
Mae trenau newydd wedi trawsnewid rheilffordd Cymru
Diolch i fuddsoddiad o £800 miliwn mewn trenau newydd, rydym bellach yn rhedeg mwy o drenau newydd na hen drenau ar draws ein rhwydwaith.
Ers 2023, rydym wedi cyflwyno pedwar math o drên newydd sbon i'n fflyd, gyda phumed math yn dod yn fuan. Maent yn darparu gwasanaethau rheilffordd cyflymach, gwyrddach a mwy hygyrch i bobl ar draws ein rhwydwaith.
Dewch i gwrdd â'n trenau newydd:
Dosbarth 197
Wedi'u gwneud yng Nghymru, daeth ein hunedau pellter hir blaenllaw i wasanaeth yn 2023. Wedi'u hadeiladu yng Nghymru, yng Nghasnewydd, mae'r trenau hyn yn gwasanaethu cyrchfannau ar draws ein rhwydwaith, o Gaergybi i Abergwaun.
Dosbarth 231
Wedi'u lansio'n wreiddiol yn 2022 ar lein Rhymni, mae'r trenau trydan a diesel hyn ar hyn o bryd yn rhedeg ar hyd Metro De Cymru, sy'n gwasanaethu cyrchfannau fel Pontypridd, Ynys y Barri a Chaerdydd Heol y Frenhines. Yn y dyfodol, fe welwch chi nhw ar linellau Glynebwy, Maesteg a Cheltenham.
Dosbarth 756
Wedi’u lansio ddiwedd 2024, trenau arloesol, 'tri-modd' yw'r rhain sy'n gallu rhedeg ar bŵer diesel, trydan neu fatri. Wrth i ni fynd ati i gwblhau ein gwaith trawsnewid ar Metro De Cymru, rydym wedi cyflwyno'r trenau hyn dros dro i linellau Treherbert, Aberdâr a Merthyr. Yn y dyfodol, byddwch yn gweld y rhain ar linellau Coryton, Penarth, Rhymni a Bro Morgannwg.
Dosbarth 230
Ar un adeg, roedd y rhain yn gwasanaethu ar Reilffordd Danddaearol Llundain, ond ers cael eu hailadeiladu'n llwyr, gallant bellach redeg ar ddiesel neu bŵer batri, a nhw yw'r trenau batri hybrid cyntaf i wasanaethu teithwyr yn rheolaidd yng Nghymru. Maen nhw wedi bod yn rhedeg ar lein Wrecsam-Bidston dros y blynyddoedd diwethaf.
Dosbarth 398
Y flwyddyn nesaf, bydd y 'trenau tram' hyn yn dechrau cael eu defnyddio ar gyfer pob gwasanaeth ar linellau Treherbert, Aberdâr a Merthyr. Byddant yn rhedeg gwasanaethau sy'n gyflymach ac yn amlach, diolch i’r sbardun cyflym sydd ganddynt, gan gynnig gwasanaeth 'troi i fyny a mynd' i'n cwsmeriaid, gyda phedwar trên yr awr rhwng Caerdydd a blaenau Cymoedd De Cymru.