Trafnidiaeth Cymru Cofnodion Cyfarfod y Bwrdd - 21 Mawrth 2019

Submitted by Content Publisher on

Trafnidiaeth Cymru Cofnodion Cyfarfod y Bwrdd

09:30 — 16:30; 21 Mawrth 2019

South Gate House, Caerdydd

Yn bresennol:

Scott Waddington (Cyfarwyddwr Anweithredol a Chadeirydd) (SW)
James Price (Prif Swyddog Gweithredol) (JP)
Sarah Howells (Cyfarwyddwr Anweithredol) (SH)
Nikki Kemmery (Cyfarwyddwr Anweithredol) (NK)
Heather Clash (TrC) (HC)
Alison Noon-Jones (ANJ)
Jeremy Morgan (Ysgrifenyddiaeth) (JM)

Roedd yr unigolion canlynol o Trafnidiaeth Cymru yn bresennol ar gyfer Rhan C: Geoff Ogden (GO); Alexia Course (AC); Karl Gilmore (KG); Gareth Morgan (GM); David O'Leary (DOL); Lewis Brencher (LB) a Lee Robinson (LR). Roedd Ben Hutchison (BH) yn bresennol ar gyfer Rhan C eitem g, roedd Kathryn Harries yn bresennol ar gyfer Rhan C eitem b; ac roedd Gary Forde (GF) yn bresennol ar gyfer Rhan C eitem j.

Rhan A: Cvfarfod Llawn v Bwrdd

1)  Cyflwyniad

Croesawodd y Cadeirydd aelodau'r Bwrdd i'r cyfarfod.

 

a.  Ymddiheuriadau am Absenoldeb

Nid oedd unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

b.  Hysbysiad Cworw

Gan fod cworwm yn bresennol, cyhoeddodd y Cadeirydd fad y cyfarfod yn agored.

 

c.  Gwrthdaro rhwng buddiannau

Ni chafodd unrhyw achos o wrthdaro rhwng buddiannau ei ddatgan.

 

d.  Cofnodion a chamau gweithredu cyfarfodydd blaenorol

Derbyniwyd Cofnodion cyfarfod blaenorol Bwrdd TrC ar 21 Chwefror 2019 fel rhai cywir.

 

2) Diogelwch

a.  Sylw i Ddiogelwch

Rhannodd NK wybodaeth am euogfarn ddiweddar DB Cargo (UK) Ltd yn dilyn pedair wythnos o dreial ar gyfer un drosedd o dan y Ddeddf lechyd a Diogelwch yn y Gwaith, ar al i'r cwmni gael ei erlyn gan y Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd (ORR). Yn y digwyddiad, roedd bachgen 13 mlwydd oed wedi dioddef anafiadau a oedd wedi newid ei fywyd ar of cael sioc drydanol o gyfarpar llinellau uwchben 25,000 folt yn Tyne Yard, Gateshead. Roedd tresmaswyr yn yr iard wedi bod at focs signalau segur nad oedd DB Cargo wedi ei ddiogelu. Nid oedd y cwmni wedi sicrhau na fyddai risg i iechyd a diogelwch unigolion nad oeddent yn weithwyr drwy ei weithgareddau. Roedd DB Cargo wedi cael dirwy o £2.7m.

Cododd GM fater Ileol ynghylch y gwaith sy'n mynd rhagddo i ddymchwel Ty Dewi Sant gerllaw, gan ddweud ei bod yn anodd gweld wrth groesi Stryd Wood oherwydd y gwaith.

 

b.  Perfformiad Diogelwch

Diweddarodd GM y Bwrdd ynghylch nifer o weithgareddau iechyd, diogelwch a Iles dros y mis diwethaf.

Mae gwaith yn dal i gael ei wneud i sicrhau bod TrC yn cael yr awdurdodiad diogelwch sy'n angenrheidiol ar gyfer trosglwyddo asedau Rheilffyrdd y Cymoedd. Mae'r drafft cyntaf wedi cael ei gyflwyno i'r ORR, a bydd yn cael ei ystyried ar 8 Ebrill. Dylai hyn roi digon o amser i gael yr achrediad gofynnol.

Mae cynnydd wedi cael ei wneud ar sawl eitem fewnol:

  • Cynhaliwyd hyfforddiant mewnol ROSPA a CIRAS, yn ogystal ag archwiliadau diogelwch.
  • Mae saith aelod o staff TrC wedi cael hyfforddiant cymorth cyntaf iechyd meddwl.
  • Mae cynnydd wedi cael ei wneud a ran datblygu'r Rhaglen Cymorth i Weithwyr, and gan gofio bod y Gweithredwr a'r Partner Datblygu (ODP) yn sefydlu Rhaglen Cymorth i Weithwyr hefyd, mae TrC yn edrych ar y posibilrwydd o ddatblygu rhaglen ar y cyd.
  • Mae'r trefniadau profi sy'n gysylltiedig a'r polisi cyffuriau ac alcohol yn cael eu gwerthuso.

Wrth edrych ar berfformiad ym maes diogelwch, rhoddwyd gwybod am ddau ddigwyddiad lefel un yn ystod y mis diwethaf, and nid oedd adroddiadau Rhediadau
Adrodd ar Anafiadau, Clefydau neu Ddigwyddiadau Peryglus (RIDDOR) I gyd-fynd a nhw. Nodwyd ar of hynny mai achos o hunanladdiad oedd un o'r digwyddiadau, ac mai tresmaswr wedi cael ei daro gan dren a oedd yn mynd heibio oedd y digwyddiad arall, felly roedd y ddau ddigwyddiad wedi'u heithrio rhag adroddiadau RIDDOR.

Bu nifer o achosion Ile'r oedd damwain bran iawn a digwydd ar groesfannau (a'r gyrrwr wedi gorfod defnyddio'r brat mewn argyfwng). Mynegodd y Bwrdd ei fod yn dymuno cael gwybod am natur unrhyw ddigwyddiadau rhag ofn y bydd angen iddo gymryd camau pellach. Pwysleisiodd NK bod angen sicrhau hod camau rhesymol wedi'u cymryd, hyd yn oed os nad oes modd gwneud safle neu ran o rwydwaith yn gwbl ddiogel.

Cafodd y Bwrdd drafodaeth yngrin a rhoi gwybod am droseddau ar y rhwydwaith. Nododd JP y bydd teledu cylch cyfyng yn cael ei roi ym mhob gorsaf ar y rhwydwaith yn y dyfodol, a bod darpariaeth Heddlu Trafnidiaeth Prydain yn dda.

CAM GWEITHREDU: GM ac LB i noer dull mwyaf priodol o roi gwybod am ystadegau troseddu.

Dywedodd NK wrth y Bwrdd y bydd y Pwyllgor lechyd, Diogelwch a Lies nesaf yn ystyried y 10 prif risg i iechyd, diogelwch a Iles yn ol yr ODP. Cytunodd y Bwrdd ei bod yn bwysig deall y risgiau hyn, gan ystyried llinellau atebolrwydd.

3)  Diweddariad Strategol / Datblygu

a.  Adroddiad y Prif Swyddog Gweithredol

Rhoddodd JP grynodeb o'i adroddiad fel y Prif Swyddog Gweithredol, gan ddweud bod y neges gyffredinol yn gadarnhaol a bod TrC yn dal i wneud cynnydd da, yn enwedig o safbwynt cynlluniau yn y tymor canolig a'r tymor hir. Fodd bynnag, nid yw'r tim yn Ilaesu dwylo. Pwysleisiodd SW fod angen i'r Bwrdd gael sicrwydd na fydd unrhyw beth annisgwyl neu ddirybudd yn codi, ac os bydd problemau'n dod i'r amlwg, fod rhybudd yn cael ei roi yn gynnar fel hod modd deiio a nhw'n effeithiol, a chael cymorth gan y Bwrdd os bydd angen.

Mae perfformiad y rheilffyrdd yn dal i wella and mae sicrhau capasiti digonol yn dal yn fiaenoriaeth. Mae TrC yn ymchwilio i'r posibilrwydd o gael cerbydau newydd i TrC, a sonnir am hyn mewn papur yn nes ymlaen yn y cyfarfod. Roedd y gwasanaeth wedi gweithio'n dda ddydd Sadwrn diwethaf ar gyfer y gem rygbi rhwng Cymru ac lwerddon.

Dywedodd SW fod angen i unrhyw negeseuon a roddir i gwsmeriaid gael eu rheoii gan TrC er mwyn gwarchod yn erbyn bod yn orhyderus, a hod angen i unrhyw negeseuon sy'n cael eu rhannu a'r cyhoedd ynghylch gweithgareddau TrC gael eu cyfeirio at TrC cyn iddynt gael eu rhyddhau.

CAM GWEITHREDU: SW a JP i nodi yng nghyfarfod Bwrdd Llywio TrC fod angen i negeseuon a roddir I gwsmeriaid fod clan reolaeth TrC.

Mae Chris Gibb wedi rhoi cyngor defnyddiol ar gynllunio trenau, a bydd yn parhau i gynorthwyo am ddiwrnod y mis am y 12 mis nesaf. Bydd ei waith yn cynnwys adolygu cynlluniau tren ar gyfer pob cyfnod gyda'r Gwasanaethau Tren, a rhoi sicrwydd i TrC fod gan yr ODP gapasiti a gallu digonol.

Mae trafodaethau'n parhau ynglyn a gweithgareddau gan Lywodraeth Cymru yn y dyfodol. Pwysleisiodd JP y risg o ran Ilywodraethu ac atebolrwydd a allai godi petal rhai gwasanaethau'n cael eu brandio fel rhai TrC er nad ydynt wedi cael eu trosglwyddo i TrC yn swyddogol. Pwysleisiodd JP hefyd fod angen prosesau Ilywodraethu priodol ar gyfer gwaith newydd, er enghraifft, dylai gael ei herio gan yr uwch dim rheoli, y Bwrdd, a bod yn destun adolygiadau Gateway. LR yw rheolwr Ilinell a noddwr gwaith TrC ar wasanaethau bws erbyn hyn.

Gofynnodd SW a fyddai modd i'r Bwrdd gael crynodeb ar ffurf pwyntiau bwled o dystiolaeth JP a roddwyd yn sesiwn dystiolaeth ddiweddar Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau y Cynulliad Cenedlaethol.

CAM GWEITHREDU: AB (Andrew Bold) i ddarparu'r prif negeseuon o sesiwn dystiolaeth ddiweddar JP gyda Phwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, ac i sicrhau bod crynodeb yn cael ei ddarparu ar gyfer pob sesiwn dystiolaeth yn y dyfodol.

Mae'r cynlluniau ar gyfer gwaredu asedau Rheilffyrdd y Cymoedd yn mynd rhagddynt, ond mae lbwIchs sylweddol ar hyn o bryd rhwng materion gweithrediadau, cynnal a chadw ac adnewyddu (OMR) arfaethedig Network Rail ac OMR arfaethedig TrC. Mae angen i'r ORR, fel canoiwr annibynnol, ddatrys y mater.

 

b.  Y diweddaraf o ran cynnydd yr is-bwyllgorau

Rhoddodd pob Cyfarwyddwr Anweithredol y wybodaeth ddiweddaraf i'r Bwrdd am gyfarfodydd diweddar yr is-bwyllgorau:

  • Cwsmeriaid a Chyfathrebu — mae SH wrthiln Ilunio blaengynllun gwaith y pwyllgor.
  • lechyd, diogelwch a Iles — nid oes cyfarfod wedi cael ei gynnal ers i'r Bwrdd gyfarfod ddiwethaf. Disgwylir y bydd y pwyllgor lechyd, Diogelwch a Lies nesaf yn cael ei gynnal ym mis Mai.
  • ANJ — roedd trydydd cyfarfod y Pwyllgor Pobl wedi cael ei gynnal yn gynharach yn y mis, ac roedd y pwyllgor wedi cymeradwyo'r rhaglen hyfforddi orfodol ac wedi trafod cyflog, graddio a strategaeth Iles TrC.

 

c. Cyllid

Cyflwynodd HC y prif bwyntiau o'r adroddiad cyllid a chyfrifon rheoli mis Chwefror.

Mae'r archwiliad mewnol wedi adrodd ar gaffael, hawliadau Wefo, arian yn y banc a chydymffurfio a'r Polisi Cais Ymadael Masnachol (CDR). Roedd pob adroddiad yn
cynnwys argymhellion sy'n cael eu rhoi ar waith. Bydd canfyddiadau a chasgliadau'r archwiliad mewnol yn sail i ddatganiad Ilywodraethu blynyddol JP.

Nododd HC fod y cynlluniau ar gyfer diwedd y flwyddyn ariannol yn cael sylw. Bydd datganiad sy'n dangos yr holl gyfrifon a ddefnyddir a'u balansau yn cael ei gyflwyno ar y pumed diwrnod gwaith ar 81 i'r flwyddyn ddod i ben, a bydd y cyfrifon drafft yn cael eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn canol Mai. Bydd cyfrifon 2018-19 yn cael eu harchwilio'n allanol ddiwedd Ebrill, gyda'r bwriad o gymeradwyo'r cyfrifon terfynol erbyn diwedd Mehefin er mwyn rhoi cyfle i Lywodraeth Cymru eu cadarnhau.

Mae cynnydd da yn cael ei wneud ar y system gyllid newydd, a'r nod yw y bydd y system gyfrifyddu graidd yn mynd yn fyw ym mis Ebrill. Mae hyfforddiant yn dal i gael ei gyflwyno i'r staff. Y brif her yw cyfrifyddu prosiectau, a fydd yn mynd yn fyw ddechrau Mai, ac sydd bellach yn y cam profi derbynioldeb defnyddwyr. Bydd dalenni amser a threuliau yn mynd yn fyw fis Gorffennaf, er mwyn caniatau ar gyfer uwchraddio Microsoft. Cadarnhaodd HC fod y berthynas a'r tim gweithredu yn dal yn gryf.

Dywedodd HC fod y rhagolygon cyffredinol yn gwella and bod yr alldro diwedd blwyddyn yn rhagweld tanwariant.

 

d.  Llywodraethu

Cadarnhaodd SW fod y broses ar gyfer penodi Cyfarwyddwr Cyllid Anweithredol bron iawn a dod i ben. Cafodd pum ymgeisydd eu cyf-weld gan SW, Cyfarwyddwr Pobl a Datblygu Sefydliadol TrC, ac un 0 uwch swyddogion cyllid Llywodraeth Cymru. Mae'r ymgeisydd a oedd yn cael ei ffafrio wedi cael cynnig y swydd, a'r dyddiad cychwyn arfaethedig yw 1 Ebrill. Bydd cynlluniau'n symud ymlaen ar gyfer penodi cyfarwyddwr anweithredol gydag arbenigedd ym maes trafnidiaeth.

Rhoddodd SW adroddiad ar gyfarfod diwethaf y Bwrdd Llywio, a oedd yn canolbwyntio ar gytuno ar gyich gorchwyl y grwp.

 

e.  Materion strategol ar gyfer cyfarfodydd y bwrdd yn y dyfodol

Nododd JP y bydd angen i'r Bwrdd roi ystyriaeth strategol i wasanaethau bws yn y dyfodol agos, ac i'r Rhaglen Newid Trafnidiaeth hefyd.

 

4)  Unrhyw Fater Arall

Cytunodd y Bwrdd ar ddyddiad cau ar gyfer cyflwyno papurau'r Bwrdd, sef ar y dydd Gwener cyn cyfarfod y Bwrdd.

Rhan B — Sesiwn Gyfrinachol (drwy eithriad) — Materion Adnoddau Dynol cyfrinachol

Trafododd y Bwrdd un mater Adnoddau Dynol cyfrinachol, a gyfeiriwyd at y Pwyllgor Pobl. Mae hyn wedi'i gofnodi ar wahan.

Rhan C — Sesiwn ddiweddaru — Materion Gweithrediadol

a.  Canolbwyntio ar y Cwsmer

Rhoddodd DOL gyflwyniad ar y dull 'Cwsmeriaid yn gyntar arfaethedig, Ile bydd cwsmeria id wrth galon holl weithgareddau TrC a'r holl benderfyniadau a wneir ar gyfer pob math o drafnidiaeth. Bydd angen rhannu'r dull hwn ymhlith hall staff TrC a'r Gwasanaethau Tren, a gwneud yn siikr eu bod yn eu deall.
 

Trafododd y Bwrdd y dull arfaethedig a chytuno ar yr egwyddorion sydd with wraidd y dull hwnnw, yr angen i sicrhau bod y rhanddeiliaid yn cael eu cynnwys yn y dull a'u bod yn ei dderbyn ac yn ei gefnogi, a'r angen i wreiddio'r dull yn niwylliant y sefydliad.

 

b.  TSI a Graddio / Bandio Cyflogau

Rhoddodd GO y cyd-destun ar gyfer papur ar gam cyntaf y gwaith sy'n ymwneud a thal a graddio. Cadarnhaodd KHK fod y strwythur arfaethedig ar gyfer tal a graddio wedi cael ei feincnodi'n annibynnol.

Mae prosiect buddion hyblyg ar y gweill hefyd, a bydd papur yn cael ei gyflwyno i'r Bwrdd yn ystod mis Ebrill neu Mai.

Cymeradwyodd y Bwrdd y wybodaeth am dal a graddio / bandio cyflogau.

 

c.  Cerbydau

Cyflwynodd AC achos busnes a oedd wedi cael ei anfon at Lywodraeth Cymru yr wythnos honno. Roedd y papur yn gofyn am arian gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y cerbydau ychwanegol sydd eu hangen er mwyn rhoi amserlen mis Mai ar waith, a hynny'n bennaf gan fod unedau 769 newydd yn hwyr yn cyrraedd. Nid yw'r cerbydau ychwanegol yn rhan o rwymedigaethau contract y Gwasanaethau Tren. Cyflwynwyd pedwar opsiwn i Lywodraeth Cymru. Mae'r gost ychwanegol i Lywodraeth Cymru yn debygol o fod oddeutu £0.6m, ond nid yw TrC wedi cael yr holl ddyfynbrisiau terfynol gan y Cwmni Cerbydau (ROSCO) eta. Nid
ydym yn gwybod beth yw'r costau Hawn ar gyfer hyfforddi gyrwyr eta chwaith, and maent yn debygol o fod oddeutu £0.5m. Dywedodd HC fad yr ODP wedi cynnig amrywiad o rhwng £2m a £3m o ran gwerth, and mae angen rhoi sylw gofalus i hyn a thrafod gyda'r ODP. Y rheswm am yr amrywiad yw'r oedi wrth gyflwyno'r unedau 769 — bwriadwyd eu cyflwyno cyn Yr cytundeb masnachfraint ddechrau ym mis Hydref 2018. Mae'n debygol y bydd y cerbydau ychwanegoi hyn yn rhoi mwy o gapasiti na'r hyn y byddem wedi'i gael gyda dim ond yr unedau 769.

CAM GWEITHREDU: AC i gyfleu'n glir yn yr achos busnes y bydd y cerbydau ychwanegol hyn yn arwain at fwy o gapasiti na'r unedau 769 yn unig.

Gofynnodd y Bwrdd am gadarnhad bod y cynnig yn rhoi gwerth am arian. Dywedwyd fod hyn yn costio Ilai na'r swm a ragwelwyd, ac y byddai'n helpu i leddfu unrhyw broblemau posib o ran capasiti wrth gyflwyno amserlen mis Mai.

 

d.  Arlwyo

Cyflwynodd AC bapur ar opsiynau ar gyfer dod a gwasanaethau arlwyo ar drenau dan reolaeth TrC, a sicrhau bod TrC mewn sefyllfa reng-flaen i ddarparu hyn, yn unol a'r darlun oedd gan Lywodraeth Cymru. Rhoddwyd sicrwydd i'r Bwrdd fod y Gwasanaethau Tren a'r contractwyr presennol yn ymwybodol o fwriad TrC ac y byddai'r staff yn cael eu trosgiwyddo yn unol a threfniadau Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 1981 (TUPE).

Amlinellodd JP y manteision o ddarparu gwasanaethau arlwyo'n fewnol. Mae'n rhoi cyfle i wneud penderfyniadau am y gwasanaeth yn well ac i reoli'r raddfa ac unrhyw newidiadau angenrheidiol. Mae hefyd yn rhoi mwy o reolaeth dros gostau, a materion eraill, fel buddion ehangach gan gynnwys brandio Cymreig ei natur a chaffael yn Ileal. Eglurwyd hefyd y byddai rhybudd yn cael ei roi i derfynu'r contract and na fyddai'n digwydd tan yr amser gorau un, ac y byddai'r newid yn digwydd yn unol a chyfyngiadau'r contract.

Rhoddodd y Bwrdd ei gymeradwyaeth i drosglwyddo'r gwaith o gyflwyno gwasanaethau arlwyo ar drenau i TrC, gan deimlo bod y manteision i bob golwg yn fwy na'r costau. Dywedwyd y dylid mireinio'r broses drosglwyddo ar 61 trafod gyda Keolis Amey, er mwyn Ileihau costau.

 

e.  Gweithredwr Dewis Olaf / Rheolwr Seilwaith Dewis Olaf

Cyflwynodd AC bapur ynghylch Gweithredwr Dewis Olaf (OLR) a Rheolwr Seilwaith Dewis Olaf (IMLR). Roedd y papur yn rhoi cyflwyniad ar y trefniadau wrth gefn sydd ar waith, neu sydd wrthi'n cael eu rhoi ar waith, i sicrhau y bydd gwasanaethau trenau a gwasanaethau rheoli seilwaith yn parhau os bydd yr ODP yn methu. Roedd y papur hefyd yn cynnwys y camau i'w cymryd I greu cyfleuster OLR cwbl annibynnol i gymryd Ile'r Adran Drafnidiaeth fel y darparwr gwasanaethau OLR.

O ran OLR, un o amcanion Llywodraeth Cymru yw creu cyfleuster OM annibynnol, a gallai Gweinidogion Cymru ddatblygu gallu i ddisodli'r gwasanaethau sy'n cael eu darparu gan yr Adran Drafnidiaeth ar hyn a bryd dan yr is-gontract OLR. Byddai hyn yn cynnwys cyfuniad o allu mewnol yn TrC, ymgynghorwyr sy'n cael eu cyfarwyddo'n ddi-dor, a threfniadau yn al y gofyn.

Cadarnhaodd AC fod y trefniadau ar gyfer IMLR wrthi'n cael eu Ilunio er mwyn rhoi'r gallu i Weinidogion Cymru sicrhau parhad gwasanaethau seilwaith os bydd rhwymedigaethau'r ODP i gynnig y gwasanaethau'n dod i ben.

Nododd y Bwrdd y trefniadau wrth gefn sydd ar waith ar gyfer OLR, ac sy'n cael eu paratoi ar gyfer IMLR, ynghyd a'r angen i lunio achos manwi dros newid a chynllun gweithredu i gael gwasanaeth OLR cwbl annibynnol erbyn 2021.

 

f.  Paratoi Seilwaith: y diweddaraf am brosesau rheoleiddiol

Diweddarodd AC y Bwrdd am y sefyilfa ddiweddaraf ynghylch y gymeradwyaeth reoleiddiol sydd ei hangen ar ORR. Heb hyn, ni fydd y gwaith o drosgiwyddo asedau Rheilffyrdd y Cymoedd (y bwriedir ei wneud ym mis Medi 2019) yn bosib. Nododd y Bwrdd statws presennol y broses reoleiddiol a'r trafodaethau gydag ORR, gan deimlo, yn amodol ar ddatblygiadau pellach ar y trefniadau cysylltu a mynediad amrywiol, y gellir bod yn ffyddiog y bydd y gymeradwyaeth reoleiddiol angenrheidiol wedi'i rhoi mewn pryd ar gyfer y dyddiad trosglwyddo asedau arfaethedig, sef 20 Medi 2019.

 

g.  Y CynIlun Teithio ar Fws am Bris Rhatach

Cyflwynodd JP lythyr gan Lywodraeth Cymru yn gofyn i TrC gynorthwyo Llywodraeth Cymru i baratoi i ddarparu swmp o gardiau teithio rhatach newydd erbyn 31 Rhagfyr 2019, yn hytrach nag awdurdodau Ileol. Nododd y Bwrdd gynnwys y Ilythyr.

 

h.  Cylch gwaith ar gyfer bysiau

Ymunodd BH a'r cyfarfod a rhoi cyfiwyniad ar waith presennol TrC ar wasanaethau bws ar ran Llywodraeth Cymru, a hynny mewn tri maes: ymchwilio i weld pam mae nifer y bobl sy'n defnyddio bysiau wedi gostwng; cynnig amrywiaeth o atebion posib; ac edrych ar beth sydd wedi gweithio a heb weithio mewn Ileoedd eraill. Rhoddwyd gwybod i'r Bwrdd am rai o'r modelau presennol sy'n cael eu hymchwilio ar hyn o bryd i wella gwasanaethau bws ledled Cymru, er enghraifft tocynnau integredig. Nododd y Bwrdd fod TrC yn trafod ei gylch gwaith ar gyfer gwasanaethau bws gyda Llywodraeth Cymru, ond nad oeddent wedi cytuno arno'n Ilawn eta.

 

i.  Strategaeth Adeiladau / Lleoliadau

Cyflwynodd LR bapur ar strategaeth adeiladau a Ileoliadau TrC ar gyfer y dyfodol, sy'n cyd-fynd yn fras a strategaeth ystadau Llywodraeth Cymru, a'r ddeddfwriaeth/polisIau sy'n berthnasol ar hyn o bryd. Er bod sawl ffactor yn sbarduno'r strategaeth, pwysleisiwyd y bydd yn cael ei phennu i raddau helaeth gan unrhyw wasanaethau ychwanegol y bydd TrC yn eu cael gan Lywodraeth Cymru. Yn ogystal a hyn, byddai'n rhaid i'r strategaeth sicrhau cydbwysedd rhwng cael presenoldeb drwy Gymru gyfan a theithio i'r gwaith ac angen pobl i gyrraedd pen eu taith.

Cymeradwyodd y Bwrdd y strategaeth a chytuno iddi gael ei thrafod gyda Llywodraeth Cymru.

 

j.  Prosiectau Seilwaith

Cyflwynodd KG bapur yn diweddaru'r Bwrdd ar statws prosiectau seilwaith ar hyn o bryd.

  • Bow Street (Ceredigion) — cafodd y prosiect hwn ei gyflwyno i TrC fel prosiect a oedd eisoes ar waith. Nid oedd TrC yn rhan o'r gwaith dichonoldeb. Mae TrC wedi darganfod ei bod yn bosib y bydd angen mesurau Iliniaru amgylcheddol ar faes parcio arfaethedig yr orsaf, a gallai hyn arwain at ragor o gostau ac oedi gyda'r prosiect.
  • lanwern — cafodd y prosiect hwn el gyfiwyno i TrC fel prosiect a oedd eisoes ar waith. Nid oedd TrC yn rhan o'r gwaith dichonoldeb. Mae cynnydd yn cael ei wneud ond mae sawl cyfyngiad sy'n cael ei reoli ar hyn o bryd. Mae 2.4 km o draciau wedi cael eu dynodi fel Datblygiad o Arwyddocad Cenedlaethol, a Alai arwain at oedi o ran amser.
  •  Mae prosiectau seilwaith eraill yn dod yn eu blaen yn dda.

Nododd y Bwrdd y papur.

 

k.  Yr Adios Busnes dros Drosglwyddo Asedau Rheilffyrdd y Cymoedd

Ymunodd GF a'r cyfarfod i roi cyflwyniad ar yr achos busnes dros Drosglwyddo Asedau Rheilffyrdd y Cymoedd. Cynigodd gwrdd ag unrhyw aelodau o'r Bwrdd yn unigol petal rhywun yn awyddus i gael rhagor o fanylion.

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cymeradwyo Achos Busnes Llawn dros Fasnachfraint Cymru a'r Gororau a Metro De Cymru (FBC1). Roedd yr achos busnes yn gofyn am gymeradwyaeth ar gyfer penodi KeolisAmey (KA) fel yr ODP, ond nid oedd yn gofyn am gymeradwyaeth I drosglwyddo Rheilffyrdd y Cymoedd o National Rail i TrC. Mae FBC2 yn adeiladu ar FBC1 ac yn canolbwyntio'n benodol ar drosglwyddo Rheilffyrdd y Cymoedd. Mae wedi cael ei baratoi yn unol a chanllawiau Llyfr Gwyrdd Trysorlys ei Mawrhydi.

Mae'r achos dros drosglwyddo asedau yn dal yn gryf ac mae'n cynnwys cyfuniad o asedau sefydlog a phobl a fydd yn cael eu trosglwyddo i TrC i'w gynnal. Mae'r ffigurau Cymhareb Cost a Budd (BCR) terfynol yn dal i gael eu cyfrifo. Bydd y systemau GSMR a thelathrebu yn aros gyda Network Rail, and bydd yr hall dir yn cael ei drosglwyddo, yn ogystal a'r risgiau sy'n gysylltiedig a pherchnogaeth asedau.

Bydd Trysorlys Ei Mawrhydi yn darparu grant bloc i Lywodraeth Cymru, a fydd wedyn yn cael ei drosglwyddo i TrC i brynu'r ased a thalu costau OMR Rheilffyrdd y Cymoedd. Mae gwaith yn dal i gael ei wneud i egluro cyllid cynnal a chadw OMR Rheilffyrdd y Cymoedd. Ar sail y prisiad diweddaraf a roddwyd gan Network Rail, mae gwerth Sylfaen Asedau Rheoleiddiol (RAB) Rheilffyrdd y Cymoedd yn £417m mewn prisiau 2017/18.

Cymeradwyodd y Bwrdd yr achos busnes i'w gyflwyno i Lywodraeth Cymru wythnos nesaf.

 

I.  Y diweddaraf am y Rhaglen Newid Trafnidiaeth

Rhoddodd GO ddiweddariad ar y Rhaglen Newid Trafnidiaeth. Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cyfarwyddyd i lunio Achos Amlinellol Strategol wedi'i seilio ar Fade' Pum Achos Trysorlys Ei Mawrhydi, i'w ddilyn gan Achos Busnes Amlinellol/Achos Cyfiawnhad Busnes ar gyfer pob modd o deithio (Teithio Llesol, Awyrennau, Bysiau, Porthladdoedd, Rhwydweithiau Ffyrdd Strategol, Tacsis a Cherbydau Hurio Preifat). Bydd y rhain yn cael eu defnyddio wrth lunio'r achos dros drosglwyddo i TrC. Rhagwelir ar hyn o bryd y bydd y gwaith datblygu polisi a strategaeth yn aros yn Llywodraeth Cymru. Cynigir y bydd yr Achos Amlinellol Strategol yn Ilawn yn cael ei gyflwyno i Grip Sicrwydd Llywodraeth Cymru ganol Ebrill cyn cyfarfod nesaf y Bwrdd Newid Trafnidiaeth.

Nododd y Bwrdd y papur.

 

m. Cynnydd with gyrraedd cerrig milltir

Cyflwynodd GO y Tracwyr Cerrig Milltir. Ar y traciwr Corfforaethol, mae statws Coch Melyn Gwyrdd rhai eitemau wedi newid a felyn i wyrdd. Mae dwy eitem yn dal ar goch ond maent yn cael eu rheoli. Defnyddir Mai a Mehefin I gynnal ol-adolygiad i weld pa mor agos yw TrC i'r sefyllfa busnes fel arfer. Cytunodd y Bwrdd y gellid defnyddio'r traciwr yn awr i fonitro datblygiad corfforaethol.

 

n.  GDPR

Cyflwynodd LR bapur ar berygion seiber a chydymffurfio a'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR). Mae'r camau a gymerwyd yn ystod yr wythnosau diwethaf wedi Ileihau risgiau TrC o ran TG yn sylweddol, and mae rhagor o gamau ar waith i wella'r sefyllfa eto ac yna i gael ardystiad (e.e. Cyber Essentials Plus) ar gyfer statws diogelwch y rhwydweithiau ym maes TG.

Cynhaliwyd archwiliad GDPR cyn Nadolig 2018, a chafodd camau eu cymryd. Cynhaliwyd adolygiad arall ym mis Chwefror 2019 gan ddefnyddio adnodd hunanasesu Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth. Bydd camau pellach yn cael eu cymryd yn sgil hyn.

Nododd y Bwrdd y papur.

 

o.  Risgiau a chamau Iliniaru allweddol

Roddodd DOL y wybodaeth ddiweddaraf am y gofrestr risgiau strategol. Mae statws sawl risg wedi cael ei ddiweddaru ar 61 i gamau gael eu cymryd, ac mae dwy risg wedi cael ei hychwanegu — Erthyglau Cymdeithasu'r cwmni a chardiau bws rhatach.

 

p.  Cyfathrebu

Cyflwynodd LB y dangosfwrdd cyfathrebu. Mae'r argraffiadau brandio yn dal i wella. Roedd nifer o ymgyrchoedd wedi cael eu lansio yn ystod y mis diwethaf, ac roedd ymgyrch Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn enwedig yn Ilwyddiannus lawn. Roedd y sylw yn y wasg yn dda hefyd, ac roedd erthygl yn canmol wedi ymddangos yn y Western Mail.

Mae ymatebion i gwynion gan gwsmeriaid yn cael eu trin yn dda, gyda 90 y cant wedi cael sylw o fewn 10 diwrnod, yn erbyn targed o 20 diwrnod.

 

Diolchwyd i aelodau'r Bwrdd am eu presenoldeb. Mae cyfarfod nesaf Bwrdd TrC wedi'i drefnu ar gyfer dydd lau 18 Ebrill 2019 yn South Gate House, Caerdydd.