Pecyn Cymorth Trafod Trafnidiaeth

Pecyn cymorth i hwyluswyr ymgysylltu â’r cyhoedd ar bynciau’n ymwneud â thrafnidiaeth

 

Yn cyflwyno Trafod Trafnidiaeth

Wrth wraidd Trafnidiaeth Cymru mae gweledigaeth gyffrous ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus, gyda Strategaeth Drafnidiaeth Cymru ac ymgysylltu â’r cyhoedd yn llywio popeth a wnawn. Drwy ddarparu dull cyson o ymgysylltu â’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu, gallwn sicrhau bod pob llais yn cael ei glywed i helpu i lunio ein cynlluniau i ddarparu gwasanaeth y gall Cymru fod yn falch ohono.

Mae pecyn cymorth Trafod Trafnidiaeth yn offeryn Gwrando, Dysgu a Chylchu sydd wedi’i gynllunio i gefnogi hwyluswyr i gyflwyno gweithdai ar bynciau sy’n ymwneud â thrafnidiaeth yn rhwydd, gan ddefnyddio proses gam wrth gam. Bydd y pecyn cymorth yn casglu meddyliau, argraffiadau a syniadau gan grwpiau sy’n cymryd rhan i’n cefnogi i greu newid gweladwy o fewn y sector trafnidiaeth. Er na allwn weithredu’r holl awgrymiadau o bob gweithdy, byddwn yn sicrhau bod adborth yn cael ei ddarparu gan ddefnyddio ein Hadroddiad Cylchu.

 

Dod yn Hwylusydd

Gall hwylusydd fod yn gydweithiwr Trafnidiaeth Cymru neu’n aelod o’r cyhoedd e.e., athro, arweinydd grŵp cymunedol, cynrychiolydd Awdurdod Lleol, Llysgennad STEM ac ati.

Mae bod yn Hwylusydd yn gyfle gwych i dynnu sylw at faterion sy’n effeithio ar eich cymuned. O gael mynediad at gyfleoedd gwaith i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, gall hwyluso sgyrsiau am drafnidiaeth fod yn fan cychwyn ar gyfer creu newid gwirioneddol a gwella bywydau pobl ar lawr gwlad.

Mae’r adnoddau sydd ynddynt yn darparu’r offer i hwyluso trafodaeth agored am drafnidiaeth a gallant ein helpu i ddod o hyd i atebion i faterion cymunedol. Bydd gan hwyluswyr fynediad at:

  • Templedi adnoddau a gweithgaredd
  • Fideos hyfforddi 
  • Hyfforddiant a chefnogaeth wyneb yn wyneb ddwywaith y flwyddyn
  • Rhwydwaith o hwyluswyr eraill ledled Cymru a’r Gororau
  • Cefnogaeth Swyddog Ymgysylltu Cymunedol Trafnidiaeth Cymru yn eich rhanbarth

 

Download icon Cliciwch yma i ddarganfod sut rydym yn dal eich data

 

Gwrando, dysgu a chylchu

Gwrando

Rydych chi wedi cwblhau eich sesiwn, wedi gwrando ar yr hyn oedd gan eich cyfranogwyr i’w ddweud, ac wedi coladu’r holl wybodaeth, gan gynnwys y da, y drwg a’r hyll. Sut bynnag yr ydych wedi casglu’r wybodaeth hon, byddem wrth ein bodd yn gweld y cyfan.

Gallwch gynnwys adborth trwy gwblhau’r arolwg ar-lein, uwchlwytho lluniau o’ch cynllun sesiwn, yn ogystal â’r taflenni gweithgaredd a gwblhawyd gan y cyfranogwyr.

Dysgwch

Dyma lle mae ein gwaith yn dechrau. Rydych chi wedi gwneud y rhan galed a nawr mae angen i ni edrych ar yr holl fewnwelediad gwych rydych chi wedi’i roi i ni gan eich cyfranogwyr. Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth i hysbysu adrannau perthnasol o fewn Trafnidiaeth Cymru am eich barn, eich pryderon a’ch gobeithion. Mae’r wybodaeth hon yn amhrisiadwy i’n sefydliad a bydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.

Cylchu

Byddwn yn rhoi gwybod i chi beth sydd wedi’i wneud gyda’r wybodaeth yr ydych wedi’i rhoi i ni er mwyn i chi allu rhoi gwybod i’ch cyfranogwyr hefyd.

Gall peidio â gwybod beth sydd wedi digwydd i’ch holl waith caled arwain at rwystredigaeth ac anfodlonrwydd, yn enwedig ymhlith y rhai sydd wedi cymryd rhan yn uniongyrchol neu wedi cefnogi unrhyw weithgarwch cynnwys. Mae cau’r ‘dolen adborth’ yn bwysig iawn i ni. Rydym bob amser yn rhoi gwybod i bobl am ganlyniad eu cyfranogiad a pha wahaniaeth y mae wedi’i wneud.

 

Arolwg Ar-lein

Rhaid i’n harolwg ar-lein gael ei gwblhau gan yr hwylusydd (os yw o dan 18 oed) neu’r cyfranogwr (os yw dros 18 oed).

 

Link icon Cliciwch yma i gael mynediad at arolwg yr hwylusydd: https://www.smartsurvey.co.uk/s/J2M38E/
Link icon Cliciwch yma i gael mynediad at arolwg y cyfranogwyr: https://www.smartsurvey.co.uk/s/1TSSUQ/

 

Y Tri Cham

Cam 1

Dewis eich pwnc

Cam 2

Dewis eich gweithgareddau

Cam 3

Gwerthuso’r sesiwn