Trafnidiaeth Cymru Cofnodion Cyfarfod y Bwrdd - 20 Hydref 2022

Submitted by Content Publisher on

Cofnodion Bwrdd TrC

20 Hydref 2022

09:30 - 17:00

Lleoliad - Llys Cadwyn ac ar-lein

 

Yn bresennol

Scott Waddington (Cadeirydd); Alun Bowen, Heather Clash, Vernon Everitt, Sarah Howells, Alison Noon-Jones, a James Price.

Hefyd yn bresennol: Jeremy Morgan; Leyton Powell (eitem 2); a Natalie Feely (eitemau 1 i 3).

 

Rhan A - Cyfarfod o’r Bwrdd Llawn

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

 

1a. Ymddiheuriadau am Absenoldeb

Nicola Kemmery.

 

1b. Hysbysiad ynghylch Cworwm

Gan fod cworwm yn bresennol, croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod a datganodd bod y cyfarfod yn agored.

 

1c. Datganiadau Diddordeb

Dim.

 

1d. Cofnodion a Chamau Gweithredu o’r Cyfarfod Blaenorol

Derbyniwyd bod cofnodion cyfarfod Bwrdd TrC ar 22 Medi 2022 yn gofnod gwir a chywir. Nodwyd y log camau gweithredu. Nododd y Bwrdd nad yw James Price bellach wedi’i secondio i TrC o Lywodraeth Cymru, ac mae’n gyflogedig gan TrC.

 

1e. Sylw i Ddiogelwch

Roedd dydd Llun yn Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd. Roedd hwn yn gyfle i wneud pwynt o ofyn i aelodau’r tîm am eu 
lles a oedd wedi dod â rhai pryderon i’r amlwg a sgyrsiau buddiol iawn.

 

1f. Sylw i Gwsmeriaid

Roedd gwasanaeth trên i Gaerdydd Heol y Frenhines yn rhedeg ychydig funudau’n hwyr ond eglurodd y goruchwyliwr fod hyn oherwydd problemau gyda thrên cludo nwyddau ac effaith debygol yr oedi. Roedd hyn yn enghraifft o gyfathrebu da â chwsmeriaid.

 

2. Perfformiad diogelwch

Ymunodd Leyton Powell â’r cyfarfod.

Mae’r gwaith wedi parhau gyda’r tîm Archwilio a Sicrwydd, y tîm Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant a’r tîm Seicoleg i gwblhau’r arolwg a’r archwiliad iechyd meddwl sydd bellach yn fyw. Mae hwn yn ddull gweithredu integredig ‘un-TrC’ sydd wedi’i ddylunio i adolygu polisïau ar draws busnes, polisïau a gweithdrefnau ar gyfer iechyd a llesiant. Croesawodd y Bwrdd y cynllun gan nodi y bydd yr allbwn yn cefnogi’r gwaith o ddatblygu strategaeth iechyd a llesiant integredig wedi’i diweddaru.

Mae cynnydd wedi bod yn y Signalau a Basiwyd yn Beryglus (SPAD) yn ystod 2022 o’i gymharu â 2021. Hysbyswyd y Bwrdd bod SPADS wedi digwydd ar draws holl ddemograffeg y boblogaeth o yrwyr. Mae’r tîm Diogelwch wedi cynnal adolygiad llawn ac wedi cryfhau arfau gyda thimau gweithredol ac wedi comisiynu’r RSSB i roi barn annibynnol ar gymhwysedd gyrwyr a rheolwyr SPaD i nodi meysydd i’w gwella. 

Nododd y Bwrdd gynnydd mewn digwyddiadau tresmasu a gweithgarwch troseddol ar draws y rhwydwaith. Mae timau’n parhau i weithio’n agos gyda Heddlu Trafnidiaeth Prydain a gwasanaethau heddlu lleol i fod yn rhagweithiol ac yn ymatebol i achosion. Roedd un digwyddiad yn cynnwys dwyn 21 tunnell o reiliau o iard nwyddau Pontypridd ddechrau mis Medi. Mae fforwm diogelwch ar y cyd rhwng TrC, AIW a Heddlu Trafnidiaeth Prydain wedi cael ei sefydlu ac mae’r cyfarfod cyntaf wedi cael ei gynnal yn ddiweddar. Er mwyn gwella’r gwaith o ddiogelu asedau, mae AIW wedi uwchraddio’u darparwyr diogelwch sydd â gallu symudol a chyswllt agosach â Heddlu Trafnidiaeth Prydain.

Mae perfformiad diogelwch rheilffyrdd yn erbyn targedau yn parhau i wella’n gyson ar y rhan fwyaf o Ddangosyddion Perfformiad Allweddol gyda sgôr gyfun y mynegai marwolaethau wedi’i bwysoli o 0.11 sy’n is na’r 0.17 a ragwelwyd.

Mae mynegai marwolaethau’r gweithlu wedi’i bwysoli yn dal yn gyson yn ystod y cyfnod hwn (0.03) gyda’r MMA o 0.05 yn dal yn is na’r ffigur a ragwelwyd (0.07). Gwelwyd gostyngiad yn nifer y digwyddiadau yn ymwneud â’r gweithlu gyda 20 wedi’u hadrodd (yn is na’r ffigurau a ragwelwyd). Gwelwyd gostyngiad hefyd yn nifer yr anafiadau heb fod yn ymwneud â’r gweithlu, gyda 23 wedi’u cofnodi o’i gymharu â 30 yn y cyfnod blaenorol, ond maent yn dal yn uwch na’r ffigur a ragwelwyd sef 15.54. Cafwyd saith ymosodiad corfforol yr adroddwyd arnynt.

Cafodd y Bwrdd hefyd yr wybodaeth ddiweddaraf am Drawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd a Pullman Rail.

Gadawodd Leyton Powell y cyfarfod.

 

3. Diweddariad strategol

3a. Adroddiad y Prif Swyddog Gweithredol

Trafododd y Bwrdd y cyfarfod cadarnhaol diweddar rhwng y Cadeirydd a’r Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd a chynlluniau ar gyfer cyfarfodydd chwarterol yn y dyfodol. Hefyd, rhoddodd y Prif Weithredwr wybodaeth i’r Bwrdd am gyfarfod diweddar gyda’r Dirprwy Weinidog, y Cadeirydd a swyddogion Llywodraeth Cymru ar brosiect Trawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd.

TYNNWYD

Hysbyswyd y Bwrdd hefyd fod y Cadeirydd a’r Dirprwy Weinidog hefyd wedi trafod teithio llesol a’r angen iddo fod yn uwch ar agendâu awdurdodau lleol. Cydnabuwyd bod teithio llesol wedi cael ei drosglwyddo i awdurdodau lleol, ond gall TrC ddarparu rôl arwain strategol. Cytunodd y Bwrdd y byddai’n elwa o ddeall y dull gweithredu neu’r cynllun gweithredu ar gyfer rheoli perfformiad awdurdodau lleol o ran grantiau [Gweithredu Geoff Ogden]

Nododd y Bwrdd fod y Dirprwy Weinidog hefyd yn croesawu gwaith TrC ar newid ymddygiad ac yn cydnabod bod angen i hyn gael ei brif ffrydio a’i wneud yn rhan o bopeth, o gynllunio ymyriadau i’w darparu a’u rhoi ar waith.

Cafodd y Bwrdd wybod hefyd bod rhagor o sgyrsiau wedi cael eu cynnal gyda’r Dirprwy Weinidog ynghylch rôl bosibl TrC o ran y rhwydwaith ffyrdd strategol. Mae James Price wedi cytuno i gael rhagor o ddeialog gyda’r Dirprwy Weinidog ynghylch dull gweithredu tebygol TrC. 

Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am gyflenwi gwasanaethau rheilffyrdd, dibynadwyedd y fflyd rheilffyrdd, refeniw teithwyr ar fysiau, rheilffyrdd a chyflogau Rheilffyrdd TrC.

 

3b. Cyllid a llywodraethu

Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am weithgareddau cyllid allweddol yn ystod y cyfnod diwethaf. Hysbyswyd y Bwrdd bod trafodaethau’n parhau ynghylch heriau’r bwlch cyllid refeniw sydd wedi cael eu trafod gyda’r Dirprwy Weinidog ac ym Mwrdd Llywio TrC.

TYNNWYD

Mae gwaith wedi dechrau ar ddatblygu’r gyllideb a’r cynllun busnes ar gyfer 2023-24. Bydd y gyllideb ddrafft ar gyfer 2023-24 yn cael ei chyflwyno yng nghyfarfod mis Rhagfyr.

O ran gwariant refeniw, roedd yr amrywiant yn ystod y mis yn £9.1m o danwariant yn erbyn y rhagolwg. Mae hyn yn ymwneud ag £8.9m ar gyfer Gweithrediadau Trafnidiaeth ac mae’n ymwneud yn bennaf â Rheilffyrdd ac adfer arian o Network Rail a rhyddhau croniadau eraill. Cafodd hyn ei wrthbwyso yn erbyn costau eraill a ailbroffiliwyd yn ddiweddarach yn y flwyddyn, sy’n cynnwys cerbydau ac ymrwymiadau eraill.

TYNNWYD

Nododd y Bwrdd y Cyfrifon Rheoli ar gyfer mis Medi 2022-23.

Croesawodd y Bwrdd y gwaith o ddatblygu dadansoddiad ariannol yn ôl llinell y llwybr sy’n darparu sail ar gyfer deall beth sy’n gyrru costau, y llwybrau drutaf a fydd yn helpu i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth. Cytunwyd y byddai’r Bwrdd yn cael sesiwn benodol ar hyn yn ei gyfarfod nesaf [Gweithredu Heather Clash].

Gadawodd Natalie Feeley y cyfarfod.

 

6. Is-fyrddau

Trafododd bwrdd diweddar Rheilffyrdd TrC Cyf fetrigau perfformiad, risg, materion masnachol, yr adolygiad ariannol tymor canolig, achos busnes dros waith ychwanegol yn Depo’r Barri; estyniad les Cl158 ac amserlen Rhagfyr 2023.

Cafodd y Bwrdd hefyd yr wybodaeth ddiweddaraf am Pullman Rail Ltd sydd ar hyn o bryd yn elwa o lyfr archebion iach.

 

6. Y Bwrdd Llywio

Roedd cyfarfod diweddar Bwrdd Llywio TrC wedi trafod y berthynas â Llywodraeth Cymru, cyllideb TrC; tocynnau bws, prisiau tecach, Llinellau Craidd y Cymoedd, cynnydd mewn prisiau rheilffyrdd, a cherbydau ar gyfer digwyddiadau arbennig.

 

7. Cyfrinachol

Trafododd y Bwrdd ddau fater cyfrinachol.

 

 

Rhan B - Sesiwn diweddariad gweithredol

Ymunodd Nicola Kemmery, Alexia Course, Geoff Ogden a Dan Tipper â’r cyfarfod.

 

8. Cynllun Datblygu Cynaliadwy

Ymunodd Alana Smith â’r cyfarfod. Cyflwynwyd y diweddariad ar y Cynllun Datblygu Cynaliadwy i’r Bwrdd. Croesawodd y Bwrdd yr adroddiad ar y cynllun a darparu nifer o newidiadau a awgrymwyd gan gynnwys yr angen i sicrhau ei fod yn cyd-fynd yn fyd-eang â deddfwriaeth berthnasol a chynllun gweithredu mewnol ar gyfer cyflawni.

Gadawodd Alana Smith y cyfarfod.

 

9. Prosiect Cyfuno - y newyddion diweddaraf

Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am Brosiect Cyfuno sy’n canolbwyntio ar ddatblygu’r berthynas waith rhwng TrC a Network Rail. Nodwyd a chroesawyd y cynnydd hyd yma sy’n dangos arweinyddiaeth a fframwaith y gall pob rhanbarth arall ddysgu ohono.

 

10. Diweddariad ar y Stoc Cerbydau

Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd mewn perthynas â’r rhaglen cyflenwi trenau newydd:

  • Mae rhaglen FLIRT Dosbarth 231 yn cael ei chyflwyno yn unol â’r cynllun ar hyn o bryd gyda heriau mawr o ran gwella depos wedi cael eu lliniaru’n llwyddiannus hyd yma. Bwriedir iddynt ymuno â’r gwasanaeth ym mis Ionawr 2023. 
  • Mae’r rhaglen FLIRT Dosbarth 756 yn cael ei chyflwyno yn unol â’r cynllun ar hyn o bryd hefyd, gyda heriau mawr o ran oedi yn y seilwaith wedi cael eu lliniaru’n llwyddiannus hyd yma. Bwriedir iddynt ymuno â’r gwasanaeth yn chwarter 1, 2025.
  • Mae rhaglen CityLink Dosbarth 398 yn cael ei chyflwyno yn unol â’r cynllun diwygiedig y cytunwyd arno ar hyn o bryd gyda heriau mawr o ran oedi yn y seilwaith wedi cael eu lliniaru’n llwyddiannus hyd yma.
    TYNNWYD
  • Mae’r rhaglen CAF Dosbarth 197 yn cael ei gohirio ar hyn o bryd am naw mis oherwydd problemau technegol ac ansawdd gyda’r Unedau ac oedi gyda’r gwaith safoni ar y rhwydwaith.
    TYNNWYD
  • Mae problemau technegol a diogelwch diweddar wedi cael eu goresgyn ar y fflyd Dosbarth 230. Mae’r rhaglen yn cael ei rhoi ar waith ar hyn o bryd i sicrhau lansiad meddal i’r gwasanaeth ar gyfer amserlen mis Rhagfyr 2022. 

Gadawodd Alexia Course y cyfarfod.

 

11. Cynllun Busnes Gwasanaethau Arloesi TrC 22-23

Cyflwynwyd y Bwrdd i Gynllun Busnes drafft Gwasanaethau Arloesi Trafnidiaeth Cymru Cyf ar gyfer 2023-24. Hysbyswyd y Bwrdd iddi fod yn fwy heriol dod o hyd i lif gwaith eleni ac mae gwaith yn parhau mewn sawl cyfeiriad. Mae gwaith yn parhau i ddatblygu cynllun Cyfathrebu ar draws TrC gyda’r bwriad o wella ymgysylltiad â’r fenter ar y cyd. Nododd y Bwrdd hefyd fod Grŵp Llywio Arloesi yn cael ei sefydlu sy’n cynnwys cynrychiolwyr o Keolis ac Amey ac o Labordai Arloesi TrC.

Roedd y Bwrdd yn awyddus i gael gweld arddangosiad o’r enillion ar fuddsoddiad yn y fenter ar y cyd.

Cymeradwyodd y Bwrdd y cynllun busnes ar gyfer 2023-24 a chyhoeddi llythyr cylch gwaith.

 

12. Diweddariad ar drawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd

Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am risgiau a pherfformiad allweddol ar gyfer y rhaglen Trawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd. Mae cynnydd da wedi’i wneud o ran gweithio gyda chyfleustodau statudol i alluogi proses fwy effeithlon ar gyfer gwyriadau.

Mae cynnydd da wedi’i wneud hefyd o ran dylunio ac adeiladu, gyda’r dylunio’n parhau ar gyflymder da a bydd angen ei gynnal.

Mynegodd y Bwrdd ei werthfawrogiad o ymweliad diweddar â depo Ffynnon Taf. Argymhellodd y Bwrdd y dylid gwahodd uwch swyddogion Llywodraeth Cymru i ymweld â depo Ffynnon Taf a’r rhwydwaith presennol [Gweithredu Jeremy Morgan].

 

13. Edrych ymlaen at chwe mis nesaf Trawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd 

Cyflwynwyd y Bwrdd i’r contractau allweddol sydd i’w gosod dros y cyfnod nesaf. Nododd y Bwrdd broffil y prosiectau seilwaith am y chwe mis nesaf.

Gadawodd Dan Tipper y cyfarfod

 

14. Cofrestr risg 

Ymunodd Leyton Powell â’r cyfarfod.

Adolygodd y Bwrdd y gofrestr risg strategol gyfredol a nodi rhai mân newidiadau a oedd yn deillio o roi’r model gweithredu targed ar waith.

Trafododd y Bwrdd faterion cyflenwi yn y dyfodol a gofynnodd a oedd Llywodraeth y DU yn gwneud unrhyw waith yn y maes hwn [Gweithredu Alexia Course].

Trafododd y Bwrdd sicrwydd ynghylch gofynion Cyllid Ewropeaidd hefyd. Hysbyswyd y Bwrdd bod archwiliadau EFAT rheolaidd yn cael eu cynnal a’u cyflwyno yn y Pwyllgor Archwilio a Risg.

Nodwyd y Gofrestr Risg.

 

Daeth y Cadeirydd â’r cyfarfod i ben a diolchodd i bawb am eu cyfraniadau.