Trafnidiaeth Cymru Cofnodion Cyfarfod y Bwrdd - 21 Medi 2023

Submitted by Content Publisher on

Cofnodion Bwrdd TrC

21 Medi 2023

09:30 - 16:00

Lleoliad - Llys Cadwyn

 

 

Yn bresennol

Scott Waddington (Cadeirydd), Heather Clash, Nicola Kemmery, Vernon Everitt, Alison Noon-Jones, Sarah Howells, Alun Bowen a James Price.

Hefyd yn bresennol: Peter McDonald (Llywodraeth Cymru), Andrew Morgan (CLlLC), Alan McCarthy (Unite) (eitemau 1-4) a Jeremy Morgan.

 

Rhan A - Cyfarfod o’r Bwrdd Llawn

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Croesawodd y Cadeirydd Alan McCarthy i’r cyfarfod fel arsylwr newydd yr undebau llafur a’r Cynghorydd Andrew Morgan (Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a CLlLC) fel arsylwr llywodraeth leol.

 

1a. Ymddiheuriadau am Absenoldeb

Dim.

 

1b. Hysbysiad ynghylch Cworwm

Gan fod cworwm yn bresennol, croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod a datganodd fod y cyfarfod yn agored.

 

1c. Datgan Buddiant

Dim.

 

1d. Cofnodion a Chamau Gweithredu o’r Cyfarfod Blaenorol

Derbyniwyd cofnodion cyfarfod Bwrdd TrC ar 20 Gorffennaf 2023 yn gofnod gwir a chywir. Nodwyd y log camau gweithredu.

 

1e. Sylw i Ddiogelwch

Trafododd y Bwrdd bwysigrwydd gosod y naws diogelwch cywir ar ddechrau prosiectau, a’r ffaith bod angen sicrhau agwedd wyliadwrus hyd yn oed pan fydd yr holl waith papur cywir ar gael.

 

1f. Sylw i Gwsmeriaid 

Rhoddwyd gwybod i’r Bwrdd am brofiad diweddar o ddefnyddio’r gwasanaeth bysiau yn lle trenau ar reilffordd y Gororau lle cafwyd gwasanaeth da. Trafododd y Bwrdd bwysigrwydd cysondeb gyrwyr a cherbydau ar gyfer y gwasanaeth.

 

2. Perfformiad diogelwch

Ymunodd Leyton Powell â’r cyfarfod.

Rhoddwyd yr wybodaeth ddiweddaraf i’r Bwrdd am y datblygiadau iechyd, diogelwch a llesiant canlynol: 

  • Cynhaliwyd cyfarfodydd y Gweithgor Croesfannau Rheilffordd gydag AIW ym mis Awst a mis Medi gyda’r nod o ddiffinio’r posibilrwydd o gael methodoleg Asesu Risg ar gyfer Croesfannau Rheilffordd Cymru.
  • Ymweliad dirybudd â Depo Ffynnon Taf gan dîm Iechyd a Diogelwch TrC i drafod adolygiad sicrwydd o safon osgoi gwasanaeth y Tîm Diogelwch, Iechyd, Amgylcheddol, Arweinyddiaeth (SHELT) Craidd.
  • Roedd y sgôr mynegai wedi’i bwysoli ar gyfer marwolaethau a adroddwyd ar y cyd ar gyfer Cyfnod y Rheilffyrdd 05 (0.33) yn uwch na’r ffigur a ragwelwyd (0.17). Mae’r cyfartaledd blynyddol sy’n symud (0.20) hefyd yn uwch na’r lefel a ragwelwyd. Roedd 22 o ddigwyddiadau niwed i’r gweithlu (un gyda saith diwrnod a mwy wedi’u colli), pedwar digwyddiad sioc, 20 o ymosodiadau corfforol wedi’u riportio (pump wedi arwain at niwed corfforol), 34 o ddamweiniau cwsmeriaid, yr oedd angen cludo cwsmeriaid yn syth i’r ysbyty ar gyfer 11 ohonynt.
  • Mae TrC wedi cael ei gynnwys yng ngrŵp Atal Hunanladdiad Trawslywodraethol Llywodraeth Cymru i rannu strategaeth, gweithgareddau ac arferion gorau. Cafodd y Bwrdd wybod am gynnydd mewn hunanladdiad yn gyffredinol sy’n effeithio ar yrwyr ac sy’n arwain at fethu gweithredu am gyfnod sylweddol. Cytunwyd y dylid trafod hyn yn yr is-bwyllgor Iechyd, Diogelwch a Llesiant nesaf [Cam Gweithredu Nicola Kemmery/Leyton Powell]. Cytunwyd hefyd y dylid defnyddio unrhyw wersi a ddysgwyd ar gyfer y bysiau.
  • Mae gwersi’n cael eu dysgu o ddigwyddiadau diweddar yn Nawabshah, Pacistan a Sweden. Nododd y Bwrdd y cysylltiad posibl ag effeithiau newid hinsawdd yn sgil y digwyddiad yn Sweden.

Trafododd y Bwrdd y gwaith o fonitro risgiau ar Linellau'r Cymoedd yng nghyd-destun newid hinsawdd. Cytunwyd y dylid cadarnhau’r defnydd o’n holl ffynonellau gwybodaeth am y tywydd wrth wneud penderfyniadau rheoli seilwaith gweithredol [Cam Gweithredu Leyton Powell].

 

3. Cofrestr risg

Nododd y Bwrdd y gofrestr risgiau strategol. Nododd y Bwrdd, yn dilyn adolygiad diweddar gan y Gyfarwyddiaeth Seilwaith, o 1 Medi ymlaen, nad yw AIW bellach yn darparu gwasanaethau rheoli risg ar Linellau Craidd y Cymoedd. Yn hytrach, bydd y gwaith rheoli risg yn cael ei reoli’n fewnol yn y prosiect gan ddefnyddio tîm risg TrC fel swyddogaeth gefnogi i helpu i nodi, rheoli ac adrodd ar risgiau Llinellau Craidd y Cymoedd.

Gadawodd Leyton Powell y cyfarfod.

 

4. Diweddariad strategol
4a. Adroddiad y Prif Swyddog Gweithredol

Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am effeithiau cyflwyno cerbydau CAF yn hwyr, problemau gyda’r hen gerbydau a chyfyngiadau capasiti yn nepo Caer. Mae’r gwasanaeth MKIV wedi gwella ynghyd â gwell gwasanaethau rheilffordd rhwng Wrecsam a Bidston. Dywedodd y Bwrdd ei fod yn anghyfforddus ynghylch sefyllfa TrC yn ‘nhabl cynghrair’ TOC ond ei fod yn gallu gweld yr ymdrechion a’r ffocws ar unioni’r sefyllfa.

Cymeradwyodd y Bwrdd ychwanegu Julian Edwards fel Cyfarwyddwr Anweithredol Cyswllt y Bwrdd Rheilffyrdd.

TYNNWYD.

Trafododd y Bwrdd gynnwys papur ar gydweithio i ddiwygio gwasanaethau bysiau yng Nghymru. Mae'r cytundeb yn canolbwyntio ar rolau TrC, Llywodraeth Cymru, llywodraeth leol, y diwydiant bysiau a'r undebau llafur. Croesawodd y Bwrdd y cytundeb drafft a'r ffaith y dylai arbenigedd llywodraeth leol ynghylch y rhwydwaith bysiau fod ar flaen y gad o ran gwneud penderfyniadau. Gofynnodd Llywodraeth Cymru i Fwrdd TrC ddwyn Gweithrediaeth TrC i gyfrif am ysbryd y ddogfen.

TYNNWYD

 

4b. Cyllid a llywodraethu

Nododd y Bwrdd gyfrifon rheoli TrC ar gyfer mis Awst 2023 ac adolygiadau ariannol cyfnodol Rheilffyrdd TrC Cyf ar gyfer cyfnodau rheilffyrdd 4 a 5.

Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am y canlynol: 

  • Cyfres o ymweliadau dwys a Llywodraeth Cymru ynghylch rhannau o gyllideb 2024/25.
  • Datblygu rhagolwg pum mlynedd wedi'i ddiweddaru i'w drafod gyda Llywodraeth Cymru.
  • Cyflawni'r Rhaglen Fforddiadwyedd Rheilffyrdd.
  • Y Cyngor Gweinidogol sydd ar y gweill ar hyn o bryd yn cynnwys cyllid Cyfnod Rheoli 7 Gweithrediadau, Cynnal a Chadw ac Adnewyddu ar gyfer Llinellau Craidd y Cymoedd; masnacheiddio ffeibr; a diwygio'r rhwydwaith bysiau.
  • Cyfarfod cyntaf Bwrdd Perfformiad ar y cyd TrC/Llywodraeth Cymru.
  • Dechrau'r broses cynllunio busnes ar gyfer 2024/25
  • Cynnydd ar ddatblygu dogfen fframwaith Llywodraeth Cymru/TrC.

 

Rhan B - Sesiwn diweddariad gweithredol

5. Ffeibr Llinellau Craidd y Cymoedd

Ymunodd Owain Taylor-Shaw a'r cyfarfod. Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd sydd wedi cael ei wneud ar brosiect masnacheiddio asedau ffeibr Llinellau Craidd y Cymoedd, sy'n aros am gymeradwyaeth derfynol gan lywodraeth Cymru. TYNNWYD.

Gadawodd Owain Taylor-Shaw y cyfarfod.

 


6. Prosiect Cyfuno

Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygu memorandwm rhwng TrC a Network Rail, sy'n nodi cyfres o ffyrdd o gydweithio'n well ac yn unigol ar lefel strategol a gweithredol. Croesawodd y Bwrdd y memorandwm.

 

7. Diweddariad ar Linellau Craidd y Cymoedd

Ymunodd Dan Tipper a'r cyfarfod. Hysbyswyd y Bwrdd bod TrC wedi cymryd rheolaeth ffurfiol dros agweddau masnachol y rhaglen gan AIW. Mae hyn wedi arwain at nodi nifer o risgiau masnachol fel chwyddiant, rhaglennu, bylchau o ran cwmpas a chontractwyr sy'n tanberfformio. Mae camau lliniaru'n cael eu datblygu. Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am hyn.

Nodwyd y canlynol gan y Bwrdd: 

  • Mae'r gwaith o ailagor rheilffordd Treherbert yn digwydd yn unol a'r amserlen.
  • Mae ateb i'r broblem gyda phantograff Class 398 yn mynd rhagddo'n dda.
  • Mae oedi o ganlyniad i achos diweddar o ddwyn ceblau wedi cael ei adfer.
  • Cynnydd gyda mynediad at y gwasanaeth lie mae'r prif faterion yn ymwneud a'r adnoddau sydd ar gael.

Gadawodd Dan Tipper y cyfarfod.

 

12. ls-bwyllgorau

Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am gyfarfod diweddar yr is-bwyllgor Cwsmeriaid a Chyfathrebu. Canolbwyntiodd y cyfarfod ar waith dadansoddi a data parhaus ar deithiau cwsmeriaid a datblygu gefeilliaid data a pha fentrau sy'n newid. Roedd y cyfarfod hefyd wedi ystyried cynnydd gyda phrosiect sero i ddelio a'r ol-groniad o gwynion gan gwsmeriaid.

Ystyriodd cyfarfod diweddar yr is-bwyllgor Prosiectau Mawr fysiau, Porth Wrecsam, Llinellau Craidd y Cymoedd, Caerdydd Canolog, Crossrail, cyfnewidfeydd a grantiau teithio llesol.

 

13 ls-fyrddau

Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am gyfarfod diweddar Bwrdd Rheilffyrdd TrC Cyf.

 

14. Y Bwrdd Llywio

Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am gyfarfod Bwrdd Llywio TrC ym mis Gorffennaf.

 

Daeth y Cadeirydd a'r cyfarfod i ben a diolchodd i bawb am eu cyfraniadau.