer system newydd. Amcangyfrifir y bydd y gost oddeutu £1.5 miliwn.
- Dal i aros am gymeradwyaeth gan Lywodraeth Cymru ynghylch ffeibr ar Linellau Craidd y Cymoedd. Gofynnodd y Bwrdd am y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch a oes cynnydd wedi'i wneud o ran dod o hyd i unigolyn i arwain y gwaith [Cam Gweithredu Heather Clash].
Rhan B - Sesiwn diweddariad gweithredol
Ymunodd Marie Daley a'r cyfarfod
5. Cynllun Busnes a Dangosyddion Perfformiad Allweddol
Ymunodd Zoe Smith-Doe a'r cyfarfod i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Bwrdd am gyflawni yn erbyn cerrig milltir y Cynllun Busnes. Ar hyn o bryd, mae ychydig o dan 10% o gerrig milltir mewn perygl o beidio a chael eu cyflawni yn ystod y flwyddyn ariannol hon. Nododd y Bwrdd y diweddariad a dywedodd fod y fframwaith ar gyfer adrodd yn gwella.
Nododd y Bwrdd yr adroddiad DPA corfforaethol chwarterol, gan nodi bod data sylfaenol yn dal i gael eu casglu ar gyfer nifer o'r dangosyddion.
Gadawodd Zoe Smith-Doe y cyfarfod.
6. Swyddfeydd tocynnau
Ystyriodd y Bwrdd bapur i adolygu a rhoi newidiadau ar waith yn 42 swyddfa docynnau rheilffordd TrC a saith swyddfa docynnau asiant. TYNNWYD. Roedd y Bwrdd hefyd wedi cymeradwyo gweithredu unrhyw newidiadau yn dilyn hynny ar sail datblygiad cadarn pob opsiwn a rhagolygon unigol ar gyfer newid. Mae hyn yn cynnwys dechrau ymgynghori a phartneriaid yn yr Undeb a chydweithwyr yn TrC i adeiladu atebion fesul gorsaf o'r gwaelod i fyny. Nododd y Bwrdd mai dim ond mandad i ddechrau trafodaethau gyda'r Undebau fyddai cymeradwyo'r cynnig.
Croesawodd y Bwrdd y cyfle clir i greu swyddfa docynnau sy'n unigryw ond yn briodol Gymreig, sy'n cyd-fynd ag ethos y bartneriaeth gymdeithasol, sy'n darparu profiad i gwsmeriaid y gall TrC fod yn falch ohono, ac sy'n sicrhau elw masnachol yn yr hinsawdd ariannol bresennol.
Pwysleisiodd y Bwrdd yr angen i ddysgu gwersi o ymarfer diweddar y Grwp Cyflawni Rheilffyrdd yn y swyddfa docynnau yn Lloegr, a bod nod y cynnig yn ymwneud a chynyddu refeniw a pheidio a thorri costau na swyddi.
7. Diweddariad ar Linellau Craidd y Cymoedd
Cafodd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y prif feysydd datblygu yn rhaglen Trawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd:
- Costau rhaglenni ac effeithiau chwyddiant.
- Monitro a llywodraethu.
- Comisiynu Merthyr ac Aberdar wedi'i gwblhau.
- Bod materion yn cael eu rheoli ynghylch mynediad i'r gwasanaeth, gyda thrafodaethau parhaus gydag AIW.
TYNNWYD
8. TrC 2.0
Cafodd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am gynllun gwaith sydd wedi'i ddylunio i weithredu fel pwynt ffocws ar gyfer rheoli y newid busnes sy'n ofynnol ar gyfer datblygu "TrC 2.0". Mae'r cynllun yn alinio mentrau newid sefydliadol mawr presennol tuag at ddiben cyffredin, ac yn mynd i'r afael a'r bylchau o ran parodrwydd busnes ar gyfer masnachfreinio bysiau. Cynnig i symud hyn i'r busnes drwy weithredu dull ffrwd waith.
Nododd y Bwrdd y cynllun a diddordeb y Dirprwy Weinidog yn y rhaglen hon. Nododd y Bwrdd hefyd bod diffyg cysoni telerau ac amodau ar draws grwp cwmn'iau TrC yn rhwystr posibl i weithio ar draws dulliau teithio.
12. ls-bwyllgorau
Roedd cyfarfod diweddar y Pwyllgor Prosiectau Mawr yn ystyried masnachfreinio bysiau, Cyfnewidfa Caerdydd, Cross Rail Caerdydd, a cherbydau rheilffyrdd.
Cafodd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am gyfarfod pwyllgor lechyd, Diogelwch a Lies mis Medi a oedd yn canolbwyntio ar gynnydd yn erbyn cynlluniau a phrosiectau, atal hunanladdiad, gwasanaethau cymorth iechyd galwedigaethol, paratoi ar gyfer y gaeaf a rheoli llystyfiant, ac ymddygiad cwsmeriaid gan gynnwys llithro, baglu a syrthio.
Ystyriodd y Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg diweddar y materion hyn: rheoli contractau, rheolaethau mewnol, archwilio mewnol a gwrth-dwyll.
Canolbwyntiodd y Pwyllgor Pobl ar TrC 2.0, y Cynllun Pobl drafft, gwrth-hiliaeth, dangosyddion perfformiad allweddol integredig; diffinio amcanion clyfar; a'r prosiect alinio gwobrau.
13 ls-fyrddau
Cafodd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am gyfarfodydd bwrdd diweddar Pullman a Rheilffyrdd TrC.
14. Y Bwrdd Llywio
Roedd cyfarfod diweddar y Bwrdd Llywio wedi ystyried cyfarfodydd gyda'r Dirprwy Weinidog, trawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd, cyllideb 2024/25 TrC, cytundeb fframwaith Llywodraeth Cymru / TrC, adroddiad y Prif Swyddog Gweithredol, yr adroddiad risg a dangosyddion perfformiad allweddol.
15. Sesiwn gyfrinachol
Cafodd y Bwrdd sesiwn gyfrinachol.
Daeth y Cadeirydd a'r cyfarfod i ben a diolchodd i bawb am eu cyfraniadau.