TrC Cais Rhyddid Gwybodaeth - Rhifau Yswiriant Gwladol_cerdyn teithio rhatach ar gyfer bws

Submitted by positiveUser on

Rhif Yswiriant Gwladol ar gyfer y Cerdyn Teithio Rhatach

Dyddiad cyhoeddi: 4 Hydref 2019

Diolch i chi am eich cais Deddf Rhyddid Gwybodaeth ar 2 Hydref 2019. Roeddech wedi gofyn am yr wybodaeth ganlynol:

O dan ba ddeddf ydych chi’n mynnu bod pobl yn rhoi eu rhif yswiriant gwladol i chi cyn cael y Cerdyn Teithio Rhatach newydd?

Rwy’n ysgrifennu atoch i gadarnhau bod eich cais wedi cael ei ystyried o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (y Ddeddf), bod Trafnidiaeth Cymru (TrC) wedi cwblhau’r broses o chwilio am yr wybodaeth, a bod ganddo’r wybodaeth roeddech wedi gofyn amdani.

Mae Trafnidiaeth Cymru angen gwybodaeth bersonol, gan gynnwys y rhif Yswiriant Gwladol, i helpu i atal twyll. Mae’r Fenter Twyll Genedlaethol (NFI) yn ymarfer paru data sy’n cael ei gynnal bob dwy flynedd ers 1996. Mae’r Fenter Twyll Genedlaethol yng Nghymru yn cael ei chynnal gan yr Archwilydd Cyffredinol o dan ei bwerau paru data statudol, a nodir yn Rhan 3A o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004. Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn cyhoeddi set o ddata y mae’n argymell bod awdurdodau cyhoeddus yn ei gasglu er mwyn atal twyll. Mae’r cyhoeddiad diweddaraf ar gael ar wefan Swyddfa Archwilio Cymru yn https://www.audit.wales/cy/publication/y-fenter-twyll-genedlaethol-yng-nghymru-2018-20

Mae’r adran “Tocynnau teithio rhatach: Manyleb data 2018-19” yn rhestru rhif Yswiriant Gwladol yn benodol fel dull adnabod pwysig, ac yn dweud bod y “data sy'n ofynnol ar gyfer pob deiliad tocyn teithio rhatach cyfredol sy'n oedolyn”. O ran y rhif Yswiriant Gwladol, mae’n dweud ei bod yn, “bwysig darparu'r maes hwn pan fo ar gael er mwyn gwella ansawdd prosesau paru data” at ddibenion helpu i atal ac adnabod twyll.

Rydym yn deall yn llwyr fod deiliaid cardiau yn poeni am breifatrwydd a chyfrinachedd gwybodaeth bersonol. Mae preifatrwydd yn bwysig dros ben i ni, ac rydym wedi cymryd llawer o gamau i sicrhau bod eich data’n ddiogel. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein hysbysiad preifatrwydd https://trc.cymru/cerdynteithio-datganiad-preifatrwydd-cerdyn-teithio

Yn gywir

Trafnidiaeth Cymru