Trafnidiaeth Cymru Cofnodion Cyfarfod y Bwrdd - 19 Tachwedd 2020

Submitted by positiveUser on

Cofnodion Bwrdd TrC Tachwedd 2020

10:00 – 16:30; 19 Tachwedd 2020

Yn bresennol

Scott Waddington (SW) (Cadeirydd); James Price (JP); Heather Clash (HC); Sarah Howells (SH); Nicola Kemmery (NK); Alison Noon-Jones (ANJ); Vernon Everitt (VE); Alun Bowen (AB); Natalie Feeley (eitemau 1-3); Gareth Morgan (eitemau 2b-2c) a Jeremy Morgan (Ysgrifenyddiaeth).

Sesiwn diweddariad gweithredol (Rhan B): Geoff Ogden (GO); David O’Leary (DOL); Lewis Brencher (LB); Alexia Course (AC); Karl Gilmore (KG); Gareth Morgan (GM) Dave Williams (DW); Clare Cameron (CC) (Eitem 5a); a Natalie Rees (NR) (eitem 5e).

 

Rhan A – Cyfarfod o’r Bwrdd Llawn

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod ac ar ran y Bwrdd diolchodd i’r tîm am eu gwaith caled dros y mis diwethaf, yn enwedig i gefnogi a gyrru Rhaglen Dyfodol y Rheilffyrdd yn ei blaen.

1a. Ymddiheuriadau am Absenoldeb

Lee Robinson (LR); a Lisa Yates (LY) (y ddau yn Rhan B)

1b. Hysbysiad ynghylch Cworwm

Gan fod cworwm yn bresennol, rhoddodd y Cadeirydd groeso i bawb i’r cyfarfod a datgan bod y cyfarfod ar agor.

1c. Gwrthdaro rhwng Buddiannau

Ni ddatganwyd unrhyw achos o wrthdaro rhwng buddiannau.

1d. Cofnodion a Chamau Gweithredu o’r Cyfarfod Blaenorol

Cytunwyd bod cofnodion cyfarfod y Bwrdd o 15 Hydref yn gofnod cywir a dilys yn amodol ar wneud mân newidiadau. Trafododd y Bwrdd gynnydd yn erbyn y camau gweithredu nad oeddent wedi’u cwblhau.

2a. Sylw i Ddiogelwch

Cynhelir sesiynau briffio i staff ar ffurf mesurau diogelwch yr wythnos nesaf yn seiliedig ar y gwersi a ddysgwyd o ddigwyddiad Margam.

2b. Sylw i Gwsmeriaid

Ymdriniwyd â phroblem gyda theiars fflat drwy drefnu bod y cwmni yn ymweld â’r cartref i edrych ar y broblem, tynnu lluniau a mynd â’r teiars diffygiol at y gwneuthurwr, a gosod teiars newydd yn eu lle. Dangosodd y cwmni wasanaeth cwsmeriaid y tu hwnt i’r hyn roeddem yn ei ddisgwyl, a byddem yn eu defnyddio eto. Mae gwasanaeth ardderchog yn aml iawn yn arwain at deyrngarwch.

2c. Perfformiad diogelwch

Mae’r swyddfa newydd ym Mhontypridd bellach ym meddiant TrC, a rhoddwyd ystyriaeth briodol i fesurau rheoli COVID-19 cyn i neb symud i mewn. Mae gwaith yn mynd rhagddo gyda’r tîm Rheoli Cyfleusterau i sicrhau bod mesurau digonol ar waith. Cynhaliwyd asesiadau risg gan lond llaw o staff sy’n dal i ddymuno gweithio yn Nhŷ South Gate a Threfforest. Bwriedir cynnal rhagor o ‘wiriadau’ ac asesiadau risg personol gyda rheolwyr llinell ym mis Tachwedd er mwyn sicrhau llesiant a threfniadau gweithio gartref y staff.

Mae gweithdy peryglon wedi’i drefnu ar gyfer mis Tachwedd yn seiliedig ar weithrediad Cyfnewidfa Bws Caerdydd, ac fe fydd yn cynnwys y gyrwyr bysiau. Nid oedd unrhyw achosion o Basio Signal yn Beryglus (SPAD), damweiniau na digwyddiadau i’w hadrodd i RIDDOR yng Nghyfnod 7.

Cafwyd trafodaeth ynglŷn â gwahardd alcohol ar drenau, ond mae problemau ynghylch yr amser y bydd yn ei gymryd i roi’r is-ddeddfau angenrheidiol ar waith. Mae lefel cydymffurfio â gwisgo gorchudd wyneb wedi codi i 97% ac mae pobl nad ydynt yn gwisgo un yn cael eu herio.

Mae tuedd ar i lawr mewn digwyddiadau sy’n ymwneud â chroesfannau rheilffyrdd a throseddau ar y llwybrau, ond mae problemau o hyd ac mae’r rheiny'n cael eu rheoli. Mynegwyd pryder ynghylch digwyddiad ar groesfan Portobello (Ffynnon Taf) a godwyd yng nghyfarfod y bwrdd ym mis Hydref, ond nid oedd camau wedi’u cymryd i asesu’r risgiau. Cytunodd y Bwrdd bod angen cymryd camau brys i asesu’r risgiau ac i gymryd unrhyw gamau priodol angenrheidiol, a bydd diweddariad fel rhan o adroddiad diogelwch y mis nesaf [Gweithredu GM].

Trafododd y Bwrdd yr egwyddor ehangach o ran adegau pan nad oedd wedi derbyn ymateb ac roedd wedi gofyn am ymatebion ysgrifenedig i esbonio pam na chafwyd ymateb. Gofynnodd y Bwrdd hefyd i is-bwyllgor Iechyd a Diogelwch mis Rhagfyr ystyried sut mae trefniadau diogelwch yn cael eu cynnwys yng ngweithrediadau Rheilffyrdd TrC Cyf.

Gyda threfniadau gweithio gartref yn cael eu hymestyn, cynhaliwyd adolygiad o drefniadau personol y staff er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol TrC. Canfu’r adolygiad fod TrC yn cydymffurfio ac mae’r cymorth sy’n cael ei gynnig i staff wedi mynd ymhell y tu hwnt i’r hyn sy’n ofynnol. Pwysleisiodd y Bwrdd yr angen i sicrhau bod staff yn cadw mewn cysylltiad. Mae’r Bwrdd hefyd wedi tynnu sylw at y ffaith fod angen sicrhau bod yr offer a gymerir o’r swyddfa ar gyfer gweithio gartref yn bodloni’r rheoliadau angenrheidiol ar gyfer gweithio gartref [Gweithredu – GM].

3a. Adroddiad y Prif Swyddog Gweithredol

Rhoddwyd yr wybodaeth ddiweddaraf i’r Bwrdd ynghylch barn JP am y busnes dros y mis diwethaf. Mae llawer iawn o waith wedi cael ei wneud ar raglen Dyfodol y Rheilffyrdd mewn perthynas ag adnewyddu’r contract seilwaith, rhoi Rheilffyrdd TrC Cyf. ar waith, y fenter arfaethedig ar y cyd â Keolis Amey, a datblygu’r weithred derfynu.

Mae’r gwaith o adnewyddu’r contract seilwaith yn mynd rhagddo’n dda ac ni nodwyd unrhyw faterion masnachol o bwys eto. Mae'r gwaith o roi Rheilffyrdd TrC Cyf ar waith hefyd yn mynd rhagddo’n dda. Fodd bynnag, os bydd angen IMLR, byddai hyn yn fwy anodd gan y byddai’n cael ei weithredu gan y tîm sy’n gweithio ar adnewyddu’r contract seilwaith ar hyn o bryd, ac fe fyddai’n arwain at broblemau o ran capasiti. Mae gwaith yn mynd rhagddo hefyd i ddatblygu’r fenter ar y cyd, a bydd angen gwneud mwy o waith i ddiffinio beth yn union yw ei rôl a chylch gwaith.

Mae cynnydd hefyd yn cael ei wneud ar lunio drafft a chytuno ar y Weithred Derfynu.

Bydd Rheilffyrdd TrC Cyf angen cael ei Fwrdd ei hun at ddibenion gweinyddol, a bydd tri opsiwn yn cael eu cyflwyno yn nes ymlaen yn y cyfarfod. Cafwyd trafodaeth ar gynnwys yr Undeb mewn perthynas â’r Bwrdd hwn a Bwrdd arfaethedig Rheilffyrdd TrC Cyf. Cytunwyd bod angen cyfarfod gyda’r Undebau i sicrhau eglurder mewn perthynas â'r dull gweithredu strategol [Gweithredu - JP].

Cafodd y Bwrdd wybod fod Gwasanaethau Rheilffyrdd TrC wedi gwneud newidiadau i’r Uwch Dîm Rheoli drwy benodi Brif Swyddog Gweithredu dros dro tan fis Mehefin 2021 a yn Gyfarwyddwr Symudiadau, ac ar hyn o bryd mae’n gweithio’n rhan amser i TrC. Mae ymarfer i ddod o hyd i Reolwr Gyfarwyddwr ar gyfer Rheilffyrdd TrC Cyf wedi dechrau. Rôl newydd ydy hon, ac ni fydd yn cymryd lle unrhyw un. Mae gwaith ar y gweill hefyd i bennu trefniadau rheoli gweithredol TrC o dan y trefniadau newydd a fydd wedi’u seilio mwy ar arddull rheoli matrics, gan y bydd rhai gweithgareddau’n cael eu codi o’r ODP a’u hychwanegu ar lefel y grŵp. Mae rhinweddau sefydlu Grŵp Integreiddio hefyd yn cael eu hystyried. Bydd y grŵp arfaethedig yn edrych ar sut mae’r systemau ar y rhwydwaith yn cyd-fynd â’i gilydd, gan gynnwys rhaglenni hyfforddi gyrwyr, seilwaith a cherbydau.

Gofynnodd y Bwrdd i ddiweddariad ar weithgareddau’n ymwneud â bysiau gael ei gyflwyno ym mhob cyfarfod yn y dyfodol [Gweithredu LR].

Gofynnodd cynrychiolydd yr Undebau Llafur i’r Bwrdd ystyried cryfhau cysylltiadau’r Undeb a rhoi trefniadau cydfargeinio ar waith.

3b. Cyllid

Mae’r swyddogaeth Gyllid yn parhau i ganolbwyntio ar y cynllunio a’r mesurau brys sy’n ymwneud â threnau a bysiau. Mae’r gweithgarwch hwn wedi cael effaith sylweddol ar adnoddau ariannol. Mae gweithgareddau caffael ar y gweill ar gyfer prisio asedau Llinellau Craidd y Cymoedd. Cwblhawyd adolygu tendrau cyflenwyr a’r bwriad yw hysbysu’r cyflenwr llwyddiannus maes o law. Bydd hyn yn sicrhau y bydd y gwaith yn dechrau ym mis Rhagfyr 2020.

Mae hawliadau i adennill TAW ar wariant rhaglen asedau Llinellau Craidd y Cymoedd yn parhau drwy archwiliad CThEM gyda’r gofyniad diweddaraf i gynnwys golwg fanwl o’r holl brosiectau a gwariant; tra bo Adran 33E wedi’i mabwysiadu, bydd newidiadau ar gyfer cyrff Adran 41 yn golygu bod modd adennill yr holl TAW. Mae trafodaeth ar y gweill gyda CThEM ynghylch cyrff Adran 33E ac os oes gwahaniaeth, fe allai effeithio ar werth am arian a chynlluniau i Lywodraeth Cymru drosglwyddo gweithgarwch i TrC. Holodd y Bwrdd beth yw safbwynt Highways England a Network Rail yn hyn o beth [Gweithredu HC].

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi sêl ei bendith i agor y Cynllun Pensiwn Rheilffyrdd i bedwar unigolyn sy’n trosglwyddo o’r ODP sy’n eu halinio â’u trefniadau presennol.

Mae’r broses o symud i Reilffyrdd Trc Cyf yn mynd rhagddi gyda chynllun gweithredu cyllid. Fel rhan o’r gwaith hwn, mae llawer o ffocws ar adnewyddu/ymddiogelu prisiau tanwydd yn y dyfodol; goblygiadau treth i Reilffyrdd TrC Cyf a threfniadau contract; setliad asedau net; diwydrwydd dyladwy asedau sefydlog a gweithgareddau symud allweddol eraill fel bancio a threfniadau pensiwn; a rhagolwg pum mlynedd ochr yn ochr â mesurau lliniaru a risgiau sy’n dod i’r amlwg.

O ran ymddiogelu prisiau tanwydd, mae’r prisiau wedi gostwng yn ystod COVID-19 ac wedi arwain at ddiffyg o tua £8m. Fodd bynnag, mae prisiau tanwydd yn debygol o adfer a chodi. Mae trafodaethau’n mynd rhagddynt gyda banciau KA ynghylch y trefniadau presennol ar gyfer ymddiogelu prisiau tanwydd, a chyda banciau newydd i’w reoli yn y dyfodol. Bydd papurau’n cael eu cyflwyno yn yr Uwch Dîm Arwain a’r Pwyllgor Archwilio a Risg ar opsiynau ynghylch trefniadau newydd ar gyfer rheoli camau i ymddiogelu prisiau tanwydd. Trafodwyd y mater gyda Llywodraeth Cymru.

Mae trafodaethau’n mynd rhagddynt gyda’r ODP ynghylch y broses a’r prif egwyddorion ar gyfer asesu’r asedau sydd i’w trosglwyddo o dan weithredwr rheilffyrdd y sector cyhoeddus. Mae diwydrwydd dyladwy ffisegol a rhithwir yn cael ei gynnal.

Nododd y Bwrdd gyfrifon rheoli mis Hydref 2020. Y gwariant ar adnoddau yn y mis (Medi) oedd £31.5 miliwn (ac eithrio’r hyn nad yw’n arian parod). Roedd £30.3 miliwn o hwn yn ymwneud â'r rheilffyrdd ac mae'r rhan fwyaf o'r swm hwnnw'n mynd drwodd i'r ODP; a’r gwariant cyfalaf yn y mis hwnnw (Medi) oedd £18.8 miliwn, ac roedd £13.8 miliwn yn ymwneud â’r Rheilffyrdd.

3c. Diweddariad am yr is-bwyllgorau

Hysbyswyd y Bwrdd bod cyfarfod cyntaf y Pwyllgor Prosiectau Newid Mawr wedi’i gynnal yn ddiweddar. Roedd y cyfarfod yn gyfle i drafod rôl a chylch gwaith y Pwyllgor a deall mwy am brosiectau mawr TrC. Rhoddwyd sicrwydd i’r Pwyllgor bod cynnydd yn cael ei wneud i ddatblygu proses cylch bywyd prosiectau TrC ei hun. Bydd y pwyllgor nawr yn mynd ati i benderfynu sut y bydd yn ychwanegu gwerth. Bydd yn rhaid i’r Pwyllgor reoli ei lwyth gwaith yn ofalus, ond bwriedir edrych ar rai eitemau fel adnewyddu a gwella unwaith y flwyddyn. Mae Llinellau Craidd y Cymoedd a bysiau yn brosiectau mawr a fydd yn ymddangos fel eitemau sefydlog, ond nodwyd bod risg i enw da gyda rhai prosiectau gwerth is. Roedd y Bwrdd yn falch o weld bod y pwyllgor ar ei draed.

Cyfarfu’r Pwyllgor Taliadau’n ddiweddar a gwnaeth rhai newidiadau i’r Cylch Gorchwyl. Er mwyn cydymffurfio â Chod Llywodraethu Corfforaethol y DU, mae angen Cyfarwyddwr Anweithredol ychwanegol ar y pwyllgor, a gofynnwyd i wirfoddolwyr gysylltu â JM.

3d. Y Bwrdd Llywio

Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf gan y Cadeirydd am gyfarfod diweddaraf Bwrdd Llywio TrC. Roedd yr eitemau a oedd yn cael eu trafod yn cynnwys Dyfodol y Rheilffyrdd, ac roedd y Bwrdd Llywio’n fodlon cefnogi penderfyniad y Bwrdd ym mis Hydref ynghylch cytuno ar weithred derfynu ar gyfer y Cytundeb Grant presennol; darparu gwasanaethau rheilffyrdd drwy alw ar Weithredwr Dewis Olaf i ddechrau ar 7 Chwefror 2021; Menter ar y Cyd gyda Keolis Amey; a chontract camu i mewn gydag Amey Keolis Infrastructure Ltd ar gyfer rheoli seilwaith a thrawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd. Trafododd y Pwyllgor y gofrestr risg a bysiau hefyd.

4. Materion AD cyfrinachol

[wedi ei olygu]

 

Rhan B – Sesiwn diweddariad gweithredol

Ymunodd LB, AC, LY, GM, KG, DOL a GO â’r cyfarfod.

5a. Prifddinas-Ranbarth Caerdydd

Ymunodd CC â’r cyfarfod i grynhoi gwaith Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a sut mae’n gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol eraill yng nghyd-destun ei brif nodau a blaenoriaethau.

5b. Dyfodol y Rheilffyrdd

Cafodd y Bwrdd ragor o wybodaeth ynglŷn â rhoi Rheilffyrdd TrC Cyf ar waith fel gweithredwr rheilffyrdd y sector cyhoeddus ynghyd â’r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn ag adnewyddu’r contract seilwaith.

Cytunodd y Bwrdd i ystyried cymeradwyaethau y tu allan i’r pwyllgor ar gyfer unrhyw benderfyniadau sydd angen eu gwneud cyn cyfarfod nesaf y Bwrdd ar 17 Rhagfyr, a dim ond cynnal cyfarfod os bydd pethau’n newid yn sylweddol. Cafwyd trafodaeth bellach ar werthuso asedau am fod TrC yn eu prynu fel rhan o weithrediadau Rheilffyrdd TrC Cyf. Mae camau lliniaru i reoli unrhyw risgiau o ran prisio a gwerth am arian yn cael eu cymryd drwy adolygu cyfrifon yr ODP yn ogystal â chynnal ymarfer diwydrwydd dyladwy ffisegol a rhithiol. Gofynnodd y Bwrdd a oedd gan TrC unrhyw warchodaeth petai’r prisiad yn llai na’r hyn a amcangyfrifwyd.

Trafododd y Bwrdd yr opsiynau ar gyfer aelodaeth Bwrdd Rheilffyrdd TrC Cyf. Cytunodd y Bwrdd ar opsiwn dau, lle mae JP yn cadeirio Bwrdd Rheilffyrdd TrC Cyf gyda’r aelodaeth yn cynnwys Cyfarwyddwr Gweithrediadau Rheilffyrdd TrC, Cyfarwyddwr Cyllid TrC, cyfarwyddwr anweithredol gyda phrofiad helaeth o ddiogelwch rheilffyrdd gweithredol, Rheolwr Gyfarwyddwr Rheilffyrdd TrC Cyf a Phrif Swyddog Ariannol Rheilffyrdd TrC Cyf. Cytunwyd y byddai hyn yn golygu bod modd integreiddio rhywfaint â’r strwythur llywodraethu presennol, ac yn caniatáu i’r Bwrdd ganolbwyntio ar faterion gweithredol, a byddai hefyd yn caniatáu i Fwrdd TrC ddal JP i gyfrif am berfformiad Rheilffyrdd TrC Cyf. Pwysleisiwyd y byddai angen i aelodau’r Bwrdd fod yn gyfforddus â rhwymedigaethau personol newydd am ddynladdiad esgeulustod difrifol a Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith, a bod angen hyfforddiant ar ddiogelwch y rheilffordd.

5c. Cofrestr Risgiau

Ystyriodd y Bwrdd y gofrestr risgiau strategol. Holodd y Bwrdd pam nad oedd y risg ar fethiant busnes yr ODP wedi lleihau. Rhoddwyd gwybod i’r Bwrdd y dylai aros fel y mae ar y gofrestr risgiau nes bydd y cytundeb wedi’i lofnodi. Bydd adolygiad manwl o’r gofrestr risgiau yn cael ei gynnal ym mis Mawrth ar ôl sefydlu gweithredwr rheilffyrdd y sector cyhoeddus.

5d. Cyfranddaliadau a Derbyniadau

Yn amodol ar gael sêl bendith Llywodraeth Cymru, bydd y Bwrdd yn disgwyl papur yng nghyfarfod mis Rhagfyr yn amlinellu cynlluniau ar gyfer diwydrwydd dyladwy cyfreithiol ac ariannol yng nghyswllt caffael PTI Cymru drwy brynu cyfranddaliadau am werth tybiannol gydag asedau a rhwymedigaethau’n cael eu trosglwyddo i TrC.

5e. Llythyr Cenedlaethau’r Dyfodol

Ymunodd NR â’r cyfarfod i drafod yr ymateb drafft i lythyr gan Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol ar ei Hadroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol 2020. Mae’r adroddiad wedi cydnabod gwaith TrC ar ynni adnewyddadwy a chaffael, ymysg pethau eraill. Mae’r llythyr drafft mewn ymateb yn amlinellu sut mae TrC yn gwreiddio datblygu cynaliadwy, ac mae wedi tynnu sylw at fentrau sydd ar y gweill a rhai yn y dyfodol, gan gynnwys ymateb i argymhellion yr adroddiad. Cymeradwyodd y Bwrdd y llythyr. Cytunwyd y dylai datblygu cynaliadwy fod yn eitem ar yr agenda o leiaf ddwy neu dair gwaith y flwyddyn.

5f. Llythyr cylch gorchwyl a Chynllun Busnes

Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf ar y broses o gytuno ar y cynllun busnes hyd at 31 Mawrth 2021. Cytunwyd y dylai gynnwys tabl yn nodi manylion yr ymrwymiadau a chadarnhad gan y swyddogion gweithredol bod modd cyflawni’r rhaglen waith gyda’r adnoddau sydd ar gael.

5g. Depo Ffynnon Taf

Nododd y Bwrdd gyflwyniad ar ddepo Ffynnon Taf sy’n elfen allweddol o ran cyflawni Metro De Cymru ac mae’n cael ei ddarparu gan yr ODP. Cafodd y Bwrdd wybod fod y gyllideb wedi cynyddu o £54.8m, yn unol â’r Cytundeb Grant, i £74.2m gan gynnwys ffioedd rheoli a bias optimistiaeth. Mae’r cynnydd hwn yn y gost oherwydd oedi yn ymwneud â COVID, oedi wedyn i Raglen Llinellau Craidd y Cymoedd, a newidiadau i’r dyluniad o’r cysyniad i’r dyluniad manwl. Mae’r ODP yn gofyn am gadarnhad gan TrC y bydd y gwahaniaeth cost rhwng y gyllideb a’r amcangyfrif presennol yn cael ei dalu gan TrC/Llywodraeth Cymru os bydd yn dychwelyd i’r Cytundeb Grant, er mor annhebygol yw hynny. Y bwriad yw y bydd yr ODP yn ymrwymo i gontract gydag Amey Rail Ltd (ARL) ar gyfer dylunio ac adeiladu’r depo, sy’n ofyniad ar unwaith gan y dylai hyn fod wedi cael ei wneud tair wythnos yn ôl ac mae wedi arwain at oedi cyn dechrau ar y gwaith ffisegol. Hysbyswyd y Bwrdd os na fydd yr ODP yn dyfarnu’r contract, gallai olygu eu bod yn ‘torri amodau’, ni fyddai gwaith ar y safle yn dechrau, ac ni fyddai TrC yn gallu dechrau’r broses gaffael ac adennill yr amser adeiladu a gollwyd, a byddai hynny'n arwain at fwy o gostau. Nododd y Bwrdd yr argymhelliad fod TrC yn derbyn y safbwynt hwn ac o ran y tebygolrwydd o fod yn agored i risg, yn cydnabod y byddai peidio ag ymrwymo i gontract nawr yn niweidiol i raglen Llinellau Craidd y Cymoedd ac yn golygu bod TrC a Llywodraeth Cymru yn wynebu mwy o risg/cost.

5h. Tracwyr

Adolygodd y Bwrdd y rhaglen a’r tracwyr corfforaethol. Trafododd y Bwrdd systemau tocynnau integredig, ac mae’r ODP wedi cael tua £50 miliwn i symud ymlaen â hyn. Gofynnodd y Bwrdd a oes strategaeth aml-foddol glir ar waith. Cytunwyd bod TrC, yn hytrach na’r ODP, mewn sefyllfa well i gyflawni hyn. Mae gwaith presennol yr ODP wedi’i ohirio ac mae adolygiad yn mynd rhagddo. Cytunwyd y bydd y Bwrdd yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â chanlyniad yr adolygiad naill ai ym mis Rhagfyr 2020 neu ym mis Ionawr 2021.

5i. Diweddariad ar Raglen FIT

Cymeradwyodd y Bwrdd argymhelliad i dderbyn trosglwyddo’r gwaith o reoli’r swyddogaeth Grantiau Teithio Llesol gan Lywodraeth Cymru. Cynigir y bydd y cyfrifoldebau’n cael eu trosglwyddo ddechrau mis Rhagfyr 2020 i gyd-fynd â dechrau ceisiadau grant blwyddyn ariannol 2021/22 gan awdurdodau lleol. Mae’r trosglwyddiad yn amodol ar gytundeb ffurfiol Bwrdd Rhaglen FIT, ac wedyn cymeradwyaeth y Gweinidogion.

5j. Cyfathrebu

Nododd y Bwrdd gynnwys y cerdyn sgorio Cyfathrebu. Cytunodd y Bwrdd bod angen cyfeirio Cyfathrebu at adfer hyder y cwsmeriaid i fynd yn ôl ar drafnidiaeth gyhoeddus. Mae’r gwaith o brofi tocynnau trên ar reilffordd y Cambrian wedi bod yn mynd rhagddo ers rhai wythnosau ac mae hyn wedi dangos bod y dechnoleg yn gweithio ac y dylai olygu bod modd ei gyflwyno’n ehangach gydag ymgyrch farchnata. Cafodd y problemau blaenorol gydag ysgolion a cholegau Swydd Henffordd eu datrys gyda’r unigolyn a oedd yn arwain y cwynion yn diolch i TrC drwy lythyr cyhoeddus.

5k. Cerdyn sgorio

Nododd y Bwrdd y cerdyn sgorio, gyda sawl DPA yn dal i gael eu datblygu.

6. Unrhyw fater arall

Mae Comisiwn Burns wedi cynnig grŵp llywio ar y cyd i gynnwys cynrychiolaeth TrC ynghyd â memorandwm cydddealltwriaeth drafft ar gyfer cytundeb ar y cyd rhwng TrC, Llywodraeth Cymru a Chyngor Casnewydd er mwyn bwrw ymlaen â’r argymhellion. Bwriedir cyhoeddi adroddiad Burns yr wythnos nesaf.

Mae materion ynghylch mynediad i dir wedi codi ym Mhentre-poeth o ran trawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd, gyda rhai trigolion lleol yn lleisio pryderon. Mae trafodaethau’n parhau.

Diolchodd y Cadeirydd i bawb am fod yn bresennol a dywedodd ei fod yn gwerthfawrogi faint o waith oedd yn mynd rhagddo.