Os ydych chi’n bwriadu teithio o Gasnewydd i Gaergybi ar y trên gyda grŵp o ffrindiau, cofiwch daro golwg ar ein bargeinion teithio i grwpiau i gael gostyngiadau gwych.

Gan gysylltu dau safle pwysig yng Nghymru, mae ein llwybrau o Gasnewydd i Gaergybi wedi’u dylunio i’ch cludo o A i B mewn dim o dro.

 

Faint o amser mae’n ei gymryd i fynd o Gasnewydd i Gaergybi ar y trên?

Gallwch chi deithio o Gasnewydd i Gaergybi ar y trên mewn ychydig dros bedair awr. Gan deithio tua 137 milltir, gallwch chi eistedd yn ôl yn gyfforddus a mwynhau golygfeydd Cymru.

Gwybodaeth fyw am drenau sy’n gadael ac yn cyrraedd

Pam teithio o Gasnewydd i Gaergybi?

Mae Caergybi yn enwog am ei borthladd ar Môr Iwerddon, sy’n cynnig mynediad hawdd i’r môr cyfagos ac yn gweithredu fel y prif gysylltiad teithio rhwng Cymru ac Iwerddon ar fferi.

Mae clogwyni trawiadol Caergybi yn gefndir perffaith i’ch gwyliau nesaf, gan gynnig golygfeydd a theithiau cerdded hyfryd i’r teithwyr mwy anturus. Gallwch chi orffwys eich traed a llenwi eich stumog yn un o’r tafarndai a’r bwytai niferus sydd gan Gaergybi i’w cynnig a dod at eich hun ar ôl anadlu aer y môr.

P’un ai yw Caergybi yn lle i stopio cyn i chi hwylio neu os ydych chi’n mynd i’r arfordir am ychydig o orffwys ac ymlacio, gallwn ni fynd â chi yno o Gasnewydd yn ddidrafferth. Dewch o hyd i ragor o bethau i’w gwneud yng Nghaergybi a mwynhau atyniadau glan dŵr Cymru sy’n ddelfrydol ar gyfer y teulu cyfan.