Trafnidiaeth Cymru Cofnodion Cyfarfod y Bwrdd - 20 Gorffennaf 2023

Submitted by Content Publisher on

Cofnodion Bwrdd TrC

20 Gorffennaf 2023

09:30 - 16:00

Lleoliad - Llys Cadwyn

 

 

Yn bresennol

Scott Waddington (Cadeirydd), Heather Clash, Nicola Kemmery, Vernon Everitt, Alison Noon-Jones, Sarah Howells, Alun Bowen a James Price.

Hefyd yn bresennol: Jeremy Morgan, Gareth Evans (Llywodraeth Cymru) a Leyton Powell (eitem 2).

 

Rhan A - Cyfarfod o’r Bwrdd Llawn

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

 

1a. Ymddiheuriadau am Absenoldeb

Dim.

 

1b. Hysbysiad ynghylch Cworwm

Gan fod cworwm yn bresennol, croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod a datganodd fod y cyfarfod yn agored.

 

1c. Datgan Buddiant

Dim.

 

1d. Cofnodion a Chamau Gweithredu o’r Cyfarfod Blaenorol

Derbyniwyd bod cofnodion cyfarfod Bwrdd TrC ar 15 Mehefin 2023 yn gofnod gwir a chywir.

 

1e. Sylw i Ddiogelwch

Trafododd y Bwrdd y sylw a roddwyd yn y wasg yn ddiweddar i ddamwain tram Croydon (2016). Roedd y sylw’n ein hatgoffa y gall effaith digwyddiadau sylweddol barhau am sawl blwyddyn ar ôl iddynt ddigwydd.

 

1f. Sylw i Gwsmeriaid

Hysbyswyd y Bwrdd bod y system awyru a’r system wresogi ar waith ar adegau gwahanol ar un o wasanaethau TrC yr wythnos diwethaf. Hysbyswyd y Bwrdd bod y gwres yn cael ei reoli gan y depo yn hytrach na’r goruchwyliwr.

 

2. Perfformiad diogelwch

Ymunodd Leyton Powell â’r cyfarfod.

Rhoddwyd yr wybodaeth ddiweddaraf i’r Bwrdd am y datblygiadau iechyd, diogelwch a chadernid canlynol:

  • Cafwyd adborth cadarnhaol gan deithwyr a staff yn dilyn Wythnos Diogelwch y Rheilffyrdd, “Beware of the Bubble”. Bu timau yn ymweld â gorsafoedd ar draws y rhwydwaith er mwyn defnyddio rhith-realiti i ddangos sut mae ymddwyn yn ddiogel mewn gorsafoedd ac ar groesfannau rheilffordd.
  • Datblygu ‘Un Cynllun Iechyd a Llesiant TrC’ drwy gydweithio rhwng y timau Iechyd a Diogelwch a Chynaliadwyedd.
  • Adolygiad cydweithredol o asesiadau risg croesfannau rheilffordd gydag AIW.
  • Gwersi a ddysgwyd o ddigwyddiadau diweddar yn Enfield a Reed Point, Montana.
  • Cynnydd yn unol â hysbysiad gwella'r Swyddfa Rheoleiddio’r Rheilffyrdd.
  • Datblygu trefniadau cadernid busnes TrC.

Hysbyswyd y Bwrdd bod y cyfnod wedi gweld cynnydd yn nifer y digwyddiadau diogelwch sy’n deillio’n bennaf o ymddygiad cwsmeriaid. Mae gwaith yn mynd rhagddo i adolygu’r prif achosion ac ymddygiadau.

 

3. Cofrestr risg

Nododd y Bwrdd y gofrestr risgiau strategol. Cytunwyd i ddileu’r risg ar gyllid ar gyfer 2022/23.

Gadawodd Leyton Powell y cyfarfod.

 

4. Diweddariad strategol

4a. Adroddiad y Prif Swyddog Gweithredol

Hysbyswyd y Bwrdd bod mwy o eglurder wedi dod i’r amlwg mewn sawl maes, gan gynnwys newid dulliau teithio, gweithredu fel sefydliad aml-ddull, rôl TrC o ran perfformiad bysiau a rheilffyrdd.

O ganlyniad i her y Bwrdd i’r Prif Swyddog Gweithredol, mae’r Prif Swyddog Gweithredol wrthi’n herio’r sefydliad yn fwy, yn enwedig o ran perfformiad y rheilffyrdd. Cadarnhaodd y Bwrdd ei gefnogaeth.

Roedd y Bwrdd yn croesawu’r ffocws penodol ar berfformiad rheilffyrdd o ran darparu mwy o drenau Dosbarth 197, sicrhau bod trenau 175 ar gael, gwella dibynadwyedd trenau Mk4 a dal i fyny â gofynion cynnal a chadw’r trenau dosbarth sprinter a achoswyd gan deithiau milltiroedd uwch ar y Gororau. Nododd y Bwrdd effaith gadarnhaol y camau gweithredu hyn yn ystod y mis gyda nifer cynyddol o wasanaethau 197 pedwar cerbyd yn cael eu gweld ar lwybrau Caerdydd i Gaergybi a nifer cynyddol o ddiwrnodau lle’r oedd pedair set Mk4 yn rhedeg mewn gwasanaeth.

Fodd bynnag, mae materion brys ac ar unwaith o ran capasiti yn Nepo Caer ac mae gwaith yn mynd rhagddo i gytuno ar gynllun gyda CAF.

Rhoddwyd yr wybodaeth ddiweddaraf i’r Bwrdd am esblygiad parhaus ‘TrC 2.0’ o ran hwyluso mwy o weithio amlddull. Cafwyd sgyrsiau cadarnhaol gyda’r Dirprwy Weinidog a gwnaed cynnydd gydag ef o ran cytuno ar arsylwr llywodraeth leol i fynychu cyfarfod y Bwrdd. Croesawodd y Bwrdd y llythyr cylch gwaith drafft gan Lywodraeth Cymru.

Rhoddwyd yr wybodaeth ddiweddaraf i’r Bwrdd am y cynnydd yng nghyswllt y canlynol:

  • Datblygiadau o amgylch yr agenda bysiau gan gynnwys trafodaethau ynghylch caffael a depos.
  • Gweithio i ddeall goblygiadau chwyddiant ar brosiectau.
  • Y diweddaraf am y trafodaethau i gytuno ar y Fenter Ailstrwythuro Gyrwyr. 

Cafodd y Bwrdd ddiweddariad lefel uchel ar drawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd, gan gynnwys mesurau lliniaru i wrthbwyso’r posibilrwydd o ymestyn rhaglenni ac effaith chwyddiant. Rhoddwyd gwybodaeth i’r Bwrdd am amrywiaeth o fesurau lliniaru posibl i leddfu materion chwyddiant drwy ddiwygiadau i’r cynllun a chynllun cerbydau. Pwysleisiodd y Bwrdd bwysigrwydd cadw o fewn yr amlen gyllideb bresennol y cytunwyd arni a chefnogodd y mesurau lliniaru posibl.

Ymunodd Jan Chaudhry Van der Velde â’r cyfarfod i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am berfformiad y rheilffyrdd. Yn ystod Cyfnod 3 y Rheilffyrdd gwelwyd cynnydd graddol o ran perfformiad ac i mewn i Gyfnod 4 y Rheilffyrdd. Roedd y Bwrdd yn awyddus i ddeall y gwahaniaeth rhwng y sefyllfa bresennol a lle mae TrC yn dymuno bod. Cytunwyd i ddod â’r materion hyn yn ôl i’r Bwrdd yn rheolaidd a dod â’r rhannau symudol at ei gilydd, yn enwedig o ran argaeledd cerbydau a chyflawni yn erbyn y cynllun i adfer dros y misoedd nesaf. TYNNWYD.

Gadawodd Jan Chaudhry Van der Velde y cyfarfod.

 

4b. Cyllid a llywodraethu

Hysbyswyd y Bwrdd bod yr archwiliad allanol wedi’i gwblhau ac nad oedd unrhyw faterion wedi’u nodi. Bydd y Cyfrifon a'r Adroddiad Blynyddol 2022/23 yn cael eu cyhoeddi’n fewnol yr wythnos nesaf, ac yn gyhoeddus yn fuan wedyn.

Cytunodd y Bwrdd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru ynghylch yr angen am benderfyniad ar gynnig Ffeibr Llinellau Craidd y Cymoedd TrC [Gweithredu James Price].

Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd gyda dangosyddion perfformiad allweddol corfforaethol, y cynllun fforddiadwyedd rheilffyrdd, a’r cynnydd o ran cytuno ar gytundeb rheoli newydd gyda Llywodraeth Cymru. Nododd y Bwrdd fod cynnydd gyda’r Cod Moeseg yn aros am gytundeb undebau llafur. Cytunodd y Bwrdd i weithio ar hyrwyddo saith egwyddor bywyd cyhoeddus ar draws y sefydliad [Gweithredu Jeremy Morgan]

Rhoddwyd yr wybodaeth ddiweddaraf i’r Bwrdd hefyd am gynlluniau ar gyfer datblygu’r gyllideb ar gyfer 2024/25. Mae angen toriad cyntaf ar gyfer diwedd mis Gorffennaf gydag ymarferion dwys yn cael eu cynnal dros yr haf. Nododd y Bwrdd y model a ddefnyddiwyd ynghyd â’r risgiau a’r cyfleoedd a gyflwynwyd. 

Nododd y Bwrdd y cyfrifon rheoli am fis Mehefin 2023 a’r duedd fach bresennol o danwariant. Trafododd y Bwrdd ddulliau posibl o gynyddu refeniw teithwyr.

 

Rhan B - Sesiwn diweddariad gweithredol

Ymunodd Geoff Ogden, Lewis Brencher a Dan Tipper â’r cyfarfod.

 

5. Teithio Llesol

Ymunodd Chris Roberts, Dafydd Trystan a Phil Jones, Natalie Grohmann (pob un o Lywodraeth Cymru), Matthew Gilbert a Glyn Evans (TrC) â'r cyfarfod. 

Rhoddodd Dafydd Trystan wybodaeth am rôl a chylch gwaith Bwrdd Teithio Llesol Cymru. Rhoddodd Chris Roberts gyflwyniad i waith y Grŵp Trawsbleidiol ar y Ddeddf Teithio Llesol sy’n cynnwys aelodau o’r pedair plaid yn y Senedd ac aelodau allanol o 30 sefydliad. Cyflwynodd Phil Jones y gwaith ar dasglu 20 mya, y manteision o ran diogelwch ar y ffyrdd, yr ymgyrch gyfathrebu, a newidiadau rheoleiddio posibl eraill.

Rhoddodd Matthew Gilbert a Natalie Grohmann wybodaeth i’r Bwrdd am y prif weithgareddau o ran datblygu Cynllun Cyflawni Drafft Llywodraeth Cymru ar gyfer Teithio Llesol, gan gynnwys ailosod cylch gwaith y Bwrdd Teithio Llesol a gweithgareddau allweddol yn y dyfodol. Cafodd y Bwrdd hefyd wybodaeth am ddyfodol rhaglen y Gronfa Teithio Llesol ac effaith y buddsoddiad cynyddol, y Rhaglen Braenaru a’r hwb Dylunio Teithio Llesol.

Croesawodd y Bwrdd y diweddariad a thrafododd integreiddio rhwng rhwydweithiau teithio llesol a thrafnidiaeth gyhoeddus a newid mewn dulliau teithio. 

Gadawodd Chris Roberts, Dafydd Trystan a Phil Jones, Natalie Grohmann, Matthew Gilbert a Glyn Evans y cyfarfod.

 

6. Strategaeth Ymgysylltu â Rhanddeiliaid

Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa o ran y strategaeth rhanddeiliaid yng nghyd-destun y model gweithredu newydd, y cynllun busnes, a gwaith newid ymddygiad parhaus.

Nododd y Bwrdd y themâu allweddol sy’n ymwneud â’r gwaith mewn perthynas â dylanwadwyr allweddol; sut mae defnyddio rhanddeiliaid ac ymgysylltu i newid ymddygiad; a dangos gofal TrC i gymunedau a rhanddeiliaid drwy ymateb yn gadarnhaol i gyfleoedd a cheisiadau. 

 

7. Diweddariad ar Linellau Craidd y Cymoedd

Cafodd y Bwrdd wybod am y diweddaraf ar y system signalau, mynediad i wasanaeth, profion Dosbarth 198, a newidiadau i strwythur sefydliadol sy’n fwy ar sail ddaearyddol.

Hysbyswyd y Bwrdd bod gwaith blocâd Treherbert yn mynd rhagddo yn unol â’r rhaglen a bod gwasanaethau bws yn lle trenau wedi cael eu gwella’n sylweddol.

Nododd y Bwrdd y risgiau a’r heriau diweddaraf sy’n dod i’r amlwg o ran comisiynu mynediad i wasanaeth; cwblhau’r dyluniad; rhaglen adfywio; rhaglen ddarparu CAR / BAY. O ran chwyddiant costau, mae tîm Masnachol TrC wedi cael ei ysgogi i gymryd rheolaeth uniongyrchol dros reolaeth fasnachol contractwyr ac o ddydd i ddydd gan AIW. Mae adolygiad o gyllidebau chwyddiant costau contractwyr yn mynd rhagddo fel rhan o ddiwydrwydd dyladwy manwl, gyda mesurau lliniaru’n cael eu datblygu lle bo angen.

Gadawodd Dan Tipper y cyfarfod.

 

8. Dangosyddion Perfformiad Allweddol corfforaethol

Ymunodd Zoe Smith-Doe â’r cyfarfod.

Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygu cyfres o ddangosyddion perfformiad allweddol corfforaethol. Pwysleisiodd y Bwrdd bwysigrwydd derbyn sylwadau rheoli ochr yn ochr â’r ffigurau.

Nododd y Bwrdd gynlluniau i gysylltu’r gwaith gyda’r amgylchedd rheolaeth fewnol sy’n datblygu.

Cymeradwyodd y Bwrdd y gyfres o ddangosyddion a nododd y bydd hyn yn mireinio wrth i TrC 2.0 esblygu.

Gadawodd Zoe Smith-Doe y cyfarfod.

 

9. Talu wrth Fynd

Ymunodd Alexia Course â’r cyfarfod.

Atgoffwyd y Bwrdd mai’r prosiect hwn oedd y prosiect talu wrth fynd aml ddull cyntaf yn y DU y tu allan i Lundain a’r cyntaf mewn amgylchedd nad yw’n cael ei reoleiddio ar gyfer gweithrediadau bysys a Chwmni Gweithredu Trenau.

Mae’r prosiect Talu wrth Fynd bellach ar y cam sicrwydd byw ar gyfer timau prawf a defnyddio cardiau Visa byw.

Bydd y profion yn cynyddu dros yr haf, gyda’r gwaith treialu i fod i ddechrau drwy 50 o ddefnyddwyr a nodwyd ymlaen llaw am bedair wythnos. Croesawodd y Bwrdd symud i’r cam sicrwydd byw.

Hysbyswyd y Bwrdd hefyd bod gwaith yn parhau i ddatblygu’r elfen bysiau a fydd yn cael ei integreiddio yn y prosiect rheilffyrdd. Nid yw’r amserlenni wedi’u cadarnhau eto.

 

10. Trawsnewid teithio busnes a datblygu arloesedd cynnyrch

Cafodd y Bwrdd wybod am newidiadau arfaethedig i Wasanaeth Teithio Busnes TrC, gan gynnwys ail-frandio, digideiddio, gwella cynnyrch a gwasanaethau, a newidiadau i’r model gweithredu. Croesawodd y Bwrdd y newidiadau arfaethedig a gwelodd botensial da yn y cynnig arfaethedig.

Nododd y Bwrdd bapur yn crynhoi’r dull strategol i’w ddefnyddio i sbarduno arloesedd a meithrin portffolio llwyddiannus o gynhyrchion newydd. Mae’r dull hwn wedi’i ddylunio i ategu’r gwaith sydd eisoes yn cael ei wneud o ran cynnyrch tocynnau masnachol.

 

11. Diogelu Refeniw

Nododd y Bwrdd bapur yn nodi’r dull o ddiogelu refeniw dros y 12 mis blaenorol yn seiliedig ar yr egwyddorion allweddol o wella ansawdd data, defnyddio dull mwy clyfar o ddiogelu refeniw symudol, gwella darpariaeth wrth y gatiau, gwella cyfraddau sganio trenau, lleihau gwerthiannau ar y trên i roi mwy o ffocws ar bwysigrwydd dilysu; a gweithgareddau wedi’u targedu at leihau twyll drwy ddull gweithredu sy’n cael ei arwain fwy gan ddata.

Nododd y Bwrdd y targedau a osodwyd i gefnogi’r gweithgareddau hyn a’r cynnydd hyd yma.

Hysbyswyd y Bwrdd am y dull strategol tymor hwy arfaethedig TYNNWYD ymgorffori a chynyddu’r defnydd o dechnoleg, gweithredu model cynllunio gweithlu ar gyfer gorsafoedd, model recriwtio blaengar, gwerthuso asesiadau risg gweithgarwch wrth y gatiau, ac adolygiad cydweithredol o’r cytundeb Cysoni Gorsafoedd sy’n darparu cyfleoedd i ddiwygio gofod manwerthu a’r ffordd y lleolir staff. Cafodd y Bwrdd hefyd yr wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd o ran gwella cyfraddau sganio ar drenau, a defnyddio dadansoddwr twyll. 

Nododd y Bwrdd fod diogelu refeniw yn cael ei adolygu’n rheolaidd drwy’r Grŵp Llywio Refeniw Gweithredol a Bwrdd Rheilffyrdd TrC.

Roedd y Bwrdd yn croesawu’r diweddariad a gofynnodd am ddiweddariad pellach mewn chwe mis [Gweithredu Alexia Course].

TYNNWYD

Gadawodd Alexia Course y cyfarfod.

 

12. Is-bwyllgorau

Roedd cyfarfod diweddar y pwyllgor Iechyd, Diogelwch a Llesiant yn canolbwyntio ar berfformiad, canlyniadau adolygiad diweddar gan y Bwrdd Diogelwch a Safonau Rheilffyrdd (RSSB), a’r defnydd o gamerâu corff.

Derbyniodd y Pwyllgor Archwilio a Risg ym mis Mehefin nifer o ddiweddariadau ar ddatblygiad yr amgylchedd rheolaeth fewnol, archwilio mewnol, archwilio allanol, gan gynnwys cymeradwyo’r adroddiad blynyddol a’r cyfrifon, yswiriant a rheoli risg.

Roedd cyfarfod diweddar y Pwyllgor Pobl yn canolbwyntio ar gyflogau, ymgysylltu â staff, bwlch cyflog rhwng y rhywiau, integreiddio data ar draws y grŵp, a recriwtio a chadw staff.

Cymeradwyodd y Bwrdd gylch gorchwyl diwygiedig ar gyfer y Pwyllgor Prosiectau Mawr.

 

13 Is-fyrddau

Cafodd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am gyfarfod diweddar Bwrdd Rheilffyrdd TrC Cyf.

 

14. Y Bwrdd Llywio

Roedd cyfarfod diweddar Bwrdd Llywio TrC yn canolbwyntio ar gyllid, llythyr cysur TrC, archwilio a chynllun busnes TrC.

 

Daeth y Cadeirydd â’r cyfarfod i ben a diolchodd i bawb am eu cyfraniadau.