Arwain gyda…

Submitted by Content Publisher on

Cyflwyniad

Mae ein rhaglen Arweinyddiaeth fewnol a grëwyd yn arbennig wedi ei dylunio i helpu i gefnogi ein harweinwyr gyda’u sgiliau a’u hymddygiad, gan sicrhau bod ganddynt yr adnoddau angenrheidiol i ddiwallu ein hanghenion nawr ac yn y dyfodol.

 

Nod Llesiant

Prosperous

Mae ein rhaglen ‘Arwain gyda’ wedi cael ei dylunio i gynorthwyo ein harweinwyr i ddatblygu eu sgiliau a’u hymddygiad. Fe wnaethom gynorthwyo 46 o bobl yn y flwyddyn gyntaf, ar ôl lansio yn 2022.

Fel sefydliad, rydyn ni’n gwerthfawrogi pa mor bwysig yw ein pobl ac yn deall y bydd buddsoddi yn ein harweinwyr yn arwain at ganlyniadau cadarnhaol i unigolion, yn ogystal ag i’r sefydliad ac i’n cymunedau ehangach wrth i ni weithio tuag at gadw Cymru’n ddiogel ac yn symud. Mae’r rhaglen wedi cael ei llunio i gyflwyno ffyrdd newydd o feddwl ac i greu pecynnau cymorth i’n harweinwyr eu defnyddio o ddydd i ddydd fel rhan o’u rôl. Rydyn ni am sicrhau bod pawb sy’n cymryd rhan yn cael y lefel briodol o ddatblygiad. Bydd ‘Arwain gyda’ yn galluogi ein harweinwyr i fod y gorau y gallant fod, i ddangos yr ymddygiad cywir ond bod yn deg a chysylltiedig ar yr un pryd, ac i greu llwyddiant i bawb.

 

Ffyrdd o weithio

PreventionLong term

Gyda thros 18 o fodiwlau dysgu’n cael eu cyflwyno i arweinwyr presennol a darpar arweinwyr dros gyfnod o 12 mis, mae’r rhaglen hon yn ategu nod Llywodraeth Cymru o gadw pobl yn ddiogel ac i symud. Mae’r adnodd ymddygiad Insights yn herio’r ffordd mae ein harweinwyr yn meddwl, yn teimlo ac yn ymddwyn, ac mae’n chwarae rhan allweddol yn ein rhaglen arweinyddiaeth. Gan ddefnyddio mewnwelediadau, mae mod i ni lunio’r rhaglen o gwmpas datblygu disgwyliadau ac ymddygiadau allweddol ar gyfer pob rheolwr band yn ein sefydliad.

Gall ymgeiswyr ddewis rhwng Arwain Hyderus (rhaglen sydd wedi ei hanelu at arweinwyr newydd a’r rhai heb hyfforddiant arwain blaenorol) neu Arwain Grymus (wedi ei hanelu at y rhai sydd eisoes wedi cael hyfforddiant arweinyddiaeth neu sydd mewn rheolaeth ganol). Ein nod yw bod arweinwyr y presennol a’r dyfodol yn cael eu grymuso i fod yn gyfforddus ynddynt eu hunain, gan gydnabod nad oes un math gorau o arweinydd, a nodi cryfderau unigolion.

 

Bydd yr offer a’r technegau ar y rhaglen yn edrych ar ffyrdd o ystwytho ac addasu ein hymddygiadau i’r rhai sydd o’n cwmpas ac yn creu amgylchedd cadarnhaol sy’n herio dysgwyr yn gyson i greu ffyrdd newydd o feddwl o fewn ein hymddygiadau arwain gan ein harweinwyr presennol a’r rhai yn y dyfodol.

Mark Hector​

Rheolwr Hyfforddi a Datblygu