Cyflog Byw Gwirioneddol

Submitted by DanEdw on

Cyflwyniad

Mae Trafnidiaeth Cymru yn Gyflogwr Cyflog Byw Gwirioneddol achrededig

 

Nodau llesiant

Prosperous

 

Ffyrdd o weithio

Long term Prevention

 

Y Cyflog Byw go iawn

Mae gan Gymru un o'r cyfrannau uchaf o swyddi nad ydynt yn talu'r Cyflog Byw yn y DU (24%), gyda rhyw 268,000 o swyddi'n talu llai na'r Cyflog Byw Gwirioneddol. Yn 2016, cyflwynodd llywodraeth San Steffan gyfradd isafswm cyflog uwch ar gyfer unrhyw staff dros 25 oed. Er hynny, nid yw 'cyflog byw cenedlaethol' y llywodraeth yn cael ei gyfrifo yn ôl yr hyn sydd ei angen ar weithwyr a'u teuluoedd i fyw. Yn hytrach, mae'n seiliedig ar darged i gyrraedd 60% o enillion canolrifol 2020, sy'n cyfateb i £8.21 yr awr.

Y Cyflog Byw Gwirioneddol yw'r unig gyfradd a gyfrifir yn ôl yr hyn sydd ei angen ar bobl i gael dau ben llinyn ynghyd. Mae'n darparu meincnod gwirfoddol i gyflogwyr sy'n dewis gwneud safiad drwy sicrhau bod eu staff yn ennill cyflog sy'n bodloni'r costau a'r pwysau sy'n eu hwynebu yn eu bywydau bob dydd.

 

2019/20

Ein nod yw sicrhau buddsoddiad cyhoeddus â diben cymdeithasol sy'n cyd-fynd yn llwyr â pholisi Llywodraeth Cymru ac sy'n cyflwyno manteision i bobl Cymru, gan gynnwys ein staff. Ym mis Tachwedd 2019, roeddem yn falch o ddod yn gyflogwr Cyflog Byw Gwirioneddol, gan gefnogi'r syniad syml bod diwrnod caled o waith yn haeddu cyflog teg am y diwrnod.

Mae'r ymrwymiad yn sicrhau bod pawb sy'n gweithio yn Trafnidiaeth Cymru yn derbyn isafswm cyflog o £9.30 yr awr. Ar ben hynny, mae'r holl isgontractwyr yn cael Cyflog Byw, a dim ond os ydynt yn cytuno i dalu'r Cyflog Byw i aelodau eu tîm y mae cyflenwyr yn cael eu dewis.

 

Ymrwymodd Llywodraeth Cymru i fwrw ymlaen â'r Comisiwn Gwaith Teg a'r camau sydd angen i ni eu cymryd er mwyn gwneud Cymru'n genedl Gwaith Teg, gan gychwyn trwy sicrhau bod pob cwmni sy'n derbyn arian cyhoeddus yn talu'r cyflog byw gwirioneddol. Mae nifer y cwmnïau sy'n gweithredu'r cyflog byw yn dal i dyfu ac rwy'n falch o weld Trafnidiaeth Cymru yn eu plith.

Ken Skates

Llywodraeth Cymru