Uwchgynhadledd Trafnidiaeth Gyhoeddus Trafnidiaeth Cymru 2027

Cysylltu syniadau, symud pobl a chymunedau, a siapio dyfodol trafnidiaeth gyhoeddus.

Ymunwch â ni yn Uwchgynhadledd Trafnidiaeth Gyhoeddus Trafnidiaeth Cymru ar 16-17 Mehefin 2027 yn Arena Abertawe.

Gan adeiladu ar lwyddiant ein Huwchgynhadledd gyntaf yn Wrecsam yn 2025, bydd yr Uwchgynhadledd ddeuddydd yn dod ag arweinwyr diwydiant, llunwyr polisi, busnesau a phartneriaid eraill at ei gilydd i archwilio sut y gallwn wella cysylltedd Cymru, gan ddatgloi effaith economaidd a chymdeithasol.

P’un a ydych chi’n sector cyhoeddus, preifat neu’n drydydd sector, mae’r Uwchgynhadledd Trafnidiaeth Gyhoeddus yn blatfform unigryw i gydweithio, rhannu mewnwelediadau a llunio’r rhwydwaith trafnidiaeth amlfoddol, integredig yr ydym yn ei adeiladu ledled Cymru.

I weld yr agenda a darganfod sut i gael tocynnau, cofrestrwch eich diddordeb. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech gymryd rhan yn yr Uwchgynhadledd, anfonwch e-bost at summit@tfw.wales.

Dysgwch fwy isod am yr Uwchgynhadledd gyntaf TrC yn Wrecsam.