Mynd ar y trên o Fangor yng ngogledd Cymru i Gaerdydd yn y de yw’r ffordd hawsaf o wneud y daith hon. Eisteddwch yn ôl a gwylio rhai o’r golygfeydd mwyaf godidog sydd gan Gymru i’w cynnig.

 

Faint o amser mae’r trên o Fangor i Gaerdydd yn ei gymryd?

Mae’n cymryd tua phedair awr i deithio’r 127 milltir o Fangor i Gaerdydd wrth deithio’n uniongyrchol.

Gwybodaeth fyw am drenau sy’n gadael ac yn cyrraedd

Pam teithio o Fangor i Gaerdydd ar y tren?

Cysylltwch â’n Wi-Fi am ddim ar y trên a chwilio drwy’r atyniadau niferus a’r pethau i’w gwneud yn y brifddinas.

Mae Castell Caerdydd yn cynnig cipolwg ar orffennol hynod ddiddorol Caerdydd. Dylai ymweld ag Arcêd y Frenhines fod yn uchel ar bob rhestr siopa. Yn cynnwys holl enwau mawr y stryd fawr a rhai labeli dylunwyr hyfryd, mae gan Gaerdydd rywbeth i bawb.

Os ydych chi’n chwilio am rywbeth mwy unigryw, ewch i’r arcedau Fictoraidd. Allan o’r ffordd, maen nhw’n arddangos artistiaid a chynnyrch lleol. Mae crochenwaith stiwdio yn cystadlu am sylw gyda dillad trwchus wedi’u gwau, a llwyau caru Cymreig traddodiadol wedi’u cario â llaw, tra bod danteithion cartref blasus yn eich temtio o bob cornel.

Mae archebu eich taith nesaf ar-lein drwy ein ap hygyrch yn rhoi mynediad i chi at ein holl fargeinion gorau a phrisiau rhatach, ac mae ein statws llwybrau byw yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am unrhyw newidiadau a allai effeithio ar eich taith o Fangor i orsaf Caerdydd Canolog.

 

Trenau o Fangor (Gwynedd)

Bangor i Fanceinion

Bangor i Landudno

Bangor i Gaer

 

Trenau i orsaf Caerdydd Canolog

Abertawe i orsaf Caerdydd Canolog

Casnewydd i orsaf Caerdydd Canolog

Castell-nedd i orsaf Caerdydd Canolog