Trafnidiaeth Cymru Cofnodion Cyfarfod y Bwrdd - 20 Chwefror 2020
Cofnodion Bwrdd Trafnidiaeth Cymru Chwefror 2020
10:00 – 16:30; 20 Chwefror 2020
Tŷ South Gate, Caerdydd
Yn bresennol
Scott Waddington (SW) (Cadeirydd); James Price (JP); Heather Clash (HC); Sarah Howells (SH); Nicola Kemmery (NK); Alison Noon-Jones (ANJ); Alun Bowen (AB); Vernon Everitt (VE); Jeremy Morgan (Ysgrifenyddiaeth) a Kevin Thomas (Gwasanaethau Rheilffyrdd TrC) (eitem 3f).
Sesiwn diweddariad gweithredol (eitemau 5a i 5k): Geoff Ogden (GO); David O’Leary (DOL); Lewis Brencher (LB); Lee Robinson (LR) (eitem c); Gareth Morgan (GM); Lisa Yates (LY); Alexia Course (AC) a Karl Gilmore (KG).
Rhan A – Cyfarfod y Bwrdd Llawn
1a. Ymddiheuriadau am absenoldeb
Dim.
1b. Hysbysiad Cworwm
Gan fod cworwm yn bresennol, croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod a datgan bod y cyfarfod yn agored.
1c. Gwrthdaro buddiannau
Dim.
1d. Cofnodion a chamau gweithredu cyfarfod blaenorol
Cafodd cofnodion cyfarfod y Bwrdd ar 23 Ionawr 2020 eu derbyn fel rhai gwir a chywir, yn amodol ar fân newidiadau. Cafodd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd yn erbyn sawl cam gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.
1e. Penderfyniadau a gymerwyd y tu allan i’r Bwrdd
Fe wnaeth y Bwrdd ddau benderfyniad yn y cyfamser rhwng cyfarfodydd:
(a)
(b) pennu terfyn atebolrwydd blynyddol diwygiedig o £15 miliwn y flwyddyn (wedi’i gysylltu â’r mynegai er mwyn adlewyrchu natur hirdymor y cytundeb) ar gyfer pob Cytundeb Pont (pont croesffordd a’r bont orllewinol) er mwyn helpu i sbarduno a throsglwyddo Cledrau Craidd y Cymoedd (CVL).
(c) anfon hysbysiad i Network Rail er mwyn sbarduno’r broses o drosglwyddo asedau Cledrau Craidd y Cymoedd.
2a. Gair i gall ar ddiogelwch
Atgoffwyd aelodau’r Bwrdd i fod yn ofalus wrth yrru yn yr amodau tywydd gwael ar hyn o bryd, a bod angen dweud wrth eraill pan maen nhw’n teithio, ac na ddylai neb beryglu eu hunain. Cafwyd trafodaeth ar ddiogelwch mewn ymateb i’r stormydd diweddar.
2b. Perfformiad diogelwch
Mae damweiniau teithwyr wedi gostwng, gyda thri digwyddiad RIDDOR dros y cyfnod diwethaf. Mae mwy o ddamweiniau staff fu bron â digwydd yn cael eu cofnodi.
Digwyddodd dau achos o SPAD lefel isel, ac mae cynlluniau hyfforddiant ar waith i ymchwilio i’r rhesymau. Mae Trafnidiaeth Cymru yn uwch na chyfartaledd y diwydiant o ran SPAD ar hyn o bryd. Mae’r Pwyllgor Iechyd, Diogelwch a Llesiant yn cadw llygad barcud ar yr achosion.
Cytunwyd ar y Polisi Alcohol a Chyffuriau.
Cam gweithredu: JP ac LY i sicrhau bod alcohol a chyffuriau yn rhan o ymgynghoriad yr undeb am rai sy’n trosglwyddo o Cledrau Craidd y Cymoedd.
Clywodd y Bwrdd fod cyfnod prawf ar gyfer camerâu corff ar gyfer gwerthwyr tocynnau wedi cychwyn. Cafwyd adborth cadarnhaol hyd yma.
Bu un digwyddiad bach ar groesfan yn ystod y cyfnod diwethaf.
Cam gweithredu - GM i adrodd am y cynnydd o ran cau croesfannau Cledrau Craidd y Cymoedd
Clywodd y Bwrdd y bydd asesiad diogelwch o strwythurau seilwaith y rheilffyrdd yn cael ei gynnal yn dilyn y llifogydd. Nid oes gan Trafnidiaeth Cymru ddarpariaeth ariannol dan OM&R tuag at risg trychinebus ac y bydd angen cyllid ar gyfer gwaith unioni gan Lywodraeth Cymru. Cytunodd y Bwrdd fod angen protocol ar sut i ymdrin â phroblemau cyllid yn sgil tywydd eithafol unwaith y bydd asedau Cledrau Craidd Cymoedd wedi’u trosglwyddo.
Cam gweithredu – GM i arwain y gwaith o gytuno ar brotocol gyda Llywodraeth Cymru ar ddelio â phroblemau cyllido sy’n deillio o achosion o dywydd eithafol
Diolchodd y Bwrdd i’r holl staff a fu’n cynorthwyo yn ystod yr achosion o lifogydd.
3a. Adroddiad y Prif Swyddog Gweithredol
Mae perfformiad y Partner Gweithredu a Datblygu (ODP) wedi dangos arwyddion bach o sefydlogi yn ddiweddar ac wedi cyflawni gwelliant o gymharu â ffigurau gorau PTL, gan arwain ar fwy o unedau ar waith a llai o drenau’n cael eu canslo.
Trafodwyd perfformiad ariannol yr ODP.
Gwelwyd hyder cynyddol gyda 769 o unedau yn ymuno â’r gwasanaeth erbyn yr haf. Mae’r unedau dros dro eraill bellach wedi cyrraedd ar y cyfan, ac maen nhw’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol.
Cafodd proses trosglwyddo asedau Cledrau Craidd y Cymoedd ei sbarduno ddiwedd Ionawr. Mae Trafnidiaeth Cymru yn gweithio gyda Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru a Network Rail i gwblhau’r rhag-amodau er mwyn sbarduno trosglwyddiad asedau Cledrau Craidd y Cymoedd gyda dyddiad trosglwyddo arfaethedig o 28 Mawrth 2020. Yn unol ag argymhellion y panel o arbenigwyr, mae Trafnidiaeth Cymru yn cynnal adolygiadau parodrwydd gweithredol Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru ar gyfer Rheolaeth Seilwaith ac yn tracio’r cynnydd yn erbyn eu cynllun gweithredu.
Ers cyfarfod diwethaf y Bwrdd, bu cynnydd sylweddol ar raglen FIT. Lluniwyd cytundeb mewn egwyddor gyda Llywodraeth Cymru i drosglwyddo bysiau, teithio llesol ac awyrennau o ddechrau’r flwyddyn ariannol nesaf, yn amodol ar gymeradwyaeth y Bwrdd. Pwysleisiodd y Bwrdd fod angen i rôl strategol a gweithredol Trafnidiaeth Cymru ar wasanaethau bysiau fod yn ddigon clir. Cytunodd y Bwrdd fod angen cychwyn cynllunio ar drosglwyddo’r rhwydwaith ffyrdd strategol yn barod ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Cam gweithredu - JM i ddarparu map o rwydwaith ffyrdd strategol Cymru i’r Bwrdd.
Cafodd SW a JP gyfarfodydd adeiladol a chadarnhaol yn ddiweddar gyda’r Prif Weinidog, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a’r Gogledd, Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol Cymru, Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig a Gweinidog Cysgodol Plaid Cymru dros yr Economi, Trechu Tlodi a Thrafnidiaeth.
3b. Cyllid
Cafodd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am faterion ariannol sy’n ymwneud â phrisiad a throsglwyddo asedau Cledrau Craidd y Cymoedd. Ni fydd yn drafodiad ariannol, ond rydym yn dal i ddisgwyl am ateb o ran sut i ymdrin â TAW. Mae manylion y Dreth Trafodiadau Tir yn dal i gael eu trafod ar hyn o bryd.
Rhoddwyd diweddariadau i’r Bwrdd ar sawl ffrwd waith cyllid parhaus:
• nid oedd unrhyw broblemau gyda’r gyflogres ar ôl trosglwyddo’r staff arlwyo ar 5 Ionawr;
• rydym yn dal i ddisgwyl am benderfyniad ar ganlyniad adran 33E ar fater TAW;
• mae’r gwaith o baratoi i drosglwyddo swyddogaethau o Lywodraeth Cymru a chyflwyno newidiadau dilynol i’r system gyllid yn parhau;
• gwnaed cynnydd o ran datblygu adroddiad blynyddol 2019-20.
Cafwyd cylch gwaith diweddaraf gan Lywodraeth Cymru wythnos diwethaf. Gofynnir i’r Bwrdd gymeradwyo cyllideb 2020-21 yng nghyfarfod mis Mawrth.
Cytunwyd gyda Llywodraeth Cymru ar gymhariaeth â chyllideb raddol (2019-20) ac yn erbyn y rhagolygon sy’n cynrychioli’r sefyllfa alldro. Mae hyn yn adlewyrchu’r drefn o ddyrannu costau canolog, sy’n fodd o ddeall cymhellion gwariant sy’n rhoi mwy o eglurder i Lywodraeth Cymru yn ogystal â Trafnidiaeth Cymru.
Yn y mis (Ionawr), cafwyd Gwariant Adnoddau o £13.6 miliwn, gydag £12.4m ohono yn ymwneud â’r rheilffyrdd a’r rhan fwyaf ohono’n cael ei basio drwodd i’r ODP. Roedd gwariant cyfalaf mis Ionawr yn £11.2m, gyda 97% ohono’n gysylltiedig â’r rheilffyrdd. Roedd gan y fantolen falans asedau net o £0.6m ar ddiwedd mis Ionawr.
Fe wnaeth y Bwrdd gymeradwyo’r datganiad drafft ar gydnerthedd, ond y byddai angen adolygiad pellach i sicrhau ei fod yn cyd-fynd â’r Cynllun Corfforaethol.
3c. Diweddariad yr is-bwyllgor
Cafwyd y wybodaeth ddiweddaraf am gyfarfod y Pwyllgor Iechyd, Diogelwch a Llesiant ar 7 Chwefror. Bydd y Pwyllgor Pobl yn cyfarfod ar 1 Chwefror.
Deallwyd na chynhaliwyd unrhyw gyfarfod o’r Pwyllgor Archwilio a Risg ers y cyfarfod Bwrdd diwethaf, ond bod y Pwyllgor wedi adolygu polisi ffi di-archwiliad Trafnidiaeth Cymru yn sgil Safon Foeseg Ddiwygiedig a gyflwynwyd gan y Cyngor Adrodd Ariannol ar 19 Rhagfyr 2019, a ddaeth i’r casgliad nad oedd angen unrhyw ddiwygiadau i’r polisi.
Cytunodd y Bwrdd y byddai’n briodol adolygu cylch gorchwyl yr is-bwyllgor.
Cam gweithredu: JM i gynnal adolygiad cynhwysfawr o Gylch Gorchwyl is-bwyllgorau’r Bwrdd
3d. Diweddariad y Bwrdd Llywio
Cynhaliwyd cyfarfod anffurfiol yn ystod yr wythnos flaenorol, ac mae’r eitemau a drafodwyd yn rhan o agenda’r Bwrdd.
3e. Adolygiad o effeithiolrwydd y Bwrdd
Bu’r Bwrdd yn trafod canlyniadau hunanwerthusiad diweddar o effeithiolrwydd y Bwrdd. Y sgôr cyfartalog cyffredinol ar draws y 23 o gwestiynau oedd 4.3, sy’n awgrymu bod y Bwrdd yn gweithio’n effeithiol heb unrhyw bryderon sylweddol. Cafodd un cwestiwn sgôr o 5 gan holl aelodau’r Bwrdd – ynglŷn â’r cyfarfodydd yn cael eu cynnal mewn awyrgylch positif - , a chafodd 19 o 23 o gwestiynau sgôr o 4 neu uwch. Llwyddodd cwestiynau am aelodau’r Bwrdd yn teimlo’n ddigon goleuedig, yn rhan o bethau ac wedi’u hymgysylltu, i ennill sgorau uchel iawn. Y sgôr isaf oedd 2.3, mewn ymateb i ddatganiad bod cyfansoddiad y Bwrdd yn ddigon cytbwys o ran hil ac ethnigrwydd.
Cytunodd y Bwrdd ar sawl argymhelliad i’w gweithredu, gan gynnwys creu cynllun datblygu’r Bwrdd, nodi arferion gorau er mwyn canfod cydbwysedd o ran hil ac ethnigrwydd y Byrddau, a datblygu proses er mwyn adolygu perfformiad yr Adran Weithredol.
3f. Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru
Ymunodd KT (Gwasanaethau Rheilffyrdd TrC) â’r cyfarfod i drafod materion gweithredol, perfformiad, diogelwch, cyllid, gwasanaethau cwsmeriaid a swyddfa newydd Pontypridd.
4. Unrhyw fater arall
Dim.
Rhan B – Sesiwn diweddariad Gweithredol
Ymunodd AC, DOL, GM, KG a LB â’r cyfarfod.
5a - newidiadau i amserlen mis Mai 2020
Cyflwynwyd papur i’r Bwrdd yn darparu manylion am y newidiadau i amserlen mis Mai 2020. Mae’r amserlen newydd yn nodi’r newidiadau i amseroedd gwasanaethau ar lein y Gororau yn ystod yr wythnos, gan gynnwys ailgyflwyno arosfannau a ddilëwyd o amserlen Rhagfyr 2019; ac 14 o wasanaethau ychwanegol ar ddyddiau Sul, 13 ohonynt ar wasanaethau Cledrau Craidd y Cymoedd. Ymhlith y newidiadau sylweddol a gyflwynir fydd cerbydau Dosbarth 769 ar lein Cwm Rhymni, stoc Dosbarth 230 ar wasanaeth Wrecsam-Bideston a rhai Marc 4 ar wasanaethau CaerdyddCaergybi.
Mae rhaglenni Dosbarthiadau 769 a 230 yn parhau’n dynn, gyda pherygl o oedi os bydd problemau’n codi. Mae mesurau lliniaru ar droed rhag ofn na fydd trenau Dosbarthiadau 769 a 230 ar gael ar ôl 31 Gorffennaf 2020, sef y dyddiad gorffen cyfredol ar gyfer rhyddhau trenau Pacer PRM.
5c – Dewisiadau tocynnau teithio rhatach yn y dyfodol
Bu’r Bwrdd yn trafod papur sy’n cyflwyno’r model gweithredol arfaethedig ar gyfer tocynnau teithio rhatach gorfodol yng Nghymru er mwyn sbarduno trafodaeth a datblygu model gweithredu terfynol. Yn amodol ar gyllid Llywodraeth Cymru, fe wnaeth y Bwrdd gymeradwyo argymhellion y papur i roi sêl bendith i egwyddorion y papur yn nhermau “system” genedlaethol o wneud cais am a chyflwyno cerdyn teithio rhatach - yn amodol ar drafodaethau gyda Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol; estyniad tymor byr i’r cytundeb asiantaeth cyfredol er mwyn neilltuo digon o amser i drin a thrafod egwyddorion y papur; y strwythur llywodraethu arfaethedig a’r awdurdod i weithio ar draws timau Trafnidiaeth Cymru er mwyn mireinio amcangyfrifon cost lefel uchel y papur.
Cafodd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am broses adnewyddu tocynnau teithio rhatach. Daeth 587,276 o geisiadau i law hyd yma. Roedd 94% o ddefnyddwyr y cardiau wedi’u defnyddio dros chwe gwaith yn y tri mis diwethaf, ac mae 85% o ddefnyddwyr cardiau dros y 12 mis diwethaf wedi gwneud cais i’w hadnewyddu. Mae risgiau’n parhau, ac yn cael eu rheoli tua diwedd y cyfnod gras ar 29 Chwefror. Cafodd posteri a gwybodaeth i gwmnïau a gyrwyr bysiau eu cyflwyno cyn y Nadolig; anfonwyd llythyr at bob cynghorydd lleol er mwyn rhannu gwybodaeth am y cyfnod gras ac annog pobl i wneud cais arall os nad ydynt eisoes wedi gwneud hyn; anfonwyd llythyr at bob AC yn esbonio’r cyfnod gras; a diweddarwyd adran cwestiynau cyffredin gwefan Trafnidiaeth Cymru i esbonio’r cyfnod gras. Mae cynlluniau ar waith i dargedu unigolion “marchnad” sy’n defnyddio eu hen gardiau a heb gael un newydd eto.
Aeth y Bwrdd ymlaen i drafod adroddiad diweddar Comisiynydd y Gymraeg ar Trafnidiaeth Cymru. Cafodd y casgliadau eu dadansoddi, ac mae dadansoddiad o’r bylchau wrthi’n cael ei ddatblygu ar y trefniadau cyfredol ac argymhellion Comisiynydd y Gymraeg. Bu’r Bwrdd yn trafod dwy broblem benodol: (1) cyhoeddiadau cyhoeddus, sydd angen bod yn Gymraeg yn gyntaf ac wedyn Saesneg, a’r angen am gyhoeddiadau argyfwng dwyieithog mewn twneli; a (2) tocynnau dwyieithog ac asesu a oes angen i’r tocynnau trên oren fod yn Gymraeg. Cafodd hyn ei wrthod yn ddiweddar ar lefel y DU gan y Rail Development Group ond bydd angen trafod y mater eto.
Cam gweithredu: LR i sicrhau bod Bwrdd Gweithrediadau Trafnidiaeth Cymru/Llywodraeth Cymru yn trafod adroddiad Comisiynydd y Gymraeg.
5d – Rhaglen Trafnidiaeth Integredig y Dyfodol (FIT)
Cafodd y Bwrdd y manylion diweddaraf am gynnydd rhaglen FIT ac am drosglwyddo swyddogaethau o Lywodraeth Cymru i Trafnidiaeth Cymru. Fe wnaeth Bwrdd Llywio FIT gymeradwyo’r Achos Cyfiawnhad Busnes ar ddiwedd mis Ionawr er mwyn caniatáu ar gyfer trosglwyddo tri maes: bysiau, awyrennau, teithio llesol a grantiau trafnidiaeth awdurdodau lleol. Bydd bysiau ac awyrennau yn cael eu trosglwyddo yn ystod chwarter cynta’r flwyddyn ariannol newydd, gyda theithio llesol a grantiau awdurdodau lleol i ddilyn yn nes ymlaen yn y flwyddyn. Gofynnir i’r Bwrdd roi ystyriaeth ffurfiol i hyn yng nghyfarfod mis Mawrth. Cadarnhawyd mai dim ond y swyddogaethau fydd yn trosglwyddo, nid y staff. Bydd y rhaglen yn cael ei thrafod ymhellach gan Fwrdd Llywio Trafnidiaeth Cymru.
Cam gweithredu - GO i ddarparu manylion i JP ac SW ar ddyletswyddau Trafnidiaeth Cymru o ran trosglwyddo swyddogaethau.
5e – Rheoli llystyfiant a ffensio ar Gledrau Craidd y Cymoedd
Cytunodd y Bwrdd i roi’r awdurdod dirprwyedig i SLT fynd i gontract gwaith gan ddefnyddio prosesau a gweithdrefnau caffael er mwyn gwneud gwaith ffensio a rheoli llystyfiant brys ar Gledrau Craidd y Cymoedd. Byddai disgwyl am sêl bendith y Bwrdd ym mis Mawrth 2020 yn oedi dyddiad y Dyfarniad Fframwaith ac yn cael effaith niweidiol ar y rhaglen drawsnewid.
5f – Trawsnewid Cledrau Craidd y Cymoedd – Gêr switshis
Cytunodd y Bwrdd i ddyfarnu contract uniongyrchol am saith uned Containerised Gas Insulated Switchgear (CGIS) er mwyn hwyluso’r gwaith pŵer tyniant gan helpu i drawsnewid Cledrau Craidd y Cymoedd. Clywodd y Bwrdd mai bwriad y tendr oedd bod IDP yn caffael yr unedau trwy Gontract Pecyn Gwaith 3 Cledrau Craidd y Cymoedd. Fodd bynnag, mae arbedion posib o ryw £860,000 pe bai Trafnidiaeth Cymru yn prynu’r unedau hyn ar unwaith. Gan mai dim ond un cyflenwr sy’n gallu darparu’r unedau, byddai dyfarniad uniongyrchol yn cael ei wneud dan Reoliadau Contractau Cyhoeddus 2015, ond trwy gyhoeddi hysbysiad VEAT (Voluntary Ex Ante Transparency).
Bu’r Bwrdd yn trafod cynlluniau i ddirprwyo ac adrodd am wariant trawsnewid Cledrau Craidd y Cymoedd yn unol â’r Cynllun Dirprwyo. Awgrymwyd bod amrywiadau o gymharu â chyfanswm gwariant y rhaglenni yn cael eu hadrodd i’r Bwrdd.
Cam gweithredu: GM, JM a KG i adolygu’r Cynllun Dirprwyo mewn perthynas â gwariant ac adrodd am Gledrau Craiff y Cymoedd
5g - Grand Union Trains – datblygu cynnig
Bu’r Bwrdd yn trafod cynnig Grand Union Trains am wasanaeth mynediad agored rhwng De Cymru a Llundain. Fe wnaeth y Bwrdd gytuno mewn egwyddor ag argymhellion y papur atodol, ond mae angen rhagor o ddiwydrwydd dyladwy am yr effaith bosib ar refeniw Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru a brand Trafnidiaeth Cymru, cyn y byddai Trafnidiaeth Cymru yn gallu ymrwymo i unrhyw beth.
Cam gweithredu: DOL i archwilio’r effaith bosib ar refeniw Gwasanaeth Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru yn sgil cynlluniau Grand Union Trains i redeg gwasanaeth o Dde Cymru i Lundain, a darparu crynodeb i’r Bwrdd a Llywodraeth Cymru.
5h – Dangosfwrdd Dangosyddion Perfformiad Allweddol profiadau cwsmeriaid
Mae sgorau profiadau cwsmeriaid yn gwella ond yn parhau’n isel. Mae PTL a threfniadau byrion wed lleihau yn ystod y cyfnod, sydd wedi gwella bodlonrwydd cwsmeriaid. Mae cwynion cwsmeriaid wedi cynyddu, fodd bynnag.
5i – Cofrestr Risg Trafnidiaeth Cymru
Cynhaliodd y Weithrediaeth adolygiad o risgiau strategol a gweithredol bythefnos yn ôl, a bydd y canlyniadau’n cael eu cyflwyno yng nghyfarfod mis Mawrth o’r Pwyllgor Archwilio a Risg. Mae’r risg ‘Brexit Heb Gytundeb’ wedi’i thynnu oddi ar y Gofrestr Risg Strategol. Mae’r risgiau sy’n ymwneud â throsglwyddo Cledrau Craidd y Cymoedd a’r cerbydau wedi’u hadnewyddu wedi lleihau. Cafodd risgiau newydd ar y coronafeirws a chytundebau masnach Brexit eu hychwanegu, yn ogystal â thywydd difrifol.
5j - Cyfathrebu
Mae argraffiadau pobl o’r brand yn parhau’n isel ond wedi gwella fymryn. Efallai fod y stormydd a’r llifogydd diweddar wedi effeithio ar sgorau’r cyfnod cyfredol. Trafododd y Bwrdd yr angen am brotocol ar gyfer cyfarwyddwyr pan mae pobl yn cysylltu â nhw drwy’r cyfryngau cymdeithasol.
Cam gweithredu - LB i greu protocol ar gyfer aelodau’r Board pan mae pobl yn cysylltu â nhw drwy’r cyfryngau cymdeithasol.
Bydd cyfarfod cyntaf y Panel Cynghori yn cael ei gynnal ar 17 Mawrth.
5k – Cynnydd yn erbyn cerrig milltir
Nodwyd y cynnydd yn erbyn cerrig milltir corfforaethol a phrosiectau.
Gadawodd KC, AC, GO, LB a DOL y cyfarfod.
5l – Adolygiad o’r cynnydd cyflog
Cytunodd y Bwrdd ar y strwythur graddau a’r ystod cyflog arfaethedig, a sut gall gweithwyr gamu ymlaen drwy’u hystod cyflog dynodedig yn seiliedig ar ganlyniadau perfformiad.
Gadawodd LY, HC a JP yr ystafell.
Bu’r Bwrdd yn trafod achosion chwe gweithiwr sydd o dan 80% o’r ystod band cyflog a neilltuwyd iddynt ar hyn o bryd. Cytunodd y Bwrdd i godi’r gweithwyr hynny i’w hystod band cyflog ar gost o £17,200.