Beth mae’n ei olygu i’ch Rhanbarth chi: De Orllewin a Chanolbarth Cymru

 

Fel rhan o’n hymrwymiad i De Orllewin a Chanolbarth Cymru, byddwn yn:

  • Adnewyddu’r fflyd gyfan o drenau dosbarth 158s gydag Unedau Lluosog Diesel (DMUs) ar lein y Cambrian yn ystod 2022, gan roi seddi ychwanegol ar y gwasanaethau prysuraf.

  • Cyflwyno DMUs newydd, dau neu dri cherbyd, ar y gwasanaeth o Aberdaugleddau i Fanceinion, erbyn 2023.

  • Ar Reilffordd Calon Cymru, cyflwyno unedau dau gerbyd Dosbarth 170 wedi eu hadnewyddu erbyn 2022.  

  • Cadw’r swyddi lleol yn y ganolfan ym Machynlleth.

  • Buddsoddi £500,000 yng ngorsaf Caerfyrddin a £300,000 yng Ngorsaf Machynlleth yn 2021, a £2.5m yng ngorsaf Llanelli yn 2025. 

  • Recriwtio Rheolwr Cymuned a Rhanddeiliaid newydd a chwech Llysgennad Cymunedol newydd a phrentisiaid erbyn 2021.

  • Cyflwyno Partneriaeth Rheilffordd Cymunedol ar gyfer lein Gorllewin Cymru.

  • Trawsnewid gofod mewn gorsafoedd ar draws y rhanbarth ar gyfer gwasnanaethau cymunedol, gan flaenoriaethu ardaloedd difreintiedig, a chreu lle a chefnogaeth i fusnesau lleol.

  • Cyflwyno cyfleuster talu-wrth-fynd i ddefnyddwyr ein app o Ebrill 2021, i ganfod y pris isaf am docyn.

  • Gosod peiriannau tocyn mewn mwy o orsafoedd.

 

Gwelliannau gwasanaeth trên yn cynnwys:

  • Gwasnaeth cyson 1 trên yr awr ar lein y Cambrian o’r Amwythig i Aberystwyth.

  • Gwasanaeth dyddiol ychwanegol ar Reilffordd Calon Cymru o fis Rhagfyr 2022.

  • Gwasnaethau ychwanegol ar Suliau yn yr haf o Mai 2023 rhwng Tywyn a Phwllheli – yn cynnwys gwasanaeth cyflym 1 trên yr awr rhwng prif ganolfannau erbyn 2025.

  • Gwasnanaeth Dosbarth Cyntaf o Abertawe i Fanceinion o 2024.