Trafnidiaeth Cymru Cofnodion Cyfarfod y Bwrdd - 19 Ionawr 2023

Submitted by Content Publisher on

Cofnodion Bwrdd TrC

19 Ionawr 2023

09:30 - 17:00

Lleoliad - Llys Cadwyn

 

Yn bresennol

Scott Waddington (Cadeirydd), Alun Bowen, Heather Clash, Nicola Kemmery, Vernon Everitt, Alison Noon-Jones, Sarah Howells a James Price.

Hefyd yn bresennol: Jeremy Morgan; Leyton Powell (eitem 2); a Natalie Feely (eitemau 1 i 3).

 

Rhan A - Cyfarfod o’r Bwrdd Llawn

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

 

1a. Ymddiheuriadau am Absenoldeb

Dim.

 

1b. Hysbysiad ynghylch Cworwm

Gan fod cworwm yn bresennol, croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod a datganodd fod y cyfarfod yn agored.

 

1c. Datgan Buddiannau

Dim. 

 

1d. Cofnodion a Chamau Gweithredu o’r Cyfarfod Blaenorol

Derbyniwyd bod cofnodion cyfarfod Bwrdd TrC ar 15 Rhagfyr 2022 yn gofnod gwir a chywir. Nodwyd y log camau gweithredu.

 

1e. Sylw i Ddiogelwch

Ystyriodd y Bwrdd dribiwnlys cyflogaeth diweddar ynghylch unigolyn yn gweithio gartref gydag anabledd. Gofynnwyd i’r unigolyn ddod i nôl cadair o swyddfa ond nid oedd yn gallu gwneud hynny oherwydd ei fod yn gwarchod. Gadawyd yr unigolyn heb yr offer priodol a gadawodd y sefydliad dan sylw. Aeth y mater i dribiwnlys ac enillodd yr unigolyn. Atgoffwyd y Bwrdd o’r angen am ddyletswydd gofal i bobl sy’n gweithio gartref ac nad ydynt yn gallu mynychu gweithle.

 

1f. Sylw i Gwsmeriaid

Trafododd y Bwrdd gyhoeddiadau ynghylch ad-daliad am oedi ar drenau a’r angen am eglurder ynghylch y system, a’r cymorth sydd ar gael i ddelio â hawliadau. 

 

2. Perfformiad diogelwch

Ymunodd Leyton Powell â’r cyfarfod.

Rhedodd Ymgyrch Genesis drwy gydol mis Rhagfyr ar y cyd â’r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig a phartneriaid eraill, gyda’r nod o ddarparu gwell presenoldeb Diogelwch a Phlismona ar y rhwydwaith i fynd i’r afael â’r cynnydd mewn digwyddiadau sy’n ymwneud ag alcohol a’r economi yn ystod y nos. Yn ystod yr ymgyrch, cafodd 614 o bobl eu hatal rhag teithio ar wasanaethau TrC oherwydd ymddygiad afreolus. Cafodd teithwyr agored i niwed eu diogelu drwy weithio mewn partneriaeth â’r Heddlu a’r gwasanaeth Ambiwlans mewn “mannau diogel” dynodedig.

Mae’r bartneriaeth gyda School of Hard Knocks yn Ysgol Idris Davies yn Rhymni wedi cael ei hadnewyddu am ddwy flynedd arall. Dechreuodd y prosiect oherwydd cynnydd yn yr ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n gysylltiedig â phobl ifanc ar linell Rhymni. Ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf roedd gostyngiad o 40% mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol ar y llinell. Mae gwaith yn mynd rhagddo i integreiddio profiad gwaith yn y rhaglen.

Arweiniodd cynghorwyr cyfreithiol TrC gyfres o ffug gyfweliadau PACE / ffug dreialon ym mis Rhagfyr i sicrhau bod staff yn cael cymorth llawn wrth amddiffyn hawliadau.

Roedd y tîm Diogelwch a Chadernid Gweithredol wedi cyfarfod â Transport for Greater Manchester ynghylch eu partneriaeth “Travel Safe” lwyddiannus gyda’r Heddlu a gwasanaethau eraill. Mae’r cynllun yn canolbwyntio ar dargedu ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddu ar y rhwydwaith drwy gymysgedd o orfodaeth ac ymgysylltu ehangach â’r gymuned. Dywedwyd bod y drafodaeth yn gydweithredol ac yn fuddiol. 

Cafodd y Bwrdd wybod am achos diweddar o ddwyn ceblau ar Linellau Craidd y Cymoedd, lle roedd 42 metr o gebl foltedd uchel wedi’i dorri a’i ddwyn yn ardal Radur. Mae’r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig yn cynnal ymchwiliad llawn i’r digwyddiad ac mae Fforwm Diogelwch dan gadeiryddiaeth TrC yn edrych ar ragor o fesurau lliniaru i atal digwyddiadau yn y dyfodol. Mae patrolau diogelwch a’r Heddlu yn parhau ar hyd y llwybr, gan archwilio gatiau mynediad a lleoliadau lle mae asedau uchel eu gwerth yn cael eu storio.

Mae perfformiad diogelwch y rheilffyrdd yn erbyn targedau yn parhau i wella’n gyson ar draws y rhan fwyaf o’r dangosyddion perfformiad allweddol. Cynyddodd mynegai marwolaethau wedi’i bwysoli y gweithlu yn sylweddol gyda chynnydd sydyn yng nghyfnod 9 i 0.27. Fodd bynnag, roedd y cyfartaledd blynyddol newidiol yn 0.06, sy’n is na’r ffigur a ragwelwyd sef 0.07. Achoswyd y cynnydd sydyn hwn yn ystod y cyfnod gan ddau aelod o’r gweithlu yn Nhreganna yn torri eu ffêr ar ôl cwympo ar wahân. 

Cafodd deg ymosodiad corfforol eu hadrodd yn ystod y cyfnod, yn bennaf oherwydd bod chwe aelod o staff diogelwch yr orsaf wedi dioddef ymosodiad corfforol ac wedi’u niweidio gan grŵp o gefnogwyr pêl-droed meddw yng Nghaer. Roedd camerâu corff naill eu heb eu gwisgo neu heb eu troi ymlaen, ac mae teledu cylch cyfyng yr orsaf yn cael ei adolygu i ddod o hyd i dystiolaeth o’r digwyddiad. 

Cofnodwyd un SPAD yn ystod y cyfnod yn dilyn problemau signalau rhwng Crewe a Sandbach. Mae ymchwiliad yn mynd rhagddo.

Gadawodd Leyton Powell y cyfarfod.

 

3. Diweddariad strategol

3a. Adroddiad y Prif Swyddog Gweithredol

Croesawodd y Bwrdd y cyhoeddiad “ffyniant bro” diweddar gan Lywodraeth y DU ynghylch cyllid ar gyfer Crossrail Caerdydd a llwybrau beicio a cherdded yng Ngwynedd, Dyffryn Conwy a Chaergybi.

Cafodd y Bwrdd ei friffio ar y prif ddatblygiadau a chyflawniadau yn ystod y mis diwethaf. Roedd hyn yn cynnwys canolbwyntio gweithgareddau ar gynyddu gallu TrC i feddwl mewn ffordd sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar draws nifer o ddulliau teithio, gyda her a chyfle penodol ar fasnachfreinio bysiau a sicrhau bod gwersi’n cael eu dysgu o brofiadau diweddar mewn perthynas â rheilffyrdd.

Trafododd y Bwrdd yr her i sicrhau dull gweithredu cydgysylltiedig rhwng timau adeiladu, datblygu cynlluniau a gweithredol i fwydo syniadau a heriau i gynlluniau yn y dyfodol, gyda’r nod o leihau costau datblygu cynlluniau gan arwain at gynigion mwy cadarn a lleihau’r ddibyniaeth ar ymgynghorwyr.

Darparwyd diweddariad ar ddangosyddion perfformiad allweddol y rheilffyrdd. Nododd y Bwrdd fod rhai targedau’n cael eu hadolygu ar hyn o bryd. Pwysleisiodd y Bwrdd yr angen i sicrhau bod targedau’n realistig ac yn gyraeddadwy, ac nad yw tangyflawni’n effeithio ar forâl staff.

TYNNWYD

Mae cynlluniau ar gyfer symud i system masnachfraint ar gyfer bysiau yn parhau i ddatblygu, ar yr amod bod deddfwriaeth yn cael ei phasio. Nododd y Bwrdd y disgwyliad y dylai hyn arwain at gylch gwaith mwy strategol sy’n canolbwyntio mwy ar ganlyniadau, ond y gallai olygu nifer o heriau cyllidebol anodd. Un ffactor allweddol a fydd yn cyfrannu at lwyddiant fydd cofleidio’r model gweithredu newydd yn llawn a sicrhau bod gan y tîm cyflawni yr adnoddau priodol.

Roedd perfformiad y rheilffyrdd dros gyfnod y Nadolig yn well na’r disgwyl gyda’r ffigurau presennol yn dangos bod targedau PTL wedi’u cyflawni ar gyfer Llinellau Craidd y Cymoedd, ond wedi’u methu ar gyfer Cymru a’r Gororau. Atgoffwyd y Bwrdd o’r heriau o ran dibynadwyedd ac argaeledd ar gyfer y Cl175 a’r MkIV, a’r problemau sy’n ymwneud â dydd Sul yn ystod yr wythnos waith.

Croesawodd y Bwrdd y gwaith sylweddol a gwblhawyd ar Drawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd dros gyfnod y Nadolig yn ystod ychydig o wythnosau gwlyb iawn.

TYNNWYD

Mae gwaith yn parhau i ddiwygio dull gweithredu strategol TrC ar gyfer Teithio Llesol. Caiff diweddariad manylach ei gyflwyno yn nes ymlaen yn y cyfarfod. 

Hefyd cafodd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am y canlynol:

  • Newid ymddygiad
  • Trafodaethau ar gefnffyrdd
  • Ap a gwefan TrC
  • Prosiect peilot Talu wrth Fynd
  • Gwasanaethau bws yn lie trenau
  • Dyfarniad Cyflog TrC. Diolchwyd i'r timau a gyfrannodd at ddod a hyn i ben.

 

3b. Cyllid a llywodraethu

Cafodd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am weithgareddau cyllid a llywodraethu allweddol. Mae ffocws penodol wedi bod ar gynllunio ar gyfer diwedd y flwyddyn ariannol 2022-23.

TYNNWYD

Hefyd cafodd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am y canlynol:

  • TYNNWYD
  • Datblygwyd fersiwn gyntaf cyllideb 2023-24 gyda Llywodraeth Cymru a Bwrdd TrC ym mis Rhagfyr, gydag adolygiad manwl ac adeiladol ar y cyd yn cael ei gynnal gyda Llywodraeth Cymru ar 12 lonawr. Gwnaed yr ail fersiwn ar gael i'r Bwrdd a bydd yn cael ei rannu a Llywodraeth Cymru yn barod ar gyfer cyfarfod ar 2 Chwefror. Rhagwelir y gofynnir i'r Bwrdd gymeradwyo'r trydydd fersiwn. TYNNWYD
  • Bydd drafft cyntaf y Cynllun Busnes yn cael ei ran nu a Llywodraeth Cymru i gael sylwadau erbyn diwedd mis lonawr gyda'r bwriad o'i gwblhau erbyn diwedd mis Chwefror, gan gynnwys ei gyflwyno i'r Bwrdd yn yr un mis.
  • Gwrthododd swyddogion gweithredol Undebau Llafur gynnig prisio pensiynau 2019 gan y Grwp Cyflawni Rheilffyrdd, gan nodi bod yr enillion a'r cwmpas wedi gwella ers y prisiad 

TYNNWYD

Nododd y Bwrdd gyfrifon rheoli mis Rhagfyr 2022.

Gadawodd Natalie Feeley y cyfarfod.

 

4. ls-bwyllgorau

Cafodd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am gyfarfod diweddar y Pwyllgor Pobl, lie roedd agenda lawn ac ystyrlon ac a oedd yn cynnwys eitemau ar Gylch Gorchwyl y Pwyllgor Pensiynau; newidiadau i'r Model Gweithredu Targed; cynnydd yn erbyn cerrig milltir, diweddariad ar recriwtio, prosiectau allweddol, adolygiad o absenoldeb a salwch, a darpariaeth iechyd galwedigaethol.

 

5. Network Rail

Ymunodd Michelle Handforth, Nick Millington (y ddau o Network Rail), Jan Chaudhry Van der Velde ac Alexia Course â’r cyfarfod.

Soniodd Network Rail am y berthynas waith adeiladol rhwng TrC a Network Rail dros y 12 mis diwethaf, gan gynnwys cynnydd da o ran datblygu glasbrint ar gyfer partneriaeth rhwng y ddau sefydliad yng Nghymru.

Cafodd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am y canlynol:

  • adolygiad trylwyr diweddar o dîm Network Rail yng Nghymru a’r cynllun ar gyfer y pum mlynedd nesaf;
  • cynnydd o ran ôl-groniad draeniau a choed wedi’u heintio;
  • liferi gwerth i helpu Network Rail i ddarparu gwell rheilffordd yng Nghymru;
  • dibynnu ar y tywydd, delio â choed a llystyfiant wedi’u heintio;
  • mesurau i leihau cyfyngiadau cyflymder dros dro;
  • ail-signalu Port Talbot;
  • gweithrediadau yn ystod streiciau;
  • rhyngweithio â depos TrC.

Croesawodd y Bwrdd bresenoldeb Network Rail yn y cyfarfod a gwerthfawrogodd yn arbennig y gwaith sy’n cael ei wneud i ddatblygu dull gweithredu un tîm o ran trefniadau gweithredol a chefnogi cyflwyniad Cyfnod Rheoli 7 Network Rail.

 

Rhan B - Sesiwn diweddariad gweithredol

Ymunodd Lewis Brencher a Dan Tipper â’r cyfarfod.

 

5. Cynllunio busnes a chyllidebau

Ymunodd Peter McDonald (Llywodraeth Cymru) â’r cyfarfod.

TYNNWYD

Gadawodd Peter McDonald y cyfarfod.

 

6. Cynllun busnes

Ymunodd Zoe Smith-Doe â’r cyfarfod. Nododd y Bwrdd ddiweddariad ar ddatblygu Cynllun Busnes 2023/24. Nododd y Bwrdd y pwyslais ar gysylltu gweithgareddau â’r pum ffordd o weithio, digidol, teithio llesol a newid ymddygiad.

Gadawodd Zoe Smith-Doe y cyfarfod.

 

7. Cynnig Pullman ar gyfer caffael tir

Ymunodd Owen Davies â'r cyfarfod.

TYNNWYD

Gadawodd Owen Davies y cyfarfod. Ymunodd Geoff Ogden â’r cyfarfod.

 

8. Diweddariad ar Linellau Craidd y Cymoedd

Cafodd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd o ran Trawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd. Roedd cyfnod da o gyflawni dros gyfnod y Nadolig, yn enwedig o ran gosod cyfarpar llinellau uwchben.

TYNNWYD

Cafodd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am ddatrys y broblem pŵer y Ganolfan Rheoli Gwybodaeth, dylunio perfformiad, a chynnal pwysigrwydd diogelwch.

 

9. Cofrestr risg

Ymunodd Leyton Powell â’r cyfarfod.

Nododd y Bwrdd fod y dadansoddiad o’r bwlch rheoli risg yn Pullman Rail wedi’i gwblhau a’i fod wedi’i rannu â chydweithwyr yn Pullman Rail i’w adolygu ac i gytuno ar gamau gweithredu, amserlenni a pherchnogion.

Nododd y Bwrdd hefyd fod dau fater ac 11 risg sy’n ymwneud â’r Tîm Arwain Gweithredol / Bwrdd, a bod un ohonynt wedi cael ei isgyfeirio.

Gadawodd Leyton Powell, Lewis Brencher a Dan Tipper y cyfarfod.

 

10. Teithio Llesol

Cafodd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am berfformiad awdurdodau lleol sy’n cael cyllid drwy Raglen y Gronfa Teithio Llesol, sy’n cael ei rheoli gan TrC ar ran Llywodraeth Cymru. Hysbyswyd y Bwrdd bod lefel debyg o danwariant canrannol ar hyn o bryd gan awdurdodau lleol ag a oedd wedi digwydd yn 2021/22, a fyddai’n arwain at danwariant o tua £7m. Fodd bynnag, ym mis Rhagfyr, ysgrifennodd Llywodraeth Cymru at awdurdodau lleol yn gofyn iddynt nodi, erbyn 31 Rhagfyr 2022, a oedd unrhyw ostyngiad mewn gwariant yn debygol yn ystod y flwyddyn ariannol hon. Dim ond un awdurdod lleol sydd wedi lleihau ei ddyraniad cyllid yn ffurfiol hyd yma, gyda phob awdurdod lleol arall, cyn hawliadau chwarter tri, yn adrodd eu bod yn disgwyl gwariant llawn.

Hysbyswyd y Bwrdd bod TrC wedi datblygu opsiynau ar gyfer defnydd amgen o gyllid gwerth tua £8.5m rhag ofn y bydd y tanwariant terfynol yn fwy na’r £7m posibl a nodwyd uchod, ond na fyddai’r opsiynau terfynol a ddefnyddir yn fwy na dyraniad y Gronfa Teithio Llesol. Mae’r cynigion yn cynnwys amrywiaeth o fesurau ar gyfer cyflawni yn 2022/23 gydag un yn gofyn am ymrwymiad cyllid gan Lywodraeth Cymru yn 2023/24. Gofynnir am gymeradwyaeth Llywodraeth Cymru i drosglwyddo cyllid erbyn diwedd mis Ionawr.

 

11. Diweddariad ar yr is-gwmni

Cafodd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am gyfarfod diweddar Bwrdd Rheilffyrdd TrC Cyf.

 

12. Y Bwrdd Llywio

Cafodd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am gyfarfod diweddar Bwrdd Llywio TrC.

 

13. Eitem gyfrinachol

TYNNWYD

 

Daeth y Cadeirydd â’r cyfarfod i ben a diolchodd i bawb am eu cyfraniadau.