Trafnidiaeth Cymru Cofnodion Cyfarfod y Bwrdd - 20 Ebrill 2023
Cofnodion Bwrdd TrC
20 Ebrill 2023
09:30 - 16:00
Lleoliad - Llys Cadwyn
Yn bresennol
Scott Waddington (Cadeirydd), Heather Clash, Nicola Kemmery, Vernon Everitt, Alison Noon-Jones, Alun Bowen, Sarah Howells a James Price.
Hefyd yn bresennol: Jeremy Morgan a Leyton Powell (eitem 2).
Rhan A - Cyfarfod o’r Bwrdd Llawn
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
1a. Ymddiheuriadau am Absenoldeb
Dim. Hysbyswyd y Bwrdd bod Natalie Feeley wedi ymddiswyddo fel arsylwr yr Undebau Llafur ar y Bwrdd ac y byddai proses yn cael ei chynnal i ddod o hyd i rywun yn ei lle. Diolchodd y Bwrdd am gyfraniad Natalie Feeley i’r Bwrdd yn ei rôl fel arsylwr dros y tair blynedd diwethaf, a dymuno’r gorau iddi yn y dyfodol.
1b. Hysbysiad ynghylch Cworwm
Gan fod cworwm yn bresennol, croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod a datganodd fod y cyfarfod yn agored.
1c. Datganiadau Diddordeb
Dim.
1d. Cofnodion a Chamau Gweithredu o’r Cyfarfod Blaenorol
Derbyniwyd bod cofnodion cyfarfod Bwrdd TrC ar 16 Mawrth 2023 yn gofnod gwir a chywir.
1e. Sylw i Ddiogelwch
Mae Amey Rail Limited wedi cael dirwy o £533,000 ac wedi cael gorchymyn i dalu costau o £41,000 ar ôl pledio’n euog i drosedd diogelwch. Roedd ymchwiliad gan reoleiddiwr y diwydiant, Swyddfa’r Rheilffyrdd a’r Ffyrdd (ORR), yn dilyn sioc drydanol ddifrifol a gafodd uwch fforddoliwr hunangyflogedig yn ystod mân waith adfer i linellau uwchben y tu allan i Orsaf Paddington, Llundain. Nid oedd y tîm ar y safle yn ymwybodol eu bod yn gweithio y tu allan i’r ynysiad trydanol ac o ganlyniad roedd yr unigolyn wedi cyffwrdd â’r wifren gyswllt 25,000 folt byw a arweiniodd at anafiadau sioc drydanol, gan gynnwys llosgiadau 55 y cant ac effeithiau ar y golwg a’r clyw. Nododd y Bwrdd fod Amey Infrastructure Wales yn adolygu’r digwyddiad i ddysgu gwersi.
1f. Sylw i Gwsmeriaid
Soniodd aelod o’r Bwrdd am eu profiad diweddar o orlenwi ar drenau TrC lle roedd yr amodau ar gyfer y teithwyr yn wael iawn, yn enwedig ar gyfer plant a theithiwr anabl. Mynegodd y Bwrdd ei siom ynghylch y digwyddiad ac roedd yn gobeithio y byddai gwersi’n cael eu dysgu, yn enwedig o ran digwyddiadau heb eu cynllunio. Trafododd y Bwrdd y posibilrwydd o osod cynrychiolydd yn y tîm Rheoli i roi safbwynt y cwsmer mewn rhai sefyllfaoedd.
2. Perfformiad diogelwch
Cafodd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygu a gweithredu cynllun blynyddol cyfunol cyntaf “Un TrC” ar gyfer Iechyd, Diogelwch a Chadernid Busnes. Mae rhagor o ystyriaeth wedi cael ei rhoi i gysoni a rhannu rhaglenni ac amcanion er mwyn manteisio i’r eithaf ar adnoddau, lleihau risg a chysoni’r dull gweithredu i system aml-ddull.
TYNNWYD
Cafodd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am nifer o eitemau gan gynnwys symudiad trên heb ei reoli pan oedd yr uned yn cael ei chynnal a chadw; ni achosodd hyn unrhyw anafiadau; methiant tanc septig yn Ffynnon Taf; camau parhaus yn cael eu cymryd mewn ymateb i’r digwyddiadau thermol dosbarth 175 yn ddiweddar; yr un SPaD a gofnodwyd yn ystod y cyfnod; a manylion yr adolygiad diogelwch wedi’i gwblhau.
Gadawodd Leyton Powell y cyfarfod.
3. Diweddariad strategol
3a. Adroddiad y Prif Swyddog Gweithredol
Myfyriodd y Bwrdd ar gyfnod prysur iawn arall. Trafododd y Bwrdd ddull arfaethedig o gyflawni mân brosiectau mewn ffordd wahanol iawn i leihau costau, a rôl y Bwrdd yn hybu hyn drwy waith yr is-bwyllgorau. Cafwyd trafodaeth ar rinweddau posibl defnyddio arbenigwr mewn datblygu cynnyrch a gwerthu o’r tu allan i’r diwydiant trafnidiaeth. Cynigiodd Vernon Everitt roi’r Prif Swyddog Gweithredol mewn cysylltiad â’r Cyfarwyddwr Cwsmeriaid a Thwf Dros Dro yn Transport for Greater Manchester i elwa ar ei brofiad [Cam Gweithredu Vernon Everitt].
Cafodd y Bwrdd wybod am waith parhaus gyda Llywodraeth Cymru i ystyried sefyllfa ariannol tymor canolig y rheilffordd drwy ddatblygu Cynllun Fforddiadwyedd Rheilffyrdd. Mae’r cynllun yn seiliedig ar ddyfodol sydd ag allbwn polisi cadarnhaol a gwell sefyllfa o ran cymhorthdal. Nododd y Bwrdd y bydd angen datblygu’r diwylliant sefydliadol yn sylweddol er mwyn cyflawni.
TYNNWYD
Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf yr Uwch Dîm Arwain masnachfreinio bysiau ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a TrC yn swyddfeydd TrC ddiwedd mis Mawrth. Nod y cyfarfod misol yw datblygu set fwy strategol o gynlluniau rhwng TrC, Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol.
Cafodd y Bwrdd wybod hefyd am ymweliad diweddar â Transport for Greater Manchester, gyda gwersi pwysig wedi cael eu dysgu ar fasnachfreinio bysiau o ran osgoi peryglon deddfwriaethol; maint y dasg dan sylw; a manteision posibl strwythur agnostig o ran dull TrC a’r busnes rheilffyrdd presennol, sy’n gyfleoedd nad ydynt ar gael i Fanceinion.
Ymunodd Alun Bowen â’r cyfarfod.
Cafodd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd gyda phrosiect trawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd sy’n parhau i symud ymlaen yn gyflym ac at nifer o ddigwyddiadau dechrau defnyddio. Cafodd y Bwrdd wybod am nifer o fethiannau diweddar yn y gadwyn gyflenwi, a chafodd y Bwrdd sicrwydd bod gwersi’n cael eu dysgu. Hefyd y mis hwn, cafodd y trenau Metro cyntaf eu lansio ar y rhwydwaith yn swyddogol.
TYNNWYD
Croesawodd y Bwrdd berfformiad da’r Gronfa Teithio Llesol sydd wedi nodi rhagolwg gwariant diwedd blwyddyn o £48m, gyda 97% ohono’n cael ei ariannu drwy grantiau i awdurdodau lleol a gyda gweddill y balans ar gyfer prosiect teithio llesol Cl153. Cytunodd y Bwrdd y dylai Llywodraeth Cymru a TrC roi cyflwyniad ar y cyd i’r Bwrdd ar y cynlluniau tymor hwy ar gyfer y Gronfa Teithio Llesol [Cam Gweithredu Geoff Ogden].
Nododd y Bwrdd ymdrechion y tîm Cyllid a’r Tîm Arwain Gweithredol ar berfformiad cyllid diwedd blwyddyn.
Hefyd cafodd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am Barcffordd Caerdydd; Gwelliannau Caerdydd Canolog; datblygu dangosyddion perfformiad allweddol a gatiau newydd yng ngorsaf Casnewydd.
3b. Cyllid a llywodraethu
Mae diwedd y flwyddyn ariannol wedi dominyddu gweithgarwch dros y mis diwethaf, gyda gwariant refeniw £0.53m o dan y rhagamcan oherwydd grantiau Traws Cymru wedi’u neilltuo. Gorwariant o £0.13m yn y gwariant cyfalaf.
Disgwylir atodiad i lythyr cyllido 2022-23 gan Lywodraeth Cymru. Cafodd y Bwrdd wybod ei bod yn ymddangos bod y cynnydd ar brosiect ffeibr Llinellau Craidd y Cymoedd wedi arafu, a disgwylir diweddariad gan Lywodraeth Cymru. Mynegodd y Bwrdd ei farn ar bwysigrwydd masnacheiddio’r ased i’r eithaf.
3b. Strategaeth trethi
Cymeradwyodd y Bwrdd strategaeth ar gyfer TrC a’i is-gwmnïau a’r dull o gynnal materion treth a delio â risgiau treth yn y DU.
4. Is-bwyllgorau
Roedd cyfarfod diweddar y pwyllgor Iechyd, Diogelwch a Llesiant wedi trafod digwyddiadau thermol y dosbarth 175 a’r hysbysiad dilynol gan Swyddfa’r Rheilffyrdd a’r Ffyrdd, Llinellau Craidd y Cymoedd a chynllun cyfathrebu OLE.
Ystyriodd cyfarfod Pwyllgor Pobl mis Mawrth gamau nesaf y Model Gweithredu Targed, diweddariad ar newid ymddygiad, dyfarniad cyflog, cyfathrebu mewnol, targedau absenoldeb oherwydd salwch, a gwobrwyo a chydnabod.
Cafodd cyfarfod diweddar y Pwyllgor Archwilio a Risg gyflwyniadau ar gaffael, yr Amgylchedd Rheoli Mewnol sy’n datblygu, archwilio mewnol gan gynnwys cymeradwyo cynllun 2023/24, y strategaeth trethi, a risg.
5. Byrddau is-gwmnïau
Roedd cyfarfod diwethaf Bwrdd Rheilffyrdd TrC Cyf wedi trafod perfformiad, diogelwch, strategaeth fasnachol, TYNNWYD.
6. Y Bwrdd Llywio
Roedd cyfarfod diweddar Bwrdd Llywio TrC wedi trafod cyllid TrC ar gyfer 2023/24, fforddiadwyedd rheilffyrdd, diwylliant aml-ddull, diweddariad cyffredinol gan Brif Swyddogion Gweithredol TrC, a phrosiect cyfnewidfa fysiau Caerdydd.
7. Effeithiolrwydd y Bwrdd
Nododd y Bwrdd ganlyniadau cadarnhaol hunanasesiad effeithiolrwydd diweddar y bwrdd. Roedd y Bwrdd yn awyddus i gael adborth allanol ar ei adborth, gan gynnwys adnoddau fel adborth 360 gradd. Byddai’r Bwrdd hefyd yn croesawu diweddariad ar fapio rhanddeiliaid ac ymgysylltu rhagor â rhanddeiliaid. Cytunwyd y dylai’r cyfarwyddwyr anweithredol gyfrannu at adolygiadau perfformiad gweithredol drwy’r Pwyllgor Taliadau. Cymeradwyodd y Bwrdd argymhellion yr adroddiad.
Rhan B - Sesiwn diweddariad gweithredol
8. Llinellau Craidd y Cymoedd
Ymunodd Karl Gilmore â’r cyfarfod. Cafodd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd gyda rhaglen Trawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd o ran comisiynu, costau, risgiau adeiladu, parodrwydd gweithredol, depo Ffynnon Taf, trydaneiddio yn nepo Treganna, cyfarfod diweddar gyda WEFO ar gyllid ERDF, a phrofi.
Gadawodd Karl Gilmore y cyfarfod.
9. Cod moeseg
Cymeradwyodd y Bwrdd God Moeseg TrC a fyddai’n berthnasol i holl staff TrC. Cytunodd y Bwrdd fod angen i’r Bwrdd a’r Tîm Arwain Gweithredol arwain drwy esiampl a gosod y naws ar gyfer diwylliant y sefydliad. Byddai’r Bwrdd yn croesawu hyfforddiant moeseg iddo’i hun ac i’r Tîm Arwain Gweithredol.
10. Teithio Llesol
Ymunodd Geoff Ogden â’r cyfarfod. Atgoffwyd y Bwrdd o sefyllfa ariannol gadarnhaol y Gronfa Teithio Llesol ar ddiwedd y flwyddyn a chafodd wybod am waith archwilio, gan gynnwys adolygiad o deithio llesol yn y dyfodol gan Archwilio Cymru.
11. Cofrestr risg
Ymunodd Leyton Powell â’r cyfarfod.
Mae archwiliad rheoli risg mewnol wedi cael ei gynnal ar gyfer 2022/23 a oedd yn rhoi barn “Da”, gan nodi sawl maes lle roedd arferion rheoli risg da.
Mae Strategaeth Rheoli Risg TrC wedi cael ei hadolygu a’i diweddaru, gan nodi blaenoriaethau risg y sefydliad ar gyfer 2023/24. Cymeradwyodd y Pwyllgor Archwilio a Risg y Strategaeth yn ei gyfarfod ym mis Mawrth.
Nododd y Bwrdd y Gofrestr Risgiau Strategol.
Gadawodd Leyton Powell y cyfarfod.
TYNNWYD
Ymunodd Alexia Course, Marie Daly, Jan Chaudhry Van der Velde a Lewis Brencher â’r cyfarfod.
TYNNWYD
13. Diwylliant aml-ddull
Ymunodd Peter McDonald, Stephen Rowan a Gareth Evans (pob un o Lywodraeth Cymru) â’r cyfarfod.
Croesawodd y Bwrdd ymwelwyr o Lywodraeth Cymru i drafod papur a gynhyrchwyd gan Lywodraeth Cymru ar ddatblygu diwylliant aml-ddull sy’n cynnwys arweinyddiaeth, bysiau, teithio llesol, y rhwydwaith ffyrdd strategol, cydweithio, cynllunio a dangosyddion perfformiad. Bydd egwyddorion y papur ac ymateb TrC yn rhan o lythyr cylch gwaith TrC.
Yn dilyn trafodaeth, cytunodd y Bwrdd i ymateb i’r papur [Cam Gweithredu Heather Clash].
Daeth y Cadeirydd â’r cyfarfod i ben a diolchodd i bawb am eu cyfraniadau.