Trafnidiaeth Cymru Cofnodion Cyfarfod y Bwrdd - 24 Mawrth 2022

Submitted by Content Publisher on

Cofnodion Bwrdd TrC

24 Mawrth 2022

09:30 - 17:00

Lleoliad - Llys Cadwyn ac ar-lein

 

 

Yn bresennol

Scott Waddington (Cadeirydd); Alun Bowen, Heather Clash, Vernon Everitt, Sarah Howells, Nicola Kemmery, Alison Noon-Jones a James Price.

Hefyd yn bresennol: Natalie Feeley (eitemau 1-3a); Leyton Powell (eitem 2); a Jeremy Morgan. Ymunodd Marie Daly ar gyfer eitem 4. Sesiwn diweddariad gweithredol (Rhan B): Lewis Brencher, Alexia Course, Karl Gilmore, Geoff Ogden, David O’Leary, Lee Robinson, Dan Tipper a Dave Williams.

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

 

 

Rhan A - Cyfarfod Bwrdd Llawn

The Chair welcomed everyone to the meetingCroesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

Mewn proses a reolwyd gan TUC Cymru, hysbyswyd y Bwrdd bod Natalie Feeley wedi’i phenodi fel sylwedydd undeb llafur ar Fwrdd Trafnidiaeth Cymru am y 12 mis nesaf.

 

1a. Ymddiheuriadau am Absenoldeb

Anfonodd Sarah Howells ei hymddiheuriadau ar gyfer y sesiwn Diweddariad Gweithredol.

 

1b. Hysbysiad ynghylch Cworwm

Gan fod cworwm yn bresennol, agorodd y Cadeirydd y cyfarfod drwy groesawu pawb yno.

 

1c. Datgan Buddiannau

Mae Vernon Everitt wedi’i benodi fel Comisiynydd Trafnidiaeth ar gyfer Manceinion Fwyaf, gan ddechrau diwedd Ebrill.

 

1d. Cofnodion a Chamau Gweithredu o’r Cyfarfod Blaenorol

Cymeradwywyd cofnodion cyfarfod bwrdd Trafnidiaeth Cymru ar 17 Chwefror 2022 fel cofnod gwir a chywir. Nodwyd y log camau gweithredu. 

 

1e. Sylw i Ddiogelwch

Myfyriodd y Bwrdd ar ddigwyddiad diweddar yng Ngorsaf Caerdydd Canolog lle cafodd aelod o’r cyhoedd ei daro gan drên nad oedd yn un o drenau Trafnidiaeth Cymru. Mynegodd y Bwrdd ei ddiolchgarwch i’r unigolion a ddeliodd â’r digwyddiad anffodus yn yr orsaf.

 

1f. Sylw i Gwsmeriaid

Wrth gyrraedd ar gyfer hediad i’r cyfandir yn ddiweddar, sylwyd bod yr hediad oedd yn dod i fewn wedi’i ganslo heb rybudd. Mae gwersi i’w dysgu o ran yr angen i gyfathrebu newyddion drwg ar unwaith.

 

2. Perfformiad diogelwch

Ymunodd Leyton Powell â’r cyfarfod.

TYNNWYD

Achosodd un digwyddiad yn ystod y cyfnod blaenorol at anaf colli amser yn dilyn llosg gan ddŵr poeth. Mae prosesau gwaith ac adrodd wedi'u haddasu o ganlyniad. Mae cynlluniau ar y gweill i gyflwyno hyfforddiant Gweithio’n Ddiogel yr IOSH i holl arweinwyr timau/goruchwylwyr arlwyo a glanhau. Mae asesiadau risg ar gyfer gweithio ar eich pen eich hun wedi’u cynnal gyda’r goruchwylwyr glanhau o ran gofynion glanhau pan fydd trenau’n cael eu cadw tu allan i’r depo oherwydd gwaith adeiladu yn Nhreganna Caerdydd. Mae rhaglen a hyfforddiant teithiau arweinyddiaeth Visible Felt bellach wedi'u cwblhau a'r ymweliad cyntaf wedi'i gofnodi ym mis Mawrth gyda chymorth y tîm diogelwch. 

Sgôr gyfun y Mynegai Marwolaethau wedi'i bwysoli ar gyfer y cyfnod blaenorol oedd 0.16, yn is na’r rhagfynegiad o 0.19. Cafwyd un farwolaeth yn sgil person yn cael ei daro gan drên yn ystod y cyfnod, heb unrhyw gyhuddiadau yn erbyn Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru na seilwaith Trafnidiaeth Cymru. Roedd nifer yr ymosodiadau corfforol blynyddol yn y gweithle yn saith, sy’n dal yn uwch ar gyfartaledd na’r ffigur a ragwelwyd sef pedwar. Roedd digwyddiadau diweddar yn cynnwys disgleirio pen laser yn llygad gyrrwr, tri digwyddiad o archwilwyr tocynnau yn cael eu gwthio/tynnu/cydio ac eitemau’n cael eu taflu, ac un digwyddiad lle cydiwyd, peniwyd a phoerwyd ar aelod o’r tîm ymateb refeniw, a dorrodd ei fys yn y broses. Hysbyswyd y Bwrdd hefyd bod pobl yn tanio reifflau awyr at drenau yn dod yn gyffredin. Mae cyfarfodydd adolygu misol am ddigwyddiadau difrifol yn cael eu cynnal gyda’r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig (BTP) ynghyd â gweithio gyda thimau Ymateb Refeniw i ddelio â digwyddiadau.

TYNNWYD

Cafwyd un ddamwain a oedd yn gysylltiedig â seilwaith yn ystod y cyfnod adrodd heb golli amser.

Derbyniodd Pullman ymweliad annisgwyl wrth yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) ar 3 Mawrth. Roedd yr ymweliad yn rhan o raglen o ymweliadau’r HSE mewn perthynas â busnesau saernïo metel/dur yn yr ardal.

TYNNWYD

Gadawodd Leyton Powell y cyfarfod.

 

3. Diweddariad strategol

3a.  Adroddiad y Prif Swyddog Gweithredol

Er gwaethaf effaith cyfres o stormydd a difrod stormydd ar seilwaith Network Rail, bu gwelliant sylfaenol parhaus ym mherfformiad y gwasanaeth trenau. Serch hynny, cafwyd enghreifftiau o orlenwi ar linellau’r Gororau ac Arfordir Gogledd Cymru, ac mae’r gwaith wedi dechrau i fynd i’r afael â hyn.

Mae niferoedd teithwyr yn cynyddu, gyda chynnydd o 5% wedi’i gofnodi yn ystod yr wythnos ddiwethaf. Er bod gwasanaethau yn dechrau prysuro, mae angen i hynny gael ei ategu gan wasanaeth da sy’n ddibynadwy.

Mae gwaith positif yn parhau ar baratoi gwelliannau i amserlenni’r dyfodol gan Drafnidiaeth Cymru a Network Rail /Llywodraeth y DU.

TYNNWYD

Mae’r gwaith adeiladu yn dod yn ei flaen yn dda gyda rhai meysydd yn dangos arloesedd peirianyddol, gan arwain at gostau is a mwy o gynhyrchiant. Cytunodd y Byrddau y byddai’n elwa o gael diweddariad am y rhaglen integreiddio yn un o gyfarfodydd y dyfodol. [Cam Gweithredu: Dan Tipper].

Mae’r gwaith yn parhau ar ddatblygu rhaglen Trafnidiaeth Integredig y Dyfodol.

TYNNWYD

Atgoffwyd y Bwrdd o gyhoeddiad sy’n nodi y bydd Trafnidiaeth Cymru yn cynnig teithiau am ddim ar y rheilffyrdd i ffoaduriaid o Wcrain fel rhan o’r cynllun i gynnig teithio am ddim i’r holl ffoaduriaid.

TYNNWYD

 

3b. Cyllid a llywodraethu 

Diweddarwyd y Bwrdd ar ffrydiau gwaith cyllid allweddol yn ystod y mis diwethaf. Roeddent yn cynnwys diwedd y flwyddyn ariannol 2021-22, cynllunio cerbydau, Llinellau Craidd y Cymoedd, datblygu cyllideb a chynllun busnes 2022-23, datblygu adroddiadau rheolaeth fewnol, caffael PTI, grantiau teithio llesol a phrisio pensiynau.

TYNNWYD

Yng nghyfarfod y Bwrdd ym mis Mai, cytunwyd cyflwyno crynodeb o amrywiolion allweddol ochr yn ochr â’r gyllideb ar gyfer 2021-22 [Cam Gweithredu: Heather Clash].

Gadawodd Natalie Feeley y cyfarfod. 

 

3c. Cyfraniad Cyfalaf mewn perthynas â Chaffael Pullman Rail  

Adolygodd y Bwrdd lythyr a gyfeiriwyd at y Bwrdd wrth Lywodraeth Cymru ar ran Gweinidogion Cymru dyddiedig 9 Mawrth 2022 (Llythyr Trosi Gweinidogion Cymru), a nodwyd ei gynnwys.   

TYNNWYD

Gadawodd Sarah Howells y cyfarfod

 

4. Model Gweithredu Targed

Ymunodd Marie Daly â’r cyfarfod. Diweddarwyd y Bwrdd ar ddatblygiad Model Gweithredu Targed Trafnidiaeth Cymru TYNNWYD ac y dylai arloesedd fod yn rhan o’r diwylliant ar draws y sefydliad yn hytrach na chyfrifoldeb un unigolyn.

Gadawodd Marie Daly y cyfarfod.

 

5. Adolygiad Cod Llywodraethu Corfforaethol y DU

Ymunodd Victoria Madelin â’r cyfarfod. Nododd y Bwrdd gynnwys adroddiad a oedd yn adolygu cydymffurfiaeth Trafnidiaeth Cymru â Chod Llywodraethu Corfforaethol y DU. Cytunodd y Bwrdd y bydd cynllun gweithredu yn cael ei ddatblygu gan Alun Bowen a’r tîm Llywodraethu Corfforaethol [Cam Gweithredu: Jeremy Morgan].

Gadawodd Victoria Madelin y cyfarfod.

 

6. Adolygiad o effeithlonrwydd y Bwrdd

Diweddarwyd y Bwrdd ar gynnydd wrth ddod o hyd i gyflenwr addas i ddarparu adolygiad allanol o effeithlonrwydd y bwrdd ar gost rhesymol. Cytunwyd i archwilio’r posibilrwydd o ddefnyddio cyfarwyddwr anweithredol o Faes Awyr Caerdydd neu Fanc Datblygu Cymru [Cam Gweithredu: Alun Bowen a Jeremy Morgan].

 

Rhan B - Sesiwn diweddariad gweithredol

Ymunodd Lewis Brencher, Alexia Course, Karl Gilmore, Geoff Ogden, David O’Leary, Dan Tipper a Dave Williams â’r cyfarfod.  

 

7. Seidins Y Barri

Hysbyswyd y Bwrdd fod Trafnidiaeth Cymru wedi bod yn gweithio’n agos gyda Chyngor Bro Morgannwg i nodi capasiti cadw gerllaw Treganna ac heb achosi aneffeithlonrwydd cost sy’n ymwneud â gweithredu gwasanaethau Llinellau Craidd y Cymoedd. Mae safle sy’n cael ei ffafrio yn Y Barri yn cynnig cyfle i Drafnidiaeth Cymru gaffael y safle yn 2021-22, gan leddfu’r pwysau cadw o fis Mai 2022, TYNNWYD.

TYNNWYD

Gadawodd Alexia Course y cyfarfod.

 

9. Adroddiad cyfathrebu

Diweddarwyd y Bwrdd ar weithgaredd cyfathrebu allweddol yn ystod y misoedd blaenorol. Hysbyswyd y Bwrdd o gyfnod positif i Drafnidiaeth Cymru gyda gwelliant parhaus yng nghanfyddiad brand er ei fod yn digwydd ochr yn ochr â rhai heriau sylweddol sy’n ymwneud â thywydd eithafol. Mae gweithgareddau ymgysylltu positif yn parhau i gynyddu yn unol â llacio cyfyngiadau sy'n caniatáu momentwm i adeiladu gwaith cymunedol parhaus. Mae’r broses o symud y tîm cyn lansio’r ymgyrch ‘y rhwydwaith cymdeithasol go iawn’ ar 28 Mawrth yn parhau gyda nifer o randdeiliaid ac eiriolwyr bellach yn cymryd rhan gan gynnwys UTG, ymgyrch am drafnidiaeth well, Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Drafnidiaeth a sawl awdurdod lleol.

TYNNWYD

 

Nododd y Bwrdd hefyd reolaethau prosiect cryfach a goruchwyliaeth o’r rhaglen a weithredwyd yn ddiweddar. Mae hyn yn cynnwys mwy o haenau annibynnol o lywodraethu, adolygu a chyfeiriad drwy nifer o swyddogaethau gan gynnwys:

  • grŵp llywio wythnosol ar lefel weithredol gyda chynrychiolaeth o Drafnidiaeth Cymru a Phrif Swyddog Gweithredol, Rheolwr Gyfarwyddwr a Chyfarwyddwyr Busnes Amey;
  • cwestiynu a delweddu data yn well o ran gweithgareddau dylunio ac adeiladu disgyblaeth-benodol;
  • ffrwd waith bwrpasol sy’n canolbwyntio ar reolaeth integredig y Seilwaith, cerbydau rheilffyrdd a pharodrwydd sefydliadol am fynediad i wasanaeth y system rheilffyrdd;
  • adroddiadau rheoli busnes misol diwygiedig a gwell ar gyfer seilwaith; a
  • chyflwyniadau i’r Pwyllgor Prosiectau Mawr ym mhob cyfarfod.

 

11. Prosiectau seilwaith - y wybodaeth ddiweddaraf am y chwe mis nesaf

Nododd y Bwrdd broffil y prosiectau seilwaith am y chwe mis nesaf.

 

12. Cofrestr risg strategol

Nododd y Bwrdd gynnwys y gofrestr risg strategol. Nododd y Bwrdd fod y Polisi Rheoli Risg diwygiedig i’w gyflwyno yn y cyfarfod Archwilio a Rheoli Risg nesaf i'w ystyried a'i gymeradwyo, ynghyd â'r Strategaeth Rheoli Risg. Nododd y Bwrdd hefyd fod y dadansoddiad drafft cyntaf o’r Gofrestr Risg Genedlaethol wedi’i chwblhau ac ymgynghorir ar yr adroddiad canfyddiadau yn fewnol ar hyn o bryd, lle bydd adroddiad terfynol yn cael ei gyhoeddi. Mae wyth risg agored ar lefel Bwrdd/Uwch Dîm Arweinyddiaeth. Mae pump o’r risgiau hyn yn bodoli’n barod ac mae tri yn newydd neu’n dod i’r amlwg. Mae un risg wedi’i lacio. Cymeradwyodd y Bwrdd fân newidiadau i’r gofrestr risg strategol.

Ymunodd Leyton Powell a Karl Gilmore â’r cyfarfod.

 

13. Diweddariad bysiau a’r agenda wledig

Ymunodd Lee Robinson â’r cyfarfod i roi diweddariad am fflescsi, y model gweithredu bysiau arfaethedig, y gyllideb datblygu rhwydweithiau, bysiau hydrogen a masnachfreinio.

Gadawodd Dan Tipper y cyfarfod.

Nododd y Bwrdd hefyd rôl gychwynnol Trafnidiaeth Cymru yn natblygiad Agenda Wledig Llywodraeth Cymru ar draws tri cham y rhaglen: diffinio'r cwmpas; pa mor dda y mae’r Gymru wledig wedi’i chysylltu; ac egwyddorion i'w cytuno a dewisiadau i'w harchwilio.

 

14. Y Gymraeg

Gofynnodd y Bwrdd am ddiweddariad ar gynnydd y camau gweithredu mewn ymateb i adroddiad diweddar Comisiynydd y Gymraeg [Cam Gweithredu: Lee Robinson].

Gadawodd Lewis Brencher, Karl Gilmore, Geoff Ogden, David O’Leary, Lee Robinson, Dan Tipper a Dave Williams y cyfarfod.

 

15. Diweddariad y panel ymgynghorol

Cafodd y Bwrdd ei friffio ar weithgaredd panel ymgynghorol Trafnidiaeth Cymru sy’n dod ag ystod o randdeiliaid at ei gilydd i roi barn am Drafnidiaeth Cymru a materion sy’n effeithio ar ei weithgareddau.

 

16. Diweddariad is-fyrddau

Diweddarwyd y Bwrdd ar gyfarfod blaenorol Bwrdd Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru Cyfyngedig a ganolbwyntiodd ar y strategaeth a’r cynllun am fflyd o drenau newydd ac interim; seiberddiogelwch; caffael turn olwyn ar gyfer Gogledd Cymru; a chyflenwi gwasanaethau MKIV.

 

17. Y Bwrdd Llywio

Rhoddodd y Cadeirydd ddiweddariad i’r Bwrdd am gyfarfod blaenorol Bwrdd Llywio Trafnidiaeth Cymru. Canolbwyntiodd y cyfarfod ar gyllid Trafnidiaeth Cymru, a TYNNWYD. Hysbyswyd y Bwrdd o newidiadau i uwch dîm Llywodraeth Cymru sy’n effeithio ar Drafnidiaeth Cymru.

 

18. Diweddariad is-bwyllgorau

Derbyniodd y Bwrdd ddiweddariad am gyfarfodydd diweddar y pwyllgorau Profiad Cwsmeriaid a Chyfathrebu, Iechyd, Diogelwch a Llesiant a Phrosiectau Mawr.

Diolchodd y Cadeirydd i bawb am eu presenoldeb a’u cyfraniadau.