Trafnidiaeth Cymru Cofnodion Cyfarfod y Bwrdd - 23 Ionawr 2020
Cofnodion Bwrdd TrC Ionawr 2020
09:30 – 16:30; 23 Ionawr 2020
Tŷ South Gate, Caerdydd
Yn bresennol
Cyfarfod Bwrdd Llawn: Scott Waddington (SW) (Cadeirydd); James Price (JP); Heather Clash (HC); Sarah Howells (SH); Nicola Kemmery (NK); Alison Noon-Jones (ANJ); Vernon Everitt (VE); Jeremy Morgan (Ysgrifenyddiaeth); Gareth Morgan (GM) (eitemau 1-3); a Matthew Gilbert (MG) (eitem 4d).
Sesiwn diweddariad gweithredol (eitemau 6a-6o): Alexia Course; Geoff Ogden (GO); David O’Leary (DOL); Karl Gilmore (KG); Lewis Brencher (LB); Lee Robinson (LR) (eitem 6c); a Rob Holmes (eitem 6e).
Rhan A – Cyfarfod Bwrdd Llawn
1a. Ymddiheuriadau am Absenoldeb
Anfonodd Alun Bowen a Gareth Howells eu hymddiheuriadau am y cyfarfod cyfan. Anfonodd Lisa Yates ymddiheuriadau am y sesiwn diweddariad gweithredol.
1b. Hysbysiad ynghylch Cworwm
Gan fod cworwm yn bresennol, rhoddodd y Cadeirydd groeso i bawb i’r cyfarfod a datgan bod rhan ffurfiol y cyfarfod ar agor
1c. Gwrthdaro rhwng Buddiannau
Dim wedi’i ddatgan.
1d. Cofnodion a Chamau Gweithredu o’r Cyfarfod Blaenorol
Derbyniwyd cofnodion cyfarfod y Bwrdd ar 18 Rhagfyr 2019 yn gofnod gwir a chywir
2a. Sylw i Ddiogelwch
Ymunodd HC â’r cyfarfod. Trafododd y Bwrdd yr angen i gydnabod bod mis Ionawr yn gallu bod yn gyfnod heriol o ran iechyd meddwl. Dydd Llun yr wythnos hon oedd ‘Dydd Llun y Felan’, sy’n pwysleisio’r angen i siarad â chydweithwyr am eu lles yn gyffredinol.
2b. Sylw i Gwsmeriaid
Clywodd y Bwrdd am siwrnai ddiweddar o Gaerdydd i Lundain ar wasanaethau GWR lle’r oedd y trên blaenorol wedi’i ganslo, gan olygu bod mwy o bobl na’r disgwyl ar y trên nesaf a bod y systemau seddau cadw wedi cael ei chanslo. Roedd y criw ar y trên wedi delio’n dda iawn â’r sefyllfa gyda’r Giard yn rhoi gwybodaeth berthnasol yn rheolaidd, yn cynnwys sut i wneud cais am iawndal drwy’r drefn Ad-daliad am Oedi. Fodd bynnag, wrth wneud y cais, roedd yn cael ei wrthod, ac roedd y system wedi dymchwel.
Anogwyd y Bwrdd hefyd, yn ystod y cyfarfod, i dynnu sylw at ‘Foment arbennig’ i gydnabod pan mae rhywun wedi cyflawni rhywbeth arbennig / wedi gwneud cyfraniad da i waith TrC.
3. Perfformiad diogelwch
Riportiwyd wyth RIDDOR (Gwasanaethau Rheilffordd) yn ystod y cyfnod diwethaf a phedwar SPAD (tri am Gyfnod 9 ac un am y cyfnod cyfredol, Cyfnod 10). Caiff y rhain eu trafod yn fanylach ym Mhwyllgor Iechyd, Diogelwch a Lles mis Chwefror. Bydd y Pwyllgor yn ystyried a oes gor-riportio RIDDORs.
Gwahoddwyd Cyfarwyddwyr Anweithredol TrC i gymryd rhan mewn diwrnodau Arweinyddiaeth Weladwy a Theimladwy, a chytunasant. Bydd y diwrnodau hyn yn help i amlygu’r sialensiau sy’n wynebu’r gweithlu.
Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am awdurdodiad Diogelwch i Reilffyrdd Craidd y Cymoedd. Mae’r cais yn dal i gael ei adolygu ar hyn o bryd, ond mae cyfarfodydd wythnosol yn cael eu cynnal gydag ORR a’r Rheolwr Seilwaith i gadw llygad ar ei hynt a sicrhau y bydd yn ei le erbyn y trosglwyddiad.
Trafododd y Bwrdd faterion yn ymwneud â blinder ac amryw o fesurau a strategaethau i sicrhau na fydd damweiniau o’r herwydd. Cytunodd y Bwrdd fod angen trafod hyn gyda’r Gwasanaethau Rheilffyrdd yn y cyfarfod Iechyd, Diogelwch a Lles nesaf.
Riportiwyd 19 o ddamweiniau i weithwyr yn ystod y flwyddyn hon hyd yma. Mae’r perfformiad yn dal o fewn y targed a osodwyd i ostwng lefel y damweiniau 15% o’i chymharu â’r flwyddyn flaenorol. Arweiniodd pob un o’r damweiniau at fân anafiadau ac arweiniodd dwy ddamwain at golli amser. Cytunodd y Bwrdd i ofyn i’r Gwasanaethau Rheilffyrdd yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor Iechyd, Diogelwch a Lles am fanylion eu strategaeth i ostwng lefel y damweiniau i gwsmeriaid.
Riportiodd 31 o gwsmeriaid ddamweiniau yn ystod Cyfnod 10. Arweiniodd 26 o’r rhain at fân anafiadau gyda thri chwsmer yn dioddef o sioc yn dilyn damwain traffig ffordd ar wasanaeth bws yn lle trên. Roedd 24 yn disgyn i’r categori llithro, baglu neu gwympo, gydag 14 yn digwydd o amgylch y gorsafoedd a 10 ar y rhyngwyneb rhwng platfform a thrên.
Hysbyswyd y Bwrdd am ddau ddigwyddiad gwahanol lle’r oedd camgymeriad dynol wedi golygu bod y system rheoli drysau anghywir wedi’i defnyddio ar ddau gerbyd gwahanol. Cafodd yr unedau eu tynnu o’r gwasanaeth a’u hanfon yn ôl i’r depo i ymchwilio ymhellach. Cytunwyd ar gamau gweithredu priodol, a oedd yn cynnwys adolygu a diweddaru’r deunyddiau hyfforddi a darparu briff gweithredol i bob giard. Mae ymchwiliadau ar y gweill i fesurau peirianyddol i sicrhau nad oes modd i hyn ddigwydd eto.
4a. Adroddiad y Prif Swyddog Gweithredol
Soniodd JP wrth y Bwrdd am ei asesiad ef o weithgareddau TrC dros y mis diwethaf. Tynnwyd sylw at y prif fesurau a oedd wedi’u cyflawni: mae platfform Bow St wedi’i adeiladu ar ôl tynnu arian DfT i lawr; mae pris terfynol trawsnewid Rheilffyrdd Craidd y Cymoedd bron â chael cymeradwyaeth derfynol; ac roedd y gwaith o drosglwyddo gwasanaethau arlwyo o Rail Gourmet i TrC wedi mynd yn dda iawn, a heb i’r cwsmeriaid sylwi yn ôl pob golwg. Roedd y Bwrdd yn falch fod TrC erbyn hyn yn darparu gwasanaeth rheng flaen. Atgoffwyd y Bwrdd o’r holl waith a wnaed yn y cefndir i sicrhau bod y trosglwyddiad wedi mynd drwodd. Roedd y Bwrdd am ddatgan ei ddiolch i’r holl dimau a fu’n ymwneud â’r trosglwyddiad.
Soniwyd wrth y Bwrdd hefyd am y sialensiau presennol yn ymwneud â pherfformiad o ddydd i ddydd a cherbydau. O ran perfformiad, nododd y Bwrdd fod Llywodraeth Cymru wedi beirniadu KA am y tro cyntaf am berfformiad gwael a bod rhybudd. Dywedodd y Bwrdd ei fod am gael y cyfle i drafod y materion gyda Phrif Swyddog Gweithredol Gwasanaethau Rheilffyrdd TrC yn ei gyfarfod nesaf.
Cam gweithredu: JM i drefnu bod Prif Swyddog Gweithredol Gwasanaethau Rheilffyrdd TrC yn dod i’r cyfarfod nesaf.
Er bod cynnydd da wedi’i wneud yn darparu cardiau teithio rhatach newydd, roedd problemau o hyd ynglŷn â defnyddio’r hen gardiau ar ôl diwedd y cyfnod o ras.
O ran trawsnewid Rheilffyrdd Craidd y Cymoedd, roedd RPJ Consulting wedi cynnal asesiad integreiddio annibynnol o signalau, batris, cyfnerthedd ac agweddau eraill o’r cynlluniau trawsnewid. Y prif gasgliad oedd bod dichon gweithredu’r cynlluniau cyhyd â bod sylw buan yn cael ei roi i rai materion sydd wedi’u nodi. Mae RPJ Consulting wedi cytuno mewn egwyddor i gefnogir tîm datblygu seilwaith TrC i’w helpu i roi casgliadau’r adolygiad ar waith. Caiff adroddiad terfynol RPJ ei rannu gyda’r Bwrdd.
Rhoddwyd yr wybodaeth ddiweddaraf i’r Bwrdd o ran trosglwyddo asedau Rheilffyrdd Craidd y Cymoedd. Roedd gwaith yn mynd rhagddo ar sawl mater ac mae cynnydd da’n cael ei wneud tuag at sbarduno’r trosglwyddiad yn yr wythnosau nesaf, gyda’r pwyslais ar hyn o bryd ar weithio gyda rhanddeiliaid i gytuno ar faterion atebolrwydd.
4b. Cyllid
Rhoddwyd yr wybodaeth ddiweddaraf i’r Bwrdd am y prif ffrydiau gwaith ariannol. Mae sylw’n cael ei roi i’r cyfrifyddu ynglŷn â throsglwyddo a phrisio asedau Rheilffyrdd Craidd y Cymoedd, gan drafod y drefn a’r fethodoleg gydag archwilwyr allanol TrC sy’n ymgynghori â’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol. Mae materion TAW a’r Dreth Trafodiadau Tir hefyd yn cael eu hadolygu.
Disgwylir penderfyniad gan CThEM p’un a fydd TrC yn dod o dan adran 33E o Ddeddf Treth ar Werth 1994, sy’n addalu i gyrff cyhoeddus anadrannol sydd wedi’u henwi, a chyrff cyhoeddus tebyg, y TAW a wynebwyd fel rhan o drefniadau cydwasanaethau a ddefnyddiwyd i gynnal gweithgareddau nad ydynt yn rhai busnes. Os bydd yn cytuno, disgwylir y bydd hyn yn dod i rym o 1 Ebrill 2020.
Mae cyllid Llywodraeth Cymru tuag at wariant 2019/20 wedi’i ddatrys erbyn hyn ac mae llythyr cylch gwaith diwygiedig i adlewyrchu’r cynnydd mewn cyllid i gyd-fynd â’r gweithgarwch i ddod yn fuan. Bydd hyn yn cael ei amrywio ymhellach eto mewn perthynas â throsglwyddo asedau Rheilffyrdd Craidd y Cymoedd a chyllid cysylltiol ar gyfer gweithrediad, cynnal a chadw ac adnewyddu, yn ddibynnol ar y dyddiad trosglwyddo a chais TAW Network Rail a’r Dreth Trafodiadau Tir.
Bydd drafft cyntaf cyllideb 2020-22 wedi’i gwblhau erbyn diwedd mis Ionawr gan arwain at drafodaeth gyda Llywodraeth Cymru, a chynllun i gyflwyno’r ail ddrafft i’r Bwrdd yng nghyfarfod mis Chwefror.
Roedd gwariant gweithredol mis Rhagfyr yn £17.6m; o hynny mae a wnelo £16.1m â’r rheilffyrdd ac mae’n mynd drwodd i’r Partner Gweithredu a Datblygu. Roedd gwariant cyfalaf yn £7.3m; mae £5.5m yn ymwneud â’r rheilffyrdd. O ran y Cyfrif Elw a Cholled, mae gwarged bach iawn sy’n adlewyrchu’r cais pris trosglwyddo ar brosiectau rheoli newid lle mae’r arian yn cael ei ail-fuddsoddi yn y sefydliad. Roedd asedau net o £0.7m ar y Fantolen ar ddiwedd mis Rhagfyr (dim newid sylweddol yn y chwarter diwethaf).
4c. Diweddariadau is-bwyllgorau’r Bwrdd
Nid oedd unrhyw is-bwyllgorau wedi cwrdd yn ystod y mis diwethaf.
4c. Yr wybodaeth ddiweddaraf gan y Bwrdd Llywio
Roedd SW a JP yn bresennol yng nghyfarfod Bwrdd Llywio TrC yr wythnos diwethaf lle trafodwyd materion yn cynnwys perfformiad y Gwasanaeth Rheilffyrdd, bysiau, Rhaglen Trafnidiaeth Integredig y Dyfodol, trosglwyddo Rheilffyrdd Craidd y Cymoedd, diogelu refeniw, cynllunio busnes ac Erthyglau Cymdeithasu TrC. Cadarnhaodd Llywodraeth Cymru y byddai’n darparu Erthyglau Cymdeithasu a Dogfen Fframwaith erbyn diwedd mis Ionawr 2020.
4d – Cyflwyniad ar Deithio Llesol
Ymunodd MG â’r cyfarfod i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Bwrdd ar weithgareddau teithio llesol TrC. Mae TrC wedi ymwneud ag amrywiaeth eang o weithgareddau yn cynnwys darparu cyngor i awdurdodau lleol, rhoi cyngor ynghylch canllawiau, gweithio gyda Sustrans i ailysgrifennu canllawiau a meini prawf gwerthuso ar gyfer y gronfa teithio lleol; monitro cynlluniau; gweithio ar fframwaith llogi beics i Gymru gyfan; archwilio gwell darpariaeth storio beics yng ngorsaf Caerdydd Canolog; cipio data teithio llesol; gweithio gyda Gwasanaethau Rheilffyrdd i ddatblygu ei strategaeth teithio llesol ei hun; a gweithio gyda Gwasanaethau Rheilffyrdd TrC i gyflawni rhwymedigaethau ei Gytundeb Grant. Bydd arolwg teithio mewnol yn cael ei lansio i holi staff ynglŷn â theithio i swyddfa newydd Pontypridd a sut y gellir darparu help iddynt i wneud dewisiadau mwy cynaliadwy.
Cytunwyd ar godiad cyflog blynyddol i aelod o Uwch Dîm Arweinyddiaeth TrC yn unol â’r dyfarniadau cyflog blynyddol a gynigiwyd ar draws y sefydliad.
Rhan B – Sesiwn Diweddariad Gweithredol
Ymunodd Alexia Course (AC); Karl Gilmore (KG); Geoff Ogden (GO); Gareth Morgan (GM); David O’Leary (DOL); a Lewis Brencher (LB) â’r cyfarfod.
6a –Sbarduno Trosglwyddiad Rheilffyrdd Craidd y Cymoedd
Mae pob parti sy’n ymwneud â’r trosglwyddiad yn parhau i weithio tuag at ddyddiad sbarduno 31 Ionawr 2020, gyda golwg ar gyflawni’r trosglwyddiad ar 28 Mawrth 2020. Fodd bynnag, mae sawl mater i’w ddatrys o hyd. Bydd staff Network Rail sy’n trosglwyddo yn cael eu briffio ar gynnwys eu llythyr REM drwy gyfarfodydd un i un.
Roedd y Bwrdd am fynegi ei ddiolch i’r tîm am ei ymdrechion hyd yma.
6c – Diweddariad ar y cardiau teithio rhatach newydd
Ymunodd LR â’r cyfarfod.
Rhoddwyd y ffigurau diweddaraf i’r Bwrdd o ran cyflwyno cardiau teithio rhatach newydd. Hyd yma, mae 574,000 o geisiadau wedi cael eu prosesu, ac roedd 537,000 o’r rheini yn geisiadau adnewyddu. Mae tua 12,000 o ddefnyddwyr ‘aml’ heb wneud cais newydd eto. Mae tua 10,000 yn dal yn y system ar wahanol gamau yn y broses gyflwyno. Mae 1,200 o gardiau newydd wedi cael eu darparu i gwsmeriaid a oedd wedi colli eu cerdyn newydd. Mae cardiau newydd sydd wedi mynd ar goll wedi cael eu diffodd i leihau’r perygl o dwyll.
Mae’r cyfnod o ras ar waith erbyn hyn. Mae wedi cael ymateb cymysg gan weithredwyr, ond mae gwaith wedi’i wneud i hwyluso’r sefyllfa drwy ddarparu gwybodaeth ychwanegol i yrwyr. Fodd bynnag, mae risg o hyd ynglŷn â diwedd y cyfnod o ras a delio â sefyllfaoedd lle gallai gweithredwr droi teithiwr oddi ar fws. Rydym yn ystyried mesurau lliniaru drwy ddarparu cyfarwyddiadau i yrwyr; ysgrifennu at awdurdodau lleol ac Aelodau i ofyn iddynt gyfathrebu ag etholwyr, i atgoffa’r rhai nad ydynt wedi cael cerdyn newydd i wneud hynny; ac ysgrifennu at deithwyr sy’n dal i ddefnyddio’r hen gerdyn yn gofyn iddynt wneud cais am gerdyn newydd.
6d – Swyddfa Wrecsam
Mae’r tîm yng ngogledd Cymru yn dal i dyfu ac, o ganlyniad, mae angen swyddfeydd newydd. Trafododd a chymeradwyodd y Bwrdd gynnig i gymryd prydles dan gontract am bum mlynedd, gydag opsiwn tair blynedd, i ddefnyddio rhan o swyddfeydd St John Cymru-Wales ym Mhentref Busnes Wrecsam Iâl. Yr ymrwymiad o ran cost yw £33,707 y flwyddyn yn cynnwys rhent, tâl gwasanaeth, trethi, cyfleustodau, WiFi, glanhau a chynnal a chadw, ynghyd â chost untro bellach o £50,846 am ffitio ac adnewyddu. Rhoddwyd her gan y Bwrdd i sicrhau bod y costau hyn ar y lefel isaf ar gyfer safon ffitio dderbyniol sylfaenol.
6e – Diweddariad ar Raglen Trafnidiaeth Integredig y Dyfodo
Rhoddwyd yr wybodaeth ddiweddaraf i’r Bwrdd ar y datblygiadau diweddaraf er cyflawni rhaglen Trafnidiaeth Integredig y Dyfodol i drosglwyddo swyddogaethau oddi wrth Lywodraeth Cymru i TrC. Mae Achosion Cyfiawnhad Busnes bron iawn wedi’u cwblhau erbyn hyn ar drosglwyddo swyddogaethau bws, teithio llesol a hedfan o 1 Ebrill 2020. Bydd swyddogaethau yn ymwneud â’r Rhwydwaith Ffyrdd Strategol, yn cynnwys Asiantaethau Cefnffyrdd a phrosiectau cefnffyrdd, yn dilyn yn y blynyddoedd i ddod. Mae cyfarfod Bwrdd Rhaglen wedi’i drefnu ar gyfer yr wythnos nesaf gyda’r nod o fod ag achosion cyfiawnhad busnes y cytunwyd arnynt yn fuan wedyn.
Trafododd y Bwrdd y manteisio i TrC yn sgil ymgymryd â’r swyddogaethau hyn, gan adael iddynt esblygu lle mae’n bosibl, gyda’r nod o ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth gwirioneddol integredig
6f – Cynllun Trafnidiaeth Dinas Caerdydd
Trafododd y Bwrdd y Cynllun Trafnidiaeth a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Gyngor Caerdydd. Mae TrC yn gweithio gyda’r Cyngor ar nifer o eitemau’r cynllun ac roedd wedi cael gwybod eisoes am sawl eitem newydd nad oedd yn gwybod amdanynt gynt. Mae gan TrC gynrychiolaeth ar weithgor i symud y cynllun yn ei flaen.
Trafododd y Bwrdd yr angen i sicrhau eglurder o ran cyfrifoldebau sydd wedi’u nodi yn Strategaeth Drafnidiaeth Cymru a’r weledigaeth ar gyfer y Metro a dywedwyd y bydd angen edrych o’r newydd ar y rhain ar wahanol gamau datblygu.
6g – Dangosfwrdd KPI Profiad Cwsmeriaid
Bydd Transport Focus yn cyhoeddi ei arolwg o’r Gwasanaeth Rheilffyrdd Cenedlaethol i Deithwyr yn fuan, ond mae’n debyg y bydd lle i wella ar sgoriau TrC.
6h – Cofrestr Risgiau TrC
Hysbyswyd y Bwrdd fod dwy risg strategol wedi’u lliniaru’n llwyddiannus a’u tynnu oddi ar y gofrestr yn ystod y cyfnod. Roedd SR118 (Methiant i gyflawni amserlen mis Rhagfyr 2019 a thynnu trenau Pacers o’r gwasanaeth wedyn) wedi’i thynnu oddi ar y gofrestr yn sgil cyflawni cofrestr mis Rhagfyr 2019 yn llwyddiannus. Roedd SR119 (Methiant y Partner Gweithredu a Datblygu i ddod i gytundeb â Gweithredwyr Cludo Nwyddau ar fynediad i Reilffyrdd Craidd y Cymoedd) wedi’i thynnu oddi ar y gofrestr ar ôl i’r gweithredwyr ddod i gytundeb â’r Partner Gweithredu a Datblygu.
Nid oes unrhyw risgiau pellach wedi cael eu hychwanegu ym mis Ionawr 2020. Cafodd SR115 (Erthyglau Cymdeithasu a Llywodraethu ddim yn addas ar gyfer twf TrC) ei hailasesu yn ystod y mis, gyda’r sgoriau tebygolrwydd ac effaith yn cynyddu. Cafodd hyn ei yrru gan yr angen i brynu tir, rhywbeth nad yw’n cael ei ganiatáu ar hyn o bryd drwy’r Erthyglau.
Roedd AB wedi darparu sylw ysgrifenedig ynglŷn ag SR 114 (Brexit), a ddylai gael ei newid bellach i “risg yn sgil dim cytundeb masnach”. Er bod honno’n risg sylweddol, mae iddi fwy o ffocws ac mae’n llai cymhleth na’r risg yn sgil “dim cytundeb”. Cytunai’r Bwrdd fod hyn y briodol.
Mae gweithdy risg i’r tîm gweithredol wedi’i gynllunio ar gyfer mis Chwefror 2020, pryd y bydd adolygiad llawn o’r risgiau gweithredol strategol a busnes yn digwydd, ynghyd ag ail-gategoreiddio.
6i – Diweddariadau ynghylch y stoc rholio
Nododd y Bwrdd bapur yn rhoi diweddariad ar gyflwyno stoc rholio newydd. Mae pum fflyd ychwanegol (dosbarth 170, 230, 769, Mark 4 a threnau ychwanegol dosbarth 153) i fod i gael eu hychwanegu at fflyd TrC er mwyn gallu cael gwared â’r trenau Pacer a Mark 3. Mae cynlluniau ar waith fel bod yr holl drenau dosbarth 170 a’r trenau ychwanegol 153 mewn gwasanaeth erbyn diwedd Ch1 2020 i ddisodli’r trenau Pacer a Mark 3 nad ydynt yn cydymffurfio â’r gofynion PRM.
Credir bod mwy o risg ynghlwm wrth y rhaglenni i gyflwyno dosbarth 769 a 230. Yn y cynlluniau presennol bydd y ddwy fflyd yn ei lle a bydd modd cael gwared â’r trenau Pacer erbyn 31 Gorffennaf 2020. Fodd bynnag, er bod hyder cynyddol y caiff hyn ei wireddu, mae i’r ddwy raglen hanes o oedi a gallai llithro pellach olygu na ellid cael gwared â’r Pacers erbyn 31 Gorffennaf. Felly, mae mesurau lliniaru, yn cynnwys cryfhau’r rheolaeth dros y prosiect a threnau amgen ac ymestyn cyfnod y Pacers wedi cael eu rhoi ar waith. O ran y Cl769s, cytunai’r Bwrdd fod angen cynllun amgen dichonadwy os nad ydynt yn barod i’r gwasanaeth erbyn diwedd mis Gorffennaf.
6j – Dangosfwrdd Gweithrediadau Rheilffyrdd
Trafododd y Bwrdd ddangosfyrddau edrych-yn-ôl ac edrych-ymlaen y Gweithrediadau Rheilffyrdd. Cafodd y gwasanaethau Sul 185 newydd eu gweithredu fel rhan o amserlen mis Rhagfyr 2019. Roedd y cyfnod yn arwain at y Nadolig yn un anodd i’r holl ddarparwyr gwasanaeth sicrhau bod criwiau trên llawn ar gael ac arweiniodd at ganslo sawl gwasanaeth ymlaen llaw. Fodd bynnag, mae perfformiad y trenau wedi gwella ers cyflwyno’r amserlen newydd ar chwech o’r saith llwybr, a dim ond Glynebwy - Pen-y-bont ar Ogwr a Cheltenham - Maesteg sy’n dioddef gyda threnau hwyr oherwydd y rhyngweithio ag amserlen newydd GWR a chyflwyno trenau Dosbarth 170. Mae’r cynllun trenau drwyddo draw wedi gweld cynydd yn y capasiti ar draws holl wasanaethau TrC, ac mae angen 6 uned ychwanegol y dydd.
Mae TrC wedi cyflwyno hysbysiad cynllun perfformiad i’r Gwasanaethau Rheilffyrdd i sicrhau bod ganddynt ymyriadau clir, y maent wedi ymrwymo iddynt, er mwyn gwell perfformiad gwasanaethau Cymru a’r Gororau a gwasanaethau Rheilffyrdd Craidd y Cymoedd. Yn dilyn sesiynau manwl gyda’r Gwasanaethau Rheilffyrdd, mae TrC wedi cytuno ar gynllun perfformiad sy’n cynnwys 11 ffrwd waith gynhwysfawr sy’n mynd i’r afael â’r elfennau sy’n effeithio ar berfformiad ar hyn o bryd er mwyn gwella’r gwasanaeth yn y tymor byr i ganolig. I adolygu a monitro’r holl ymyriadau o fewn pob ffrwd waith, sefydlwyd grŵp adolygu gwella perfformiad gan TrC ym mis Tachwedd sy’n cwrdd bob pedair wythnos i roi sicrwydd a llywodraethu. Mae TrC yn gweithio gyda thîm perfformiad Gwasanaethau Rheilffyrdd TrC i sicrhau bod yna ragolygon perfformiad (PTL) i bob un o’r 11 ffrwd waith, ac mae’r arwyddion cynnar yn awgrymu y bydd y Cyfartaledd Symud Blynyddol yn gwella o fisoedd yr haf, pan fydd y fflyd sydd ar gael wedi sefydlogi.
6k - Cyfathrebu
Mae argraff brand TrC yn dal yn gyson â’r perfformiad ac ar hyn o bryd mae’n -3.4. Cytunai’r Bwrdd y byddai’n elwa o ddiweddariad wythnosol i’r cyfryngau.
Cam gweithredu: LB i ddarparu diweddariad wythnosol ar gyfer y cyfryngau i aelodau’r Bwrdd.
Ymunodd RH â’r cyfarfod i roi diweddariad ar y cynnydd yn erbyn yr argymhellion o adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau (Mai 2019) - ‘Datblygu Trafnidiaeth Cymru yn y Dyfodol’. Gweithredwyd yn erbyn pob un o’r 13 argymhelliad. Mae sesiwn bellach wedi’i chynllunio ar gyfer yr wythnos nesaf i drafod perfformiad a llywodraethu.
6l – Cynnydd mewn cysylltiad â cherrig milltir
Nododd y Bwrdd bapur a oedd yn rhoi diweddariad ar y cynnydd yn erbyn cerrig milltir rhaglen a chorfforaethol sy’n cael eu tracio.
6m – Ymgymerwyr Statudol STARs
Cymeradwyodd y Bwrdd bapur yn argymell Matrics Dirprwyo yn galluogi Cyfarwyddwyr Gweithredol i gymeradwyo contractau gweithredu un tendr i’w dyfarnu i Ymgymerwyr Statudol, gwerth hyd at £500,000, heb gymeradwyaeth SLT, lle na all unrhyw sefydliad arall wneud y gwaith yn gyfreithlon. Bydd gofyn cwblhau’r dogfennau i gyd ac mae hyn yn ddarostyngedig i archwiliad mewnol.
Dywedodd y Bwrdd fod angen ystyried ym mhob achos a all TrC wneud y gwaith.
Bydd crynodeb o Geisiadau Gweithredu Un Tendr a Cheisiadau Amrywio Masnachol yn cael ei gyflwyno ar y bwrdd yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor Archwilio a Risg.
Cam gweithredu: DOL i gynhyrchu adroddiad cryno ar Geisiadau Gweithredu Un Tendr a Cheisiadau Amrywio Masnachol i’w gyflwyno ym mhob un o gyfarfodydd y Pwyllgor Archwilio a Risg
6n - Cefnogaeth i Strategaeth Drafnidiaeth Newydd Cymru a’r A465 Adrannau 5&6
Cytunai’r Bwrdd y dylai TrC helpu Llywodraeth Cymru i ddatblygu Strategaeth Drafnidiaeth Cymru o ran arfarniad cynaliadwyedd integredig, cyfathrebu ac ymgysylltu â rhanddeiliaid, a chynhyrchu dogfennau a graffeg
Trafododd y Bwrdd hefyd gais Llywodraeth Cymru i ddarparu Cyfarwyddwr Masnachol/Prosiect i arwain y gwaith o wireddu Adrannau 5 a 6 prosiect gwella’r A465. Trafododd y Bwrdd y dull cyllido arfaethedig i’r prosiect ar ffurf Model Buddsoddi Cydfuddiannol a chytunai y byddai gofyn trafod hyn gyda Llywodraeth Cymru. Cytunwyd y byddai’r rôl dan sylw yn gofyn am fanyleb dynn iawn o ran beth yn union y mae Llywodraeth Cymru yn dymuno’i gyflawni, ynghyd â llythyrau cymdeithasu o safbwynt cyfrifoldebau ac atebolrwydd. Cam hanfodol yn sail i waith TrC yw mynd ati i ymgysylltu â’r farchnad yn gynnar i ganfod faint o archwaeth sydd yna am y rôl. Cytunodd Bwrdd Newid TrC i fwrw ymlaen i ymgysylltu â’r farchnad ac, er mai darparu’r gwasanaeth drwy TrC yw’r drefn fyddai’n cael ei ffafrio efallai, ni ddylai unrhyw Hysbysiad Gwybodaeth Ymlaen Llaw a gyhoeddir i ddechrau’r ymgysylltu â’r farchnad atal gweithredu mewn ffordd wahanol. Cymeradwyodd y Bwrdd y dylid symud ymlaen at Hysbysiad Gwybodaeth Ymlaen Llaw.
Daeth y Cadeirydd â’r cyfarfod i ben a diolchodd i bawb am eu presenoldeb.