Trafnidiaeth Cymru Cofnodion Cyfarfod y Bwrdd - 20 Mai 2021
Cofnodion Bwrdd TrC
20 Mai 2021
10:00 - 16:30
Lleoliad: ar-lein
Yn bresennol
Scott Waddington (Cadeirydd); Alun Bowen; Heather Clash; Vernon Everitt; Sarah Howells; Nicola Kemmery; Alison Noon-Jones; a James Price.
Hefyd yn bresennol: Peter Strachan (eitemau 1-3, 6); Natalie Feeley (eitemau 1-3); Leyton Powell (eitem 2c); a Jeremy Morgan. Sesiwn diweddariad gweithredol (Rhan B): Geoff Ogden; David O’Leary; Lewis Brencher; Lisa Yates; Lee Robinson; Alexia Course; Karl Gilmore; a Dave Williams. Ymunodd Natalie Rees a Laura Jones ar gyfer eitem 6a.
Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod, yn enwedig Peter Strachan (cyfarwyddwr anweithredol TfW Rail Ltd) a oedd yn bresennol fel sylwedydd.
Rhan A - Cyfarfod y Bwrdd Llawn
1a. Ymddiheuriadau am Absenoldeb
Dim.
1b. Hysbysiad Cworwm
Gan fod cworwm yn bresennol, estynnodd y Cadeirydd groeso i bawb i’r cyfarfod a chyhoeddi bod y cyfarfod yn agored. Croesawyd Peter Strachan i'r cyfarfod fel sylwedydd yn rhinwedd ei swydd fel Cyfarwyddwr Anweithredol Transport for Wales Rail Ltd.
1c. Datganiadau o fuddiant
Dim.
1d. Cofnodion a Chamau Gweithredu’r Cyfarfod Blaenorol
Cymeradwywyd cofnodion cyfarfod Bwrdd TrC dyddiedig 15 Ebrill 2021 fel cofnod gwir a chywir.
Nodwyd y cofnod gweithredoedd.
2a. Amser i Ddiogelwch
Atgoffwyd y Bwrdd bod arferion iechyd a diogelwch da yn mynd law yn llaw â gwasanaeth da i gwsmeriaid - mae gwaith nos ar Linellau Craidd y Cymoedd wedi dechrau a allai amharu ar rai preswylwyr cyfagos.
Mae cwest swyddogol i ddigwyddiad tram Sandilands 2016 wedi dechrau, lle mae'r ffocws yn debygol o fod ar broblemau blinder.
2b. Amser i gwsmeriaid
Fe wnaeth ail ymweliad â thafarn llai cyfarwydd na sefydliad cyfagos, arwain at groeso cynnes gan y perchennog a oedd yn cofio enw'r cwsmer. Mewn byd sy'n fwyfwy digidol, mae perygl o golli rhyngweithiadau personol. Mae angen i TrC sicrhau bod ganddo bobl ar lawr gwlad i ryngweithio â theithwyr lle bo hynny'n bosibl.
2c. Perfformiad o ran diogelwch
Ymunodd Leyton Powell â’r cyfarfod. Mae gwaith yn parhau i safoni'r dull o reoli risg ar draws TrC drwy'r system ARM newydd i gyd-fynd â'r model tair llinell amddiffyn sy'n rhan o swyddogaeth Risg ganolog. Mae gwaith wedi dechrau i grynhoi holl risgiau TrC i'r platfform sengl.
Mae nawdd sylfaenol Sentinel yn gweithio'n dda gyda chymwyseddau, mae hyfforddiant a phrofion meddygol yn cael eu prosesu'n effeithlon ac mewn da bryd, ac mae adborth cadarnhaol wedi’i dderbyn gan gydweithwyr perthnasol. Mae gweithgor Diogelu integredig wedi dechrau i adolygu cysondeb neu fylchau TrC yn erbyn Gweithdrefn Diogelu Cymru Gyfan.
Ni nodwyd unrhyw ddigwyddiadau ar gyfer Grŵp TrC ar gyfer Cyfnod Rheilffyrdd 1. Mae'r polisi gweithio gartref wedi'i ddiweddaru i gynnwys cofnodi digwyddiadau ar gyfer staff sy'n gweithio gartref. Yn ddiweddar, bu'r Uwch Dîm Arwain yn ystyried materion yn ymwneud â rheoli covid hir ond cytunodd fod angen ymdrin â'r mater yn gyfartal ochr yn ochr â mathau eraill o salwch hirdymor.
Cafwyd dau ddigwyddiad contractwr/cyflenwr ar draws y rhaglen Trawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd, y naill a’r llall yn ymwneud â rheoli llystyfiant. Mae'r ddau ddigwyddiad wedi'u huwchgyfeirio, gyda briffiau diogelwch oedi gwaith yn cael eu cynnal gyda thimau safle. Holodd y Bwrdd am y camau sy'n cael eu cymryd i ddadansoddi nifer y damweiniau fu bron â digwydd. Cadarnhawyd bod gwaith ar y gweill i ddadansoddi damweiniau fu bron â digwydd ac a oes angen cymryd camau i nodi a yw'r lefel uchel o ddamweiniau fu bron â digwydd yn adrodd effeithiol neu'n risgiau posibl sydd angen eu lliniaru.
Mae'r Gronfa Ddata Troseddau Metel genedlaethol yn cael ei defnyddio erbyn hyn, ac mae'n cysylltu'r holl achosion o geisio dwyn/achosion gwirioneddol o ddwyn ceblau fesul ardal ddaearyddol. Hefyd, rydym yn defnyddio system RIPPLE er mwyn helpu i reoli mesurau atal hunanladdiad; a'r Uned Atal Trais, grŵp amlasiantaeth cenedlaethol sy'n cynnwys tua 30 o sefydliadau gan gynnwys yr Heddlu, iechyd cyhoeddus, timau troseddau ieuenctid ac amryw o rai eraill sy'n meithrin ymagwedd iechyd cyhoeddus at atal trais.
Mae TrC wedi dechrau defnyddio adnodd asesu RM3 y Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd hefyd i fesur ei allu i reoli risg yn aeddfed a sicrhau rhagoriaeth mewn rheoli risg.
O ran TfW Rail ni chafwyd unrhyw anafiadau perthnasol i RIDDOR yng Nghyfnod Rheilffyrdd 1, gyda'r sgôr Mynegai Pwysoliad Marwolaethau’n parhau o fewn yr amrediad a ragwelwyd. Cafwyd pedwar achos o ymosodiad corfforol ar y gweithlu, ond ni chollwyd amser o ganlyniad iddynt. Ni chafwyd unrhyw ddigwyddiadau SPAD na 'Dispatch Irregularity' yn y cyfnod hwn. Mae damweiniau nad ydynt yn ymwneud â'r gweithlu yn parhau i fod yn isel yn y cyfnod, gyda Mas yn dod yn sefydlog ar draws pob ardal adrodd ac yn llawer is na'r ffigurau a ragwelwyd. Cafwyd naw anaf nad oeddent yn ymwneud â'r gweithlu, heb unrhyw achos o orfod mynd yn syth i'r ysbyty.
Bu cynnydd cyson yn nifer y digwyddiadau tresmasu ar draws Llinellau Craidd y Cymoedd yn ystod y cyfnod hwn, ond cafodd mesurau lliniaru amrywiol eu rhoi ar waith gan gynnwys mwy o batrolau MOM, adolygu matiau gwrth-dresmasu ar ddiwedd platfformau a thrwsio ac adnewyddu ffensys mewn mannau problemus.
Nododd y Bwrdd yr adroddiad Perfformiad Diogelwch. Gadawodd Leyton Powell y cyfarfod.
3a. Adroddiad y Prif Swyddog Gweithredol
Rhoddodd James Price drosolwg o weithgareddau allweddol dros y mis diwethaf. Yn gyffredinol, bu'n gyfnod o atgyfnerthu ar ôl y newidiadau sylweddol dros y misoedd diwethaf. Mae 100 a mwy o bobl wedi'u secondio o TfW Rail i Grŵp TrC er mwyn cynllunio a chyflwyno cyfres o weithgareddau ar sail aml-foddol. Mae'r meysydd yn cynnwys marchnata, masnachol, tocynnau, perfformiad, TG, cyllid ac adnoddau dynol. Mae’n gyfle hefyd i bobl symud o gwmpas rhannau gwahanol o'r grŵp fel rhan arferol o gyflawni busnes, a chael gyrfa amrywiol a datblygu eu hunain, lle mae pobl am wneud hynny.
Hysbyswyd y Bwrdd am dri mater pwysig yn ymwneud â rheilffyrdd, a chafwyd trafodaeth arnynt: TYNNWYD
Trafodwyd yr heriau o ddychwelyd i wasanaethau cyn covid, yn enwedig darparu dau drên yr awr i Flaenau'r Cymoedd yng nghyd-destun gofynion presennol cadw pellter cymdeithasol. Mae heriau o ran amseroedd glanhau trenau, amserlennu a cherbydau yn cael eu dadansoddi gyda mesurau lliniaru posibl yn cael eu datblygu.
Mae'r rhan fwyaf o fetrigau perfformiad gweithredol ar ddangosfwrdd perfformiad TfW Rail yn dangos bod pethau'n gwella, ond nododd y Bwrdd fod risgiau cyflawni mwy sylweddol nag o'r blaen wrth i nifer y teithwyr gynyddu, trenau dosbarth 230 a 769 yn dechrau gweithredu, y trenau Pacer olaf yn gorffen cael eu defnyddio, ac unedau'n cael eu cadw allan o Dreganna oherwydd gwaith ar Linellau Craidd y Cymoedd. Hysbyswyd y Bwrdd mai perfformiad o ddydd i ddydd ynghyd â pharodrwydd ar gyfer cerbydau yn y dyfodol a'r gwelliant mewn amserlenni fydd canolbwynt parhaus Bwrdd TfW Rail.
Trafodwyd yr heriau o fod yn ddarparwr trafnidiaeth integredig a'r cyhoeddiadau diweddar ar drefniadaeth gwasanaethau trenau Lloegr yn y dyfodol o ganlyniad i Adolygiad Williams.
3b. Trefniadau gweithio llai ffurfiol
Dywedodd Natalie Feeley fod Unite wedi gofyn iddi dynnu sylw'r Bwrdd at gontractau 'fire and rehire' a ddefnyddiwyd ar wasanaethau bysiau Llundain yn ddiweddar. Cytunwyd y byddai'r mater yn cael ei godi gyda Llywodraeth Cymru yn y Bwrdd Llywio nesaf [Gweithredu JP].
3c. Cyllid
Mae archwilwyr allanol yn adolygu gwaith prisio Llinellau Craidd y Cymoedd (CVL) mewn ymgynghoriad â TrC ac Atkins. Mae'r prisiad yn amodol ar newid pellach yn ystod yr adolygiad. Ceisir archwiliad annibynnol i ddarparu haen ychwanegol o onestrwydd a hyder.
Cadarnhawyd y bydd Llywodraeth Cymru yn trosglwyddo statws buddiolwr arweiniol ERDF i TrC ar gyfer prosiectau CVL drwy weithred a gaiff ei llofnodi ar 24 Mai.
Cafodd y Bwrdd wybodaeth am weithgareddau cyllid yn ymwneud â chyllideb seiliedig ar sero ar gyfer TfW Rail yn 2021-22; adennill TAW; Cyllideb TrC ar gyfer 2021-22; a pharatoi cyfrifon 2020-21.
Cafodd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am effaith covid ar refeniw teithwyr sydd tua 25% o amcangyfrif refeniw gwreiddiol y cais ar hyn o bryd, gyda'r gost cymhorthdal fesul taith deithiwr gryn dipyn yn uwch na'r cyfartaledd a adroddwyd yn ddiweddar gan y Swyddfa Archwilio Genedlaethol ledled Lloegr.
3d. Diweddariad ar yr is-bwyllgorau
Rhoddwyd y wybodaeth ddiweddaraf i'r Bwrdd am gyfarfod diweddar y Pwyllgor Prosiectau Newid Mawr a oedd yn cynnwys cyflwyniadau manwl ar ddau o brosiectau'r Metro - Prif Lein y Gogledd a’r De/ Comisiwn Trafnidiaeth y De-ddwyrain. Bu'r Pwyllgor yn ystyried y gwaith o lywodraethu peirianneg ac adeiladu hefyd; cyllid ERDF ar gyfer Trawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd a'r broses cylch oes sy'n esblygu. Mae cyfarfod wedi'i drefnu i adolygu ac, os oes angen, mireinio Cylch Gorchwyl y Pwyllgor. Adroddwyd bod y Pwyllgor wedi ehangu ei ddealltwriaeth o bortffolio prosiectau cyffredinol TrC a'r risgiau a'r cyfleoedd cysylltiedig. Cafodd y Bwrdd sicrwydd bod y Pwyllgor yn darparu dadansoddiad a chraffu manwl ar brosiectau ac y bydd yn adrodd i'r Bwrdd a'r Weithrediaeth yn ôl yr angen.
Nododd y Bwrdd y bydd ymgynghoriad ar y Polisi Archwilio a Sicrwydd drafft yn cael ei lansio ar gyfer ymgynghoriad ym mis Medi.
3e. Bwrdd Llywio TrC
Rhoddodd y Cadeirydd y wybodaeth ddiweddaraf i'r Bwrdd am gyfarfod diweddar Bwrdd Llywio TrC a fu’n trafod cynllun busnes a chylch gwaith TrC, Dangosyddion Perfformiad, diwrnod strategaeth diweddar TrC, cyllid, risgiau a heriau, trosglwyddo cyfrifoldebau priffyrdd, a llywodraethu cynlluniau Metro.
Gadawodd Peter Strachan y cyfarfod.
TYNNWYD
Cymeradwyodd y Bwrdd benodiad Marie Daly fel aelod o Fwrdd TfW Rail.
5. Unrhyw fater arall
Dim.
Rhan B - Sesiwn diweddariad gweithredol
Ymunodd Lewis Brencher, Alexia Course, David O'Leary, Geoff Ogden, Lee Robinson, Dave Williams a Peter Strachan â'r cyfarfod.
6a. Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth
Ymunodd Laura Jones a Natalie Rees â'r cyfarfod i gyflwyno'r Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth drafft. Mae'r cynllun pum mlynedd yn seiliedig ar Ddeddf yr Amgylchedd ac mae'n cwmpasu pum amcan cyffredinol – (1) dim colled net o fioamrywiaeth; (2) cyfathrebu ac ymgysylltu; (3) prif ffrydio arferion gorau; (4) cydweithio; a (5) mentrau bioamrywiaeth. Gofynnodd y Bwrdd sut y byddwn yn mesur 'dim colled net o fioamrywiaeth' a deallwyd bod strategaeth wrthi'n cael ei datblygu a fydd yn coladu ac yn adrodd ar y data perthnasol. Nododd y Bwrdd hefyd fod materion yn ymwneud â chael gwared ar lystyfiant wedi cael mwy o sylw wrth gychwyn gwaith Trawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd a bod angen ymgysylltu'n effeithiol â chymdogion ar ochr y lein a rhanddeiliaid allweddol eraill.
Cymeradwywyd y Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth gan y Bwrdd.
Ymunodd Steve Ward â'r cyfarfod, a roddodd gyflwyniad ynghyd â Natalie Rees ar ymdrechion TrC i leihau allyriadau carbon o brosiectau a gweithrediadau busnes cyffredinol. Mae gwaith ar droed i ymateb i'r gweithgareddau datgarboneiddio amrywiol a amlinellir yn llythyr cylch gwaith TrC, a bydd cynllun cyflawni datgarboneiddio yn cael ei gyhoeddi yn ystod hydref 2021. Hefyd, clywodd y Bwrdd fod Llywodraeth Cymru wedi sefydlu Bwrdd Rhaglen Datgarboneiddio Trafnidiaeth dan gadeiryddiaeth Llywodraeth Cymru, gyda TrC yn aelod.
Gofynnodd y Bwrdd a oedd unrhyw heriau o'n blaenau o ran cyflawni cynlluniau a chamau gweithredu TrC yn ymwneud â datgarboneiddio. Clywyd mai un o'r prif heriau yw cyflawni'r targed allyriadau di-garbon net ar gyfer holl weithrediadau uniongyrchol a gweithrediadau trafnidiaeth TrC erbyn 2030. Gan nad yw holl rwydwaith TrC mewn dwylo cyhoeddus, bydd yn rhaid gwrthbwyso allyriadau carbon mewn ffyrdd gwahanol felly, sy'n waith drud ar y cyfan. Yn seiliedig ar allyriadau cyfredol, gallai gostio hyd at £4 miliwn y flwyddyn neu blannu tua 250,000 o goed y flwyddyn.
Nododd y Bwrdd y cyflwyniad gan groesawu'r gwaith presennol ac arfaethedig. Gadawodd Laura Jones, Natalie Rees a Steve Ward y cyfarfod.
6b. Cynllun Busnes Gwasanaethau Arloesi Trafnidiaeth Cymru
Gofynnwyd i'r Bwrdd gymeradwyo cynllun busnes Gwasanaethau Arloesi Trafnidiaeth Cymru (TfWIS) ar gyfer 2021-22. Pwysleisiwyd bod y cynllun yn manylu ar feysydd y gallai TfWIS fanteisio arnynt, yn hytrach na rhai y byddai’n manteisio arnynt. Fodd bynnag, mae TrC eisoes wedi elwa ar nodi, rhannu gwybodaeth, a chael mynediad posibl i tua 40 o feysydd eiddo deallusol Keolis ac Amey, gyda thua 100 o gyfleoedd pellach posibl wedi'u nodi, ac mae 13 ohonynt wedi cyrraedd cam mwy datblygedig. Mae cynigion ar gyfer defnydd pellach o eiddo deallusol Keolis ac Amey wedi'u mapio yn y cynllun busnes a bydd cynlluniau manteisio yn cyd-fynd â nhw.
Gofynnodd y Bwrdd sut y gellir sicrhau y bydd y gwasanaethau a'r eiddo deallusol a brynir drwy'r fenter ar y cyd yn rhoi gwerth am arian. Dywedwyd wrth y Bwrdd bod metrigau'n cael eu datblygu i fesur gwerth am arian ynghyd â phroses i ddadansoddi costau mentrau ar y cyd drwy feincnodi'r farchnad, a bod Bwrdd TfWIS yn craffu ar unrhyw dasgau cyn eu cymeradwyo. Cymeradwyodd y Bwrdd gynllun busnes TfWIS ar gyfer 2021-22. Gofynnodd y Bwrdd am ddiweddariadau cynnydd bob chwarter.
6c. Tracwyr cerrig milltir
Nododd y Bwrdd gynnwys y tracwyr rhaglenni a chorfforaethol.
6d. Adroddiad y Panel Cyfathrebu a Chynghori/Ymgysylltu
Mae'r strwythur newydd Cyfathrebu ac Ymgysylltu yn gwreiddio'n dda, gyda mwy o gydweithredu ac allbwn eisoes i'w gweld yn sgil cyfuno’r holl weithgareddau ymgysylltu a chyfathrebu ar draws grŵp TrC.
Roedd uchafbwyntiau dros y mis diwethaf yn cynnwys lansio Partneriaeth Rheilffyrdd Cymunedol newydd ar gyfer rhanbarth Caerdydd a'r Cymoedd; parhau i ddatblygu negeseuon 'croeso'n ôl; hyrwyddo'r ymgyrchoedd Gwirio Capasiti a Chadw Sedd; datblygu ymgyrch fflecsi ledled Cymru; ac esblygiad parhaus model cyflawni'r Partner Busnes Cyfathrebu.
Hefyd, diweddarwyd y Bwrdd ar ddatblygu llyfryn 'Metro; canllaw i gymunedau', a fydd yn cael ei bostio i 55,000 o gymdogion ochr y lein dros y dyddiau nesaf.
Nododd y Bwrdd gynnwys yr adroddiad cyfathrebu a chymeradwyodd yr adroddiad Ymgysylltu drafft ar gyfer 2020-21.
6e. Diweddariad ar fysiau
Cafodd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am elfennau gwahanol gwaith TrC ar yr agenda bysiau. Mae'r ffrwd waith ar BES2 wedi gorffen gyda'r rhan fwyaf o weithredwyr wedi cofrestru, gan adael dim ond ychydig o weithredwyr cymunedol yn bennaf heb lofnodi. Ar hyn o bryd nid oes unrhyw risgiau mawr ar draws y ffrydiau gwaith eraill.
6f. Cynllun busnes
Adolygodd y Bwrdd adran naratif cynllun busnes TrC ar gyfer 2020-21. Nid yw'r gyllideb wedi'i chwblhau eto gyda naratif y cynllun i'w newid yn unol â hynny. Cytunwyd y byddai'r Bwrdd yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw newidiadau perthnasol.
6g. Cofrestr Risg
Mae pedwar risg yn parhau ar adroddiad y Bwrdd ers yr adroddiad diwethaf: adennill cyllid yr UE mewn perthynas â chyllid ERDF ar gyfer trawsnewid CVL; cyllid sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2021/22; rhwymedigaethau sy'n dod i’r amlwg gan TfW Rail; ac oedi wrth gyflwyno cynllun Trawsnewid CVL o ganlyniad i Covid 19. Mae dau risg wedi'u huwchgyfeirio ac nid oes unrhyw risgiau newydd wedi'u hychwanegu. Cytunodd y Bwrdd y dylid ychwanegu risg ychwanegol o beidio â chael cynlluniau cadarn ar gyfer cyflawni newid moddol a peidio â chyflawni diben TrC [Gweithredu: LP i godi a mireinio gyda'r Uwch Dîm Arwain].
Nododd y Bwrdd waith parhaus i adolygu trefniadau Rheoli Risg TrC a chysoni'r Tîm Diogelwch a Chynaliadwyedd ymhellach â'r model amddiffyn tair llinell. Mae gwaith wedi dechrau hefyd i uno risgiau TrC a TfW Rail mewn un system sengl a chysoni llywodraethu drwy dîm risg Grŵp TrC.
6h. Dangosfwrdd Llinellau Craidd y Cymoedd ac edrych ymlaen 6 mis
Ymunodd Karl Gilmore â’r cyfarfod. Nododd y Bwrdd y sefyllfa gyflawni fwy sefydlog. Bydd carreg filltir 9 yn cael ei chyflawni'n hwyr ac mae mesurau lliniaru'n cael eu datblygu.
TYNNWYD
Gadawodd Karl Gilmore y cyfarfod.
TYNNWYD
Diolchodd y Cadeirydd i'r holl fynychwyr a chyflwynwyr, a daeth â'r cyfarfod i ben.