Cwestiynau Treiddgar a Geiriau Poblogaidd

Submitted by Content Publisher on

Beth yw cwestiwn treiddgar?

Mae cwestiwn treiddgar yn ysgogi meddwl dwfn ac ymatebion manwl. Mae cwestiwn penagored yn cefnogi dealltwriaeth ddyfnach i'r sawl sy'n gofyn y cwestiwn a'r sawl sy'n ateb. Drwy ofyn cwestiwn treiddgar, rydych yn annog y sawl sy’n ei dderbyn i archwilio eu teimladau a'u syniadau personol am bwnc penodol. Mae angen meddwl yn feirniadol ac yn greadigol er mwyn ateb.

Manteision defnyddio cwestiynau treiddgar ar gyfer gweithdai Siarad am Drafnidiaeth?

Drwy ddefnyddio cwestiynau treiddgar ar gyfer y pwnc o’ch dewis, byddwch yn sicrhau bod y sgwrs yn agored ac yn caniatáu i’r cyfranogwyr lywio’r drafodaeth i’r cyfeiriad o’u dewis. Mae hefyd yn helpu’r hwylusydd i wneud y canlynol:

  • Cael eglurhad o atebion/barn/meddyliau’r cyfranogwyr
  • Ail-lywio’r drafodaeth yn ôl i’r pwnc a ddewiswyd
  • Gwerthuso effeithiolrwydd a budd rhywbeth
  • Taflu syniadau
  • Hwyluso trafodaethau ystyrlon sydd hefyd yn helpu i feithrin perthynas rhwng y cyfranogwyr

Cwestiynau Treiddgar

Cynaliadwyedd

  1. Meddyliwch am y teithiau rydych chi’n eu gwneud yn rheolaidd, beth allen ni ei wneud er mwyn gwneud y teithiau’n fwy cynaliadwy? 
  2. Beth yw’r her fwyaf o ran gwneud teithiau trên a bws yn fwy cynaliadwy?
  3. Allwch chi restru rhai o’r ffyrdd cadarnhaol y gall teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus fod o fudd i’r amgylchedd naturiol?
  4. Beth mae cynaliadwyedd yn ei olygu i chi?

Symudedd a Chynhwysiant

  1. Meddyliwch am y teithiau rydych chi’n eu gwneud yn rheolaidd – beth yw rhai o’r rhwystrau cyffredin a allai fod yn anoddach i bobl sy’n defnyddio cadair olwyn neu bobl sydd â nam corfforol neu nam ar eu golwg? Allwch chi rannu’r rhain yn themâu, a nodi lleoliadau penodol y dylid eu gwella yn eich barn chi?
  2. Allwch chi restru rhai o’r rhwystrau a allai eich atal chi neu rywun rydych chi’n ei adnabod rhag defnyddio neu deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus? Sut allai’r rhain gael eu datrys?
  3. Rhestrwch rai nodweddion allweddol y dylid eu cynnwys i wneud teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus yn fwy hygyrch i bawb?
  4. Beth mae Symudedd a Chynhwysiant yn ei olygu i chi?
  5. A yw’n bwysig i chi eich bod yn cael eich cynrychioli? Os felly, pam?

Diogelwch

  1. Meddyliwch am eich ardal leol, ydych chi’n teimlo’n nerfus am gerdded, beicio, gyrru neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn unrhyw le? Ysgrifennwch pam rydych chi’n teimlo hyn, a thrafodwch y rhain fel grŵp nes y gallwch chi feddwl am atebion i wella diogelwch yn eich cymuned.
  2. Meddyliwch am y teithiau rydych chi’n eu gwneud yn rheolaidd, a ydych chi wedi profi ymddygiad gwrthgymdeithasol neu a oes gennych chi bryderon am eich diogelwch? A oes pethau y gellid bod wedi’u gwneud yn wahanol i ddelio ag ymddygiad gwrthgymdeithasol neu eich diogelwch er mwyn gwella eich profiad?
  3. Meddyliwch am eich taith ddiwethaf ar y trên, oeddech chi’n teimlo’n anniogel yn yr orsaf drenau neu yn ystod eich taith ar y trên? Sut gellid gwella eich profiad yn yr orsaf ac ar y daith ar y trên?
  4. Beth mae teimlo’n ddiogel yn ei olygu i chi ar drafnidiaeth gyhoeddus?
  5. Yn eich barn chi, cyfrifoldeb pwy yw cynnal diogelwch ar drafnidiaeth gyhoeddus?

Profiad y Cwsmer

  1. Meddyliwch am y tro diwethaf i chi deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus – a oedd unrhyw beth nad oeddech chi’n ei hoffi am y daith? Oeddech chi’n hoffi unrhyw beth am y daith?  
  2. A oes unrhyw beth y gellid bod wedi’i wneud yn wahanol a fyddai wedi gwella eich profiad?
  3. Beth yw rhai o’r rhesymau pam eich bod yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, a sut gellid gwella’r daith?
  4. Dywedwch wrthym am adeg pan wnaethoch chi wynebu her ar daith, a sut gwnaethoch chi oresgyn hynny. 
  5. Dywedwch wrthym am brofiad cadarnhaol rydych chi wedi’i gael wrth ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus? 
  6. Beth mae gwasanaeth cwsmeriaid gwych yn ei olygu i chi?

Teithio Llesol

  1. Yn eich barn chi, beth sy’n eich rhwystro rhag gwneud mwy o’ch teithiau lleol ar droed neu ar feic?
  2. Allwch chi nodi rhestr o lefydd yn eich cymuned lle rydych chi’n meddwl y byddai pobl yn anghyfforddus yn beicio?
  3. Rhestrwch yr holl deithiau rydych chi’n eu gwneud yn ystod yr wythnos – allwch chi nodi rhai o’r rhain y gallech chi eu cerdded neu eu beicio yn lle hynny?
  4. Beth sydd wedi gwneud i chi ddewis y teithiau penodol hynny?
  5. Beth mae teithio llesol yn ei olygu i chi?
  6. Sut byddai cyfleoedd teithio llesol yn gwella eich cymuned?

Gyrfaoedd ym maes Trafnidiaeth

  1. Pa fath o rolau sydd ar gael yn y diwydiant trafnidiaeth yn eich barn chi? Pa fath o sgiliau sydd eu hangen arnoch?
  2. Beth yw rhai o’r pethau sy’n eich rhwystro rhag ymgeisio neu fod eisiau swydd ym maes trafnidiaeth?
  3. Ydych chi’n meddwl bod gyrfa ym maes trafnidiaeth yn addas i chi? Pam / pam ddim?
  4. Beth fyddai’n gwneud swyddi ym maes trafnidiaeth yn fwy deniadol i chi?
  5. Sut gallai’r sector trafnidiaeth eich helpu i baratoi ar gyfer gyrfaoedd yn y dyfodol?
  6. Ceisiwch ddychmygu rhywun sy’n gweithio yn y diwydiant rheilffyrdd. Beth sy’n dod i’r meddwl ar unwaith?

Marchnata a Chyfathrebu

  1. Pa negeseuon ydych chi’n meddwl fyddai’n apelio at bobl yn eich cymuned?
  2. Edrychwch ar rai o bosteri Marchnata TrC – sut mae’r rhain yn gwneud i chi deimlo? Fyddech chi’n newid unrhyw beth amdanyn nhw?
  3. Sut gallai cyfathrebu a marchnata fod yn fwy atyniadol?
  4. Allwch chi feddwl am ffyrdd creadigol o gael gwybodaeth am drafnidiaeth?
  5. Ydych chi’n teimlo bod y deunydd marchnata TrC yn eich cynrychioli chi? 
  6. Sut ydych chi’n clywed am ddigwyddiadau neu gyfleoedd newydd yn eich ardal chi?

Geiriau Poblogaidd

Cynaliadwyedd

Bioamrywiaeth, cadwraeth, mannau gwyrdd, ecosystem, ôl troed carbon, allyriadau, llystyfiant, cynefinoedd, pryfed peillio

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Nodweddion gwarchodedig, anableddau, rhywedd, ethnigrwydd, rhwystrau, stereoteipiau, camsyniadau, diwylliant, rhagfarn ddiarwybod

Diogelwch

Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, tresmasu, anniogel, cysur, tipio anghyfreithlon, sbwriel, cyfleusterau, gwasanaethau cefnogi

Profiad y Cwsmer

Peiriannau talu, amserlennu, cwynion, arwyddion, canfod y ffordd, defnyddio’r wefan, arlwyo, glanhau, staff, gwasanaethau

Teithio Llesol

Cerdded, Beicio, dulliau trafnidiaeth, cyfleoedd ar gyfer newid, cyllido, llygredd aer, hamdden a thwristiaeth, llwybrau teithio

Marchnata a Chyfathrebu

Cynrychiolaeth, dulliau ymgysylltu, cyfryngau cymdeithasol, cynulleidfa, iaith, tôn llais, delweddwr