Adroddiad Newid Hinsawdd 2025
Adroddiad Newid Hinsawdd 2025
Rydym eisoes yn teimlo effeithiau patrymau tywydd newidiol, a achosir gan y newid yn yr hinsawdd, ar draws y rhwydwaith trafnidiaeth. Mae angen i ni baratoi ar gyfer tywydd mwy eithafol yn y dyfodol a dod o hyd i ffyrdd o leihau'r effaith ar ein pobl, ein cwsmeriaid a'r gwasanaethau cyhoeddus a ddarparwn.
Yn 2020, roedd trafnidiaeth yn gyfrifol am 15% o allyriadau nwyon tŷ gwydr Cymru. Mae Pwyllgor Newid Hinsawdd y DU wedi cynnig llwybr lleihau carbon i gyflawni sero net yng Nghymru lle mae angen haneru allyriadau o drafnidiaeth (ac eithrio teithio mewn awyren) erbyn 2030.
Byddwn yn cefnogi’r gwaith o leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr o drafnidiaeth yng Nghymru drwy gynyddu cyfleoedd i newid dulliau teithio o gerbydau preifat i drafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol. Rydym yn galluogi’r newid hwn drwy ddarparu gwasanaethau sy’n fwy cyfeillgar i’r amgylchedd a mwy o seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus. Rydym wedi ymrwymo i gefnogi targed sector cyhoeddus Cymru o fod yn sero net erbyn 2030.
Yn unol â Deddf Cwmnïau 2006, fel y'i diwygiwyd gan Reoliadau'r Cwmnïau (Adroddiad Strategol) (Datgeliad Ariannol sy'n gysylltiedig â'r Hinsawdd) 2022, mae'r Adroddiad Strategol hwn yn cynnwys ein datgeliadau ariannol sy'n gysylltiedig â'r hinsawdd, sy'n cyd-fynd ag argymhellion y Tasglu ar Ddatgeliadau Ariannol sy'n gysylltiedig â'r Hinsawdd.
Rydym wedi asesu bod yr hinsawdd yn brif risg i'r sefydliad, yn bennaf oherwydd y risg o darfu oherwydd cynnydd mewn tywydd eithafol.
Llywodraethu
Mae'r adran hon yn edrych ar ein fframwaith llywodraethu, ac yn amlinellu'r prif strwythurau, polisïau ac amcanion strategol sy'n llywio ein sefydliad. Mae llywodraethu effeithiol yn hanfodol i sicrhau atebolrwydd, tryloywder ac i wneud penderfyniadau cynaliadwy. Mae'r tabl isod yn amlinellu ein model llywodraethu a rolau a chyfrifoldebau pob haen mewn perthynas â rheoli materion sy'n ymwneud â'r hinsawdd.
| Pwyllgorau | Rolau, Cyfrifoldebau a Gweithgareddau |
| Bwrdd Trafnidiaeth Cymru (TrC) | Mae'r Bwrdd yn goruchwylio ac yn monitro cynnydd yn erbyn nodau a thargedau, yn uniongyrchol a thrwy’r is-bwyllgorau. Mae adroddiadau ein Pwyllgor Archwilio a Risg ar barodrwydd TrC i dderbyn risgiau hinsawdd yn cael eu datgelu i Fwrdd TrC bob chwe mis a bob blwyddyn. Mae hyn yn galluogi ein Bwrdd i oruchwylio a chraffu ar benderfyniadau a allai effeithio ar yr archwaeth risg corfforaethol yn unol â Matrics Risg TrC. Mae'r Bwrdd wedi ymrwymo'n llwyr i sicrhau bod uchelgeisiau Llywodraeth Cymru ar newid yn yr hinsawdd yn cael eu cyflawni, gan gynnwys targedau datgarboneiddio i ymateb i'r argyfwng hinsawdd ac addasu i'r newid yn yr hinsawdd. Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu’r gallu i wrthsefyll effeithiau newid yn yr hinsawdd ar drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru. |
| Y Tîm Arwain Gweithredol (ELT) | Mae'r ELT yn sicrhau bod risgiau sy’n gysylltiedig â’r hinsawdd yn cael eu gwreiddio mewn strategaeth gorfforaethol ac wrth gynllunio busnes. Mae Adroddiadau Risg Strategol yn cael eu cyflwyno i Fwrdd TrC a'r Tîm Arwain Gweithredol bob mis ar gyfer monitro a rheoli parhaus, ac mae Aelod o’r ELT yn cael ei neilltuo i berchnogi risg a mesurau lliniaru risgiau strategol. |
| Y Pwyllgor Archwilio a Risg (ARC) | ARC sy’n monitro ein rheolaethau mewnol ar gyfer rheoli risgiau a chyfleoedd newid yn yr hinsawdd, gan gynnwys risgiau pontio a'r rheini sy'n effeithio ar gyflawni amcanion a amlinellir yn y Cynllun Addasu i'r Hinsawdd a Gwydnwch a'r rheini a fydd yn cael eu hamlinellu yn ein Strategaeth Ynni a'n Cynllun Rheoli Carbon. |
| Y Pwyllgor Prosiectau Mawr (MPC) | Mae'r MPC yn llywodraethu ac yn goruchwylio prosiectau datgarboneiddio, ynni ac addasu i'r hinsawdd mawr, gan gynnwys buddsoddiadau cysylltiedig. Mae’r Grŵp Llywio Newid yn yr Hinsawdd yn adrodd i’r MPC ar sail ad hoc. Bydd unrhyw brosiectau gwydnwch mawr, neu'r rheini sy'n canolbwyntio ar leihau carbon neu ynni y mae angen buddsoddiad cyfalaf ychwanegol ar eu cyfer, yn cael eu cyfeirio at ein Pwyllgor Buddsoddi i wneud penderfyniad, ar ôl cyflwyno achos busnes ar gyfer pob cynllun. |
| Pwyllgor Iechyd, Diogelwch, Cynaliadwyedd a Llesiant (HSSW) | Mae'r Pwyllgor hwn yn monitro cydymffurfiad â deddfwriaeth, safonau a systemau ynni a newid hinsawdd perthnasol. Mae'r Pwyllgor yn cael adroddiadau chwarterol ar gynnydd o ran cyflawni amcanion strategol TrC sy’n ymwneud â charbon, ynni, addasu i’r hinsawdd, gwydnwch, a phenderfyniadau buddsoddi cysylltiedig. Mae'r Pwyllgor hefyd yn goruchwylio'r cynnydd o ran cyflawni ein hamcanion strategol sy'n ymwneud â charbon, ynni, addasu i'r hinsawdd, gwydnwch, ac unrhyw benderfyniadau buddsoddi cysylltiedig. |
| Grŵp Llywio Newid yn yr Hinsawdd (CCSG) | Mae'r CCSG yn darparu goruchwyliaeth ochr yn ochr ag atebolrwydd am waith y Gweithgor Addasu i’r Newid yn yr Hinsawdd. Mae'r CCSG hefyd yn gyfrifol am ddarparu goruchwyliaeth a chyngor ynghylch penderfyniadau buddsoddi sy'n ymwneud â datgarboneiddio, rheoli ynni a/neu addasu i'r hinsawdd. Yn ogystal â darparu swyddogaeth sicrwydd effeithiol, mae'r CCSG yn sicrhau cysondeb o ran ffyrdd o weithio ar draws y ddau weithgor adrodd. Mae gan y CCSG gynrychiolaeth draws-sefydliadol. Cynhelir cyfarfodydd bob mis. Mae'r Grŵp Llywio yn adrodd ar Barodrwydd TrC i Dderbyn Risgiau Hinsawdd bob chwarter a bob blwyddyn i'r Pwyllgor Archwilio a Risg, ac i'r Pwyllgor Iechyd, Diogelwch, Cynaliadwyedd a Llesiant. |
| Gweithgor Addasu i’r Hinsawdd Llinellau Craidd y Cymoedd (CVL CCAWG) | Mae CVL CCAWG yn cwrdd bob mis ac yn adrodd i'r CCSG ar ei weithgareddau a'i gynnydd. Mae CCAWG yn adrodd ar y risgiau a'r cyfleoedd sy'n ymwneud â gwydnwch ac addasu i'r hinsawdd, yn ogystal ag effeithlonrwydd ynni a lleihau carbon gweithrediadau a gwasanaethau TrC. |
Strategaeth
Rydym yn cydnabod pa mor bwysig yw nodi a rheoli risgiau a chyfleoedd sy'n gysylltiedig â'r hinsawdd i sicrhau cynaliadwyedd hirdymor ein gweithrediadau sy’n cyd-fynd â nodau hinsawdd Cymru. Rydym wedi datblygu Cynllun Addasu i’r Hinsawdd a Gwydnwch (CARP) sy’n manylu sut y byddwn yn asesu ac yn rheoli’r risg o ran yr hinsawdd ar draws ein rhwydwaith, seilwaith a gweithrediadau Llinellau Craidd y Cymoedd. Mae CARP yn rhoi map strategol i ni ar gyfer lliniaru ein bregusrwydd i risgiau hinsawdd ffisegol yn unol â’n cylch gwaith gan Lywodraeth Cymru, sef “sicrhau bod yr holl weithrediadau TrC sy’n cael eu cyflawni ar ran Gweinidogion Cymru yn cael eu llunio a’u darparu ar sail y data diweddaraf ar risg ac effeithiau newid yn yr hinsawdd a bod cynlluniau cadarn ar waith i addasu i’r newid yn yr hinsawdd.” Nod CARP yw gwneud ein holl weithrediadau a rhwydweithiau trafnidiaeth yn fwy cadarn, gan gynnwys unrhyw wasanaethau teithio ychwanegol posibl sy'n dod o dan fantell TrC yn y dyfodol.
Mae ein Strategaeth Gorfforaethol yn amlinellu blaenoriaethau ac amcanion allweddol i herio a gwrthdroi ymddygiad hirsefydlog trafnidiaeth drwy newid canfyddiadau o drafnidiaeth gyhoeddus a galluogi newid dulliau teithio.
Mae'r prif risgiau hinsawdd sy'n ein hwynebu yn cynnwys peryglon hinsawdd ffisegol sy'n deillio o dywydd garw a'i effeithiau. Mae ein hasedau a'n gweithrediadau yn wynebu risgiau o ganlyniad i'r canlynol:
- Glawiad: Glaw trwm sy’n effeithio ar systemau draenio a chloddwaith
- Llifogydd: Llifogydd arfordirol ac afonydd sy’n difrodi asedau ac yn amharu ar wasanaethau
- Tymheredd: Tymheredd eithafol sy’n effeithio ar seilwaith ac iechyd.
- Stormydd a gwynt: Tywydd difrifol sy’n golygu nad yw llwybrau'n ddiogel.
- Risg rhaeadru: Nifer o beryglon sy'n cyfuno gan amharu ar ddiogelwch a gwasanaethau.
Rydym yn asesu risgiau hinsawdd ar draws ein hasedau a'n gwasanaethau o ran lefelau uchel ac uchel iawn o gynhesu byd-eang ar draws nifer o gyfnodau amrywiol. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae sefydliadau yn y diwydiant rheilffyrdd wedi bod yn gweithio'n fwyfwy agos â'i gilydd ar addasu i'r newid yn yr hinsawdd er mwyn cefnogi ei gilydd, rhannu gwersi a meithrin y gallu i wrthsefyll newid yn yr hinsawdd o fewn y system rheilffyrdd fel bod modd parhau i sicrhau diogelwch teithwyr nawr ac yn y dyfodol. Mae hyn yn cynnwys cydweithio â Network Rail i bennu blaenoriaethau buddsoddi a rhannu'r hyn a ddysgwyd mewn gweithdai llwybrau addasu i'r hinsawdd, yn ogystal â rhannu'r hyn a ddysgwyd a chyfrannu at ganllawiau'r diwydiant fel rhan o weithgorau addasu amrywiol. Mae’r enghreifftiau'n cynnwys Fforwm Addasu Gweithredwyr Seilwaith a chyfrannu at astudiaeth dan arweiniad y Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol i ddatblygu Asesiad o Risgiau Newid Hinsawdd 4 (CCRA4) y DU.
Ym mis Hydref 2023, cyfarfu aelodau o CCAWG Diwydiant Rheilffyrdd y DU i ddatblygu cynllun gweithredu ar gyfer map a ddatblygwyd drwy'r prosiect Asesu Aeddfedrwydd 'Capasiti Ymaddasol’ Newid yn yr Hinsawdd. Cynigiodd y prosiect gyfres o 15 argymhelliad ar gyfer gweithgareddau cydweithredol i gefnogi addasu i'r newid yn yr hinsawdd yn y diwydiant rheilffyrdd. Y prif argymhelliad â blaenoriaeth oedd mabwysiadu senarios newid hinsawdd unedig ar draws asesiad risg, dyluniad asedau a chynllunio strategol y sector rheilffyrdd. Mae CCAWG y Diwydiant Rheilffyrdd wedi dewis Llwybr Crynoadau Cynrychioliadol (RCP) 6.0 fel y senario cynhesu uchel diofyn, gan gydbwyso gostyngiadau disgwyliedig o ran allyriadau o dan Gytundeb Paris (targed o 2°C) â'r lefelau presennol. Bydd RCP8.5 yn cael ei ddefnyddio i brofi straen asesiadau a phenderfynu a oes angen mwy o wydnwch ar gyfer asedau hirdymor mewn senario cynhesu byd-eang uchel iawn.
Cafodd y senarios hyn eu dewis er mwyn gwneud y canlynol:
- Sicrhau cysondeb ar draws y sector rheilffyrdd wrth ymgymryd ag asesiadau risg a chynllunio strategol.
- Adlewyrchu dyfodol realistig a'r sefyllfa waethaf bosibl o ran yr hinsawdd, gan gefnogi cynlluniau addasu cadarn.
Ym mis Awst 2024, fe wnaethom gomisiynu Asesiad Llwybrau Addasu Cyflym (RAPA) i asesu'r amrywiaeth o risgiau hinsawdd y gallai ein seilwaith Llinellau Craidd y Cymoedd eu hwynebu, ac a oedd yn tynnu sylw at lwybrau addasu posibl i liniaru'r risgiau hyn.
Nododd RAPA risgiau allweddol o dan RCP6.0 a RCP8.5, gan gynnwys:
- Mwy o law trwm, gan arwain at lifogydd a thirlithriadau.
- Tymheredd uwch yn yr haf, sy'n cynyddu'r risg y bydd cledrau'n plygu ac y bydd llinellau uwchben yn methu.
- Twf llystyfiant ac ansefydlogrwydd pridd yn effeithio ar argloddiau a hafnau.
Cafodd llwybrau addasu eu blaenoriaethu ar sail difrifoldeb risg, cost-effeithiolrwydd, a dichonoldeb gweithredu.
Ym mis Ebrill 2025, fe wnaethom gwblhau'r Matrics Aeddfedrwydd Capasiti Ymddasol i bennu ein lefel aeddfedrwydd addasu bresennol. Ar hyn o bryd rydym yn eistedd ar lefel o 2-3 allan o 5; sy'n awgrymu ein bod yn gryf ym maes llywodraethu a strategaeth ar gyfer gwrthsefyll ac addasu i'r hinsawdd. Mae ein camau nesaf i wella ein lefel aeddfedrwydd a'n capasiti ymaddasol yn cynnwys gwreiddio a gweithredu ein strategaeth ar draws y sefydliad.
Mae canlyniadau'r RAPA a'r asesiad aeddfedrwydd wedi llywio ein gwaith cynllunio strategol yn uniongyrchol:
- Llywodraethu a strategaeth: Ar hyn o bryd rydym wedi cyrraedd lefel aeddfedrwydd o 2–3 allan o 5, sy'n dangos bwriad strategol a llywodraethu cryf, ac mae angen gwneud rhagor o waith ar weithredu ac integreiddio gweithredol.
- Cynllunio gweithredol: Mae senarios hinsawdd bellach wedi'u gwreiddio mewn cynlluniau rheoli asedau a safonau dylunio.
- Cynllun buddsoddi: Mae mesurau ymaddasu fel systemau draenio gwell, deunyddiau sy'n gallu gwrthsefyll gwres, a rheoli llystyfiant yn cael eu hymgorffori mewn rhaglenni buddsoddi.
- Datblygu sefydliadol: Mae rhaglenni hyfforddi ac ymwybyddiaeth yn cael eu datblygu i wreiddio'r gallu i wrthsefyll yr hinsawdd ar draws pob swyddogaeth.
Mae risgiau sy'n gysylltiedig â'r hinsawdd a chostau addasu yn cael eu hintegreiddio yn ein prosesau cynllunio ariannol a dyrannu cyfalaf tymor hir. Lle bo'n berthnasol, mae darpariaethau ar gyfer addasu i'r hinsawdd yn cael eu datgelu yn ein datganiadau ariannol, ac mae dadansoddiadau o senarios yn sail i brisio asedau a phrofi amhariad. Bydd penderfyniadau buddsoddi yn y dyfodol yn cael eu hasesu yn erbyn senarios RCP6.0 a RCP8.5 i sicrhau gwydnwch ariannol o dan amrywiaeth o ganlyniadau hinsawdd.
Addasu i’r Hinsawdd, Gwydnwch a Rheoli Risg.
Rydym wedi mabwysiadu Fframwaith Asesu Risg Newid yn yr Hinsawdd (CCRA) strwythuredig i werthuso a rheoli risgiau sy'n gysylltiedig â'r hinsawdd yn systematig ar draws ein gweithrediadau. Yn unol â senarios hinsawdd diweddaraf y DU, mae'r fframwaith yn integreiddio â'n matrics risg corfforaethol i sicrhau cysondeb wrth wneud penderfyniadau.
Gyda chefnogaeth canllawiau manwl ac offeryn asesu greddfol, mae'r CCRA yn galluogi gwerthusiad wedi'i dargedu o risgiau i asedau a systemau unigol. Mae'r dull rhagweithiol hwn yn gwella gwydnwch y sefydliad, yn sicrhau diogelwch teithwyr, ac yn llywio buddsoddiad strategol mewn mesurau addasu. Mae hefyd wedi cynyddu ymgysylltiad ar draws y sefydliad ehangach. Mae’r fframwaith a’r canllawiau cysylltiedig wedi cael eu croesawu gan randdeiliaid mewnol ac allanol, gan gynnwys gweithrediadau seilwaith, rheoli asedau, ac elfennau o'n cadwyn gyflenwi. Mae hyn wedi galluogi ein rhanddeiliaid i gynnal asesiadau o risgiau newid hinsawdd eu hunain; drwy ddarparu offer, adnoddau cyfarwyddyd a deunyddiau dysgu digonol er mwyn deall yn well beth yw’r risgiau a'r cyfleoedd sy'n deillio o hinsawdd sy'n newid.
Ar lefel weithredol, rydym yn cynnal CCRAau cynhwysfawr i werthuso effeithiau posibl peryglon sy'n gysylltiedig â'r tywydd ar ein sefydliad a'n cwsmeriaid. Mae'r asesiadau hyn yn ystyried amlder, tebygolrwydd a difrifoldeb gwahanol fygythiadau hinsawdd, gan ddefnyddio data hanesyddol i ddeall graddau amhariadau yn y gorffennol - fel oedi mewn gwasanaethau, difrod i asedau, a cholledion ariannol ac i nodi risgiau yn y dyfodol.
Yn ogystal â pheryglon presennol a chanlyniadau’r gorffennol, mae'r asesiadau o risgiau newid hinsawdd yn defnyddio Rhagolygon Hinsawdd y DU (a gyhoeddir gan y Swyddfa Dywydd) i bennu amcan o'r cyfnod amser, difrifoldeb a graddfa'r risg hinsawdd yn y dyfodol. Mae hyn yn cynnwys rhagolygon tebygol ar gyfer newidynnau tywydd fel dwysedd glawiad, llif afonydd, cyflymder y gwynt a thymheredd tymhorol. Gellir cyflwyno'r newidynnau hyn fel cyfartaledd blynyddol, neu fel brigwerth blynyddol ar gyfer asesiad risg mwy ceidwadol. Defnyddir y data hwn i asesu pa fesurau rheoli fydd eu hangen i leihau'r effeithiau a'r canlyniadau ym mhob cyfnod. Mae'r tymor byr yn adlewyrchu'r presennol rhwng 2020 a 2040. Mae'r tymor canolig yn adlewyrchu’r cyfnod rhwng 2040 a 2060, ac mae'r tymor hir yn adlewyrchu’r cyfnod rhwng 2060 a 2080 a thu hwnt.
Er bod y Fframwaith CCRA ar draws y sefydliad wedi datblygu ein dealltwriaeth o risgiau’r hinsawdd yn sylweddol, mae ansicrwydd o hyd ynghylch amseriad y buddsoddiadau addasu gofynnol - yn benodol, pan allai asedau fethu o dan senarios hinsawdd yn y dyfodol. Mae TrC yn datblygu llwybrau addasu i'r hinsawdd er mwyn mynd i'r afael â hyn.
Mae'r dull hwn yn cefnogi'r broses o wneud penderfyniadau strategol a hyblyg drwy nodi trothwyon allweddol ar gyfer gweithredu. Mae'n helpu i gydbwyso risgiau buddsoddi cynamserol yn erbyn canlyniadau oedi cyn ymateb, gan sicrhau bod mesurau addasu addas yn cael eu rhoi ar waith ar yr adegau mwyaf effeithiol a chost-effeithiol.
Rydym wedi bod yn gweithio gydag arbenigwyr i ddatblygu llwybrau addasu ar gyfer Llinellau Craidd y Cymoedd, a hynny ar sail ein data risgiau’r hinsawdd. Gan ddefnyddio allbynnau'r llwybrau hyn, gallwn flaenoriaethu meysydd ffocws ar gyfer gweithredu a buddsoddi mewn Cynllun Cyflawni ar gyfer Addasu i'r Hinsawdd, wedi'i gefnogi gan BS 8631: fframwaith Addasu i'r Newid yn yr Hinsawdd.
Cynhelir CCRAau ar ein hasedau a'n gweithgareddau sy'n agored i effeithiau newid yn yr hinsawdd (e.e. tywydd eithafol) gan gynnwys:
- Asedau newydd (e.e. traciau, gorsafoedd, offer signalau)
- Adnewyddu/uwchraddio asedau
- Gwasanaethau trafnidiaeth newydd
Rydym wedi cynnal CCRAau ar draws nifer o safleoedd i werthuso’r risgiau sy'n gysylltiedig â thywydd eithafol a pheryglon eraill sy'n gysylltiedig â'r hinsawdd. Mae'r asesiadau hyn yn cynnwys arolygon safle mewn lleoliadau yr oedd tywydd garw wedi effeithio arnynt yn flaenorol, gan ganolbwyntio ar raddfa'r difrod, y tarfu ar wasanaethau, a chyflwr yr asedau ffisegol. Yn ogystal â chyflwr asedau, mae'r asesiadau'n ystyried amrywiaeth o ffactorau gweithredol a diogelwch, gan gynnwys mesurau addasu posibl, diogelwch gweithwyr a theithwyr, ac ansawdd gwasanaethau - fel cyfforddusrwydd, prydlondeb a hylendid.
I ategu'r asesiadau maes hyn, mae CCRAau desg hefyd yn mynd rhagddynt mewn perthynas â nifer o orsafoedd a depos Llinellau Craidd y Cymoedd. Mae'r rhain yn darparu dadansoddiad manylach o risgiau’r hinsawdd sy'n seiliedig ar ddata, gan sicrhau dull cynhwysfawr sy'n seiliedig ar dystiolaeth o ddulliau cynllunio gwydnwch ar draws rhwydwaith ein seilwaith.
Dyma’r arolygon sydd wedi cael eu cwblhau:
- Bae Caerdydd
- Radur
- Ffynnon Taf
- Trefforest
- Ystad Trefforest
- Pontypridd
- Y Porth
- Llandaf
- Aberpennar
- Treganna (Depo)
Rydym yn gwerthuso risgiau a chyfleoedd sy'n gysylltiedig â'r hinsawdd gan ddefnyddio Matrics Parodrwydd i Dderbyn Risg ein sefydliad, gan sicrhau ei fod yn cyd-fynd â'n fframwaith rheoli risg ehangach. Caiff allbynnau CCRAau eu hintegreiddio yn ein prosesau risg presennol a'u monitro drwy’r system Rheolwr Risg Gweithredol (ARM).
Perchnogion Risg - y rheini sy'n atebol am asedau neu brosiectau penodol - sy'n gyfrifol am adolygu risgiau hinsawdd yn rheolaidd a rhoi mesurau lliniaru priodol ar waith. Pan fydd risgiau'n mynd y tu hwnt i drothwyon y cytunwyd arnynt, cânt eu huwchgyfeirio i'r CCRG er mwyn ymgymryd â gwaith gwerthuso a gweithredu pellach. Caiff amlder yr adolygiadau risg ei deilwra i natur ac amserlen pob risg. Efallai y bydd angen monitro risgiau tymor byr yn amlach, tra bo risgiau tymor hir neu strategol yn cael eu hadolygu o bryd i'w gilydd i sicrhau eu bod yn parhau i fod yn berthnasol a’u bod yn cyd-fynd â'n proffil risg hinsawdd sy'n esblygu.
Er mwyn cefnogi tryloywder a gwneud penderfyniadau gwybodus, rydym wedi datblygu dangosfwrdd rhyngweithiol sy'n dangos CCRAau sydd wedi'u cwblhau yn ôl lleoliad daearyddol. Mae'r offeryn hwn yn gwella gwelededd sefydliadol ac yn cefnogi’r broses o adrodd i bwyllgorau'r Bwrdd, gan helpu i gysoni blaenoriaethau buddsoddi â'n parodrwydd i dderbyn risg hinsawdd. Mae ailasesiadau cyfnodol - o leiaf bob pum mlynedd - yn sicrhau bod sgoriau risg yn parhau i fod yn gywir wrth i'n dealltwriaeth o effeithiau'r hinsawdd yng Nghymru esblygu.
Mae ein tîm Rheoli Risg yn chwarae rhan ganolog yn y gwaith o wreiddio risgiau a chyfleoedd sy'n ymwneud â'r hinsawdd mewn gweithrediadau o ddydd i ddydd. Defnyddir y system ARM i gofnodi a monitro unrhyw risgiau a chyfleoedd hinsawdd a nodwyd mewn CCRAau. Gall risgiau o'r fath gynnwys effeithiau canlyniadol posibl ar feysydd busnes eraill fel perfformiad ariannol, cynllunio trafnidiaeth, asedau, a phrofiad cwsmeriaid. Mae'r tîm rheoli risg yn cyfleu'r risgiau hyn i dimau/adrannau eraill yn ôl yr angen, gan gynnwys neilltuo perchnogion camau gweithredu i fonitro'r risgiau, a rhoi mesurau lliniaru ar waith. Mae’r rhain yn cael eu dilyn gan gyfarfodydd misol i ailasesu effeithiau'r risg (potensial a gwirioneddol) a chynnydd y mesurau lliniaru.
Mae'r risgiau hyn yn cael eu sgorio gan ddefnyddio meini prawf asesu ansoddol a meintiol, fel tebygolrwydd, cost bosibl effeithiau, ac enghreifftiau tebyg o wireddu blaenorol. Gall yr olaf gynnwys effeithiau ariannol, tarfu ar wasanaethau a difrod i asedau o ganlyniad i ddigwyddiadau tywydd eithafol sydd wedi digwydd yn y gorffennol. Mae’r CCRAau yn ystyried difrifoldeb, tebygolrwydd ac amlder canlyniadau posibl, gan lywio sut rydym yn blaenoriaethu'r risgiau mwyaf i'w rheoli yn gyntaf. Mae hyn yn arbennig o wir am asedau sy'n hanfodol i ddiogelwch a llwybrau gwasanaethau allweddol ar ein rhwydwaith.
Mae tabl cryno o’n risgiau hinsawdd strategol craidd a'n rheolaethau lliniaru cysylltiedig ar gael isod.
Rydym hefyd wedi ymgorffori’r fframwaith CCRA yn ein prosesau Swyddfa Rheoli’r Rhaglenni (PMO). Mae'n ofynnol i bob prosiect cyfalaf newydd asesu risgiau a chyfleoedd sy’n ymwneud â'r hinsawdd cyn y cam dylunio. Mae hyn yn sicrhau bod risgiau'n cael eu nodi'n gynnar, yn lleihau amlygiad, yn osgoi cloi i mewn yn y tymor hir, ac yn cefnogi'r gwaith o ddarparu seilwaith sy'n gallu gwrthsefyll yr hinsawdd. Ymgynghorir â'r tîm newid hinsawdd ac ynni i gael mewnbwn ar brosiectau cyfalaf, gan alw ar arbenigwyr pwnc perthnasol i roi persbectif a gwybodaeth am risgiau hinsawdd sy'n berthnasol i'w swyddogaeth fusnes. Mae hyn yn golygu gweithio gydag adrannau eraill i ystyried pa risgiau y gellir eu rhannu, neu’r risgiau rhaeadru posibl rhyngom. Defnyddir fframwaith CCRA i annog mabwysiadu gwydnwch a meddylfryd addasu yn gynnar, gan gynnwys ymgorffori'n effeithiol o fewn prosesau llywodraethu prosiectau a gwneud penderfyniadau.
Wrth i ni newid i economi carbon isel, rydym yn cydnabod bod risgiau a chyfleoedd damcaniaethol yn dod i'r amlwg. Mae'r rhain yn cynnwys effeithiau posibl ar weithrediadau, perfformiad ariannol a'r gallu i gyflenwi gwasanaethau. Er enghraifft, mae ehangu asedau wedi'u trydaneiddio neu newid o ddisel i danwydd hydrogen yn ein fflyd bysiau yn cyflwyno gwendidau newydd. Mae'r rhain yn cynnwys wynebu mwy o dywydd eithafol - fel glaw trwm, amrywiadau mewn tymheredd, a difrod stormydd - ac ansicrwydd ynghylch perfformiad a dibynadwyedd deunyddiau, tanwyddau a thechnolegau newydd.
Er mwyn lleihau ein hamlygiad, rydym wrthi'n datblygu Cynllun Addasu i'r Hinsawdd a Gwydnwch, sy'n cynnwys sgoriau adnewyddu a chynnal a chadw asedau ar gyfer rhwydwaith Llinellau Craidd y Cymoedd. Mae'r cynllun hwn yn blaenoriaethu seilwaith allweddol fel systemau draenio a chloddwaith, gan sicrhau ymagwedd fwy strategol a rhagweithiol tuag at wydnwch.
Effaith Ariannol
Rydym yn gweithio i sefydlu dull cadarn o asesu perthnasedd ariannol risgiau a chyfleoedd sy'n gysylltiedig â'r hinsawdd. Er mai megis dechrau mae'r gwaith hwn o hyd, mae'n rhan hanfodol o'n strategaeth hinsawdd hirdymor.
Ar hyn o bryd rydym yn canolbwyntio ar feithrin y capasiti mewnol, y seilwaith data a'r offer dadansoddi sydd ei angen i fesur risgiau ffisegol acíwt (e.e. tarfu ar wasanaethau sy'n gysylltiedig â stormydd) a risgiau cronig (e.e. dirywiad asedau hirdymor oherwydd newid yn yr hinsawdd). Rydym hefyd yn ceisio asesu risgiau pontio, fel newidiadau polisi, anwadalrwydd y gadwyn gyflenwi, a goblygiadau ariannol datgarboneiddio.
Gall tarfu sylweddol ar Linellau Craidd y Cymoedd a achosir gan dywydd eithafol arwain at golli refeniw, yn dibynnu ar lefel y tarfu, a gallwn ddisgwyl colledion o £100,000 - £500,000 y dydd. Gall yr effaith economaidd-gymdeithasol ar gwsmeriaid a busnesau lleol fod yn llawer mwy.
Ar gyfer Cymru a'r Gororau, mae gan Network Rail fecanwaith ariannol sy'n ein digolledu am amhariadau heb eu cynllunio ar wasanaethau a achosir gan ffactorau y tu hwnt i'n rheolaeth (gan gynnwys stormydd).
Er mwyn cryfhau ein hasesiad perthnasedd ariannol, rydym yn cymryd y camau canlynol:
- Integreiddio senarios risg hinsawdd mewn arfarniadau buddsoddi a chynllunio ariannol.
- Datblygu metrigau mewnol a dangosyddion perfformiad allweddol i olrhain amlygiad ariannol sy'n gysylltiedig â'r hinsawdd a chanlyniadau gwydnwch.
- Cydweithio â phartneriaid i wella'r gwaith o rannu data a modelu effeithiau'r hinsawdd.
- Gwreiddio risgiau sy’n gysylltiedig â’r hinsawdd yn y broses o reoli risgiau masnachol, gan sicrhau eu bod yn cyd-fynd â'n Matrics Parodrwydd i Dderbyn Risg a'n system Rheolwr Risg Gweithredol (ARM).
Y Brif Risg
Mae ein risg fwyaf arwyddocaol sy'n gysylltiedig â'r hinsawdd a'r risg pwysicaf yn ymwneud â'r tywydd, fel y nodir ar dudalen 40 o’r Adroddiad Blynyddol ac isod.
Digwyddiadau tywydd eithafol
| Disgrifiad o’r Risg | |
| Risg barhaus o amharu mawr ar y rhwydwaith oherwydd tywydd eithafol fel llifogydd, eira trwm, tymheredd uchel parhaus a gwyntoedd stormus. | |
| Camau lliniaru | Cynnydd |
Strategaethau a rhaglenni tarfu tymhorol ar y cyd. Monitro rhybuddion a rhagolygon y tywydd. Rheoli llystyfiant ac asesiad ar gyfer coed marw, coed sydd yn marw a choed wedi’u heintio. Adolygu safleoedd llifogydd a rhaglenni adfer. Caniatáu i docynnau tymor rheilffordd gael eu defnyddio ar linellau eraill cyfagos a chynnal cytundebau gyda gweithredwyr bysiau. Asesiadau risg newid yn yr hinsawdd a chynllun addasu. | Cyfarfodydd paratoi a newid tymhorol ar waith gyda Rheolwyr Gweithrediadau Trenau a Seilwaith. Wedi gosod gwasanaethau yn lle trenau ar gytundeb. Datblygu cynllun addasu a gwydnwch hinsawdd TrC. |
| Cyflymder yr effaith bosibl: | Llai na thri mis. |
Tabl Risgiau
| Cyfnod y Risg | Risg | Effaith | Rheoli Lliniaru |
|---|---|---|---|
| Tymor Byr | Gall digwyddiadau tywydd eithafol (llifogydd, gwres eithafol, rhew, eira) darfu ar seilwaith a allai arwain at oblygiadau gweithredol a chost. | Anallu TrC i barhau i ddarparu gwasanaethau a chyflawni gofynion Cylch Gwaith Llywodraeth Cymru (LlC), gyda goblygiadau cost / ariannol oherwydd damweiniau, difrod i asedau a tharfu ar wasanaethau. | Mesurau lliniaru sy'n addas ar gyfer y dyfodol (e.e. adeiladu) ac asesiadau amgylcheddol cyn gwaith. Parhau i gynnal asesiadau risg ar draws y rhwydwaith i sicrhau bod risgiau newid yn yr hinsawdd yn cael eu cofnodi a bod mesurau lliniaru priodol ar waith ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol. Sefydlu sianeli llywodraethu ar gyfer monitro ein cynnydd er mwyn gwella ein gallu i ymaddasu i ddigwyddiadau tywydd eithafol a achosir gan newid yn yr hinsawdd. |
| Tymor Byr | Efallai na fydd targed datgarboneiddio sero net erbyn 2030 yn cael ei gyrraedd os nad oes modd adnewyddu neu addasu trenau disel | Gallai hyn gael goblygiadau cyfreithiol, ac i gost ac enw da a golygu nad yw ymrwymiadau'n cael eu cyflawni | Bydd hyn yn cael ei reoli drwy'r Strategaeth Datgarboneiddio Cerbydau |
| Tymor Byr | Methiant i gyflawni targed sero net 2030 oherwydd allyriadau'r gadwyn gyflenwi | Gallai hyn effeithio ar allu TrC i leihau ei allyriadau corfforaethol a gofynion Cylch Gwaith Llywodraeth Cymru. | Ar y cyd â'r tîm Caffael a Chyllid, bydd y Tîm Newid Hinsawdd yn cynnal dadansoddiad manwl o allyriadau'r gadwyn gyflenwi er mwyn cael cynrychiolaeth fwy cywir ac ychwanegu hyn i wrthbwyso adroddiadau lefel uwch a chydweithio â Llywodraeth Cymru i ddatblygu dull hybrid o gyfrifo carbon ar gyfer y gweithgaredd hwn. Rydym yn cymryd rhan mewn cynllun peilot ar gyfer offeryn adrodd ar y gadwyn gyflenwi gyda chyrff cyhoeddus eraill yng Nghymru. |
| Tymor Canolig | Methiant i gyflawni targed sero net oherwydd datblygiadau ar asedau tir maes glas. | Gallai ein rhaglen trawsnewid arwain at ddatblygu ein hasedau maes glas, a allai leihau potensial atafaelu’r tir rydym yn berchen arno. Gallai hyn leihau potensial gwrthbwyso ein hasedau tir, gan y gallent ddod yn ffynhonnell net gyffredinol o allyriadau, yn hytrach na sinc. Efallai y bydd yn rhaid i ni wedyn wneud iawn am hynny. | Rydym yn gweithio gyda'n timau rheoli tir, peirianneg a phrosiectau i sicrhau diwydrwydd dyladwy wrth ystyried datblygu unrhyw asedau tir TrC. Datblygu strwythur llywodraethu ar gyfer ymgynghori â rhanddeiliaid ar asedau/prynu tir. |
| Y Tymor Canolig a'r Tymor Hir | Risgiau i asedau, iechyd a diogelwch, enw da a chostau oherwydd diffyg asesiadau effaith, cynlluniau ymateb priodol a pholisïau sy'n gysylltiedig â thywydd eithafol/anffafriol | Difrod posibl a methiant cynamserol asedau Mwy o darfu ar wasanaethau ac effeithiau ariannol atgyweirio asedau, iawndal am oedi a cholledion eraill | Cydweithio â thîm perchennog y seilwaith i ddatblygu asesiadau effaith ar gyfer digwyddiadau tywydd eithafol/anffafriol a rhannu'r gwersi a ddysgwyd. Sefydlu gweithgor tywydd eithafol i gydlynu'r gwaith o ddatblygu cynlluniau a pholisïau priodol ar gyfer ymateb i dywydd eithafol. Cyhoeddi canllawiau tywydd eithafol TrC i staff a chwsmeriaid i leihau'r risg o effeithiau sy'n gysylltiedig â'r tywydd ar iechyd, teithiau, asedau a ffyrdd o weithio. |
Tabl Cyfleoedd
| Cyfnod y Cyfle | Cyfleoedd |
| Tymor Byr | Rydym wedi ehangu ein rôl o ran cefnogi cerbydau trydan (EVs), bysiau a thacsis dim allyriadau, a mentrau teithio llesol. Os bydd ein hymdrechion yn llwyddiannus, gallent leihau ôl troed carbon Cymru yn sylweddol, gan hyrwyddo opsiynau trafnidiaeth glanach a mwy cynaliadwy ar draws y rhanbarth. |
| Tymor Canolig | Gallai gwell gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus a mwy o fannau gwefru cerbydau trydan arwain at newid dulliau teithio yn sylweddol. |
| Tymor Canolig | Gallai cwblhau Metro De-ddwyrain Cymru arwain at gynnydd sylweddol o ran graddfa newid dulliau teithio. |
| Tymor Canolig | Rydym yn edrych ar gyfleoedd i ddatblygu ein portffolio ynni adnewyddadwy ein hunain, fel paneli solar ffilm denau ac ynni adnewyddadwy ar ochr y cledrau, mewn partneriaeth â rhanddeiliaid allweddol. Drwy gynyddu'r defnydd o atebion ynni effeithlon fel goleuadau LED, ein nod yw lleihau'r ddibyniaeth ar y grid cenedlaethol, gwella'r gallu i wrthsefyll tywydd eithafol, a sbarduno cynaliadwyedd ar draws ein gweithrediadau. |
| Tymor Canolig i’r Tymor Hir | Gallai datblygu Metros Gogledd a De-orllewin Cymru arwain at ragor o newid sylweddol mewn dulliau teithio. |
| Tymor hir | Mae cyfle i ni greu rhwydwaith trafnidiaeth sy'n wydn ac yn weithredol yn wyneb effeithiau newid hinsawdd yn y dyfodol. |
| Tymor hir | Mae cyfle i ni leihau'r costau sy'n gysylltiedig â damweiniau, difrod i asedau a tharfu ar wasanaethau a achosir gan dywydd eithafol drwy ddarparu ein CARP. |
Cydweithio
Mae mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd yn gofyn am ymdrech ar y cyd, ac rydym yn cydweithio â rhanddeiliaid allweddol i ddatblygu atebion effeithiol a hirdymor. Drwy rannu arbenigedd a chysoni strategaethau, gallwn leihau allyriadau, gwella gwydnwch, a chefnogi datblygiadau cynaliadwy ledled Cymru.
Un o’n partneriaid agosaf yw Network Rail (NR), ac mae’n berchen ar y rhan fwyaf o’r seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru. Gyda'n gilydd, rydym yn gwella gallu rheilffyrdd Cymru i wrthsefyll yr hinsawdd drwy rannu data, cynllunio ar y cyd, a chymryd camau gweithredu cydlynol. Wrth i ni ddatblygu llwybrau ymaddasu i'r hinsawdd ar gyfer ein hasedau critigol, mae Network Rail yn cynnal CCRAau ar draws rhwydwaith Cymru a'r Gororau. Rydym hefyd yn cydweithio ar fentrau datgarboneiddio er mwyn lleihau allyriadau a chefnogi rheilffordd sy'n fwy cynaliadwy.
Ers dod yn berchen ar Linellau Craidd y Cymoedd ym mis Mawrth 2020, buom yn gweithio’n agos ag Amey Infrastructure Wales (AIW), sef ein partner cyflenwi. Mae AIW yn cefnogi'r gallu i wrthsefyll yr hinsawdd drwy ddatblygu Cynlluniau Tywydd Eithafol (NR/L3/CIV/190) ac mae'n cyfrannu at reoli asedau'n strategol. Mae hyn yn cynnwys cynhyrchu Cynlluniau Rheoli Asedau (AMPau) blynyddol a rhoi'r Cynllun Rheoli Asedau Strategol (SAMP) ar waith, sy'n canolbwyntio ar wella gwydnwch a gwybodaeth am asedau—yn enwedig ar gyfer systemau draenio, strwythurau a chloddwaith.
Menter allweddol o dan CARP yw datblygu Cynllun Rheoli Llystyfiant (VMP), a gyhoeddwyd yn yr hydref 2024. Mae'r cynllun hwn yn mynd i'r afael â heriau tymhorol, fel cwymp dail yr hydref, er mwyn gwella dibynadwyedd gwasanaethau a chadernid gweithredol.
Rydym yn defnyddio Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS) i fapio asedau Llinellau Craidd y Cymoedd mewn perthynas â pharthau llifogydd, gan ddefnyddio data gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC). Ar hyn o bryd rydym yn ymgymryd ag astudiaeth fanwl ar lifogydd afon a'r effeithiau posibl ar rwydwaith Llinellau Craidd y Cymoedd, gyda'r nod o ganfod yr ardaloedd sy'n agored i niwed a datblygu strategaethau gwydnwch wedi'u targedu.
Nod y trafodaethau parhaus gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru yw sefydlu Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth i gefnogi’r gwaith o gynllunio gwydnwch ar y cyd. Bydd hyn yn gwella’r wybodaeth am asedau ac yn galluogi ymateb mwy unedig i risgiau’r hinsawdd—yn enwedig y rheini sy'n draws-sefydliadol neu'n waethygol eu natur.
Rydym yn aelod gweithgar o nifer o Weithgorau Addasu i'r Newid yn yr Hinsawdd trawsddisgyblaethol, gan gynnwys y rheini sy'n cael eu harwain gan gyrff seilwaith y DU a Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghaerdydd, Bro Morgannwg a Chwm Taf Morgannwg. Mae'r partneriaethau hyn yn hanfodol er mwyn datblygu strategaethau addasu cydlynol ar draws y rhanbarth.
Metrigau a thargedau
Rydym wedi ymrwymo i gysoni ein hymdrechion i ymaddasu a gwrthsefyll yr hinsawdd gydag amcanion Llywodraeth Cymru. Rydym yn cydnabod bod mynd i'r afael â risgiau a chyfleoedd sy'n gysylltiedig â'r hinsawdd yn gofyn am lywodraethu cadarn, rhagolygon strategol, a chynnydd mesuradwy.
Yn unol â dogfen Llywodraeth Cymru Ffyniant i Bawb: Cymru sy'n Effro i'r Hinsawdd a Fframwaith Gwydnwch Cymru 2025, mae TrC yn gweithio i wreiddio’r gallu i wrthsefyll yr hinsawdd ar draws ei weithrediadau, ei seilwaith a'i brosesau gwneud penderfyniadau. Mae'r strategaethau cenedlaethol hyn yn pwysleisio'r angen i gyrff cyhoeddus feithrin y gallu i ymaddasu, lleihau'r posibilrwydd o ddod i gysylltiad â pheryglon yr hinsawdd, a diogelu cymunedau sy'n agored i niwed.
Mae Cynllun Busnes Blynyddol TrC yn cadarnhau ein hymrwymiad i gyflawni'r amcanion sydd wedi'u nodi yn ein CARP. Mae hyn yn cynnwys cryfhau gwydnwch ein rhwydwaith a'n gwasanaethau a sicrhau bod ystyriaethau hinsawdd yn cael eu gwreiddio ym mhob rhaglen a buddsoddiad mawr.
Er ein bod wedi gwneud cynnydd o ran sefydlu targedau a dangosyddion cychwynnol, rydym yn cydnabod yr angen i ddatblygu cyfres fwy cynhwysfawr o fetrigau meintiol ac ansoddol. Bydd y rhain yn cyd-fynd â natur esblygol risgiau a chyfleoedd hinsawdd ac yn cefnogi adrodd tryloyw.
Ar hyn o bryd rydym yn canolbwyntio ar y canlynol:
- Mireinio methodolegau ar gyfer asesu effeithiau'r hinsawdd ac effeithiolrwydd addasu.
- Gwella'r broses o gasglu data i gefnogi'r broses o wneud penderfyniadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth.
- Datblygu dangosyddion perfformiad allweddol sy'n adlewyrchu risgiau corfforol a phontio, yn ogystal â chanlyniadau gwydnwch.
- Sefydlu arferion monitro a gwerthuso i olrhain cynnydd yn erbyn llinellau sylfaen a llywio buddsoddiad yn y dyfodol.
Un o'r pethau allweddol i'w cyflawni yn y maes hwn yw datblygu ein Strategaeth Gwydnwch Tywydd ac Addasu i Newid yn yr Hinsawdd, a fydd yn darparu dull strwythuredig o olrhain perfformiad ac yn cyd-fynd â safonau datgelu hinsawdd cenedlaethol a rhyngwladol.
| Cyfnod y Risg | Ymrwymiad | Ein hamcanion a’n targedau | |
| Targedau ac ymrwymiadau Llywodraeth Cymru | Tymor Byr | Erbyn 2030, bydd dewis di-garbon yn arferol, wedi’i wreiddio’n ddiwylliannol ac yn cael ei hunanreoleiddio ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru. | 100% o ynni adnewyddadwy ar Linellau Craidd y Cymoedd Allyriadau Cwmpas 1 (tyniant) Llinellau Craidd y Cymoedd: gwneud gostyngiadau sylweddol yn allyriadau Cwmpas 1 erbyn 2024, gan ganolbwyntio ar sicrhau gostyngiad o 100%. |
| Tymor Canolig | Cynyddu cyfran y dulliau teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus o’r amcangyfrif presennol sef 5% i 7% erbyn 2030 ac i 13% erbyn 2040 | Yn ein Cynllun Datblygu Cynaliadwy 2022-27, rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo teithio cynaliadwy a lleihau’r angen i ddefnyddio ceir preifat. Amlinellir yr amcanion llawn i'n cefnogi i gyflawni'r nod hwn yn y cynllun isod. Cynllun datblygu cynaliadwy 2022-27 | |
| Industry targets | Tymor Canolig | Rhoi'r gorau i ddefnyddio trenau disel yn unig erbyn 2040 | Allyriadau Cwmpas 1 (tyniant) Llinellau Craidd y Cymoedd: gwneud gostyngiadau sylweddol yn allyriadau Cwmpas 1 erbyn 2024, gan ganolbwyntio ar sicrhau gostyngiad o 100%. |
| Tymor Hir | Mae Network Rail wedi ymrwymo i gyflawni allyriadau carbon sero net erbyn 2050 yng Nghymru a Lloegr. |
Adroddiad allyriadau carbon
Llywodraethu
Rydym yn cyfrif ac yn adrodd ar ein hallyriadau carbon blynyddol yn unol â Gofynion Adrodd Llywodraeth Cymru sy'n gyson â safonau a dderbynnir yn fyd-eang. Mae’r canllawiau wedi cael eu datblygu i gefnogi cyrff yn y sector cyhoeddus yng Nghymru i leihau allyriadau cyfun i sero net erbyn 2030.
Mae ein Cynllun Rheoli Carbon a'n targedau carbon cysylltiedig wrthi’n cael eu datblygu; fodd bynnag, rydym yn adrodd ynghylch dwysedd carbon ein cerbydau (gramau cyfateb i garbon deuocsid am bob km teithwyr) bob pedair wythnos ariannol. Mae hwn yn cael ei fesur a’i gymharu â’r un cyfnod yn y flwyddyn ariannol flaenorol. Rydym hefyd yn adrodd ar ddwysedd carbon blynyddol ein cerbydau.
Strategaeth
Rydym wedi ymrwymo i gefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru ar gyfer sector cyhoeddus sero net erbyn 2030. Mae ein strategaeth yn canolbwyntio ar leihau allyriadau gweithredol, gwella effeithlonrwydd ynni, a newid i wasanaethau trafnidiaeth carbon isel. Dyma’r prif fentrau strategol:
- Cynllun Rheoli Carbon: Rydym yn datblygu cynllun gweithredu wedi'i gostio i reoli allyriadau Cwmpas 1, 2 a 3.
- Strategaeth Ynni (i’w chyhoeddi yn yr haf 2025): Map ar gyfer datgarboneiddio ein cyflenwad ynni a gwella effeithlonrwydd ynni ar draws ein hystad.
- Cynllun Gwella Ynni a Charbon, sy'n amlinellu llwybrau technegol ar gyfer rhoi cynlluniau ynni carbon isel ar waith a gwella gwydnwch gweithredol hirdymor.
- Newid Dulliau Teithio a Thrydaneiddio: Buddsoddi mewn rheilffyrdd wedi’u trydaneiddio a fflydoedd bysiau allyriadau isel er mwyn lleihau allyriadau sy'n gysylltiedig â thrafnidiaeth.
Rydym yn cydnabod y bydd y galw am ynni yn cynyddu wrth i'n gwasanaethau ehangu ac wrth i drydaneiddio gynyddu. Felly, mae ein strategaeth yn cynnwys mesurau i leihau allyriadau a gwariant ynni drwy ffynonellau ynni adnewyddadwy, archwiliadau ynni, ac uwchraddio seilwaith (e.e. goleuadau LED, inswleiddio).
Ein hallyriadau Cwmpas 1, 2 a 3 ar gyfer blwyddyn ariannol 2024/25
O'i gymharu â llinell sylfaen 2020/21, mae ein hallyriadau carbon gweithredol wedi cynyddu 18%. Mae dadansoddiad yn ôl cwmpas yn cael ei ddangos yn y tabl isod. Mae’r cynnydd yn ein hallyriadau gweithredol yn ystod y pum mlynedd diwethaf yn deillio o'r cynnydd yn y gwasanaethau a ddarperir gennym a'r gwariant cynyddol ar drawsnewid gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru.
| Cwmpas | 2020-21 allyriadau tCO2e | 2021-22 allyriadau tCO2e | 2022-23 allyriadau tCO2e | 2023-24 allyriadau tCO2e | 2024-25 allyriadau tCO2e |
| Cwmpas 1 | 70,674 | 81,572 | 91,338 | 92,348 | 100,225 |
| Cwmpas 2 | 2,647 | 2,736 | 2,514 | 2,060 | 2,453 |
| Cwmpas 3 | 176,482 | 184,193 | 198,651 | 221,911 | 192,187 |
| Allyriadau defnyddio tir | -689 | -702 | -757 | -591 | -565 |
| Allyriadau Allan o'r Cwmpas | N/A | N/A | N/A | 68 | 134 |
| Cyfanswm | 249,114 | 267,799 | 291,745 | 315,796 | 294,434 |
Y dwysedd carbon blynyddol ar gyfer holl allyriadau cerbydau (Cwmpas 1) oedd 81gCO2e/PAX km. Allyriadau Cwmpas 1 yw'r rheini sy'n deillio o weithgareddau sydd o fewn ein rheolaeth weithredol uniongyrchol, ac yn yr achos hwn faint o danwydd sy'n cael ei ddefnyddio gan ein trenau. Mae dwysedd carbon ein cerbydau wedi gostwng 4% o’i gymharu â 2023/24.
Mae ein hallyriadau wedi gostwng 7% neu 21,362 tCO2e yn 2024/25 o 2023/24. Roedd 34% o'n hallyriadau o Gwmpas 1, Cwmpas 1 yn llai nag 1% a 65% o Gwmpas 3. Gellir priodoli'r gostyngiad mewn allyriadau eleni ers y flwyddyn flaenorol yn bennaf i ostyngiad yn allyriadau'r gadwyn gyflenwi, hynny yw, cwblhau prosiectau adeiladu mawr fel y rhai yn Nepo Ffynnon Taf a Chyfnewidfa Fysiau Caerdydd. Ar hyn o bryd rydym yn adrodd ar allyriadau'r gadwyn gyflenwi ar sail data gwariant a all arwain at amrywiadau sylweddol mewn allyriadau o un flwyddyn i’r llall. Mae allyriadau 2023/24 wedi’i diweddaru er mwyn darparu cymhariaeth debyg at ei debyg i 2024/25.
Yr wybodaeth ddiweddaraf am dargedau carbon
Yn 2019, fe wnaethom gyhoeddi ein Strategaeth Effaith Carbon Isel, yn cynnwys y targedau canlynol ar gyfer ein hallyriadau carbon, ond roeddem wedi cael ein dal yn ôl rhag cyrraedd y targedau hyn oherwydd COVID19. Eleni byddwn yn cyhoeddi targedau newydd yn ein Cynllun Rheoli Carbon:
| Cwmpas | Targed | Statws |
| Cwmpas 1 (tyniant Llinellau Craidd y Cymoedd) | Gostyngiad o 100% erbyn diwedd 2023 | Ar waith – oedi wrth gyflawni'r Metro oherwydd effeithiau COVID19 |
| Cwmpas 1 (tyniant Cymru a’r Gororau) | Cwmpas 1 (tyniant Cymru a’r Gororau) | Ar waith - mae 70% o'r holl wasanaethau bellach yn cael eu gweithredu ar drenau newydd. |
| Cwmpas 2 | Gostyngiad o 100% erbyn diwedd 2023 | Cyflawnwyd hyn drwy gontract trydan adnewyddadwy 100% yn 23/24, a chafodd 100% o'n hynni adnewyddadwy ei gynhyrchu yng Nghymru |
Gwella Dulliau Adrodd
- Er mwyn ein helpu i ddeall mwy am yr allyriadau rydym yn eu cynhyrchu, rydym wedi datblygu prosesau cyfrifo ac adrodd cadarn ar gyfer ein hallyriadau carbon yn unol â chanllawiau adrodd Llywodraeth Cymru ar gyfer y sector cyhoeddus.
- Mae allyriadau'n cael eu holrhain bob pedair wythnos ar draws trydan, nwy, dŵr, gwastraff, tanwydd a chynhyrchu ynni adnewyddadwy.
- Amcangyfrifir allyriadau cymudo a gweithio gartref drwy arolygon teithio staff blynyddol a modelu ar sail cyfwerth ag amser llawn.
- Caiff data ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru i’w ddilysu a'i feincnodi.
Crynodeb a'r Camau Nesaf
I grynhoi, rydym wedi dechrau asesu effeithiau posibl newid hinsawdd yn y dyfodol ar yr asedau rydym yn berchen arnynt ac rydym yn bwriadu ehangu'r gwaith hwn i gynnwys risgiau pontio. Mae ein Matrics Aeddfedrwydd Capasiti Ymaddasol yn offeryn gwerthfawr o ran nodi'r camau angenrheidiol i gryfhau ein gallu i addasu i’r newid yn yr hinsawdd a meithrin gwydnwch yn erbyn y risgiau rydym wedi'u nodi.
Er ein bod wedi gwneud cynnydd ystyrlon, mae angen gwneud mwy o ymdrech wrth i ni barhau i ddatblygu ein Strategaeth Gwydnwch Tywydd ac Addasu i Newid yn yr Hinsawdd. Bydd y cynllun hwn yn agor cyfleoedd i ymgysylltu'n ddyfnach â rhanddeiliaid, hyrwyddo diwylliant o ymwybyddiaeth ynghylch y gallu i ymaddasu a gwrthsefyll yr hinsawdd, a gwreiddio'r blaenoriaethau hyn yn ein sefydliad. Bydd hefyd yn grymuso unigolion ar draws y sefydliad i gymryd perchnogaeth o heriau a chyfleoedd sy'n gysylltiedig â'r hinsawdd. Drwy'r dull cydweithredol hwn, ein nod yw sicrhau ein bod yn fwy parod ac yn gallu addasu i hinsawdd sy'n newid.
- Datblygu ein Strategaeth Gwydnwch Tywydd ac Addasu i Newid yn yr Hinsawdd.
- Cwblhau a chyhoeddi'r Cynllun Rheoli Carbon (2025/26) a fydd yn cynnwys ein metrigau, targedau a dangosyddion perfformiad allweddol newydd.
- Lansio Strategaeth Ynni 2030 i arwain buddsoddiad mewn ynni adnewyddadwy ac effeithlonrwydd.
- Rhoi'r Cynllun Gwella Ynni a Charbon ar waith i gyflawni prosiectau seilwaith carbon isel.
- Parhau i gydweithio â phartneriaid yn y sector cyhoeddus i gyflawni nodau sero net cyfun erbyn 2030.
Rhestr o Fyrfoddau
AIW - Amey Infrastructure Wales
ARC - Pwyllgor Archwilio a Risg
ARM - Rheolwr Risg Gweithredol
BS - Safonau Prydeinig
CAMPUS - Cyraeddadwy, Amserol, Mesuradwy, Penodol, Uchelgeisiol, Synhwyrol
CAP - Cynllun Ymaddasu Addasu i’r Hinsawdd
CARP - Cynllun Ymaddasu Addasu i’r Hinsawdd a Gwydnwch
CCAWG - Gweithgor Addasu i’r Newid yn yr Hinsawdd
CCRA - Asesiad o Risgiau Newid Hinsawdd
CCSG - Grŵp Llywio Newid yn yr Hinsawdd
CNC - Cyfoeth Naturiol Cymru
CO2e - Cyfateb i Garbon Deuocsid
CVL - Llinellau Craidd y Cymoedd
EV - Cerbydau Trydan
FTE - Cyfwerth ag amser llawn
HSSW - iechyd, Diogelwch, Cynaliadwyedd a Llesiant
KPI - Dangosyddion Perfformiad Allweddol
LED - Deuod Allyrru Golau
LlC - Llywodraeth Cymru
MoU - Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth
MPC - Pwyllgor Prosiectau Mawr
NR - Network Rail
PAX - Teithiwr
PMO - Swyddfa Rheoli'r Rhaglen
RCP - Llwybr Crynoadau Cynrychioliadol
REGO - Gwarant Tarddiad Ynni Adnewyddadwy
TrC - Trafnidiaeth Cymru
Y DU - Y Deyrnas Unedig