Dodrefn yn Llys Cadwyn

Submitted by DanEdw on

Cyflwyniad

Rydym wedi defnyddio celfi wedi’u huwchgylchu, celfi wedi’u hailddefnyddio a chelfi lleol i ddodrefnu ein pencadlys newydd yn Llys Cadwyn.

 

Nodau llesiant

A prosperous Wales

 

Ffyrdd o weithio

Integration Prevention Long term

 

Ein taith

Yn 2017, cyhoeddodd Trafnidiaeth Cymru ei fod yn bwriadu symud i’w bencadlys newydd yn Llys Cadwyn, Pontypridd. Ar ôl i’r adeilad gael ei gwblhau yn 2020, yr her oedd dodrefnu’r swyddfeydd yn barod ar gyfer y dasg o symud oddeutu 400 o aelodau’r tîm.

Gyda chymorth gan WRAP Cymru, trefnodd Trafnidiaeth Cymru ddigwyddiad i gyflenwyr ym mis Chwefror 2020, a chymerodd 30 o gyflenwyr ran yn y digwyddiad hwnnw. Fe wnaeth y sesiwn helpu’r cyflenwyr i ddeall amcanion Trafnidiaeth Cymru o ran dodrefnu ein pencadlys newydd yn unol â’n gwerthoedd, ein brand a’n gweledigaeth, gan roi pwyslais ar gynaliadwyedd a chefnogi’r economi gylchol.

Cynhaliwyd Gweithdrefn Agored trwy ddefnyddio GwerthwchiGymru i hysbysebu’r tendr. Cafwyd cyfanswm o 8 cais a rhoddwyd y contract i Rype Office oherwydd profiad a gallu’r cwmni i ddangos y manteision sydd ynghlwm wrth gefnogi’r economi gylchol, defnyddio dodrefn wedi’u hailgylchu a defnyddio cyflenwyr lleol.

Rhoddwyd blaenoriaeth i ddefnyddio dodrefn a oedd wedi’u hailweithgynhyrchu a’u hailwampio, oherwydd mae ôl troed amgylcheddol dodrefn o’r fath 80% yn llai na dodrefn newydd. Bu modd i Trafnidiaeth Cymru ddefnyddio’i ddodrefn swyddfa ei hun ar gyfer oddeutu 140 o aelodau’r tîm, ond roedd angen caffael seddi, dodrefn cegin, dodrefn ystafelloedd cyfarfod, desgiau, cadeiriau a chypyrddau clo ychwanegol.

 

Ein dull

Gan weithio gyda Rype Office a Sefydliad y Deillion Merthyr Tudful, aethom ati i ail-weithgynhyrchu desgiau, cael gafael ar fyrddau coffi wedi’u gwneud yn lleol o fagiau plastig du a byrddau torri wedi’u hailgylchu, a chreu’r soffa fwyaf cynaliadwy yn y byd. Gwnaed y soffa hon yn llwyr o bolyester wedi’i ailgylchu, gwnaed y ffrâm o blastig defnyddwyr wedi’i ailgylchu, a gwnaed y clustogau o sbwng a sipiau plastig wedi’u hailgylchu.

Mae Sefydliad y Deillion Merthyr Tudful wedi cynnig gwaith hirdymor i bump o grefftwyr ailwampio lleol a chanddyn nhw anableddau.

Cyflawnwyd y canlynol:

  • mae 30% o’r dodrefn yn y swyddfa yn ddodrefn a arferai gael eu defnyddio gan Trafnidiaeth Cymru.
  • mae 49% o’r dodrefn yn ddodrefn a arferai gael eu defnyddio gan sefydliadau eraill.
  • cafodd 3% o’r dodrefn eu gwneud â llaw ym Mhentre-bach gan weithwyr Sefydliad y Deillion Merthyr Tudful. Talwyd y cyflog byw gwirioneddol i’r holl staff.
  • mae 13% o’r dodrefn yn ddodrefn newydd a wnaed yn lleol, ac mae 6% o’r dodrefn yn ddodrefn newydd a wnaed oddi allan i Gymru.

Llwyddodd y prosiect hwn i arbed 92,784kg o CO2 a 32,141kg o ddodrefn. Hefyd, llwyddwyd i arbed 2,500kg o garbon trwy ddefnyddio paent wedi’i ailgylchu i baentio tu mewn i’r swyddfa.