Diweddariad ynghylch cerbydau trên

Rydym yn buddsoddi er mwyn gallu trawsnewid ein fflyd o gerbydau ar draws rhwydwaith Cymru a'r Gororau.

Yn ogystal â buddsoddi mewn trenau newydd, rydym hefyd wedi uwchraddio nifer o'n fflydoedd o drenau sydd ar waith ar hyn o bryd gan roi profiad teithio mwy modern, hygyrch, diogel a dibynadwy i gwsmeriaid.

 

Diffiniadau

Trenau 'newydd'

Trenau sydd newydd eu hadeiladu, a roddwyd ar waith yng Nghymru yn 2023 fel rhan o'n rhaglen trawsnewid fflyd.

Wedi'i cludo yn uniongyrchol gan y gwneuthurwr i TrC, nid ydynt erioed wedi cael eu defnyddio gan unrhyw weithredwr rheilffyrdd arall - fel ein trenau Dosbarth 756 newydd sydd bellach ar waith ar Fetro De Cymru.

 

Trenau 'newydd i Gymru'

Rhoddwyd trenau a ddefnyddiwyd eisoes gan weithredwyr trenau eraill yn y DU ar waith yng Nghymru am y tro cyntaf yn 2021 fel rhan o’r gwaith o drawsnewid ein fflyd.

Er nad ydynt newydd yn drenau newydd sbon, maent yn welliant o ran profiad cwsmeriaid a dibynadwyedd o gymharu â'n fflyd hŷn - fel y cerbydau Mark 4 a arferai weithredu ar yr East Coast Main Line ac sydd wedi bod ar waith yma yng Nghymru ers 2021.

 

Trenau 'wedi'u hadnewyddu' 

Trenau hŷn yw'r rhain sydd wedi'u hadnewyddu a'u moderneiddio'n sylweddol ers 2018 yma yng Nghymru, y tu hwnt i waith cynnal a chadw arferol, i'w gwneud yn fwy esmwyth, hygyrch, diogel a dibynadwy i gwsmeriaid.

Mae hyn yn cynnwys ein fflyd Dosbarth 150 a gafodd ei hadnewyddu yn 2018 i gynnig cerbydau o well safon, gwell hygyrchedd, adnewyddu'r seddi a'r goleuadau wedi'u hadnewyddu a'u gwneud yn fwy dibynadwy i gwsmeriaid.

 

Teithiau ar drenau newydd, newydd i Gymru a threnau wedi'u hadnewyddu

Ym mis Rhagfyr 2025, cafodd 71% o deithiau wedi'u hamserlennu eu gwasanaethu gan drenau newydd a threnau sy'n newydd i Gymru.

Ym mis Rhagfyr 2025, cafodd 93% o deithiau wedi'u hamserlennu eu gwasanaethu gan drenau newydd sbon, newydd i Gymru a threnau wedi'u hadnewyddu.

Caiff yr ystadegau hyn eu diweddaru'n rheolaidd.