Academi Arweinwyr Cenedlaethau’r Dyfodol
Academi Arweinwyr Cenedlaethau’r Dyfodol
Mae Academi Arweinwyr Cenedlaethau’r Dyfodol yn rhaglen bartneriaeth sy’n cael ei harwain gan Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru
Nodau llesiant
Ffyrdd o weithio
Cyflwyniad
Mae Academi Arweinwyr y Dyfodol yn canolbwyntio ar feithrin sgiliau ar gyfer y dyfodol, drwy gefnogi carfan o 20 arweinydd ifanc ledled Cymru o amrywiaeth eang o sefydliadau sydd â chyfrifoldeb i gefnogi’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae’r Academi wedi canolbwyntio ar feithrin sgiliau i sicrhau ein bod wedi’n harfogi i fod yn Arweinwyr Cymru nawr ac i’r dyfodol. Mae wedi caniatáu i sefydliadau gwahanol yn y sector preifat, y sector cyhoeddus a’r trydydd sector gydweithio er mwyn ein herio a chaniatáu i ni fynd i’r afael â datblygu atebion er mwyn diogelu Cenedlaethau’r Dyfodol.
Mae'r Academi wedi mynd o nerth i nerth. Rydyn ni wedi mynychu gweithdai, cynadleddau a nifer o sesiynau er mwyn dod i ddeall ein hunain ac eraill yn well. Rydym hefyd wedi rhoi sylw i sut mae gweithredu’r 5 ffordd o weithio a’r 7 nod llesiant yn ein sefydliadau a thu hwnt! Bydd cyfleoedd hefyd ar gyfer mentora o chwith, fforymau cyhoeddus ac i fynd ar encil arweinyddiaeth, a fydd yn canolbwyntio ar sut mae gweithredu fel arweinwyr a sut gallwn ni siapio Cymru, er gwell.
Casgliad
I lawer ohonom, dechreuodd yr Academi ym mis Hydref 2019 pan gawsom gyfle i fynychu One Young World yn Llundain; ni oedd y cynrychiolwyr cyntaf o Gymru i wneud hynny! Roedden ni’n lwcus o gael y cyfle i ddangos i weddill y byd sut mae Cymru ar flaen y gad gyda’r ddeddfwriaeth bwysig hon, ond hefyd cawsom ein hysbrydoli gan waith gwledydd eraill a’r cyfle i wreiddio’r arferion hynny yng Nghymru hefyd.
“Rydw i wedi tyfu fel person drwy gymryd rhan yn yr Academi ond mae hefyd wedi rhoi cyfle i fi bwyso a mesur sut beth fydd Cymru’r Dyfodol. Mae gan bob un ohonom ran i’w chwarae o ran diogelu’r dyfodol ac mae’r Academi’n gwneud hynny drwy feithrin sgiliau a’r meddylfryd cywir i leisiau’r dyfodol yng Nghymru.
Emily-Rose Jenkins
Peiriannydd Geo-dechnegol