Cam 1: Dewis eich pwnc

Mae’n bwysig dewis y pwnc mwyaf perthnasol ar gyfer eich grŵp: un rydych chi’n gwybod bod ganddyn nhw ddiddordeb ynddo neu un yr hoffech chi gael rhagor o wybodaeth amdano. Gallwch ddewis un pwnc ar gyfer pob sesiwn ac addasu eich gweithgareddau arfaethedig i adlewyrchu’r pwnc hwnnw. Mae Trafnidiaeth Cymru yn gweithio mewn llawer o wahanol feysydd. Gallwch ddewis o un o’n saith pwnc a argymhellir isod neu ddyfeisio un eich hun.

  • Cynaladwyedd
    • Nod Trafnidiaeth Cymru yw trawsnewid y rhwydwaith trafnidiaeth yng Nghymru a’r Gororau fel ei fod yn dod yn wirioneddol gynaliadwy ac addas ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Rydym am sicrhau bod arferion cynaliadwy yn dod yn rhan o ddiwylliant Trafnidiaeth Cymru a bod tystiolaeth ohonynt yn ein holl weithgareddau. Dylai’r sesiwn archwilio gwahanol gyfleoedd cynaliadwy yn y sector trafnidiaeth a chaniatáu i gyfranogwyr roi eu barn ar faterion a heriau allweddol y maent yn eu hwynebu mewn perthynas â dyfodol trafnidiaeth gynaliadwy. Bydd adborth o’r sesiwn hon yn llywio ein Cynllun Datblygu Cynaliadwy Blynyddol ac yn rhoi gwybod i ni beth sy’n bwysig i chi. Bydd hefyd yn llywio ein strategaeth ymgysylltu.

  • Diogelwch
    • Mae gwella diogelwch ein rhwydwaith trafnidiaeth yn rhan allweddol o’n gwaith. Rydym am wneud i’n holl staff a chwsmeriaid deimlo’n ddiogel. Mae materion yn cynnwys tresmasu ar y rheilffordd, camddefnyddio croesfannau rheilffordd, ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn gorsafoedd, a difrod troseddol yn parhau i fod yn broblem.

      Gallai’r sesiwn edrych ar yr hyn y mae pobl yn ei feddwl yw’r materion allweddol o ran diogelwch, pam mae materion diogelwch yn digwydd, a beth y gellir ei wneud i’w hatal rhag digwydd, gyda’r nod yn y pen draw o wneud rhwydwaith Trafnidiaeth Cymru yn ddiogel i bobl ei ddefnyddio yn ystod cymudo, at ddibenion busnes, ac ar gyfer hamdden. Bydd eich adborth o hyn yn ein helpu i wneud yn siŵr ein bod yn parhau i gadw pawb yn ddiogel a bydd yn rhoi syniadau i ni ar sut y gallwn roi gwybod i bawb am ddiogelwch ar y rheilffyrdd.

  • Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
    • Rydym yn creu partneriaethau gyda grwpiau sy’n cynrychioli pobl â nodweddion gwarchodedig a nodwyd, i ddarparu cyfleoedd i fynegi eu hunain mewn man diogel ar faterion ac awgrymiadau ynghylch cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ar drafnidiaeth gyhoeddus.

      Bydd y wybodaeth hon yn cael ei dosbarthu i’r rhanddeiliaid mewnol perthnasol. Lle bo modd, bydd awgrymiadau gan y grwpiau hyn yn ysgogi cynnydd a newid, a bydd hyn yn cael ei fwydo’n ôl i aelodau’r gymuned a phartneriaethau.

      Yn seiliedig ar y wybodaeth a dderbyniwyd, byddwn yn creu rhyngweithiadau addysgiadol, cynhyrchiol er mwyn magu hyder a gwella mynediad at deithio. Bydd yn cynnig cyfleoedd i helpu i lunio ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol a nodi cyfleoedd pellach.

  • Profiad y Cwsmer
    • O’r eiliad y mae pobl yn gadael eu cartref, i’r eiliad y maent yn cyrraedd eu cyrchfan - mae popeth yn y canol yn beth rydyn ni’n ei ddisgrifio fel Profiad y Cwsmer. Mae nodi cyfleoedd i wella eich profiad fel cwsmer yn hynod o bwysig i ni. P’un a hoffech gael mwy o wybodaeth i chi ar y platfform neu fod rhan o’ch llwybr yn anghyfforddus o brysur, rydym eisiau gwybod beth sy’n bwysig i chi.

  • Gyrfaoedd yn y sector trafnidiaeth
    • Mae nodi a hwyluso cyfleoedd i gael mynediad at fentora a phrofiad gwaith, cynyddu cyfranogiad mewn STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, a Mathemateg) a’r sector rheilffyrdd yn bwysig i ni. Ein nod yw amlygu cyfleoedd gyrfa i unigolion o bob cefndir yn ein cymunedau a sicrhau ein bod nid yn unig yn ymdrechu i sicrhau amrywiaeth yn ein gweithlu, ond hefyd yn gorfodi ein hymrwymiad i adeiladu economi Cymru, drwy ei gweithlu. Gallai’r sesiwn ganolbwyntio ar ffyrdd y gallwn ehangu’r cyfleoedd hynny ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

  • Teithio Llesol
    • Mae Teithio Llesol yn golygu gwella gwasanaethau i’w gwneud yn fwy deniadol ac yn fwy cyfleus i gael mynediad iddynt ar droed neu ar feic.

      Mae canllawiau teithio llesol Llywodraeth Cymru yn nodi bod ymgysylltu â rhanddeiliaid yn hanfodol i’r broses o ddatblygu strategaeth teithio llesol a chynllun rhwydwaith. Bydd y sesiwn yn archwilio pa fath o deithiau y mae pobl yn eu gwneud yn eu cymunedau, a beth sy’n eu hysgogi i’w gwneud mewn car, ar drafnidiaeth gyhoeddus neu wrth gerdded, sgwtera, a beicio. Rydym am nodi’r rhwystrau i gerdded a beicio a chanfod sut y gallwn eu hintegreiddio’n well i ddulliau eraill er mwyn sicrhau, er mwyn sicrhau, heb gar, y gallwch gael taith ddi-dor o’r dechrau i’r diwedd.

  • Marchnata/Cyfathrebu ar gyfer trafnidiaeth
    • Dywedwch wrthym sut y dylem gyfleu ein negeseuon allweddol i’ch grŵp, chi fel unigolyn a’r gymuned yr ydych yn byw ynddi. Dywedwch wrthym pa sianeli cyfryngau rydych yn eu defnyddio a sut y gallwn fireinio ein negeseuon pwysig ac ymgysylltu â chi a’ch cyfoedion.

      Gallai’r sesiwn hon edrych ar yr hyn sy’n bwysig i bobl am drafnidiaeth, beth maen nhw eisiau gwybod mwy amdano (e.e. gostyngiadau, pethau ychwanegol dewisol, rhwystrau hygyrchedd) neu wybodaeth ehangach am barhau â’u taith (e.e. gwybodaeth twristiaeth ar gyfer y cyrchfan terfynol).