Asesu Rhywogaethau

Submitted by DanEdw on

Cyflwyniad

Mae cynnal asesiadau ecolegol yn allweddol i ddeall gwerth ein safleoedd i fywyd gwyllt a'r modd y gallwn ni liniaru, diogelu a gwella bioamrywiaeth wrth weddnewid prif linellau'r Cymoedd.

 

Nodau llesiant

A resilient Wales

 

Ffyrdd o weithio

Long term Prevention

 

Ein rhwydwaith

Mae cryn dipyn o'r rheilffordd yn mynd drwy gynefinoedd pwysig i rywogaethau o ystlumod, megis afonydd a choetiroedd. Mae llawer o'r llwybrau hyn hefyd yn darparu nodweddion cymudo llinellol pwysig i ystlumod. Mae holl rywogaethau ystlumod Prydain yn bwyta pryfed ac yn darparu gwasanaeth ecosystem pwysig drwy reoli poblogaethau pryfed. Maen nhw wedi'u diogelu gan y gyfraith hefyd. Mae'n bwysig bod ein hecolegwyr yn monitro gweithgarwch ystlumod ar safleoedd lle gallant gael eu heffeithio, yn enwedig lle mae clwydfannau pwysig gerllaw.

Mae hyn yn cynnwys asesu adeiladau a choed o ran eu potensial i gynnal clwydfannau ystlumod, cynnal arolygon gweithgarwch ystlumod, a chofnodi gweithgarwch ystlumod am ddyddiau ar y tro gan ddefnyddio synwyryddion sefydlog.

 

Amddiffyn

Gyda'r wybodaeth a gesglir o'r arolygon hyn gallwn ddeall pa rywogaethau sy'n bresennol a sut maen nhw'n defnyddio'r safle. Yna gall ein hecolegwyr argymell sut i leihau'r effeithiau ar ystlumod, fel sicrhau bod unrhyw lwybrau cymudo a/neu fwydo pwysig yn parhau heb eu heffeithio, a bod goleuadau naill ai’n cael eu hosgoi neu’n cael eu cynllunio'n sensitif. Mae'r broses gynllunio yn ystyried lle mae clwydfannau ystlumod yn bresennol, ac ymgynghorir â'r awdurdod statudol.

 

Rhywogaethau Gwarchodedig Eraill

Diogelu Safleoedd o Bwysigrwydd er Cadwraeth Natur (SPGN) Mae ein hasesiadau desg ecolegol yn sicrhau ein bod yn osgoi effeithiau uniongyrchol ac anuniongyrchol ar safleoedd gwarchodedig a chynefinoedd Adran 7 sydd o'r pwys mwyaf. Gwneir cyn lleied o waith clirio llystyfiant ag y bo modd drwy waith cynllunio, rhoi mesurau rheoli llygredd ar waith, a lle mae'n rhaid symud coed, byddant yn cael eu disodli gan rywogaeth frodorol ar sail un-i-un o leiaf. Rhywogaethau eraill a warchodir Fel rhan o arolygon ecolegol o brif linellau'r Cymoedd, rydym yn arolygu rhywogaethau eraill a warchodir hefyd gan gynnwys moch daear, dyfrgwn, ymlusgiaid a phathewod.

Mae tiwbiau nyth pathewod yn cael eu mabwysiadu'n hawdd fel safleoedd nythu gan bathewod, ac yn ffordd hawdd o ganfod eu presenoldeb.

 

Mae gennym gyfrifoldeb i wella ein safleoedd lle bo modd. Yn achos ystlumod, gall hyn gynnwys gwella cynefinoedd a gosod blychau ystlumod mewn coed aeddfed addas o fewn y safle.

Huw Davies

Prif Amgylcheddwr