Trafnidiaeth Cymru Cofnodion Cyfarfod y Bwrdd - 23 Ebrill 2020
Cofnodion Bwrdd TrC Ebrill 2020
10:00 – 16:30;
23 Ebrill 2020
Clive House, Bradford Place, Penarth
Yn sgil argyfwng Covid-19 cynhaliwyd y cyfarfod drwy gynhadledd fideo/sain.
Mynychwyr
Scott Waddington (SW) (Cadeirydd); James Price (JP); Heather Clash (HC); Sarah Howells (SH); Nicola Kemmery (NK); Alison Noon-Jones (ANJ); Vernon Everitt (VE); Andy Carney (ACa) (eitemau 1a – 2c) a Jeremy Morgan (Ysgrifenyddiaeth).
Sesiwn ddiweddaru weithredol (Rhan B): Geoff Ogden (GO); David O’Leary (DOL); Lewis Brencher (LB); Gareth Morgan (GM); Lisa Yates (LY); Lee Robinson (LR); Alexia Course (AC); Dave Williams (DW) a Karl Gilmore (KG).
Rhan A – Cyfarfod Bwrdd Llawn
1a. Ymddiheuriadau am Absenoldeb
Alun Bowen (AB); Natalie Feeley (NF) and Gareth Morgan (eitemau 1a – 2c a Rhan B).
1b. Hysbysiad Cworwm
Gan fod cworwm yn bresennol croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod a datganodd fod y cyfarfod yn agored.
1c. Gwrthdaro Buddiannau
Ni ddatganwyd unrhyw beth.
1d. Cofnodion a Chamau Gweithredu’r Cyfarfod Blaenorol
Derbyniwyd cofnodion cyfarfod y Bwrdd a gynhaliwyd ar 19 Mawrth 2020 fel cofnod gwir a chywir.
2a. Diogelwch
Trafododd y Bwrdd bwysigrwydd peidio ag anghofio am ofynion iechyd a diogelwch sylfaenol yng nghanol yr holl ymateb i Covid-19. Mae hyn yn berthnasol i staff sy’n gweithio yn eu hamgylchedd arferol a’r rhai sy’n gweithio gartref.
Roedd damwain angheuol wedi digwydd ar draciau yn Swydd Northampton cyn y cyfyngiadau symud, lle'r oedd rheolwr diogelwch y safle wedi rhoi’r llinell yn ôl i’r signalwr ond wedi’i daro gan drên wedyn. Bydd TrC yn ceisio dysgu gwersi o’r digwyddiad a gweithredu’n unol â hynny.
2b. Cwsmeriaid
Roedd y Bwrdd yn cytuno bod yna deimlad o gymuned yn datblygu’n gyffredinol drwy’r tosturi, y gofal a’r ddealltwriaeth sy’n cael eu dangos yn yr amgylchiadau presennol. Mae angen datblygu hyn i sut y bydd cwsmeriaid yn cael eu trin pan fydd pethau’n dychwelyd i drefn.
2c. Perfformiad diogelwch
Cymerwyd camau cyn y cyfyngiadau symud i baratoi ar gyfer argyfwng Covid-19 yn cynnwys sefydlu Grwpiau Cydgysylltu Tactegol i gefnogi staff, ystyried effaith ar y busnes ac unrhyw gyfathrebu cysylltiedig. Mae’r grŵp hwn yn dal i gyfarfod yn rhithwir ddwywaith yr wythnos. Mae cwestiynau cyffredin a sesiynau briffio dyddiol i staff wedi’u paratoi ynghyd ag asesiadau DSE ar gyfer gweithio gartref, a arweiniodd at ddarparu cyfarpar swyddfa ychwanegol i gartrefi. Mae staff yn cael eu hannog i rannu sut maent yn teimlo ac a ydynt angen cymorth o gwbl. Byddwn yn dechrau meddwl beth sydd angen ei gyflwyno i bobl a fydd yn dychwelyd i’r gwaith yn y dyfodol. Mae TrC hefyd yn rhan o grwpiau tebyg a sefydlwyd gan AKIL a Gwasanaethau Rheilffyrdd TrC.
Mae llai o wasanaethau a llai o deithwyr wedi cael effaith sylweddol ar ddiogelwch gyda nifer y digwyddiadau’n gostwng hefyd. Yn ystod y cyfnod diwethaf cafwyd dwy ddamwain RIDDOR hysbysadwy, dau ddigwyddiad SPAD Categori A, un ymosodiad geiriol, wyth damwain fechan i deithwyr yn sgil llithro, baglu a chwympo, a phedair damwain fechan i weithwyr.
Derbyniwyd canlyniadau'r archwiliad diogelwch diweddar. Roedd yr adroddiad cadarnhaol yn cynnwys naw argymhelliad, gyda thri ohonynt yn rhai blaenoriaeth isel, chwech yn flaenoriaeth ganolig a dim un flaenoriaeth uchel.
Gweithredu – ACa i rannu adroddiad archwilio iechyd a diogelwch a chynllun gweithredu yng nghyfarfod nesaf yr is-bwyllgor Iechyd a Diogelwch
3a. Adroddiad y Prif Swyddog Gweithredol
Rhoddodd JP ddiweddariad ar y prif weithgareddau ers y cyfarfod diwethaf, gyda’r pwyslais ar yr amgylchedd gweithredu gwahanol sydd wedi datblygu dros y mis diwethaf sy’n cael effaith sylweddol ar holl weithgareddau TrC. Fodd bynnag, mae’r tîm wedi tynnu at ei gilydd yn dda iawn ac roedd cyflawni trosglwyddiad Prif Linellau’r Cymoedd (CVL) ar 28 Mawrth yn arwyddocaol iawn o ystyried yr amgylchiadau. Mae’r Bwrdd yn ategu ei werthfawrogiad ac yn diolch am drosglwyddiad CVL.
Dros y chwe wythnos diwethaf cymerwyd camau i sicrhau bod staff yn cael eu diogelu a’u bod yn gallu parhau i weithio: mae systemau TG wedi gweithio’n dda – yn cynnwys yr holl gyfarfodydd staff dros y rhyngrwyd; cymerwyd camau sydyn i sicrhau bod staff wedi’u diogelu, yn enwedig rhoi’r gorau i’r holl wasanaethau arlwyo ar y trenau.
Cytunwyd ar gymorth ariannol Cam Un ar gyfer y Gweithredwr a Phartner Datblygu (GPD) wythnos diwethaf ac mae gwaith ar droed i gytuno ar becynnau cymorth, gyda cham dau i’w drafod yn ddiweddarach yn y cyfarfod. Mae gwaith ar droed hefyd i nodi prosiectau cyfalaf ‘parod i’w gweithredu’ i helpu i ysgogi’r economi; ond hefyd, i nodi arbedion gwariant gweithredol. Yn dilyn trafodaethau â Llywodraeth Cymru a’r Uwch Dîm Arwain, bydd gofyn i staff arlwyo ar drenau fynd ar ffyrlo. Mae gwaith ar droed hefyd i asesu goblygiadau argyfwng Covid-19 ar gost a rhaglen trawsnewid CVL.
Diweddarwyd y Bwrdd ar y sefyllfa ddiweddaraf ar y gwahanol brosiectau cerbydau newydd a rhai wedi’u trosglwyddo. Gwnaed cynnydd da ond mae’r holl brosiectau nawr wedi’u dal yn ôl o ganlyniad i Covid-19, oherwydd problemau gyda’r gadwyn gyflenwi a bod gofynion i gadw pellter cymdeithasol yn effeithio ar hyfforddiant gyrwyr. Mae adolygiad manwl o brosiect Dosbarth 230 ar droed.
Cynhaliwyd trafodaethau ar ddyfodol gwasanaethau bysiau gyda Llywodraeth Cymru. Bydd y Bwrdd yn derbyn diweddariad yn y cyfarfod nesaf.
3b. Cyllid
Nododd y Bwrdd gyfrifon rheoli Mawrth 2020. Roedd Gwariant Refeniw Mawrth yn £21.7 miliwn gyda £21.3 miliwn ohono’n ymwneud â rheilffyrdd, y mwyafrif ohono’n cael ei drosglwyddo i’r GPD. Roedd gwariant cyfalaf Mawrth yn £517 miliwn gyda £498 miliwn ohono’n ymwneud â throsglwyddo asedau CVL.
Mae’r gwaith cyfredol wedi canolbwyntio ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, gyda’r archwiliad allanol i fod i ddechrau ar 4 Mai. Cyflwynwyd mantolen brawf i Lywodraeth Cymru.
Cynhaliwyd llawer o waith hefyd ar drosglwyddo asedau CVL yn cynnwys y trafodiadau ariannol, prisio asedau, adrodd am asedau, trosglwyddo o un gyllideb i’r llall, trosglwyddo pobl a phensiynau a defnyddio asedau. Mae Awdurdod Refeniw Cymru wedi barnu bod Treth Trafodiadau Tir yn daladwy ar drosglwyddo asedau CVL ac mae wedi’i thalu. Mae Gweithrediadau, Cynnal a Chadw ac Adnewyddiadau ar gyfer ased CVL wedi’u cynnwys yn y cais cyllideb i Lywodraeth Cymru.
Mae gwaith ar droed hefyd i lunio’r pecyn cymorth ariannol ar gyfer y GPD, ynghyd â gwaith i asesu effaith Covid-19 ar brosiectau cyfalaf. Gofynnwyd i WEFO a fyddai’n bosibl ymestyn yr amlen wariant ar gyfer trawsnewid CVL.
Mae cytuno ar gyllideb 2020/21 gyda Llywodraeth Cymru wedi oedi nes deall effaith Covid-19.
3c. Diweddariad ar is-bwyllgorau
Adolygodd y Bwrdd bapur gan AB yn gwahodd sylwadau ar adroddiad blynyddol y Pwyllgor Archwilio a Risg.
Cytunodd y Bwrdd bod angen penderfynu pa is-bwyllgor sy’n gyfrifol am gynaliadwyedd, gan feddwl mai’r Pwyllgor Iechyd, Diogelwch a Llesiant ddylai fod yn gyfrifol.
Gweithredu: NK a GM i drafod a fyddai cynaliadwyedd yn perthyn i gylch gwaith y Pwyllgor Iechyd, Diogelwch a Llesiant.
Gweithredu – VE, JM, GO i gyfarfod i drafod sefydlu Bwrdd Prosiect.
4. Unrhyw fater arall
Ni chodwyd unrhyw fater.
Rhan B – Sesiwn ddiweddaru weithredol
Ymunodd LB, LR, AC, KG, DOL, GM, DW a GO â’r cyfarfod drwy alwad cynhadledd.
5a. Cofrestr Risg Strategol
Adolygodd y Bwrdd y Gofrestr Risg Strategol ac effaith sylweddol Covid-19 ar lawer o’r risgiau.
Cafwyd gwared ar risgiau trosglwyddo asedau yn dilyn cwblhau’r trafodiad ddiwedd Mawrth. Cafwyd gwared ar y risg yn gysylltiedig ag argyfwng Covid-19 hefyd gan ei fod wedi’i wireddu, ond mae risg newydd wedi’i hychwanegu mewn perthynas â thon newydd o achosion o’r feirws. Rydym wrthi’n datblygu cofrestr risg Covid-19 ar wahân a bydd yn cael ei chyflwyno yng nghyfarfod nesaf y Bwrdd.
5b. Cyfathrebu
Mae amgyffred pobl o frand TrC wedi cynyddu 14 pwynt. Y rheswm am hyn mae’n debyg yw’r teithio am ddim sydd ar gael i weithwyr allweddol a staff Gwasanaethau Rheilffyrdd TrC yn cael eu dynodi’n weithwyr hanfodol. Ychydig iawn o sylwadau negyddol a gafwyd yn y cyfryngau dros y mis diwethaf.
Mae’r Panel Cynghori cyntaf i fod i’w gynnal ym mis Mai.
Cafwyd ymateb cadarnhaol i negeseuon cyfathrebu mewnol, gyda bwletinau Covid-19 dyddiol a chynnydd yn y defnydd o Yammer.
Trosglwyddodd Gwasanaethau Rheilffyrdd TrC y cyfrifoldeb am holl waith cyfathrebu â’r cyfryngau i TrC ar 1 Ebrill.
5c. Tîm Cynrychioli Safle’r Awdurdod ar gyfer Adrannau 5 a 6 yr A465
Cymeradwyodd y Bwrdd argymhelliad i fwrw ymlaen i gael cyflenwr (neu gyflenwyr) ar gyfer Tîm Cynrychioli Safle’r Awdurdod ar Brosiect MIM Gwelliannau Priffyrdd Adrannau 5 a 6 yr A465 Llywodraeth Cymru. Pwysleisiodd y Bwrdd fod angen sicrhau eglurder ynghylch cyfrifoldebau ac atebolrwydd rhwng TrC, Llywodraeth Cymru a chontractwyr.
5d. Cam 2 a 3 pecyn achub GPD
Cymeradwyodd y Bwrdd Gytundeb Mesurau Argyfwng neu gytundeb ‘cam 2’ gyda’r GPD ar gyfer gwasanaethau rheilffyrdd ar gyfer y cyfnod o fis Mehefin i fis Tachwedd 2020 fel y cytunwyd gyda Llywodraeth Cymru. O dan y cytundeb, bydd yr holl risgiau sy’n ymwneud â gwariant, cost gweithredu a gwariant cyfalaf yn trosglwyddo o’r GPD i Weinidogion Cymru am gyfnod o hyd at chwe mis. Bydd hyn yn gofyn am gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru o wariant gweithredu o rhwng £40 miliwn a £65 miliwn yn dibynnu ar refeniw teithwyr ac uchafswm cyllid ar gyfer gwariant cyfalaf o £97 miliwn ar gyfer 2020/21 sy’n cynnwys prosiectau CVL a phrosiectau eraill. Bydd y gallu i sicrhau’r lefel hon o wariant cyfalaf yn 2020/21 yn dibynnu ar i ba raddau y bydd mesurau’r cyfyngiadau symud yn cael eu codi, a phryd. Mae’r cytundeb yn debyg i gymorth yr Adran Drafnidiaeth ar gyfer cwmnïau gweithredu trenau Lloegr gydag arian ychwanegol ar gyfer prosiectau cyfalaf.
Atgoffwyd y Bwrdd fod cytundeb cam 2 yn ychwanegol at y cymhorthdal sylfaenol a’r cyllid a gymeradwywyd o £40 miliwn ar gyfer cam 1. Hysbyswyd y Bwrdd hefyd nad oedd y ceisiadau am gyllid cam 2 yn cynnwys unrhyw effaith costau cynyddol yn gysylltiedig â Covid-19 ar weithgareddau trawsnewid CVL a Rheolwr Seilwaith. Nid yw’r cais am gyllid yn cynnwys unrhyw ofyniad am weithgareddau ychwanegol i annog y defnydd o’r rhwydwaith rheilffyrdd yn ystod cyfnod adfer Covid-19 ychwaith, nac unrhyw gerbydau ychwanegol y bydd eu hangen er mwyn galluogi’r mesurau ‘cadw pellter cymdeithasol’ newydd ar drafnidiaeth gyhoeddus.
Bu’r Bwrdd yn trafod gwahanol opsiynau ar gyfer cymorth Cam 3 y tu hwnt i fis Tachwedd 2020 hefyd a chytuno ar hierarchaeth eang o drefn dull a chyfeiriad gwaith y dyfodol, gan gydnabod bod angen mwy o waith a chyfeiriad strategol pellach gan Lywodraeth Cymru.
5e. Adfer ac ailffocysu - diweddariad
Nododd y Bwrdd waith cynllunio’r Uwch Dîm Arwain ar gyfer adfer ac ailffocysu’r busnes ar ôl Covid-19. Mae’r gwaith wedi cynnwys nodi arbedion effeithlonrwydd, datblygu a chyflawni cynlluniau buddsoddi, cefnogi a datblygu’r agenda fysiau genedlaethol a diogelu swyddi uniongyrchol. Rydym wrthi’n datblygu cynllun manwl a bydd yn cael ei gyflwyno yng nghyfarfod y Bwrdd ym mis Mai.
Gweithredu – DO i ddosbarthu papur adfer ac ailffocysu i’r Bwrdd.
5f. Deddfwriaeth CJC
Trafododd y Bwrdd gynigion drafft Llywodraeth Cymru i greu Cyd-bwyllgorau Corfforaethol yn lle Cyd-awdurdodau Trafnidiaeth. Bydd y Cyd-bwyllgorau yn ‘gyrff corfforaethol’ wedi’u ffurfio o aelodaeth prif gynghorau, wedi’u sefydlu mewn statud, ac yn gallu cyflogi staff yn uniongyrchol, dal asedau a rheoli cyllid, wedi’u llunio o arweiniad democrataidd awdurdodau lleol yn ei ardal.
Trafododd y Bwrdd rôl bosibl TrC fel ‘meddwl arweiniol’ i weithio gyda’r Cyd-bwyllgorau, yn eu rôl trafnidiaeth ac i ddarparu rhwydwaith cenedlaethol sy’n cysylltu pobl drwy waith integreiddio, safoni, cynllunio rhwydwaith a chanoli.
5g. Cynnydd yn erbyn cerrig milltir
Cafodd y Bwrdd ddiweddariad ar gynnydd yn erbyn cerrig milltir. Mae’n debygol y bydd yna oedi cyn y gellir cwblhau’r gwaith yn y pencadlys ym Mhontypridd yn sgil busnesau wedi cau yn sgil Covid-19.
Rydym yn dal i ddatblygu’r cynllun busnes pum mlynedd ac mae angen ei ddiweddaru i ystyried Covid-19.
Trafododd y Bwrdd gerbydau a’r angen i TrC fod mewn sefyllfa dda gan y bydd hyn yn ein helpu i adfer o Covid-19.
Gweithredu – AC i ddrafftio papur ar gynnydd gyda cherbydau.
5h. Trawsnewid CVL – edrych chwe mis ymlaen
Nododd y Bwrdd sawl amrywiad contract ar drawsnewid CVL.
5i. Dangosfyrddau cyflenwi gwasanaethau
Cafodd y Bwrdd ddiweddariad ar berfformiad Gwasanaethau Rheilffyrdd. Dangosodd chwarter pedwar 2019-20 welliant cyffredinol ym maes cyflenwi gwasanaethau rheilffyrdd. Er bod yna heriau yng Nghyfnod 12 oherwydd y stormydd, roedd perfformiad wedi gwella. Fodd bynnag, cafodd Covid-19 effaith ar bythefnos olaf Cyfnod 13. Ni chyflwynwyd cosbau ar Wasanaethau Rheilffyrdd TrC ar gyfer Cyfnod 13.
5k. Unrhyw Fater Arall
Gofynnodd y Bwrdd am ddiweddariad ar gynnig Grand Union Trains am wasanaeth mynediad agored yn rhedeg o Gymru i Lundain. Dywedwyd wrth y Bwrdd fod Llywodraeth Cymru’n cefnogi’r cynnig ac y byddai TrC yn cael cais i helpu i ddatblygu’r cynnig.