Cynllun Rhannu Beiciau Trydan
Nodau llesiant
Ffyrdd o weithio
Cyflwyniad
Ymunodd Trafnidiaeth Cymru a Network Rail â Chyngor Bro Morgannwg i gynnig cynllun ‘nextbike’ y tu allan i orsaf Penarth.
Mae deg o fannau ar gyfer docio a gwefru e-feiciau wedi’u gosod y tu allan i Orsaf Penarth, felly mae modd i gwsmeriaid ddod yn syth oddi ar y trên a theithio drwy’r dref gan ddefnyddio cludiant rhad, effeithlon o ran ynni a rhydd o allyriadau.
Mae e-feiciau’n debyg i feiciau arferol, ond mae ganddyn nhw fotor sy’n eu gwneud yn haws eu pedlo. Mae’r beiciau’n ddelfrydol ar gyfer teithiau pellter hwy, oherwydd gall beicwyr gyrraedd cyflymder o hyd at 25 cilometr yr awr.
Mae Penarth yn lle gwych i dreulio diwrnod, gyda’i glan môr hardd, ei pharciau taclus a’i stryd fawr sy’n gymysgedd o siopau cenedlaethol ac annibynnol, ac mae’r orsaf mewn lleoliad delfrydol ar gyfer archwilio’r ardal.
Canlyniad
Yn ôl Network Rail, sef perchennog y tir y lleolir yr orsaf arno, mae’r cynllun hefyd yn cyd-fynd â’i strategaeth hirdymor ar gyfer creu rhwydwaith rheilffyrdd cynaliadwy ledled Prydain.
Caiff y cynllun ei ariannu gan Gyngor Bro Morgannwg, ac mae’n dilyn yn ôl troed cynlluniau llwyddiannus eraill ar gyfer rhannu beiciau a welwyd yng Nghaerdydd ac Abertawe.
Mae modd i’r cwsmeriaid lawrlwytho ap hawdd ei ddefnyddio gan ‘nextbike’, ac yna mynd ati i logi beic. Yna, gallan nhw ddefnyddio’r beic cyhyd ag y maen nhw’n dymuno, cyn ei adael mewn unrhyw orsaf ddocio sy’n cydweddu â ‘nextbike’.
Cafodd fflyd Penarth ei lansio ar 12 Tachwedd, a’r gobaith yw y bydd yn lleihau tagfeydd a lefelau CO2, yn ogystal ag esgor ar fanteision iechyd i’r rhai a fydd yn defnyddio’r beiciau.
Mae Cyngor Bro Morgannwg yn gweithio gyda Chyngor Caerdydd i greu system ddi-dor a fydd yn cysylltu’r ddau gynllun. Cyn bo hir, bydd hyn yn galluogi’r defnyddwyr i deithio rhwng y ddau leoliad a gadael eu beiciau yn y naill leoliad neu’r llall.
Dyma fuddsoddiad i’w groesawu ar gyfer ein teithwyr yng ngorsaf Penarth. Gyda’n rhanddeiliaid, rydym yn anelu at wneud gorsafoedd yn rhan annatod o bob cymuned, a dyna’n union fydd y cynllun hwn yn ei wneud; trwy wella’r cyfleusterau sydd ar gael i’r gymuned a hyrwyddo ffyrdd cynaliadwy o deithio yn ôl a blaen i’r orsaf, bydd modd gwneud Penarth yn lle mwy gwyrdd a phleserus i ymweld ag ef.
Aled Huxtable
Rheolwr Datblygu Busnes
Network Rail Cymru