Trafnidiaeth Cymru Cofnodion Cyfarfod y Bwrdd - 21 Mai 2020

Submitted by positiveUser on

Cofnodion Bwrdd TrC Mai 2020

10:00 – 16:30; 21 Mai 2020

Clive House, Bradford Place, Penarth

O ganlyniad i Covid-19, cynhaliwyd y cyfarfod ar ffurf cynhadledd fideo/sain.

 

 

Yn bresennol

Scott Waddington (SW) (Cadeirydd); James Price (JP); Heather Clash (HC); Sarah Howells (SH); Nicola Kemmery (NK); Alison Noon-Jones (ANJ); Vernon Everitt (VE); Alun Bowen (AB); Natalie Feeley (NF); Gareth Morgan (eitemau 2b-2c) a Jeremy Morgan (Ysgrifenyddiaeth).

Sesiwn diweddariad gweithredol (Rhan B): Geoff Ogden (GO); David O’Leary (DOL); Lewis Brencher (LB); Lisa Yates (LY); Lee Robinson (LR); Alexia Course (AC); a Karl Gilmore (KG).

 

Rhan A – Cyfarfod o’r Bwrdd Llawn

1a. Ymddiheuriadau am Absenoldeb

Dim.

1b. Hysbysiad ynghylch Cworwm

Gan fod cworwm yn bresennol, rhoddodd y Cadeirydd groeso i bawb i’r cyfarfod a datgan bod y cyfarfod ar agor.

1c. Gwrthdaro rhwng Buddiannau

Dim wedi’i ddatgan.

1d. Cofnodion a Chamau Gweithredu o’r Cyfarfod Blaenorol

Derbyniwyd cofnodion cyfarfod y Bwrdd ar 23 Ebrill 2020 yn gofnod gwir a chywir.

2a. Sylw i Ddiogelwch

Rhoddwyd gwybod i’r Bwrdd am ddirwy a roddwyd yn ddiweddar i gontractwr rheilffordd yn dilyn ymchwiliad Swyddfa Rheoleiddio’r Rheilffyrdd (ORR) i ddau weithiwr rheilffyrdd a fu farw mewn damwain traffig ar y ffordd am fod eu cyflogwr wedi methu sicrhau eu bod wedi cael seibiant digonol i weithio a theithio’n ddiogel. Cafodd y contractwr ddirwy o £1 miliwn.

Rhannodd y Bwrdd enghreifftiau o wasanaeth da i gwsmeriaid yn ystod y cyfyngiadau symud presennol. Yn siop fwyd M&S roedd aelod o staff wedi rhoi croeso cynnes i gwsmeriaid, a chafodd y troli ei lanhau. Gellir dysgu gwersi ar gyfer yr adeg pan fydd y gwasanaethau'n agor.

Trafododd y Bwrdd hefyd yr angen i gymryd gofal wrth gyhoeddi negeseuon am fod peth o’r wybodaeth ddiweddar gan ffynonellau amrywiol ynglŷn â gwisgo masgiau wedi peri dryswch ymhlith aelodau o’r cyhoedd.

Rhannodd VE ei brofiad gyda TfL pan oedd pedair blynedd i baratoi ar gyfer y Gemau Olympaidd yn Llundain yn 2012. Roedd y penderfyniad diweddar i lacio’r cyfyngiadau symud yn Lloegr yn golygu bod gan TfL wythnos i baratoi. Roedd hyn wedi arwain at ymgyrch posteri fawr. Yr allwedd yw ceisio â chyfleu’r neges i bobl cyn iddynt gyrraedd yr orsaf/safle bysiau a datblygu partneriaeth rhwng y gweithredwr a’r teithwyr.

2c. Perfformiad diogelwch

Mae’r system ar gyfer profion COVID-19 wedi newid a gellir rhoi prawf i bob aelod o staff os oes angen. Mae’r Grŵp Cydlynu Tactegol yn parhau i gyfarfod ddwywaith yr wythnos, ac mae’n cynllunio mesurau a gofynion er mwyn dychwelyd i’r gwaith yn ddiogel pan fydd unrhyw benderfyniad yn cael ei wneud.

Yn dilyn archwiliad diogelwch diweddar ar TrC fel endid corfforaethol, cafodd cynllun gweithredu ei ddatblygu. Trafododd y Pwyllgor Iechyd, Diogelwch a Lles y cynllun gweithredu yn ystod ei gyfarfod diweddar.

Mae gwaith yn mynd rhagddo i ddatrys cynlluniau ar gyfer croesfannau rheilffordd Llinellau Craidd y Cymoedd, er mwyn gallu gweithredu o fewn y canllawiau gyda thraffig ychwanegol, ac ni chafwyd unrhyw ymateb negyddol i’r cynigion cyfredol.

Cynhaliwyd dadansoddiad yn ddiweddar fel ymateb i gais y Bwrdd am wybodaeth ynghylch faint o gwynion gan gwsmeriaid sy'n deillio o faterion iechyd a diogelwch. Mae’r dadansoddiad yn dangos bod y cwynion am ddiogelwch cwsmeriaid yn ymwneud yn bennaf â gorlenwi, gyda llai o gwynion yn ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Croesawodd y Bwrdd newyddion am wobr arian gan Mind yn ddiweddar yn ei Mynegai Llesiant yn y Gweithle 2019- 20.

Mae ystadegau diogelwch ar gyfer gwasanaethau trên yn parhau i gael eu hystumio yn sgil effaith COVID-19. Yn y cyfnod hwn adroddodd Gwasanaethau Rheilffyrdd TrC ddau anaf yn cynnwys gweithwyr a dim anaf i gwsmeriaid y mae'n rhaid ei adrodd o dan y Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau neu Ddigwyddiadau Peryglus (RIDDOR). Nid oedd unrhyw achos o Basio Signal yn Beryglus (SPAD) nac afreoleidd-dra yn ymwneud â gadael wedi cael eu hadrodd. Serch hynny, gwelwyd cynnydd yn nifer yr achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn gorsafoedd.

Trafododd y Bwrdd faterion iechyd meddwl a’r angen i fod yn ymwybodol o’r ffaith y gallai rhai arwyddion fod ynghudd ar hyn o bryd am fod staff yn gweithio o’u cartrefi. Er mwyn gwrthsefyll hyn, mae staff yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn digwyddiadau cymdeithasol amrywiol ar-lein sy'n cael eu trefnu ar draws y busnes. Pwysleisiwyd hefyd fod angen gwneud yn siŵr bod staff arlwyo sydd ar ffyrlo yn cadw cysylltiad â gweddill y sefydliad.

3a. Adroddiad y Prif Swyddog Gweithredol

Mae gwaith yn mynd rhagddo i liniaru effaith COVID-19 a'r materion ariannol cysylltiedig sy'n dod i’r amlwg. Mae’n rhaid i raglen waith a gwasanaethau TrC ymateb a chyd-fynd â pholisi iechyd cyhoeddus, a sicrhau bod ein sefyllfa ariannol yn cael ei rheoli’n dda ac yn cyfrannu at ailgychwyn yr economi. Yn fewnol, mae angen sicrhau bod staff yn cynnal cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith a’u bod yn cymryd gwyliau blynyddol os bydd angen.

Cytunwyd ar Gam 2 o’r Cytundeb Mesurau Brys (EMA) gyda’r Partner Gweithredu a Datblygu, ac mae gwaith yn mynd rhagddo i ddatblygu opsiynau Cam 3 i ddechrau yn yr Hydref 2020. Cafodd sawl opsiwn eu datblygu ac maent wrthi’n cael eu hystyried ar hyn o bryd; maen nhw wedi’u seilio ar yr angen i sicrhau gwerth am arian. Mae'r gwaith hwn yn cael ei wneud ar y cyd â Llywodraeth Cymru gyda rhaglen waith ar y gweill dan dair ffrwd waith: (1) dylunio gwasanaethau a rhwymedigaethau; (2) trawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd a rheoli seilwaith; a (3) llywodraethu, sefydliad a chyllid. Bydd pob ffrwd waith yn cael ei hategu gan nifer o ffrydiau gwaith TrC ychwanegol. Mynegodd y Bwrdd ei ddiolch i’r tîm am gytuno ar Gam 2 o’r Cytundeb Mesurau Brys.

Mae gwaith yn digwydd ar sawl mater sy’n ymwneud ag ailagor gwasanaethau trên, yn arbennig yn gysylltiedig â hyfforddi gyrwyr; capasiti; a rôl a statws y diwydiant bysiau.

Hysbyswyd y Bwrdd na fyddir yn parhau i recriwtio oni bai ei fod yn gwbl angenrheidiol â'r nod o warchod arian cyhoeddus; mae nifer o feysydd lle mae ymgynghorwyr yn cael eu defnyddio hefyd yn cael eu herio i weld a ellir cyflawni’r gwaith yn fewnol.

Cam gweithredu: LY i sicrhau bod ystyriaeth yn cael ei rhoi i’r posibilrwydd o rannu swyddi gyda Gwasanaethau Trên TrC.

3b. Cyllid

Nododd y Bwrdd y cyfrifon rheoli ar gyfer mis Ebrill 2020, sy’n adlewyrchu gwariant yn ystod y mis yn ogystal â golwg o’r flwyddyn gyfan (rhagolwg sy’n adlewyrchu addasiadau COVID-19) a chyllideb y cynllun busnes a gyflwynwyd (cynCOVID-19).

Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am feysydd gwaith allweddol ar gyfer y tîm Cyllid yn ymwneud â throsglwyddo asedau Llinellau Craidd y Cymoedd, y Cytundeb Mesurau Brys, y Rhaglen Trafnidiaeth Integredig ar gyfer y Dyfodol a TAW. Bydd dadansoddwr trethi yn ei swydd maes o law i reoli gweithgarwch TAW yn y dyfodol gan gynnwys statws Adran 33 a TAW y gellir ei adennill. Mae archwiliad allanol wedi dechrau, a bydd yn cael ei gynnal dros y we.

Y gwariant refeniw yn y mis (Ebrill) oedd £37.6m. Roedd £36.6m o hwn yn ymwneud â'r rheilffyrdd ac mae'r rhan fwyaf o'r swm hwnnw'n mynd drwodd i'r Partner Gweithredu a Datblygu. Y Gwariant Cyfalaf yn y mis (Ebrill) oedd £7.7m, ac roedd £7.4m ohono’n ymwneud â'r rheilffyrdd.

Holodd y Bwrdd a ddaethpwyd i gytundeb ynghylch cyllid yn y dyfodol gyda Llywodraeth Cymru. Hysbyswyd y Bwrdd bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi darpariaeth ysgrifenedig yn y cyfamser i alluogi TrC i wneud taliadau cyn i Lywodraeth Cymru selio’r Cytundeb Mesurau Brys ddechrau Mehefin. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi rhoi llythyr cylch gwaith tri mis i TrC yn ddiweddar. Mae’r trefniadau hyn wedi’u cofnodi yng nghyfarfod diweddar y Bwrdd Llywio, yn ogystal â chytuno ar y geiriad gydag archwiliad allanol.

3c. Diweddariad am yr is-bwyllgorau

Roedd Cadeiryddion Pwyllgor y Bwrdd wedi rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am gyfarfodydd y Pwyllgorau Cwsmeriaid a Chyfathrebu, Iechyd, Diogelwch a Lles, a Phobl a gynhaliwyd yn ddiweddar. Trafododd y Bwrdd a ddylai cynaliadwyedd a chyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol fod o dan gylch gorchwyl Pwyllgor y Bwrdd. Cytunodd y Bwrdd ag argymhellion y Pwyllgor Iechyd, Diogelwch a Lles fod natur drawsbynciol y meysydd hyn yn golygu bod angen iddynt aros fel eitemau i Fwrdd llawn y cwmni eu hystyried. Fodd bynnag, cytunwyd y byddai adroddiadau cynaliadwyedd yn dod o dan gylch gwaith y Pwyllgor Archwilio a Risg.

Cytunodd y Bwrdd ar gylch gorchwyl diwygiedig ar gyfer y Pwyllgorau Archwilio a Risg, ac Iechyd, Diogelwch a Lles.

4. Yr wybodaeth ddiweddaraf gan y Bwrdd Llywio

Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf gan y Cadeirydd am gyfarfod y Bwrdd Llywio yr wythnos diwethaf pryd trafodwyd materion yn ymwneud â’r ymateb i COVID-19 a'r Cytundeb Mesurau Brys.

5. Unrhyw fater arall

Dim.

 

Rhan B – Sesiwn diweddariad gweithredol

Ymunodd LB, LR, AC, KG, DOL a GO â’r cyfarfod.

5a. Cyfathrebu â chwsmeriaid ynglŷn ag ailgychwyn y gwasanaethau

Cyflwynwyd y Bwrdd i gynigion drafft ar gyfer marchnata a chyfathrebu â chwsmeriaid sy'n seiliedig ar gysyniad mnemonig SAFER y mae’r Partner Gweithredu a Datblygu’n cael ei annog i’w ddefnyddio ond y gellid ei ddefnyddio ar draws sawl modd. Cytunodd y Bwrdd fod newid ymddygiad yn hanfodol i lwyddiant unrhyw ymgyrch a ddylai fod yn seiliedig ar Siarter i Deithwyr. Cafodd ymgyrch arfaethedig SAFER ei phrofi ymysg 2,000 o bobl a’i rhannu gyda’r Prif Swyddog Meddygol, a wnaeth ambell addasiad.

5b. Cofrestr Risgiau Strategol

Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am newidiadau i’r Gofrestr Risgiau Strategol. Mae’r rhan fwyaf o’r newidiadau wedi codi o ganlyniad i faterion COVID-19, ac wedi cael effaith ar Gyllid Ewropeaidd ar gyfer trawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd, integreiddio fertigol ac effaith ar y gadwyn gyflenwi.

5c. Cyfathrebu

Cynhaliwyd y Panel Ymgynghori cyntaf yr wythnos yma; cafwyd ymateb cadarnhaol a datblygwyd perthynas dda gyda Chydffederasiwn Diwydiant Prydain a'r Ffederasiwn Busnesau Bach a fydd yn helpu i gychwyn cyfathrebu gyda busnesau i gael pobl yn ôl i’w gwaith yn ddiogel. Mae dau unigolyn yn sefyll i fod yn gadeirydd y Panel.

Mae bwletinau mewnol dyddiol am COVID-19 yn cael eu cyhoeddi i staff - mae’r rhain yn lledaenu negeseuon y llywodraeth ynghyd â negeseuon perthnasol eraill. Mae galwadau cwmni-gyfan wedi cael adborth cadarnhaol iawn. Mae argraff o frand TrC yn gwella, a'r her yw cynnal y sgôr gyfredol.

5d. Yr wybodaeth ddiweddaraf am adfer ac ailffocysu

Briffiwyd y Bwrdd ar bapur yn nodi gwaith y Tîm Gweithredol i ystyried y risgiau a’r cyfleoedd sy’n deillio o bandemig COVID-19 yn gysylltiedig â gwasanaethau trên, gwariant refeniw trawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd, cynlluniau arian cyfalaf a gwasanaethau bws.

Mae’r Tîm Gweithredol wedi sefydlu rhaglen ‘Ailffocysu ac Adfer’ i adolygu a gweithredu newidiadau i’r ffordd rydym yn gweithio yn y sefydliad. Mae’r rhaglen yn cynnwys gwaith trafod a datblygu wythnosol y gweithgor gyda’r Tîm Gweithredol ac mae’n canolbwyntio ar dri cham adfer ac ailffocysu: ymateb, adfer a ffynnu. Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar bedwar maes: sicrhau ein bod yn defnyddio ein hadnoddau’n effeithlon ac yn blaenoriaethu ein gwariant ar gyflenwi rhaglenni; canolbwyntio ar ddatblygu a chyflenwi cynlluniau buddsoddi; cefnogi a datblygu'r agenda bysiau cenedlaethol; a gwarchod cyflogaeth uniongyrchol.

Rhagwelir y bydd yn rhaid i’r rhaglen gael ei rheoli’n gyson yn sgil ei dibyniaeth ar benderfyniadau parhaus y llywodraeth.

Nodwyd y papur.

5e. Matrics Dirprwyaethau

Cyflwynwyd papur gerbron y Bwrdd yn nodi newidiadau i Fatrics Dirprwyaethau’r cwmni sy'n effeithio ar y Bwrdd. Cynhaliwyd adolygiad yn ddiweddar yng nghyd-destun twf TrC a’i ddatblygiad o ran maint a chylch gwaith, felly roedd angen dybryd i adolygu’r Matrics Dirprwyaethau i adlewyrchu sut mae’r sefydliad wedi datblygu a sut mae’n setlo i mewn i fusnes fel arfer.

Trafododd y Bwrdd yr angen i ddeall a diffinio materion ‘newydd, dadleuol ac ôl-weithredol’ y mae angen eu trafod gyda Llywodraeth Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru.

Cam gweithredu: JM i nodi a chytuno ar ddiffiniad o faterion newydd, dadleuol ac ôl-weithredol, a’i gyflwyno i Lywodraeth Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru.

Cymeradwyodd y Bwrdd y Matrics Dirprwyaethau, yn amodol ar gael cymeradwyaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y meysydd lle mae ganddi awdurdod, a chytunwyd y dylid ei adolygu’n flynyddol.

5f. Prosiectau seilwaith - yr wybodaeth ddiweddaraf am y chwe mis nesaf

Nododd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am broffil gwariant trawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd dros y chwe mis nesaf.

5g. Yr wybodaeth ddiweddaraf o ran datblygu cynaliadwy

Ymunodd NR â’r cyfarfod i gyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Bwrdd o ran Datblygu Cynaliadwy TrC ar gyfer 2019-20. Bydd yr adroddiad yn cael ei ategu gan fideos ar y cyd â Gwasanaethau Trên TrC. Cytunwyd bod angen mwy o gyd-destun a sylwebaeth mewn perthynas â'r effaith a’r cyfleoedd yn sgil COVID-19. Cytunwyd ar y cynllun gyda mân newidiadau, a gafodd eu trafod a’u cytuno.

5h. Digwyddiad Caffael ar gyfer Fframwaith Cyflenwi Deunyddiau Llinellau Craidd y Cymoedd

Cymeradwyodd y Bwrdd y fethodoleg arfaethedig ar gyfer gofynion Fframwaith Cyflenwi Deunyddiau Llinellau Craidd y Cymoedd a’r strategaeth gaffael arfaethedig ar gyfer ymgysylltu â’r farchnad a’r digwyddiad caffael dilynol.

5i. Y diweddaraf gan FIT

Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd mewn perthynas â’r Rhaglen Trafnidiaeth Integredig ar gyfer y Dyfodol. Roedd grantiau bysiau ac awyrennau wedi’u rhaglennu i gael eu trosglwyddo o Lywodraeth Cymru i TrC ym mis Ebrill a Mehefin yn y drefn honno, ond cafodd y ddau drosglwyddiad eu gohirio oherwydd pandemig COVID-19. Mae’n bosibl y bydd grantiau bysiau’n cael eu trosglwyddo ym mis Mehefin, ond mae amseriad awyrennau eto i’w benderfynu. Mae grantiau teithio llesol a throsglwyddiadau rhwydwaith ffordd strategol hefyd wedi’u gohirio tra byddwn yn disgwyl eglurhad gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â sut y byddwn yn mynd ati i drosglwyddo’r swyddogaethau hyn. Nododd y Bwrdd y diweddariad.

5j. Sêl y Cwmni

Cymeradwyodd y Bwrdd ganllawiau ar gyfer defnyddio Sêl y Cwmni.

5k. Opsiynau wrth gefn cam 3 ar y rhestr hir a’r rhestr fer

Cyflwynwyd papur i’r Bwrdd yn nodi'r nifer cyfyngedig o opsiynau ar gyfer gweithredu mesurau i warchod gallu'r Partner Gweithredu a Datblygu i barhau fel busnes gweithredol o ganlyniad i effaith gostyngiadau sylweddol mewn refeniw teithwyr sy’n cael ei gynhyrchu gan y Partner Gweithredu a Datblygu yn ystod pandemig COVID-19. Cafodd y Bwrdd ei atgoffa y cytunwyd yn barod ar gyllid Cam 1 gwerth £40 miliwn a fwriadwyd i'w cadw i fynd tan ddiwedd mis Mehefin 2020, ac mae cytundeb cam 2 hyd yr Hydref 2020 wedi cael ei drafod yn sylweddol. Bydd gwaith yn parhau i ddod o hyd i’r opsiwn sy'n cynnig y gwerth gorau am arian.

Holodd y Bwrdd ynglŷn â'r amserlen ar gyfer cytuno ar y ffordd ymlaen, ac mae’n bosibl y bydd angen ailymgynnull i gael briff a diweddariad cyn y cyfarfod ym mis Mehefin.

Diolchodd y Bwrdd i’r tîm ehangach am wneud cynnydd da o ran cytuno neu ddatblygu Camau 1, 2 a 3 a nododd y papur.

5l. Asesiad o Effaith Coronafeirws ar Drawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd

Nododd y Bwrdd bapur yn nodi asesiad wedi’i ddiweddaru o’r effaith ar y gwaith o gyflenwi rhaglen Trawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd o ganlyniad i COVID-19. Rhoddwyd gwybod i’r Bwrdd bod y sefyllfa wedi bod yn datblygu’n wythnosol, tan yn ddiweddar, ond bellach mae’n dechrau sefydlogi, sy’n golygu bod modd deall yr effeithiau’n well yn ogystal â dadansoddi’r risgiau. Mae’r rhan fwyaf o weithgareddau Trawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd wedi dechrau, ond mae rhywfaint o oedi â'r gwaith dylunio. Yn dilyn atal ac adolygu’n ddiweddar, cafodd ffyrdd amgen o weithio eu datblygu er mwyn sicrhau bod gwaith yn cael ei wneud yn ddiogel.

Mae angen costiadau dros rai misoedd i ddarparu mwy o eglurder ac i adolygu unrhyw fesurau lliniaru. Mae’r ffigurau hyn yn cynnwys yr eitemau newydd ar y gofrestr risgiau, ynghyd â 20% bias optimistiaeth sydd wedi’i gymhwyso ar gyfer yr elfennau dylunio ac adeiladu sydd wedi cynyddu, yn unig. Hysbyswyd y Bwrdd bod TrC wedi cael cadarnhad gan WEFO y bydd carreg filltir Rhagfyr 2022 o bosibl yn cael ei llacio tan fis Mehefin 2023 mewn perthynas â’r naw prosiect a ariennir gan Gronfa ERD. Fodd bynnag, ar ôl ymgymryd â gwaith aildrefnu lefel uchel o’r rhaglen, mae’r tîm prosiect wedi nodi y gallai pedwar o’r naw prosiect a ariennir gan Gronfa ERD fynd heibio i garreg filltir mis Mehefin 2023, a allai arwain at golli oddeutu £50 miliwn o’r gyllideb. Mae trafodaethau’n parhau gyda WEFO ynglŷn ag estyniad pellach i’r garreg filltir. Trafodwyd costau uwch gyda Llywodraeth Cymru. Bydd gwaith yn cael ei wneud gyda Llywodraeth Cymru i nodi prosiectau gwerth uchel posibl y tu allan i Linellau Craidd y Cymoedd sy'n peri llai o fudd economaidd a ellir eu hatal neu eu terfynu er mwyn rhyddhau cyllid cyfalaf.

Mae gwaith nawr ar y gweill i ailosod llinell sylfaen y rhaglen gyfan a allai fod yn ymarfer dros dri neu bedwar mis.

Gweithredu – Mae KG angen gweithio ar y naratif yn ymwneud â chost oedi i raglen trawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd, gan sicrhau bod tystiolaeth gadarn a chryf mai COVID-19 sy’n achosi’r oedi, ac i’w wirio gan JM.

5m. Cynnydd yn erbyn cerrig milltir

Adolygodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am yr adnoddau tracio cerrig milltir corfforaethol a rhaglenni. Rhoddwyd gwybod i'r Bwrdd am yr ystod o weithgareddau yn y dyfodol. Bwriedir cynnal adolygiad dros yr wythnosau nesaf i bennu lefel blaenoriaeth ar gyfer gweithgareddau corfforaethol.

Cam gweithredu: GO i rannu cynnwys y cynllun busnes gyda’r Bwrdd.

5n. Yr wybodaeth ddiweddaraf am Brosiectau Caffael a Chyfranddaliadau

Rhoddwyd gwybod i’r Bwrdd fod y gwaith i ddatblygu'r gwaith posibl o uno/caffael sefydliad Traveline Cymru gyda PTI Cymru wedi’i ohirio tan ddiweddarach eleni.

Aeth y Cadeirydd ati i grynhoi’r prif faterion a drafodwyd gan y Bwrdd, a diolch i bawb am ddod i’r cyfarfod a mynegodd ei ddiolch ar ran y Bwrdd i’r Tîm Gweithredol a’i dimau am eu gwaith caled ac ymroddiad i ddelio â nifer o faterion heriol.