Ailgylchu Cwpanau Coffi

Submitted by DanEdw on

Cyflwyniad

Rydym wedi llwyddo i ddargyfeirio 100% o'n gwastraff o safleoedd tirlenwi ac mae ein cynllun ailgylchu cwpanau coffi yn ein helpu i gynyddu ein targedau ailgylchu.

 

Nodau llesiant

A resilient Wales

 

Ffyrdd o weithio

Long term Collaboration

 

Ein cyfrifoldeb

Yma yn Trafnidiaeth Cymru, rydym yn cydnabod ein cyfrifoldeb i ofalu am yr amgylchedd a'n cymunedau – dyna pam mae hi mor bwysig ein bod yn rheoli ein heffaith amgylcheddol yn briodol, gan gynnwys gwastraff yn ein gorsafoedd. Gyda bywyd mor brysur, mae cyfleustra bwyta ac yfed wrth fynd wedi dod yn fwyfwy poblogaidd, ond gall hyn olygu llawer o becynnu.

Mae'r ffigurau'n syfrdanol. Yn y DU, rydym yn defnyddio 13 biliwn o boteli plastig, 9 biliwn ganiau diodydd a bron i 3 biliwn o gwpanau coffi bob blwyddyn! Er bod poteli plastig a chaniau yn cael eu hailgylchu'n eang, dyw hi ddim mor hawdd ailgylchu cwpanau coffi tafladwy safonol gan eu bod wedi'u cynhyrchu o ddeunyddiau gwahanol.

Mae'r cyfuniad o bapur a phlastig yn y leinin mewnol yn ei gwneud hi'n anodd adfer deunydd y gellir ei farchnata ac, er bod modd gwneud hynny, dim ond ychydig o weithfeydd arbenigol sy'n gallu gwneud hynny yn y DU ar hyn o bryd. O ganlyniad, dim ond 1 o bob 400 o'r cwpanau hyn sy'n cael eu hailgylchu.

 

Pwyntiau ailgylchu

Pan gysylltodd Canolfan Amgylchedd Abertawe â ni ynglŷn ag ymgyrch ailgylchu 'On the Go' a gynhaliwyd yn y ddinas, roeddem yn falch iawn o gymryd rhan. Roeddem eisoes wedi addo dargyfeirio o leiaf 95% o'n gwastraff i ffwrdd o safleoedd tirlenwi a chynyddu ein targed hailgylchu i dros 50% o'n cyfradd gyfredol. Felly, roedd hwn yn gyfle perffaith i dreialu ailgylchu cwpanau diod poeth yng ngorsaf drenau Abertawe. Mae'r pwyntiau ailgylchu yng ngorsaf Abertawe yn caniatáu i'n cwsmeriaid gael gwared ar eu cwpanau, eu caeadau, ac unrhyw hylif dros ben.

Cesglir y cwpanau gan Gyngor Dinas Abertawe sy'n eu hanfon wedyn i ffatri ailgylchu arbenigol James Cropper yn Cumbria i'w hailgylchu'n bapur a phecynnau cynaliadwy. Edrychwn ymlaen at weld canlyniadau'r treial. Os bydd yn llwyddiannus, rydym yn gobeithio cyflwyno pwyntiau ailgylchu cwpanau diodydd poeth i fwy o'n gorsafoedd ledled Cymru.

 

Rydym yn falch tu hwnt o gydweithio â Chanolfan yr Amgylchedd a Chyngor Dinas Abertawe ar ein cynllun ailgylchu cwpanau diodydd poeth gan obeithio y bydd yn annog eraill i ddechrau eu cynlluniau tebyg eu hunain.

Lee Lawrence-Hodges

Rheolwr Gorsaf Abertawe