Beth mae’n ei olygu i’ch Rhanbarth chi: De Ddwyrain Cymru

 

Fel rhan o’n hymrwymiad i’ch rhanbarth chi, byddwn yn:

  • Dileu trenau Pacer erbyn Rhagfyr 2019 (Mae adborth gan deithwyr wedi dangos bod yr angen i wella capasiti a gwytnwch yn y fflyd yn flaenoriaeth allweddol. Mae TrC yn bwriadu cyflwyno hyn drwy gadw’r trenau Pacer am gyfnod byr yn ystod 2020)

  • Cyflwyno Metro Canolog sy’n torri amser siwrnai a chynyddu amlder hyd at o leiaf bedwar trên bob awr o ben bob cwm gan ddefnyddio trenau newydd.

  • Cyflwyno Cerbydau Metro gyda mynediad heb risiau erbyn Rhagfyr 2022, i roi gwasanaeth metro modern i gymoedd Treherbert, Aberdâr a Merthyr.

  • Cadw’r cyswllt o Benarth, Y Barri a Phenybont i orsafoedd i’r gogledd o Caerdydd Canolog wrth ddefnyddio trenau newydd tri modd (gwifrau trydan, batri a diesel) erbyn Rhagfyr 2023.

  • Buddsoddi £15m yng ngorsaf Caerdydd Canolog wedi Ebrill 2025, £1.75m yng ngorsaf y Fenni wedi Ebrill 2023, £300,000 yng Nghasgwent wedi Ebrill 2025 and £250,000 ym Merthyr Tydfil o Ebrill 2020.

  • Adeiladu gorsafoedd newid yn Heol Crwys a Butetown a uwchraddio Bae Caerdydd erbyn Rhagfyr 2023 a Gabalfa erbyn 2028.

  • Rydym yn gweithio’n galed gyda Llywodraeth Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf  drafod opsiynau cyllid ar gyfer symud gorsaf Ystâd Trefforest erbyn 2025 er mwyn gwella diogelwch a chyfleustra.

  • Symleidddio strwythur pris tocynnau Cymoedd Caerdydd o Ionawr 2020, gan leihau pris Dychwelyd Unrhyw Bryd (Anytime Return) o 12.5% a thocynnau Tymor wythnos o 14% , i 33 o’r gorsafoedd allanol. 

  • Cyflwyno tair Partneriaeth Rheiffordd Cymunedol, ricriwtio Rheolwr Cymuned a Rhanddeiliaid a naw Llysgennad Cymuned a Chwsmer erbyn 2021.

  • Dileu’r defnydd o diesel ar y Metro Canolog erbyn 2024.

  • Gosod Peiriant Tocyn ym mhob un o orsafoedd Metro De Cymru erbyn Ebrill 2019. 

  • Cyflwyno talu-wrth-fynd i ddefnyddwyr cardiau smart erbyn Ebrill 2020.

 

Gwelliannau Gwasnanaeth Trên yn cynnwys:

  • Un trên newydd bob awr rhwng Glyn Ebwy a Chasnewydd erbyn Mai 2021.

  • 2 drên bob awr rhwng Caerdydd a Phenybont drwy Fro Morgannwg wedi Rhagfyr 2023.

  • 4 trên bob awr ar daith Rhymni wedi Rhagfyr 2023

  • 4 trên bob awr i Dreherbert wedi Rhagfyr 2022.

  • 6 trên yr awr i Fae Caerdydd erbyn Rhagfyr 2022.

  • 4 trên yr awr rhwng Merthyr Tudful, Aberdâr a Chaerdydd wedi Rhagfyr 2022.

  • 1 trên yr awr rhwng Caerdydd a Cheltenham wedi Rhagfyr 2022.

  • 4 trên yr awr rhwng Caerdydd a Phenybont (Uniongyrchol - Llun i Sadwrn) wedi Rhagfyr 2019.

DIWEDDARIAD: Oherwydd effaith enfawr COVID-19, bu’n rhaid newid rhai dyddiadau gwreiddiol, a osodwyd yn 2018. Gallwch ddod o hyd i ragor o fanylion yma.